Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y ddogfen hon yw sefydlu polisi ar gyfer rheoli asedau TGCh defnyddwyr terfynol. Mae’r polisi’n dibynnu ar restr eiddo TGCh a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd gan yr adran TGCh a’r Ceidwad Asedau (yr unigolyn y rhoddir yr ased TG iddo yn Heddlu Dyfed-Powys). Mae’r polisi’n sicrhau bod asedau TGCh yn cael eu holrhain a’u rheoli gydol eu cylch bywyd yn Heddlu Dyfed-Powys.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob ased TG defnyddiwr terfynol (dyfeisiau ffisegol) sydd o dan reolaeth lawn Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r polisi’n berthnasol i bob Ceidwad Asedau (yr unigolyn y rhoddir yr ased TG iddo yn Heddlu Dyfed-Powys) a’u rheolwyr llinell, sy’n gyfrifol am sicrhau bod asedau TG yn cael eu dychwelyd i’r adran TGCh pan fo angen.
Mae’r polisi hwn yn bodloni gofynion sefydliadol ac yn cydymffurfio â mesurau rheoli fel yr argymhellwyd gan National Institute of Standards and Technology (NIST) yr UDA, yn bennaf y swyddogaeth ‘nodi’ ac ystod o reolaethau cysylltiedig sy’n rhan o fframwaith seiberddiogelwch NIST, a chan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, sef ‘rheoli asedau’ fel rhan o ‘10 cam tuag at seiberddiogelwch’ y ganolfan.
Mae’r Heddlu yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol a phob deddfwriaeth arall yn ôl yr angen, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Polisïau, safonau, gweithdrefnau, arferion cysylltiedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Ceidwad Asedau (Yr unigolyn y rhoddir yr ased TG iddo)
Pan ddarperir ased TGCh i Geidwad Asedau, mae gan y Ceidwad Asedau’r cyfrifoldebau canlynol:
Rheolwyr Llinell
Y rheolwr llinell sy’n gyfrifol am ddychwelyd yr ased TGCh i’r adran TGCh iddo gael ei ailddefnyddio/ailgyflwyno i aelod newydd/arall o staff. Os yw’r ased yn cynnwys data, bydd yr adran TGCh yn dileu’r data cyn ei roi i ddefnyddiwr newydd.
Asedau
Isod, ceir rhestr o’r asedau TGCh sydd wedi’u cynnwys yn y polisi hwn -
Wrth gwblhau’r hunanasesiad o asedau cofrestredig, dylid cofnodi manylion cywir y ddyfais yn yr hunanasesiad.
Tor diogelwch data
Os bydd y polisi hwn yn cael ei dorri, gall Heddlu Dyfed-Powys gymryd y camau canlynol.
Mae’r egwyddorion canlynol yn y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Perchennog y polisi: Pennaeth yr adran TGCh sy’n berchen ar y polisi hwn, ac ef sy’n gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd o ran ei effeithiolrwydd, heriau i’r polisi, unrhyw newidiadau i ganllawiau NIST a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, ac unrhyw aneffeithlonrwydd mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Proses Gymeradwyo: Y Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am gymeradwyo penderfyniadau yn ymwneud â gweithredu’r polisi.
Bydd yr adran TGCh yn cadw rhestr o’r asedau. Bydd unrhyw ganfyddiadau’n destun adolygiad, a lle bo angen, cânt eu huwchgyfeirio i’r Grŵp Seiberwydnwch. Rôl y grŵp yw darparu goruchwyliaeth ar bob mater sy’n ymwneud â’r dirwedd bygythiadau seiber gyfredol a’r hyn sydd ar ddod, ac i ddiffinio cyflwr priodol a derbyniol o ran diogelwch ar gyfer yr heddlu.
Bydd unrhyw faterion na all y grŵp Seiberwydnwch eu datrys neu sydd angen eu huwchgyfeirio, yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth.
Rhoddir ystyriaeth i ganllawiau ac argymhellion sefydliadau perthnasol, gan gynnwys NIST a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, wrth adolygu’r polisi hwn.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2025