Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Egwyddor y polisi hwn yw sicrhau bod pob arf saethu, dryll a ffrwydron yn Nyfed a Phowys wedi’u trwyddedu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau statudol.
Diben y polisi hwn yw fel a ganlyn:
Caiff pob cais sy’n dod i law ei drin yn ôl ei rinweddau ei hun. Yn ei swyddogaeth o ddydd i ddydd, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cymhwyso egwyddorion Deddf Arfau Saethu 1968 ynghyd â’i diwygiadau cysylltiol. Mae hyn hefyd yn ystyried yr holl reolau arfau saethu cysylltiol, ynghyd â Rheoliadau Ffrwydron 2014, y canllawiau statudol ar drwyddedu arfau saethu ar gyfer prif swyddogion yr heddlu a chanllawiau’r Swyddfa Gartref ar gyfraith arfau saethu wrth benderfynu ar geisiadau.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw swyddog heddlu, neu aelod o staff yr heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys sydd â chysylltiad â thrwyddedu arfau saethu neu ffrwydron.
Mae’r polisi hefyd yn berthnasol i’r aelodau hynny o’r cyhoedd sydd â thystysgrifau arfau saethu, drylliau neu ffrwydron yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Wrth gymhwyso arferion da o ddydd i ddydd, cyfeirir at y canllawiau statudol ar drwyddedu arfau saethu ar gyfer prif swyddogion yr heddlu, canllawiau’r Swyddfa Gartref ar gyfraith trwyddedu arfau saethu, canllawiau arferion da gweithdrefnol gweinyddu trwyddedu arfau saethu a ffrwydron, ynghyd â’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig (APP).
Mewnol
Allanol
Perchennog yr heddlu yw’r Arbenigwr Trwyddedu Arfau Saethu a Ffrwydron, ond:
Y Prif Gwnstabl
Mae’r Prif Gwnstabl wedi dirprwyo ei awdurdod o dan Adran 55 o Ddeddf Arfau Saethu 1968 (fel y’i diwygiwyd) a Rheoliad 2(8) o’r Rheoliadau Ffrwydron i’r Dirprwy Brif Gwnstabl, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, y Cydlynydd Trwyddedu Arfau Saethu a Ffrwydron a’r Rheolwr Trwyddedu Arfau Saethu.
Prif Uwch-arolygydd Cyfiawnder Troseddol a’r Ddalfa
Cyfrifoldeb cyffredinol dros berfformiad strategol a gweithredol yr adran
Cyfrifoldeb dros archwilio ac adolygu penderfyniadau.
Awdurdod dirprwyedig gan y Prif Gwnstabl.
Mae Cydlynydd Trwyddedu Arfau Saethu a Ffrwydron yn gyfrifol, yn rhinwedd awdurdod dirprwyedig y Prif Gwnstabl, dros gyhoeddi ac adnewyddu tystysgrifau arfau saethu, drylliau a ffrwydron. Mae’r Cydlynydd/Arweinydd hefyd yn gyfrifol dros archwilio ceisiadau am dystysgrif risg uchel, a phenderfynu a ddylid eu cymeradwyo, eu gwrthod, neu eu dirymu (fel y pennir yn y Canllawiau Statudol 3.50)
Mae’r meysydd cyfrifoldeb eraill yn cynnwys fel a ganlyn:
Mae Rheolwr Trwyddedu Arfau Saethu a Ffrwydron yn gyfrifol, yn rhinwedd awdurdod dirprwyedig y Prif Gwnstabl, dros gyhoeddi ac adnewyddu tystysgrifau arfau saethu, drylliau a ffrwydron. Mae’r Cydlynydd/Arweinydd hefyd yn gyfrifol dros archwilio ceisiadau am dystysgrif, a phenderfynu a ddylid eu cymeradwyo, eu gwrthod, neu eu dirymu.
Mae’r meysydd cyfrifoldeb eraill yn cynnwys fel a ganlyn:
Rhaid i bob swyddog heddlu ac aelod staff yr heddlu sy’n ymwneud â thrwyddedu arfau saethu a ffrwydron sicrhau ei bod wedi darllen a deall y polisi.
Mae’r egwyddorion canlynol yn y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Adran Trwyddedu Arfau Saethu yr Adran Cyfiawnder Troseddol sy’n berchen ar y polisi hwn. Cynhelir y broses adolygu gan y Cydlynydd/Arweinydd Trwyddedu Arfau Saethu a Ffrwydron ar sail adolygiad bob pedair blynedd er mwyn sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, a chan ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol ac arferion proffesiynol cymeradwy.
Caiff effeithiolrwydd y polisi ei fonitro’n rheolaidd ar ben y cyfnod adolygu, a chaiff unrhyw bryderon mawr eu codi fel y bo’n briodol.
Mesurir effeithiolrwydd y polisi drwy adolygu ffeiliau penderfyniadau’n rheolaidd. Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn destun archwiliadau (mewnol) TIAA ac arolygiadau Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS). Yn ogystal, mae dirymu a gwrthod rhoi neu adnewyddu tystysgrifau yn destun craffu annibynnol gan Lys y Goron drwy’r broses apelio fel yr amlinellir yn Adran 44 o Ddeddf Arfau Saethu 1968. Mae mesur nifer yr ymholiadau a gyfeirir at y tîm Trwyddedu Arfau Saethu mewn perthynas â’r polisi yn caniatáu mesur ei effeithiolrwydd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y polisi hwn, ei gynnwys, neu ddogfennau canllaw cysylltiol – dylai unigolion gysylltu â’r canlynol:
Mae gwybodaeth am arfau saethu a gwneud cais am dystysgrif arf saethu, dryll a/neu ffrwydron hefyd ar gael ar wefan Heddlu Dyfed-Powys. Mae ffurflen gyswllt ar gael drwy’r wefan.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2025