Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r Cod Ymarfer Rhybuddio Amodol Cenedlaethol ynghyd â’r Canllawiau Cyfarwyddwyr ar gyfer Rhybuddion Amodol Oedolion, sy’n rhoi cyngor i’r heddlu ac erlynwyr ar y defnydd o Rybuddion Amodol a’r detholiad o amodau priodol, cymesur a chyflawnadwy. Dylid defnyddio rhybuddion ar gyfer troseddu lefel is.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae rhybudd amodol yn caniatáu i unigolyn awdurdodedig (swyddog heddlu fel arfer) neu erlynydd perthnasol (GEG fel arfer) benderfynu rhoi rhybudd gydag un neu fwy o amodau ynghlwm iddo. Pan mae troseddwr yn derbyn rhybudd amodol am drosedd, mae gweithdrefnau troseddol ar gyfer y drosedd honno’n cael eu hatal tra bod y troseddwr yn cael cyfle i gydymffurfio â’r amodau. Lle y cydymffurfir â’r amodau, ni chychwynnir yr erlyniad fel arfer. Fodd bynnag, lle nad oes esgus rhesymol ar gyfer peidio â chydymffurfio, gellir cychwyn gweithdrefnau troseddol ar gyfer y drosedd wreiddiol a bydd y rhybudd amodol yn peidio. Gellir rhoi rhybudd amodol ar gyfer mwy nag un drosedd.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol:-
Gwarediad statudol yw rhybuddion amodol a gyflwynwyd ar gyfer oedolion gan Ran 3 Deddf 2003 ac a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2004. Mae’r Cod Ymarfer yn llywodraethu’r defnydd o rybuddion amodol.
Paratowyd y Cod Ymarfer hwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder o dan adran 25 Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 a chafodd ei gyhoeddi gyda chaniatâd y Twrnai Cyffredinol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Cafodd ei gyflwyno gerbron dau Dŷ’r Senedd, ac fe ddaw i rym y diwrnod ar ôl i Orchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (Rhybuddion Amodol: Cod Ymarfer) 2013 ddod i rym. Mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae’r Cod Ymarfer hwn yn disodli unrhyw fersiynau cynharach o’r Cod Ymarfer.
Rôl Rhingyll y Ddalfa/y Rhingyll ar Ddyletswydd neu’r Arolygydd ar Ddyletswydd yw penderfynu pa un ai a yw’r troseddwr yn addas ar gyfer Rhybudd Amodol, ac ar yr un amod neu fwy sydd i’w gosod.
Gweinyddir y Rhybudd Amodol gan Swyddog Heddlu nad yw islaw rheng Rhingyll.
Rhaid i Arolygydd neu uwch awdurdodi unrhyw Rybuddion Amodol ar gyfer meddu ar gyllyll, eitemau â llafn neu arfau bygythiol.
Rhaid peidio rhoi Rhybudd Amodol ar gyfer trosedd dditiol yn unig, trosedd cam-drin domestig neu drosedd casineb heblaw ei fod yn cael ei gyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, sy’n cytuno y dylid rhoi Rhybudd Amodol.
Cyfeiriwch at y ddogfen ganllaw Rhybuddio Amodol Oedolion y gallwch gael hyd iddi ar dudalen gartref yr Adran Cyfiawnder Troseddol.
Yr holl egwyddorion Cod Moeseg newydd sy’n berthnasol ar gyfer y polisi hwn -
Cynhelir Paneli Craffu ar sail chwarterol ac maen nhw’n sicrhau bod yr heddlu’n cael eu dal yn atebol am eu defnydd o warediadau y tu allan i’r llys yn ogystal â rhoi sicrwydd bod penderfyniad anodd i weinyddu gwarediadau o’r fath yn gyfiawn. Mae canfyddiadau paneli craffu’n cynnig mecanwaith adborth effeithiol i’r heddlu ar gyfer dysgu sefydliadol ac i swyddogion heddlu unigol ar gyfer anghenion datblygu neu hyfforddi yn ogystal â nodi enghreifftiau o arfer da.
Bydd y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn cael eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol, unrhyw heriau a wnaed a diwygiadau i ganllawiau/polisïau cenedlaethol.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn a'r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn cael eu gweithredu drwy gymeradwyaeth y Grŵp Cyfiawnder Troseddol a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, Dalfeydd, Cudd-wybodaeth, Ymchwiliadau, Trwyddedu Arfau Saethu ac Eiddo Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2023