Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae camerâu corff yn cael eu defnyddio ar draws Heddlu Dyfed-Powys gan swyddogion heddlu a staff i gynorthwyo erlyniadau ac amddiffyn cymunedau Dyfed a Phowys. Mae’r camerâu yn rhoi disgrifiad tryloyw a chywir o ddigwyddiadau a rhyngweithiadau.
Mae’r fideo yn darparu tystiolaeth weledol a chlywedol i’w defnyddio yn y llys; sy’n golygu bod troseddwyr yn fwy tebygol o bledio’n euog ac y gellir eu dwyn gerbron y llys yn gynt. Bydd yn gwella’r broses o ymchwilio i gwynion yn erbyn swyddogion a staff ac yn eu gwneud yn fwy atebol i’r cyhoedd. Bydd swyddogion ond yn cofnodi os oes angen plismona a’i fod yn gymesur gwneud hynny.
Pwrpas y polisi hwn yw nodi a chyfeirio at y gweithdrefnau a’r protocolau y mae eu hangen ar gyfer cymhwyso, lleoli a defnyddio camerâu corff gan swyddogion heddlu at ddiben casglu tystiolaeth neu gudd-wybodaeth. Mae’r polisi a’r canllawiau cysylltiedig yn gosod y sail gyfreithiol a’r canllawiau ar gyfer defnyddio camera corff.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Diben y polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yw galluogi swyddogion i gydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau i gasglu tystiolaeth i’w defnyddio mewn achosion llys.
Egwyddorion cyffredinol ar gyfer defnydd gweithredol camerâu corff:
Mae camera corff yn ffordd ddefnyddiol o gofnodi tystiolaeth ac ar gyfer dangos tryloywder o ran gweithredoedd yr heddlu mewn digwyddiadau. Fodd bynnag, dim ond i gadarnhau ac nid i ddisodli tystiolaeth o ffynonellau eraill fel swyddogion heddlu, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCHau) neu lygad-dystion y dylid defnyddio camera corff.
Plismona Arfog – rhaid bod camerâu corff yn cael eu gwisgo ar y pen ar gyfer plismona arfog amlwg.
Swyddogion wedi’u Hyfforddi’n Arbennig – ar gyfer defnyddio gynnau Taser.
Mynd i unedau iechyd meddwl ar ddyletswydd – Dywed Adran 12 Deddf Iechyd Meddwl (Defnydd o Rym) 2018 bod yn rhaid i swyddog heddlu wisgo a gweithredu camera corff bob amser y mae’n rhesymol ymarferol gwneud hynny os yw swyddog heddlu’n mynd i uned iechyd meddwl ar ddyletswydd i gynorthwyo staff sy’n gweithio yn yr uned honno.
Lle mae camera corff neu ddeunydd cyfeirio arall yn cael ei weld cyn cyfrif manwl:
Dylid ond gwylio darn ffilm o bell, megis darn ffilm TCC neu ddrôn, mewn amgylchiadau eithriadol, a gyda chydsyniad yr Awdurdod Ymchwiliol Annibynnol.
Polisïau, Protocolau, Arferion neu Gytundebau Gwasanaeth Cysylltiedig
Mewnol:
Canllaw Hyfforddiant Treialu Camera Corff
Polisi ôl-reoli digwyddiadau Heddlu Dyfed-Powys
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth – defnydd yr heddlu o ataliaeth mewn sefyllfaoedd yn ymwneud ag iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Y weithdrefn arferol ar gyfer defnyddio camera corff
Polisi Delweddu Digidol Heddlu Dyfed-Powys:
Polisi Cyngor / Cyfarwyddyd yr Uned Gwyliadwraeth Technegol
Ffynonellau Allanol:
Canllawiau 2014 y Coleg Plismona ar ddefnyddio camerâu corff
Datganiad sefyllfa plismona cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu:Defnyddio camera corff i gofnodi cyswllt cychwynnol â dioddefwyr, tystion a phobl yr amheuir
Canllawiau technegol y Swyddfa Gartref ar gyfer dyfeisiau camera corff
Datganiad sefyllfa Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gamerâu corff a data’r Swyddfa Gartref ar gamerâu corff mewn achosion diogelu
Polisi defnyddio camera corff Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu 2023
Rolau a Chyfrifoldebau
Y rolau a fydd yn defnyddio Evidence.com fydd y canlynol:
Mae camerâu corff yn cipio sefyllfaoedd wrth iddynt ddigwydd, gan recordio fideo a sain y lleoliad, y swyddogion a’r cyhoedd cysylltiedig.
Mae camerâu corff yn sicrhau bod swyddogion yn atebol am eu gweithredoedd, penderfyniadau ac esgeulustod eu hun; mae hefyd yn sicrhau bod yr holl sefyllfaoedd ac unigolion yn cael eu trin â thegwch, parch, cywirdeb a gonestrwydd oherwydd mae’r darn ffilm wedi’i recordio a gellir defnyddio’r darn ffilm ei ddefnyddio fel tystiolaeth.
Mae swyddogion yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw’n hysbysu unigolion yn gywir am y recordiad camera corff a bod yn agored ac onest o ran y defnydd o’r ddyfais a’r darn ffilm.
Mae egwyddorion y cod moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Mae’n arfer da cael proses ar waith sy’n sicrhau bod adolygiad ffurfiol rheolaidd o’r holl bolisïau a chanllawiau yn cael eu cynnal. I’w hystyried:
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy flynedd oni bai fod angen ei adolygu ymlaen llaw.
Caiff yr egwyddorion a’r arferion polisi eu hadolygu yn erbyn gallu’r swyddog i ddefnyddio’r camera corff a chan swyddogion nad ydynt yn camddefnyddio camerâu corff na’r system. Gellir ymchwilio ac adrodd ar y defnydd cywir o’r camerâu corff a’r system trwy’r swyddogaeth archwilio o fewn y system. Mae swyddogion hefyd yn dilyn y gweithdrefnau cywir o’r polisi ar gyfer cael camera corff ac ar gyfer dychwelyd y ddyfais os bydd wedi bod ar goll neu wedi’i thorri, neu os ydynt yn newid rôl.
Mae’r holl ddiweddariadau neu bryderon ynghylch camerâu corff yn cael eu codi yn y Grŵp Strategaeth TGCh a’r Grŵp Strategaeth TG. Darperir diweddariadau trwy eithriad. Mae’r holl bolisïau, canllawiau a dogfennaeth berthnasol arall mewn perthynas â chamerâu corff yn cael eu cyflwyno i’r Grŵp Strategaeth TGCh i’w hadolygu gan bawb sy’n bresennol.
Wrth i brosesau gael eu rhoi ar waith, cynhelir proses adolygu i sefydlu effeithiolrwydd y broses ac i fesur unrhyw fanteision.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2026