Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae terfynellau data symudol yn cael eu defnyddio ar draws Heddlu Dyfed-Powys gan swyddogion heddlu a staff i weithio o bell y tu allan i orsafoedd, i gael mynediad at eu gwaith a’u negeseuon e-bost, ac i lenwi ffurflenni trwy Pronto. Mae Pronto yn gartref i amrywiaeth o ffurflenni, megis adroddiadau troseddau a throseddau traffig; mae'r data’n cael eu casglu trwy Pronto a’u bwydo drwodd i Niche a systemau eraill (ee Crash, Pentip a chyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu).
Diben y polisi hwn yw nodi a chyfeirio at y gweithdrefnau a’r protocolau y mae eu hangen ar gyfer cymhwyso, lleoli a defnyddio terfynellau data symudol gan swyddogion a staff yr heddlu. Mae’r polisi a’r canllawiau cysylltiedig yn gosod y sail gyfreithiol a’r canllawiau ar gyfer defnyddio terfynellau data symudol.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r safonau ymddygiad a defnydd disgwyliedig pan fydd swyddogion heddlu a staff yn defnyddio eu terfynellau data symudol. Trwy amlinellu’r disgwyliadau hyn, mae’n lleihau’r risg y bydd y dyfeisiau’n cael eu defnyddio’n amhriodol.
Yn ogystal ag amlinellu disgwyliadau defnydd, mae’r gweithdrefnau a’r protocolau hefyd yn disgrifio sut i ddiogelu’r ddyfais trwy ddefnyddio cyfrineiriau cymhleth a sut i storio’r dyfeisiau’n ddiogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Mae’r wybodaeth hon yn lleihau’r risg o dorri diogelwch data drwy sicrhau na all unrhyw un heblaw’r defnyddiwr gael mynediad i’r derfynell ddata symudol a’r data a gedwir arni ac na ellir dwyn dyfeisiau’n hawdd.
Mae’r terfynellau data symudol yn galluogi swyddogion a staff yr heddlu i gyflawni eu dyletswydd tra’u bod allan o’r orsaf ac yn weladwy yn y gymuned. Mae’r terfynellau data symudol yn galluogi swyddogion i fewnbynnu a chael mynediad at ddata wrth gyflawni dyletswyddau. Mae integreiddio rhwng Pronto a Niche yn sicrhau bod data ar gael o fewn munudau ac yn osgoi bysellu ddwywaith. Mae’r terfynellau data symudol yn gwella ansawdd data trwy fandadu meysydd o fewn y ffurflenni a thrwy leihau’r amser rhwng cipio a mewnbynnu data. Diben y terfynellau data symudol yw i swyddogion a staff yr heddlu gasglu, prosesu a chael mynediad at ddata mewn modd amserol a diogel er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau i’r cyhoedd. Mae hefyd yn caniatáu iddynt gael mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â gwaith a negeseuon e-bost, ac mae’n rhoi rhif ffôn symudol gwaith pwrpasol iddynt.
Polisïau, Protocolau, Arferion neu Gytundebau Gwasanaeth Cysylltiedig Mewnol:
Canllawiau terfynellau data symudol
Y weithdrefn arferol ar gyfer terfynellau data symudol
Asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb y terfynellau data symudol
Polisi ôl-reoli digwyddiadau Heddlu Dyfed-Powys
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth – defnydd yr heddlu o ataliad mewn lleoliadau iechyd meddwl ac anabledd dysgu
Arweiniad ar gyhoeddi a defnyddio dyfeisiau symudol a ffonau
Rolau a Chyfrifoldebau
Uwch-swyddog Cyfrifol – Pennaeth Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Mae prosiect y terfynellau data symudol yn rhan o gylch gorchwyl Newid Busnes TGCh, a’r Uwch-reolwr Gweithredol TGCh yw’r arweinydd ar gyfer Newid Busnes TGCh.
Rheolir y prosiect terfynellau data symudol gan y Rheolwr Cynnyrch a Rhaglenni TGCh.
Rhoddir terfynellau data symudol i unigolion mewn rolau penodol y bernir bod angen y ddyfais arnynt i gyflawni eu rôl i’r safon orau. Mae gan bob defnyddiwr gyfrifoldeb i ymgymryd â hyfforddiant cyn cael ei ddyfais ac i sicrhau ei fod yn hyderus wrth ddefnyddio’r derfynell ddata symudol cyn ei defnyddio.
