Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw ymdrin â diogelwch corfforol, trin a chyfrif pob ased TETRA Airwave sy’n eiddo i Heddlu Dyfed-Powys neu sy’n cael ei reoli ganddo. Mae hyn yn cynnwys terfynellau llaw cludadwy, terfynellau cerbyd a therfynellau symudol sefydlog.
Mae’n berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr, staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr). Mae’r polisi hwn yn berthnasol yn benodol i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio terfynellau Airwave fel rhan o’u gwaith. Dim ond swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sydd wedi derbyn pecyn hyfforddi terfynell Airwave yr Heddlu sydd ag awdurdod i ddefnyddio terfynellau Airwave.
Er mwyn cefnogi dilyn arfer gorau bob amser, rhaid i derfynellau Airwave gael eu defnyddio gan staff sydd wedi derbyn pecyn hyfforddi terfynell Airwave yr Heddlu yn unig.
Offer a Gyhoeddwyd yn Bersonol
Mae Swyddogion Heddlu a rhai aelodau staff heddlu penodol a nodwyd wedi derbyn y canlynol yn bersonol:
Pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, rhaid cadw’r eitemau hyn yn y locer clo a bennwyd ar gyfer y diben hwnnw. Pan fyddant yn cael eu cadw yn y locer, rhaid i’r terfynellau gael eu diffodd.
Ar gyfer rhesymau gweithredol, mae’n bosibl y caiff aelodau staff gadw eu setiau radio pan nad ydynt ar ddyletswydd. Swyddogion sy’n cyflawni swyddogaeth ‘ar alwad’ fydd y rhain yn bennaf. Caiff Rheolwyr Llinell / Comanderiaid awdurdodi swyddogion i fynd adref â’r terfynellau a chânt ddirprwyo’r awdurdod hwnnw i lefel oruchwyliol maen nhw’n teimlo sy’n briodol.
Pan mae terfynell radio llaw gludadwy’n cael ei chadw heb ofalydd yng nghartref defnyddiwr, rhaid i’r adeilad fod yn ddiogel h.y. dylid cloi drysau a mynedfeydd eraill a dylid cau ffenestri.
Os oes angen gadael terfynell llaw gludadwy mewn cerbyd dros dro, dylid diffodd y derfynell, ei chadw o’r golwg, a chloi’r cerbyd.
Offer Cronfa
Darperir terfynellau llaw cludadwy Airwave cronfa â:
Pan na fyddant yn cael eu defnyddio, rhaid i’r eitemau hyn gael eu cadw yn y locer clo a bennwyd ar gyfer y diben hwnnw. Rhaid bod y terfynellau wedi’u diffodd pan fyddant yn cael eu cadw yn y locer
Ni ddylid cadw setiau radio cronfa mewn unrhyw leoliad arall heblaw’r orsaf heddlu.
Rhaid i’r goruchwylydd ar ddyletswydd ar gyfer yr ardal dan sylw awdurdodi cyhoeddi terfynellau llaw cludadwy Airwave bob tro. Rhaid i hyn gael ei gofnodi ar y ffurflen a ddarperir o fewn pob locer cronfa.
Os bydd angen gadael terfynell llaw gludadwy Airwave cronfa mewn cerbyd dros dro, dylid diffodd y derfynell, ei chadw o’r golwg, a diogelu’r cerbyd.
Terfynellau Cerbyd
Pan na fydd neb ynddynt, rhaid cloi cerbydau sydd wedi’u gosod â therfynell Airwave. Os bydd y derfynell gerbyd yn cael ei defnyddio fel ‘porth’, does dim angen diffodd y derfynell. Ym mhob achos arall, rhaid diffodd terfynellau mewn cerbydau heb ofalydd
Pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, mae cerbydau heddlu’n cael eu cadw mewn garej. Lle nad oes darpariaeth garej yn bodoli, rhaid diogelu’r cerbyd.
Symudion Sefydlog
Lle bo terfynell symudol sefydlog Airwave wedi’i gosod mewn gorsaf heddlu, ymdrinnir â’i diogelwch yn unol â’r Polisi Diogelwch Gwybodaeth (Safon 11 – Diogelwch Corfforol Eiddo ac Ardaloedd Gweithredol) a’r Polisi Diogelwch Adeiladau Heddlu.
