Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd y polisi hwn yn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni ac yn gweithredu'r gofynion cyfreithiol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR y DU) a Deddf Hawliau Dynol 1998 wrth rannu gwybodaeth bersonol.
Er mwyn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yr Heddlu y Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth – Rhannu Gwybodaeth. Yn ogystal, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn canllawiau a ddarparwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n cynnwys Cod Ymarfer Rhannu Data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cadw at APP y Coleg Plismona a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru, fel sail ar gyfer canllawiau a thempledi ar gyfer datblygu a chreu cytundebau rhannu gwybodaeth.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) yn staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr heddlu sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae gwybodaeth yn ased hanfodol i'r sefydliad. Mae pob adran ac unigolyn yn defnyddio gwybodaeth yn ddyddiol er mwyn bodloni gofynion eu rôl. Rhaid rheoli a defnyddio'r adnodd hwn yn briodol i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys (HDP) yn effeithiol ac yn effeithlon o ran cyflawni ei gyfrifoldeb at ddibenion plismona a'i rwymedigaethau statudol. Diffinnir diben plismona fel a ganlyn:
Mae HDP wedi ymrwymo i weithio mewn modd cydgysylltiedig gydag asiantaethau partner i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phlismona, diogelu'r cyhoedd, troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae rhannu gwybodaeth yn effeithiol yn hwyluso cysylltiadau da o fewn gwasanaeth yr heddlu, gydag asiantaethau partner, trydydd partïon, sefydliadau eraill a chymunedau ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Anogir yr arfer o rannu gwybodaeth rhwng HDP a thrydydd partïon, fodd bynnag, mae prosesau mewn grym i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn unol â deddfwriaethau.
Lle mae angen rhannu gwybodaeth yn rheolaidd, rhaid cael cytundeb rhannu gwybodaeth ffurfiol lle mae gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rheolaidd.
Mae HDP yn llofnodwr Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru a bydd yn rhoi sylw dyledus i'r Cytundeb a'r canllawiau perthnasol. Bydd unrhyw gytundebau rhannu gwybodaeth yn dilyn templed(i) Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru.
Mae rhestr ddiweddar o gytundebau rhannu ar gael drwy’r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth. Lle nad oes cytundeb rhannu gwybodaeth yn bodoli eisoes, rhaid ceisio cyngor o ran pa un ai a fyddai angen un.
Mae amgylchiadau lle na fydd angen cytundeb rhannu gwybodaeth, er enghraifft, pan mae’r rhannu’n digwydd mewn amgylchiadau brys (ceir rhagor o fanylion isod) neu lle mae rhannu afreolaidd yn digwydd ac mae sail gyfreithiol dros y rhannu hwnnw. Eto, rhaid ceisio cyngor gan yr Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth.
Cyn bod unrhyw weithgarwch rhannu rheolaidd newydd yn cychwyn, rhaid ymgymryd ag Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data. Defnyddir hyn i nodi peryglon preifatrwydd sy’n gysylltiedig â rhannu gwybodaeth bersonol ym mhob achos. Mae Templed a chanllawiau ar gael wrth y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth.
Mewn sefyllfaoedd brys, mae deddfwriaeth Diogelu Data yn caniatáu datgelu data personol os yw o "fuddiant allweddol i fywyd" unrhyw berson. Bydd HDP yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n brydlon ac yn effeithiol o dan yr amgylchiadau hyn.
Mae hyn ond yn berthnasol mewn achosion eithriadol, unigryw o ddatgelu data mewn sefyllfaoedd annisgwyl neu argyfyngau.
ENGHRAIFFT: Mewn achosion lle mae bywyd yn y fantol, lle datgelir hunaniaeth a/neu hanes meddygol unigolyn i adran Damweiniau ac Argyfyngau ysbyty sy’n ei drin, ar ôl damwain ffordd ddifrifol.
Dim ond pan fydd amodau brys gwirioneddol sy'n golygu bod angen rhannu data ar unwaith heb gyfeirio at ganllawiau a/neu gytundebau ysgrifenedig y dylid datgelu gwybodaeth. Dylid cofnodi'r rhesymeg dros rannu'r wybodaeth yn yr amgylchiadau hyn ar gofnod meistr yr Heddlu, h.y. STORM, NICHE ac ati, ynghyd â’r sail gyfreithiol dros rannu a gyda phwy y rhannwyd y wybodaeth â nhw.
Dim ond o fewn y fframwaith statudol a chyfraith gyffredin priodol y dylid rhannu gwybodaeth. Dylid rhoi sylw priodol i ddeddfwriaeth Diogelu Data, Deddf Hawliau Dynol 1998 a dyletswydd hyder y gyfraith gyffredin.
Bydd yr holl aelodau staff yn cael y canllawiau priodol o ran rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, er mwyn sicrhau bod disgwyliadau realistig yn bodoli a bod safonau cyffredin yn cael eu cymhwyso ar draws y sefydliadau i fynd i'r afael â chydymffurfiaeth â'r egwyddorion Diogelu Data.
Mae pawb yn gyfrifol am sicrhau, pan fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu, ei bod yn cael ei gwneud mewn ffordd gyfreithlon a chymesur, ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol.
Gellir trafod canllawiau ar y mathau o gytundebau y gellir eu defnyddio â’r Tîm Rhannu Gwybodaeth.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys rwymedigaeth gyfreithiol i gydymffurfio â Rheoliadau Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cyfeirio at Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona - Rheoli Gwybodaeth – Rhannu Gwybodaeth, Cod Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar Rannu Gwybodaeth a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru wrth baratoi cytundebau rhannu gwybodaeth.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw’r awdurdod goruchwylio annibynnol ar gyfer diogelu data yn y DU ac mae’n cynnal hawliau gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd. Gall unrhyw achos o dorri data o dan GDPR y DU neu’r Ddeddf Diogelu Data gael ei orfodi ganddynt gan y pwerau maen nhw’n eu dal, fel y nodir yn Rhan 6 Deddf Diogelu Data 2018. Gall hyn gynnwys rhybuddion, dirwyon neu hysbysiadau cosb, er enghraifft. Ar gyfer achosion difrifol o dorri rheoliadau, gellir gosod dirwyon o hyd at £17.5 miliwn.
