Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ymdrin yn broffesiynol â phob tystiolaeth ac eiddo, gan ddiogelu ei uniondeb i gefnogi gwaith atal a chanfod trosedd.
Nodau
Amcanion
Canlyniadau
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn disodli'r holl bolisïau tystiolaeth ac eiddo blaenorol ac mae'n berthnasol i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu.
Mae'r Uned Rheoli Tystiolaeth wedi ymrwymo i ymdrin yn broffesiynol â phob tystiolaeth ac eiddo, gan ddiogelu ei uniondeb i gefnogi gwaith atal a chanfod trosedd. Bydd yn darparu system trin eiddo effeithiol sy'n sicrhau bod eiddo/tystiolaeth yn cael ei ddiogelu'n briodol, ei nodi'n gywir a'i olrhain, gan drin eitemau crefyddol a diwylliannol â sensitifrwydd priodol. Bydd cydymffurfio â hyn yn sicrhau boddhad a hyder y cyhoedd.
Mae’n rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sy’n atafaelu/trin tystiolaeth ac eiddo wneud hynny gyda’r lefel uchaf o ofal, gan ddilyn gweithdrefnau penodol i ddiogelu uniondeb y dystiolaeth, gan ystyried iechyd a diogelwch y rhai sy’n trin y dystiolaeth ar y pryd ac yn y dyfodol.
Ers 16 Mai 2023, rheolir yr holl dystiolaeth/eiddo ar system Niche a chedwir trywydd archwilio llawn o leoliad yr eiddo. Bydd yr holl dystiolaeth/eiddo a gofnodir ar y system Niche yn cael ei drosglwyddo o stordai eiddo lleol i'r prif gyfleuster yn Uned Rheoli Tystiolaeth Pencadlys yr Heddlu i'w storio o fewn deng niwrnod gwaith.
Mae unrhyw dystiolaeth/eiddo a gadwyd cyn 16 Mai 2023 yn cael ei reoli ar y System Rheoli Eiddo a bydd yn cael ei gadw mewn stordai eiddo lleol.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r Canllawiau ar Eiddo a Gedwir.
Nod y polisi yw lliniaru’r risgiau canlynol:
Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r dogfennau canlynol –
Mae'r polisi yn eiddo i'r Prif Arolygydd, yr Adran Cyfiawnder Troseddol, sy'n bennaf gyfrifol am reoli'r Uned Rheoli Tystiolaeth.
Y swyddog yn yr achos sy’n bennaf gyfrifol am unrhyw eiddo/tystiolaeth, yn enwedig eiddo/tystiolaeth adnabyddadwy a gedwir neu a geir.
Mae'r Swyddog Cymorth Eiddo/ Rheoli Tystiolaeth yn gyfrifol am sicrhau bod pob eitem o eiddo/tystiolaeth sy'n dod i feddiant yr heddlu yn cael ei gofnodi'n gywir, ei storio'n ddiogel a'i waredu yn unol â chanllawiau.
Mae holl egwyddorion y Cod Moeseg newydd yn berthnasol i’r polisi hwn -
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu ymhen 12 mis i ddechrau, ac yna bob dwy flynedd wedi hynny i sicrhau ei fod yn addas i’r diben.
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau yn ystyried y canlynol –
Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi hwn yn cael eu gweithredu drwy'r Grŵp Cyfiawnder Troseddol, y Bwrdd Safonau Ymchwilio ac yna darperir goruchwyliaeth derfynol gan Fwrdd Strategol Cyfiawnder Troseddol, y Ddalfa, Cudd-wybodaeth, Ymchwiliadau, Trwyddedu Arfau Saethu ac Eiddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2025