Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y Polisi hwn yw diffinio’n glir ymagwedd Heddlu Dyfed-Powys tuag at ymdrin ag amgylchiadau lle mae unigolyn sydd wedi dod i’w sylw am Drosedd Gofnodadwy yn cyflwyno perygl amlwg i blant, unigolion sy’n agored i niwed neu’r cyhoedd ehangach yn eu swydd neu sefyllfa wirfoddol yn rhinwedd eu troseddu honedig.
Mae’r Polisi hwn yn nodi’r trefniadau o dan y Cynllun Datgeliad Heddlu Cyfraith Gyffredin ar gyfer datgelu gwybodaeth i gyflogwyr neu gyrff rheoleiddiol lle y gellir sefydlu angen cymdeithasol dybryd brys mewn perthynas â mynediad y mae gan unigolyn at bobl eraill yn rhinwedd ei swydd neu rôl wirfoddol.
Bydd y polisi hwn yn amlinellu’r cwmpas cyfyng y gall yr Heddlu ddefnyddio eu barn broffesiynol i wneud datgeliadau yn seiliedig ar Gyfraith Gyffredin mewn amgylchiadau lle maen nhw’n ystyried fod hyn yn ofynnol er mwyn cefnogi diogelu’r cyhoedd. Mae’r Polisi hwn yn parhau ar wahân i drefniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ond mae’n seiliedig ar ystyriaethau tebyg.
Mae ‘Angen Cymdeithasol Dybryd Brys’ yn cynnwys diogelu neu amddiffyn unigolyn, grŵp o unigolion neu gymdeithas yn gyffredinol rhag niwed, yn arbennig plant ac oedolion sy’n agored i niwed. Rhaid i’r angen hwn i ddiogelu fod yn gymesur ar yr un pryd â chydbwyso anghenion, hawliau a buddiannau’r unigolyn dan sylw. Bydd yn cynnwys ystyried effaith datgelu ar fywyd preifat yr unigolyn dan sylw. Dylai penderfyniadau ystyried unrhyw effaith andwyol y gallai datgelu gael ar atal neu ddatrys troseddau hefyd.
Ystyrir bod y trothwy ‘Angen Cymdeithasol Dybryd’ ar gyfer gwneud datgeliad o dan bwerau Cyfraith Gyffredin yr un fath â’r hyn sydd ei angen ar gyfer datgelu “Gwybodaeth Gymeradwy” yn unol â darpariaethau Rhan V Deddf yr Heddlu 1997 (fel y’i diwygiwyd).
Sefydlwyd yr egwyddor hon gan ddedfryd yr Uwch Lys yn R (ar gais L) (FC) (Apelydd) v Comisiynydd Heddlu’r Brifddinas (2009).
Gan hynny, argymhellir bod Swyddogion datgelu’n gweithredu’r fethodoleg “Fframwaith Sicrhau Ansawdd” y cytunwyd arni ar y cyd rhwng Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wrth benderfynu pa wybodaeth, os o gwbl, fydd yn cael ei datgelu.
Wrth benderfynu pa un ai a ddylid gwneud DHCG, dylid ystyried y canlynol:
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Holl gategorïau Swyddogion a Staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu’n cynghori y dylid datgelu adeg arestio (neu bresenoldeb gwirfoddol) neu pan ddaw gwybodaeth i’r amlwg, a pheidio ag aros hyd nes y gwneir cyhuddiad. Dylid datgelu cyn gynted ag y bo’n ymarferol er mwyn sicrhau bod y perygl canfyddedig i’r cyhoedd yn cael ei liniaru cyn gynted â phosibl. Mae’n hollbwysig bod penderfyniadau datgelu sy’n seiliedig ar Gyfraith Gyffredin yn cael eu prosesu gan yr Heddlu heb oedi diangen fel bod y derbynnydd yn medru ymateb yn effeithiol i’r perygl brys a nodwyd. Lle penderfynir y dylid datgelu, mae’n arfer da cynghori’r unigolyn bryd hynny, os yw’n ymarferol gwneud hynny ac ni fydd yn rhwystro’r ymchwiliad.
Dylid datgelu mor gyflym â phosibl er mwyn lliniaru perygl.