Diffygion
Terfynell Airwave llaw gludadwy
Terfynellau Cerbyd
Symudyn Sefydlog
Ategolion
Ar Goll / Wedi’i Dwyn
Er mwyn sicrhau nad yw’r isadeiledd Gwasanaeth Airwave yn cael ei gyfaddawdi’n ddiangen ac er mwyn cynnal diogelwch gwybodaeth yr Heddlu o fewn y Gwasanaeth Airwave, os yw terfynell Airwave yn cael ei cholli, mae’n hollbwysig fod defnyddiwr y derfynell honno’n cymryd camau i’w chael yn ôl, megis cymryd amser i chwilio amdani.
Os nad yw’r derfynell wedi’i hadennill o fewn awr o’r adeg y mae’r defnyddiwr yn darganfod ei bod ar goll, rhaid i’r defnyddiwr gysylltu â gweithredydd Desg Gymorth TGCh yr Heddlu yn syth. Bydd gweithredydd Desg Gymorth TGCh yr Heddlu’n trefnu bod y derfynell goll honno’n cael ei hanalluogi o bell. Tu allan i oriau gwaith arferol, rhaid i’r Arolygydd ar Ddyletswydd yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu gael ei hysbysu a rhaid iddo/iddi gysylltu â’r Arbenigwr TGCh (Cyfathrebu) sydd ar alwad. Os oes unrhyw bosibilrwydd bod yr eitem wedi’i ddwyn yn hytrach na’i golli, ystyrir bod y derfynell wedi’i dwyn a rhaid dilyn y gweithdrefnau a amlinellir isod.
Os yw’r derfynell yn cael ei dwyn, rhaid i ddefnyddiwr y derfynell honno hysbysu gweithredydd Desg Gymorth TGCh yr Heddlu yn syth am y lladrad hwnnw. Mae hyn yn ychwanegol i arferion presennol yr heddlu sy’n ymwneud â lladrad eiddo’r heddlu. Bydd gweithredydd Desg Gymorth TGCh yr Heddlu’n trefnu bod y derfynell goll honno’n cael ei hanalluogi o bell yn syth. Tu allan i oriau gwaith arferol, rhaid i’r Arolygydd ar Ddyletswydd yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu gael ei hysbysu a rhaid iddo/iddi gysylltu â’r Arbenigwr TGCh (Cyfathrebu) sydd ar alwad.
Os yw’r radio wedi’i ddwyn pan mae defnyddiwr y derfynell wedi’i analluogi, dyletswydd y swyddog cyntaf sy’n darganfod y wybodaeth honno fydd hysbysu gweithredydd desg gymorth Airwave.
Os yw’r derfynell yn cael ei cholli / dwyn, rhaid i’r defnyddiwr ddarparu adroddiad cynhwysfawr ar amgylchiadau’r golled / lladrad i’w Reolwr Llinell / Comander. Rhaid i’r adroddiad hwnnw gael ei anfon at y Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau fel perchennog system Airwave yr Heddlu.
Archwilio
Mae’n ofynnol yn ôl y Swyddfa Gartref bod archwiliad llawn yn cael ei gynnal o derfynellau Airwave yn rheolaidd, ac o leiaf unwaith bob 12 mis.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys geidwad terfynellau penodol sy’n gyfrifol am gadw cofnod o’r holl asedau Airwave y mae gan Heddlu Dyfed-Powys fynediad iddynt. Cedwir y cofnodion gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol a brynwyd gan yr Heddlu.
Yn ogystal, mae’r Swyddfa Gartref yn disgwyl y bydd mynediad i staff Airwave 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd y swyddogaeth hon yn cael ei harfer gan y staff cyfathrebu sydd ar alwad.
Mae’r ceidwad terfynellau’n cynnal archwiliad cynhwysfawr blynyddol o asedau Airwave y ceir mynediad atynt gan Heddlu Dyfed-Powys. Rhoddir canlyniadau’r archwiliad i’r Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau.