Dyfeisiau a roddir yn bersonol i unigolion yw terfynellau data symudol; bydd yr unigolion sy’n cael terfynell ddata symudol yn gosod eu cyfrinair eu hunain i gyrchu’r ddyfais. Pronto yw’r cymhwysiad sydd ar y ddyfais i gyrchu ffurflenni. Mae hefyd wedi’i ddiogelu gan gyfrinair. Priodolir pob ffurflen i’r swyddog heddlu neu’r staff sy’n ei chwblhau, sy’n eu gwneud yn atebol ac yn gyfrifol am bob ffurflen a gwblhawyd trwy eu cymhwysiad Pronto a’r derfynell ddata symudol.
Mae swyddogion a staff yr heddlu yn gyfrifol am gasglu eu data eu hunain trwy eu terfynell ddata symudol a sicrhau eu bod yn cael eu casglu a’u defnyddio mewn modd teg, parchus, cyfreithlon a moesegol. Maent yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn agored ac yn onest gyda’r rheswm dros gasglu a’r defnydd posibl o’r data.
Mae unigolion y rhoddir terfynellau data symudol iddynt yn gyfrifol am ddefnydd priodol o’r terfynellau data symudol a’r systemau y gellir cael mynediad atynt drwy’r terfynellau data symudol, ac maent yn gyfrifol am fod yn wrthrychol ac yn deg wrth ddefnyddio unrhyw ddata. (At ddibenion plismona cyfreithlon yn unig ac nid er budd personol ganddynt hwy nac eraill.) Mae swyddogion yn gyfrifol am reoli data mewn perthynas â chyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu ac am reoli gwybodaeth o fewn y systemau. Maent yn gyfrifol am gymryd perchnogaeth ac arwain trwy esiampl dda wrth ymdrin â’u data. Mae swyddogion hefyd yn gyfrifol am drin yr holl ddata â pharch, cywirdeb a chyfreithlondeb.
Egwyddorion Cod Moeseg perthnasol:
Mae’n arfer da cael proses ar waith sy’n sicrhau bod adolygiad ffurfiol rheolaidd o’r holl bolisïau a chanllawiau yn cael eu cynnal. I’w hystyried:
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy flynedd oni bai fod angen ei adolygu cyn y ddwy flynedd. Bydd y polisi a’r dogfennau ategol yn cael eu diweddaru cyn i’r ddwy flynedd ddod i ben os oes diweddariadau perthnasol i’w gwneud. Os bydd hyn yn digwydd, ymgynghorir â’r holl randdeiliaid perthnasol, a bydd y dogfennau’n cael eu cyflwyno i’w hailgymeradwyo gan y byrddau.
Caiff yr egwyddorion a’r arferion polisi eu hadolygu yn erbyn gallu’r swyddog i ddefnyddio’r derfynell ddata symudol a chan swyddogion nad ydynt yn camddefnyddio’r terfynellau data symudol na’r system. Gellir ymchwilio ac adrodd ar y defnydd cywir o’r terfynellau data symudol a’r system drwy’r swyddogaeth archwilio o fewn y system. Mae swyddogion a staff hefyd yn dilyn y gweithdrefnau cywir o’r polisi ar gyfer cael terfynell ddata symudol ac ar gyfer dychwelyd y ddyfais os bydd wedi bod ar goll neu wedi’i thorri, neu os ydynt yn newid rolau. Yn ogystal â hyn, anfonir arolygon ynghylch defnydd a boddhad â’r terfynellau data symudol i ddefnyddwyr ddwywaith y flwyddyn er mwyn adolygu effeithiolrwydd y terfynellau data symudol.
Mae’r holl ddiweddariadau neu bryderon ynghylch terfynellau data symudol yn cael eu codi yn y Grŵp Strategaeth TGCh a’r Grŵp Strategaeth TG. Darperir diweddariadau trwy eithriad. Mae’r holl bolisïau, canllawiau a dogfennaeth berthnasol arall mewn perthynas â’r terfynellau data symudol yn cael eu cyflwyno i’r Grŵp Strategaeth TGCh i’w hadolygu gan bawb sy’n bresennol.
Wrth i brosesau gael eu rhoi ar waith, cynhelir proses adolygu i ganfod effeithiolrwydd y broses ac i fesur unrhyw fanteision. Mae’r prosiect terfynellau data symudol yn dal i fod yn y cyfnod prosiect oherwydd datblygiad a chynnal a chadw parhaus Pronto.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ebrill 2024