Bydd yr uchod yn destun prawf perthnasedd a chymesuredd ysgrifenedig gan ddefnyddio’r Ffurflenni Asesiad Risg Datgelu Galwedigaethol ar NICHE a chymeradwyaeth gan Brif Swyddog cyn unrhyw hysbysiad.
Yr Unigolyn Perthnasol fydd y Swyddog yn yr Achos yn achos Ymchwiliad neu Gyfweliad gyda Mynychwr Gwirfoddol, neu Ringyll y Ddalfa neu Swyddog Cadw Restiedig, a bydd yn gyfrifol am nodi a chofnodi holl alwedigaethau a gwaith gwirfoddol y drwgdybyn yn gywir. Bydd yr Unigolyn perthnasol yn cychwyn y weithdrefn ymgeisio a bydd eu Harolygwyr unigol yn gyfrifol am sicrhau ansawdd a sylwadau ategol a rhannu â’r Comander Arian Ar Alwad.
Bydd y Comander Arian Ar Alwad yn adolygu unrhyw gais ac yn ychwanegu sylwadau ategol i gefnogi rhesymeg, a lle mae cytundeb, bydd yn ei anfon ymlaen at Brif Swyddogion er cymeradwyaeth. Ar ôl derbyn cymeradwyaeth Prif Swyddogion, bydd Uned Ddatgelu’r Heddlu’n gyfrifol am hysbysu’r corff cyflogi dros y ffôn, drwy e-bost diogel, neu trwy Bost Cofnodedig.
Lle mae perygl uniongyrchol, dylai’r Arolygydd perthnasol hysbysu’r corff cyflogi dros y ffôn, ond dim ond ar ôl ceisio awdurdod y Comander Arian Ar Ddyletswydd.
Amcanion
Mae’r cynllun DHCG yn disodli’r Cynllun Galwedigaethau Hysbysadwy, fel y nodwyd yng Nghylchlythyr 06/2006 y Swyddfa Gartref, sydd wedi’i dynnu yn ôl yn dilyn hynny. Ystyriwyd bod y Cynllun Galwedigaethau Hysbysadwy o bosibl yn anghyfreithlon gan ei fod yn darparu ar gyfer datgelu cyffredinol ac yn debygol o fod yn torri Deddfwriaeth Diogelu Data ac Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol 1998. Yn groes i hynny, mae’r cynllun DHCH yn caniatáu i’r Heddlu ddefnyddio eu pwerau Cyfraith Gyffredin fesul achos er mwyn pennu pwy sy’n cael ei hysbysu, a beth maen nhw’n cael gwybod amdano, gan alluogi cyflogwyr neu gyrff rheoleiddio i gymryd camau gweithredu ar unwaith er mwyn mynd i’r afael â pherygl diogelu’r cyhoedd. Mae gan yr Heddlu bŵer Cyfraith Gyffredin i rannu gwybodaeth â thrydydd partïon lle y sefydlir diben plismona, gyda phob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
Diffinnir Diben Plismona o dan God Ymarfer Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion yr Heddlu fel:
Y sefyllfa gyffredinol yw y dylai’r Heddlu gynnal cyfrinachedd gwybodaeth bersonol, ond mae barn gyfreithiol yn cefnogi datgelu gwybodaeth am unigolyn i’w gyflogwr (neu gyfwerth os yw’r unigolyn mewn rôl wirfoddol), neu Gorff Rheoleiddiol Cymwys, lle y gellir sefydlu angen Cymdeithasol Dybryd Brys ac mae’r Budd Cyhoeddus mewn datgelu’n fwy na’r ddyletswydd gyfrinachedd.
Bydd unrhyw benderfyniad i ddatgelu gwybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.
Mae deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys:
Polisïau, Protocolau, Arferion neu Gytundebau Gwasanaeth Cysylltiedig:
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu’n cynghori y dylid datgelu adeg arestio (neu bresenoldeb gwirfoddol pan ddaw gwybodaeth i’r amlwg), ac nid ei ohirio hyd nes bydd cyhuddiad. Gwneir penderfyniad i ddatgelu fesul achos, ond fel rheol, bydd gwybodaeth ond yn cael ei datgelu pan mae’n berthnasol, gofynnol a chymesur gwneud hynny, gan ystyried yr holl amgylchiadau yn yr achos a’r perygl canfyddedig i’r cyhoedd.