Deddfwriaeth berthnasol:
Dogfennau Polisi, Cod Ymarfer a Chanllaw Eraill
Yn ogystal, bydd rhai mathau o ddata yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth arall sy'n cwmpasu meysydd pwnc penodol. Dylai adrannau sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu eu gwaith a'i goblygiadau o ran rhannu data.
Rolau a Chyfrifoldebau o fewn Heddlu Dyfed-Powys
Prif Gwnstabl: Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw'r Rheolwr Data ac o'r herwydd mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am brosesu'r holl ddata personol a brosesir gan Heddlu Dyfed-Powys yn gyfreithlon. Mae ganddo hefyd atebolrwydd cyffredinol am ddogfennau gweithdrefnol ac mae’n bennaf gyfrifol am gydymffurfio â'r polisi hwn a diogelu data ar draws yr Heddlu cyfan.
Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth: Dirprwy Brif Gwnstabl (DBG) Heddlu Dyfed-Powys yw'r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth penodedig. Mae’n gyfrifol am:
Swyddog Diogelu Data: Pennaeth Rheoli Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys yw'r Swyddog Diogelu Data penodedig. Mae’n gyfrifol am:
Perchennog/Perchnogion Asedau Gwybodaeth: Mae Perchnogion Asedau Gwybodaeth yn uwch swyddogion a staff sy'n berchnogion enwebedig ar un neu fwy o asedau gwybodaeth a nodwyd. Maent yn gyfrifol am:
Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth: Y Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o baratoi protocolau rhannu gwybodaeth. Mae’n gyfrifol am:
Swyddogion Rhannu Gwybodaeth: Mae Swyddogion Rhannu Gwybodaeth yn gyfrifol am:
Cynghorydd Diogelu Data: Mae'r Cynghorydd Diogelu Data yn gyfrifol am:
Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth: Rôl y Bwrdd yw:
Rheolwyr Llinell: Mae pob Rheolwr Llinell yn gyfrifol am:
Pob Swyddog, Aelod Staff a Gwirfoddolwr: Bydd pob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr yn gyfrifol am:
Bydd yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth, y Swyddog Diogelu Data a'r Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cytundebau Rhannu Gwybodaeth sydd ar waith.
Mae'r polisi hwn yn eiddo i'r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth. Bydd y broses adolygu yn cael ei chynnal gan y swyddog Rhannu Gwybodaeth o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth bob dwy flynedd i sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, ac ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol, canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac ati, oni bai bod newidiadau cyn y cyfnod hwn yn dangos bod angen diweddaru'r polisi hwn.
Bydd effeithiolrwydd y polisi yn cael ei fonitro'n rheolaidd o fewn y cyfnod adolygu o ddwy flynedd a bydd unrhyw bryderon mawr yn cael eu codi fel y bo'n briodol. Bydd cytundebau rhannu gwybodaeth yn destun archwiliad i sicrhau effeithiolrwydd y ddarpariaeth o Gytundebau Rhannu Gwybodaeth yn unol â'r polisi hwn.
Yn achos unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r polisi hwn, ei gynnwys, neu ddogfennau canllaw cysylltiedig - dylai unigolion gysylltu â Swyddogion Rhannu Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys neu'r Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth.
Bydd y polisi hwn yn cael ei hyrwyddo'n briodol, a all gynnwys codi ymwybyddiaeth pan ddarperir mewnbynnau hyfforddi a chyflwyniadau i staff ledled yr Heddlu. Bydd y polisi ar gael ar Fewnrwyd a Rhyngrwyd yr Heddlu.
Lle nodir problemau, bydd y Swyddog(ion) Rhannu Gwybodaeth neu'r Rheolwr Datgelu, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r adrannau perthnasol i fynd i'r afael â'r materion a sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.
Bydd unrhyw faterion sy'n peri pryder neu risg o ran cydymffurfio â rhannu gwybodaeth yn cael eu cyfeirio at y Swyddog Diogelu Data, y Cynghorydd Diogelu Data, Swyddog Diogelwch Gwybodaeth yr Heddlu, Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth yr Heddlu a'r Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth, yn dibynnu ar lefel y difrifoldeb.
Pan sefydlir bod achos o dor diogelwch data wedi digwydd o ganlyniad i rannu gwybodaeth, dilynir Polisi Tor Diogelwch Data'r Heddlu a'r broses gysylltiedig ar gyfer adrodd am dor diogelwch data.
Gall adroddiadau o'r fath, ac ymchwiliadau dilynol, dynnu sylw at broblemau gyda'r polisi hwn, y broses rhannu gwybodaeth, protocolau rhannu gwybodaeth a chanllawiau cysylltiedig, a allai arwain at adolygiad angenrheidiol. Os digwydd hyn, cymerir camau perthnasol. Bydd y Rheolwr Datgeliadau, Cofnodion a Rhyddid Gwybodaeth yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r adrannau perthnasol a'r Cynghorydd Diogelu Data i fynd i'r afael â'r problemau a sicrhau y bydd unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu hadrodd yn llawn a'u rhaeadru yn ôl yr angen.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol: Bydd ystadegau mewn perthynas â chytundebau yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yn cael eu hadrodd yn fisol i'r Swyddog Diogelu Data ac yn chwarterol i'r Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024