Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r Canllawiau Rhybuddio Cenedlaethol sy’n rhoi cyngor i’r heddlu ac erlynwyr ar y defnydd o’r rhybudd syml, ac yn arbennig, y dylid defnyddio rhybuddion syml ar gyfer troseddu lefel is. RHAID darllen y Canllawiau Cenedlaethol ar y cyd â’r polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad. Rhaid i bob gweithiwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae amrediad o warediadau y tu allan i’r llys ffurfiol ar gael i’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron (GEG) ar gyfer ymdrin â throseddwyr sy’n oedolion. Mae angen cymryd penderfyniad i weinyddu rhybudd syml yng nghyd-destun pob gwarediad o’r fath. Dylai swyddogion heddlu ac Erlynyddion y Goron gyfeirio at y fframwaith cenedlaethol ar warediadau y tu allan ir llys am gymorth (gwefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder).
Cyfeirir swyddogion at ganllawiau ar Rybuddion Syml ar gyfer Troseddwyr sy’n Oedolion ar dudalen gartref yr Adran Cyfiawnder Troseddol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol:-
Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 – daeth y ddeddf hon i rym ar 8 Ebrill 2013, gan gyflwyno newidiadau i’r gwarediadau y tu allan i’r llys.
Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 – Cyflwynodd deddfwriaeth a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2008 rybuddion syml o fewn cwmpasiad Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.
Golyga hyn fod rhybuddion syml yn darfod yn syth pan maen nhw’n cael eu gweinyddu. Golyga hyn nad oes angen i unigolyn ddatgelu rhybudd syml pan ofynnir iddo heblaw ei fod yn ceisio gwaith mewn swydd a restrir yn y Gorchymyn Eithriadau i’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr, megis gweithio gyda phlant ac unigolion bregus, neu ddibenion eithriedig eraill, megis ceisio cael trwyddedau penodol. Bydd rhybuddion hefyd yn cael eu datgelu o ran safon y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau uwch. Gellir cael gwybodaeth bellach wrth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylid ond defnyddio’r Rhybudd Syml Oedolion yn ardal Heddlu Dyfed-Powys fel gwarediad mewn achosion o Gam-drin Domestig a Throseddau Casineb. Rhaid i bob math arall o drosedd gyfeirio at Ganllawiau Rhybuddion Amodol Oedolion/Datrysiad Cymunedol Oedolion.
Mae holl egwyddorion newydd y Cod Moeseg yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn
Cynhelir Paneli Craffu ar sail chwarterol. Maen nhw’n sicrhau bod yr heddlu’n cael eu dal i gyfrif am eu defnydd o warediadau y tu allan i’r llys yn ogystal â rhoi sicrwydd bod penderfyniadau anodd i weinyddu gwarediadau o’r fath yn gyfiawn. Mae canfyddiadau paneli craffu’n cynnig mecanwaith adborth effeithiol i’r heddlu ar gyfer dysgu sefydliadol ac i swyddogion unigol ar gyfer anghenion hyfforddi neu ddatblygu yn ogystal â nodi enghreifftiau o arfer da.
Mae’r polisi hwn yn cael ei adolygu bob yn ail flwyddyn er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n effeithiol, yn unol â pholisïau a chanllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau a wnaed.
Gweithredir unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig drwy’r Grŵp Cyfiawnder Troseddol a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, Dalfeydd, Cudd-wybodaeth, Ymchwiliadau, Trwyddedu Arfau Saethu ac Eiddo Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2024