Tra bod y Polisi hwn yn edrych ar ddatgelu adeg Presenoldeb Gwirfoddol neu Arestio, dylai hyn fod yn destun adolygiad rheolaidd ac yng ngoleuni unrhyw amgylchiadau newidiol, er enghraifft, mewn achos lle y gwnaed penderfyniad i beidio datgelu pan mae rhywun yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth ond daw gwybodaeth i’r amlwg nes ymlaen sy’n arwain at gyhuddiad.
Lle y bwriedir datgelu wrth gyflogwr, mae’n arfer da cynghori’r unigolyn ar y pryd gan y bydd hyn yn caniatáu iddo gyflwyno sylwadau ac ystyried hysbysu ei gyflogwr ei hun.
Bydd yr Uned Ddatgelu’n gyfrifol am ddatgelu gwybodaeth wrth gyflogwyr neu gyrff trwyddedu, proffesiynol neu reoleiddiol, ar yr amod bod y Swyddog yn yr Achos wedi dilyn y prosesau hysbysu cywir ac mae Prif Swyddog wedi’i gymeradwyo heblaw bod Datgelu Brys eisoes wedi’i ddarparu.
Archwiliad Cydymffurfiaeth â Diogelu Data
Bydd y broses ddatgelu DHCG yn ffurfio rhan o’r broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data yr ymgymerir ag ef gan y Swyddog Cydymffurfiaeth â Diogelu Data a oruchwylir gan Gynghorydd Diogelu Data’r Heddlu.
Rolau a Chyfrifoldebau o fewn Heddlu Dyfed-Powys
Y Prif Gwnstabl
Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw’r Rheolydd Data, ac o’r herwydd, mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros brosesu’r holl ddata personol a brosesir gan yr Heddlu’n gyfreithlon. Yn yr un modd, mae ganddo gyfrifoldeb am yr holl wybodaeth sy’n cael ei dal gan yr Heddlu, boed y wybodaeth honno’n wybodaeth weithredol neu’n wybodaeth gorfforaethol. Mae’n atebol yn gyffredinol am ddogfennau gweithdrefnol hefyd ac ef sydd â’r cyfrifoldeb am gydymffurfio â’r polisi hwn ar draws yr Heddlu yn y pen draw.
Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth
Yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Polisi a’r Broses.
Prif Swyddogion
Lle bo angen, bydd Prif Swyddogion yn gyfrifol am y broses gymeradwyo ac am sefydlu pa un ai a oes angen cymdeithasol dybryd a’i fod yn gyfiawn.
Comander Arian
Lle bo angen, mae’r Comander Arian yn gyfrifol am y broses gymeradwyo ac am sefydlu pa un ai a oes angen cymdeithasol dybryd a’i fod yn gyfiawn.
Y Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth (yr Adran Diogelu Data)
Mae’r Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth yn gyfrifol am:
Uwch Swyddog – Cyfleusterau Dalfa
Y Swyddog yn yr Achos a Swyddogion/Rhingylliaid/Arolygwyr Dalfa
Swyddogion Datgelu a Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth
Swyddog Cydymffurfiaeth â Diogelu Data
Bwrdd Sicrhau Ansawdd
Rheolwyr Llinell/Goruchwylwyr
Mae'r polisi hwn yn eiddo i'r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth. Cyfrifoldeb pob Swyddog Heddlu, Aelod Staff a Gwirfoddolwr yw sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o’r broses DHCG a’r rhan maen nhw’n chwarae o ran helpu Heddlu Dyfed-Powys i gydymffurfio â’i gofynion. Bydd Uned Ddatgelu’r Heddlu’n rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â’r broses DHCG.
Bydd y Polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn asesu ei effeithiolrwydd a’i berthnasedd. Trefnir hyn yn flynyddol o leiaf, a gall unrhyw newidiadau sylweddol i ddeddfwriaethau neu ganllawiau cenedlaethol (Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yr Heddlu) annog adolygiadau yn ychwanegol i’r rhai sydd wedi’u trefnu.
Cynhelir y broses adolygu gan y Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth (neu gyfwerth), wedi’i annog drwy eitem agenda sefydlog drwy’r Bwrdd Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi’r Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024