Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Defnyddir camerâu cerbyd ledled Heddlu Dyfed-Powys (HDP) gan swyddogion o fewn yr Uned Plismona’r Ffyrdd a’r Uned Cefnogaeth Arfog er mwyn cefnogi erlyniadau ac amddiffyn y gymuned. Mae’r camerâu’n darparu cyfrif tryloyw a chywir o ddigwyddiadau a chysylltiadau.
Mae’r darnau ffilm yn darparu tystiolaeth weledol a chlywedol i’w defnyddio yn y llys, sy’n golygu y gall troseddwyr gael eu dwyn i gyfiawnder yn gynt. Mae’n gwella’r broses o ymchwilio i gwynion yn erbyn swyddogion a staff ac yn sicrhau atebolrwydd. Bydd swyddogion ond yn recordio os oes angen plismona, ac mae’n gymesur gwneud hynny.
Diben y polisi hwn yw nodi a chyfeirio’r gweithdrefnau a’r protocolau sydd angen ar gyfer gweithredu a lleoli camerâu cerbyd a’r defnydd ohonynt gan swyddogion heddlu ar gyfer casglu tystiolaeth neu gudd-wybodaeth. Mae’r polisi a’r canllawiau cysylltiedig yn sefydlu’r sail gyfreithiol a’r canllawiau ar gyfer defnyddio camerâu cerbyd.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bwriedir y polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig i alluogi swyddogion i gydymffurfio â deddfwriaethau a chanllawiau i gipio tystiolaeth i’w defnyddio mewn gweithdrefnau llys.
Egwyddorion trosfwaol ar gyfer y defnydd gweithredol o gamerâu cerbyd:
3.1 Polisïau, Protocolau, Arferion neu Gytundebau Gwasanaeth Cysylltiedig
Mewnol:
Polisi Delweddu Digidol:
Allanol:
Ceir deddfwriaethau sy’n cwmpasu defnydd yr heddlu o gamerâu yn y Deddfau Seneddol canlynol:
Rheoliad 109
Na fydd unrhyw un yn gyrru cerbyd modur, neu’n achosi neu’n caniatáu i gerbyd modur gael ei yrru, ar ffordd os yw’r gyrrwr mewn sefyllfa i weld, yn uniongyrchol neu drwy adlewyrchiad, cyfarpar derbyn teledu neu gyfarpar sinematograffig arall i arddangos unrhyw beth heblaw gwybodaeth
4.1 Rolau a Chyfrifoldebau/Prosesu
Mae’n arfer da cael proses mewn grym sy’n sicrhau yr adolygir pob polisi a chanllaw’n ffurfiol yn rheolaidd, gan ystyried:
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy flynedd heblaw bod angen ei adolygu cyn i ddwy flynedd fynd heibio.
Adolygir arferion ac egwyddorion y polisi yn erbyn gallu’r swyddog i ddefnyddio’r camerâu cerbyd a thrwy swyddogion ddim yn camddefnyddio camerâu cerbyd neu’r system. Gellir ymchwilio i’r defnydd priodol o’r camerâu cerbyd a’r system ac adrodd amdano drwy’r swyddogaeth archwilio o fewn y system.
Codir pob diweddariad neu bryder ynghylch camerâu cerbyd yn y Grŵp Prosiect Camerâu Cerbyd, a gynhelir unwaith y mis, a’r Grŵp Strategol TG, a gynhelir bob tri mis. Cyflwynir pob polisi a chanllaw, a dogfennau eraill perthnasol sy’n ymwneud â chamerâu cerbyd, i’r Grŵp Prosiect Camerâu Cerbyd i’w hadolygu gan bawb sy’n bresennol.
Pan fydd prosesau’n cael eu gweithredu, cynhelir proses adolygu er mwyn sefydlu effeithiolrwydd y broses a mesur unrhyw fanteision.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026