Mae’n ofynnol cynnal archwiliadau amlach o asedau sy’n cael eu dal yn diriogaethol. Rhaid bod llai na 3 mis rhwng pob archwiliad, a rhaid nodi daliwr swydd fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am dystio bod yr archwiliad wedi’i gynnal.
Mae ceidwad terfynellau’r Heddlu’n rhoi rhestr fanwl gywir i Reolwyr Llinell o’r asedau Airwave hysbys presennol sy’n cael eu dal o fewn ei faes cyfrifoldeb.
Rhaid i’r ceidwad terfynellau, sy’n gorfod cydymffurfio â’r canllawiau sydd mewn grym gan y Swyddfa Gartref ar y pryd, ddwyn diffygion yn yr archwiliad i sylw’r Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau’n syth.
Gosodir meddalwedd ar setiau radio cronfa er mwyn sicrhau bod unrhyw un sy’n defnyddio’r ddyfais yn cofnodi ei ddefnydd a’i leoliad yn gywir er mwyn awtomeiddio’r broses archwilio. Mae’r ceidwad terfynellau’n adolygu’r adroddiadau archwiliad awtomatig er mwyn cadarnhau lleoliad pob radio, ac yn tynnu sylw Rheolwyr Llinell at unrhyw ddyfeisiau coll.
Mae’r polisi hwn yn addas ar gyfer y diben o ran ei fod yn bodloni gofynion fel y nodir yng Nghod Cysylltu Airwave.
Mae’r Heddlu’n cydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol a phob deddfwriaeth arall fel y bo’n briodol, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Polisïau, safonau, gweithdrefnau ac arferion cysylltiedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Pob Defnyddiwr
Rhaid i bob defnyddiwr gydymffurfio’n weithredol â’r polisi hwn a phob gofyniad diogelwch Airwave o’r fath, gan gynnwys adrodd am unrhyw golled / lladrad. Yn achos colled / lladrad, rhaid i’r defnyddiwr gyflwyno adroddiad cynhwysfawr ar amgylchiadau’r golled / lladrad i’w Reolwr Llinell / Comander.
Rheolwyr Llinell / Comanderiaid
Caiff Rheolwyr Llinell / Comanderiaid awdurdodi swyddogion i fynd adref â’u terfynellau a chânt ddirprwyo’r awdurdod hwnnw i lefel oruchwyliol sy’n briodol yn eu barn nhw.
Rhaid i Reolwyr Llinell / Comanderiaid ddweud pwy sy’n gyfrifol am archwilio setiau radio cronfa bob dydd.
Rhaid i Reolwyr Llinell / Comanderiaid adrodd am golled / lladrad offer wrth Berchennog System Airwave yr Heddlu.
Ceidwad Terfynell
Rhaid i’r Ceidwad Terfynell gynnal cofnod o'r holl asedau Airwave y mae gan Heddlu Dyfed-Powys fynediad iddynt, gan gynnwys archwiliad cynhwysfawr blynyddol o asedau Airwave.
Rhaid i’r Ceidwad Terfynell roi rhestr fanwl gywir i Reolwyr Llinell / Comanderiaid o’r asedau Airwave hysbys presennol sy’n cael eu dal o fewn eu maes cyfrifoldeb ac adrodd am unrhyw ddiffygion yn syth wrth Berchennog System Airwave yr Heddlu.
Perchennog System Airwave yr Heddlu
Y Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau yw Perchennog System Airwave yr Heddlu, ac mae’n cyflawni’r rôl hon yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Gartref.
Cymorth Rheolwr TGCh Uwch
Mae’r Cymorth Rheolwr TGCh Uwch yn adolygu’r polisi hwn ar sail flynyddol.
Mae’r egwyddorion cod moeseg canlynol yn berthnasol i'r polisi hwn:
Mae hyfforddi defnyddwyr cyn eu bod nhw’n defnyddio asedau Airwave yn arddangos didwylledd yn y ffordd y mae’r polisi hwn yn cael ei drosglwyddo.
Mae’r polisi hwn yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen i adlewyrchu a chydymffurfio ag unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau i arferion perthnasol. Mae’r ddogfen hon yn destun adolygiad blynyddol gan y Cymorth Rheolwr TGCh Uwch.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2026