Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor i’r heddlu a gwasanaethau troseddau ieuenctid ar gymhwyso’r fframwaith gwarediad tu allan i’r llys ar gyfer pobl ifanc mewn ffordd ymarferol.
Nod gwarediadau tu allan i'r llys yw sicrhau bod canlyniadau yn gymesur â'r drosedd a gyflawnwyd ac yn effeithiol wrth leihau'r risg o droseddu pellach.
Mae manteision y fframwaith gwarediad y tu allan i’r llys fel a ganlyn:
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Prif nod y system cyfiawnder ieuenctid, a sefydlwyd gan adran 37 o Ddeddf Troseddu ac Anhrefn 1998, yw atal troseddu gan blant a phobl ifanc. Nod gwarediadau tu allan i'r llys yw sicrhau bod canlyniadau yn gymesur â'r drosedd a gyflawnwyd ac yn effeithiol wrth leihau'r risg o droseddu pellach.
Er mwyn helpu’r heddlu i asesu difrifoldeb trosedd, mae Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu wedi dyfeisio Matrics Ffactor Difrifoldeb Ieuenctid, lle gellir rhoi sgôr difrifoldeb i bob trosedd o rhwng un (ar gyfer y troseddau lleiaf) a phedwar (ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol). Gall ffactorau eraill sy’n gwaethygu’r drosedd (e.e. bod y drosedd wedi’i hysgogi gan darddiad hiliol neu ethnig y dioddefwr) neu liniaru (e.e. roedd y troseddwr wedi’i ddylanwadu gan eraill mwy soffistigedig yn droseddol) godi neu ostwng y sgôr ar gyfer trosedd benodol. Rhaid defnyddio’r Matrics Ffactor Difrifoldeb Ieuenctid i asesu a ddylai person ifanc gael rhybudd, rhybudd amodol, neu gyhuddiad o drosedd. Mae’r matrics yn adlewyrchu egwyddorion budd y cyhoedd yng Nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer Erlynwyr y Goron (2013)
Cyfeiriwch at y ddogfen ganllaw Troseddwyr Ifanc, sydd i'w gweld ar hafan gwefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i:-
Dylid darllen yr wybodaeth yn y ddogfen hon ar y cyd ag adrannau 135–138 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.
Yn ogystal â Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr, bydd deunydd ychwanegol yn darparu gwybodaeth a chymorth pellach os oes angen. Matrics Ffactorau Difrifoldeb Ieuenctid presennol ACPO (2009), Canllawiau datrysiad cymunedol ACPO, Canllawiau ar Ddefnyddio Datrysiadau Cymunedol wrth Ymgorffori Cyfiawnder Adferol (ACPO, 2012), Y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Troseddau (Y Swyddfa Diwygio Cyfiawnder Troseddol, 2005) Prawf Cod Llawn Gwasanaeth Erlyn y Goron, Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (diwygiwyd 2012), Canllawiau'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ar Rybuddion Amodol Ieuenctid (ar gyfer safleoedd peilot gwreiddiol), canllawiau'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ar gyfiawnder adferol.
4. Opsiynau a Chynlluniau Wrth Gefn
Rhybuddiad ieuenctid a rhybuddiadau amodol
Bydd y penderfyniad i awdurdodi rhybuddiad ieuenctid neu rybuddiad amodol ieuenctid yn dibynnu ar ddifrifoldeb y drosedd. Bydd troseddau ditiadwy yn unig yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, fel yr awdurdod gwneud penderfyniadau; gellir penderfynu ar droseddau diannod tro cyntaf a throseddau neillffordd trwy benderfyniad ar y cyd gan yr heddlu, yn dilyn asesiad gan y TTI. Rhaid bod yn ofalus rhag ail rybuddio’n amhriodol, a rhaid cynnal ffocws cryf ar ddiogelu’r cyhoedd.
Datrysiadau cymunedol
Mae datrysiad cymunedol yn arf i alluogi’r heddlu i wneud penderfyniadau ynghylch sut i ymdrin yn fwy cymesur â throseddau lefel isel ac mae wedi’i anelu’n bennaf at droseddwyr tro cyntaf lle bu cyfaddefiad o euogrwydd, a lle mae barn y dioddefwr wedi’i hystyried. Mae datrysiad cymunedol yn galluogi swyddogion heddlu i ddefnyddio eu barn broffesiynol i asesu trosedd, gan ystyried dymuniadau’r dioddefwr a hanes y troseddwr er mwyn cyrraedd canlyniad sy’n diwallu anghenion y dioddefwr a’r cyhoedd orau.
Mewn perthynas â Gwarediadau Adferol Ieuenctid, cyfeiriwch at y ddogfen Ganllaw ar hafan gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Gonestrwydd ac uniondeb – dim cyfaddawdu na chamddefnyddio sefyllfa
Parch a chwrteisi'r awdurdod – Defnyddir pwerau ac awdurdod yn gyfreithlon ac yn gymesur
Cydraddoldeb ac amrywiaeth – Gweithredu’n deg ac yn ddiduedd. Peidio â gwahaniaethu'n anghyfreithlon neu'n annheg.
Cyfrinachedd – Rhaid trin gwybodaeth â pharch a chael mynediad iddi neu ei datgelu wrth gyflawni fy nyletswyddau’n briodol yn unig.
5. Gweithredu ac adolygu
Cynhelir paneli craffu bob chwarter ac maent yn sicrhau bod yr heddlu’n atebol am eu defnydd o warediadau y tu allan i’r llys yn ogystal â rhoi sicrwydd y gellir cyfiawnhau penderfyniad anodd i weinyddu gwarediadau o’r fath. Mae canfyddiadau paneli craffu yn cynnig mecanwaith adborth effeithiol i'r heddlu ar gyfer dysgu sefydliadol ac i swyddogion unigol ar gyfer anghenion hyfforddi neu ddatblygu yn ogystal â nodi enghreifftiau o arferion da.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2023