Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw darparu canllawiau clir a chyson i swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys (HDP) mewn perthynas â’r safonau o ran ymchwilio i droseddau a digwyddiadau, a sicrhau bod y cyhoedd yn dawel eu meddwl y bydd unrhyw ddigwyddiad yr adroddir amdano wrth yr heddlu’n cael ei gofnodi yn unol â’r Safonau Cenedlaethol Cofnodi Troseddau a Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref ar gyfer troseddau sydd wedi’u cofnodi, bod y perygl wedi’i asesu’n briodol a bod pob mater diogelu wedi’i drin gan yr heddlu neu bartneriaid. Mae’r polisi hwn yn anelu i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys lywodraethu a systemau effeithiol mewn grym ar gyfer cofnodi, goruchwylio a phennu er mwyn cefnogi’r safonau a’r broses ymchwilio.
Crëwyd y polisi hwn yn unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Ymchwilio, a dylid ei ddarllen ar y cyd â phwerau a safonau cenedlaethol a pholisïau partneriaid perthnasol.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Dylai pob swyddog ac aelod staff heddlu sy’n gysylltiedig ag unrhyw agwedd o gofnodi a phennu troseddau a digwyddiadau ac ymchwilio iddynt o fewn HDP ddilyn y polisi hwn, ynghyd â’r gweithdrefnau a’r nodiadau canllaw perthnasol.
Gall swyddogion a staff ddod o hyd i’r holl ddeunydd arweiniol mewnol ar gyfer y polisi hwn ar dudalen Polisïau a Gweithdrefnau’r fewnrwyd.
Mae’n darparu eglurdeb o ran rolau a chyfrifoldebau, yn nodi’r safonau gofynnol ac yn darparu cyfeiriad ar gyfer y broses benderfynu. Mae’r polisi’n tynnu sylw at y rolau a’r swyddogaethau o fewn Plismona Ymateb, y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau, yr Unedau Ymchwilio lleol a’r adrannau Troseddau Arbenigol.
Rhaid i aelodau’r cyhoedd fod yn dawel eu meddwl y bydd unrhyw drosedd yr adroddir amdani wrth yr heddlu’n cael ei chofnodi yn unol â Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref, y bydd yn cael ei hasesu’n briodol ar gyfer perygl, ac y bydd yr heddlu neu ei bartneriaid yn ymdrin â phob mater diogelu.
Mae’n hollbwysig ar gyfer cynnal hyder y cyhoedd yn y dyfodol y bydd unrhyw benderfyniad ynglŷn â chofnodi, pennu a chanlyniad ymchwiliadau’n canolbwyntio ar y dioddefydd, yn gymesur, yn gadarn ac yn gyson.
Rhaid cofnodi unrhyw drosedd neu ddigwyddiad a ddatgelir wrth yr heddlu’n briodol. Rhaid cofnodi trosedd a brofwyd yn unol â Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref gan ddefnyddio systemau cofnodi troseddau mewnol yr heddlu. Bydd unrhyw ddigwyddiad nad yw’n drosedd yn cael ei gofnodi ar system gorchymyn a rheoli’r heddlu (STORM) ac mae angen i’r swyddog sy’n ymdrin â’r digwyddiad ei diweddaru. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd i’w hadnabod os oes digwyddiadau pellach, a bod modd tynnu sylw asiantaethau partner atynt.
Os oes angen i Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) fod yn gysylltiedig ag ymchwiliad, dylid defnyddio polisïau a chanllawiau priodol GEG er mwyn cynorthwyo ymchwilwyr mewn perthynas â phenderfyniadau, canlyniadau, dioddefwyr, tystion a drwgdybiedigion yr ymchwiliad.
Ar gyfer achosion sy’n cynnwys pobl sy’n agored i niwed, mae polisïau eraill HDP a rhai asiantaethau perthnasol eraill a chyrff cenedlaethol (megis yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a’r Coleg Plismona) yn darparu canllawiau ac arfer gorau.
Gall polisïau mewnol eraill o gwmpas unigolion a grwpiau lleiafrifol neu fregus ddarparu canllawiau pellach o ran safonau diogelu a chofnodi ein hymateb plismona.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r canlynol:
Mewnol HDP
Allanol
4.1 Cofnodi Troseddau
Bydd pob digwyddiad sy’n gysylltiedig â throsedd yn cael ei gofnodi ar System Gorchymyn a Rheoli'r Heddlu (STORM) er mwyn sicrhau bod llwybr archwilio effeithiol wedi’i greu. Bydd pob trosedd yn cael ei chofnodi yn unol â’r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau a Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref. Mae’r Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau’n gyfrifol am gofnodi pob adroddiad am drosedd sydd ddim angen presenoldeb heddlu cychwynnol (gweler y Polisi Ymateb Graddedig a Lleoli), ac am ddilysu pob trosedd yr adroddir amdani, gan gynnwys y rhai yr ymgymerir â nhw gan bobl eraill.
4.2 Brysbennu ac Asesu
Er mwyn hwyluso penderfyniadau cadarn ac amddiffynadwy o gwmpas ymchwiliadau, rhaid defnyddio Fframwaith Ymchwiliol, sy’n cynnwys yr elfennau canlynol: Barn Dioddefydd ac asesiadau mewn perthynas â Bregusrwydd, Natur Ddatrysadwy a Chymesuredd. Bydd y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau’n ymgymryd â hyn.
Mae gwneud penderfyniadau priodol o ran brysbennu ac asesu cyn gynted â phosibl yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y gallu gyda ni i reoli nifer y troseddau, a gan hynny, cyflenwi ymateb ymchwiliol effeithiol. Bydd brysbennu ac asesu amhriodol yn creu galw gormodol ar ymchwilwyr, ac yn y pen draw, yn effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a gyflwynir ar draws yr ardal heddlu.
4.3 Pennu Troseddau a Digwyddiadau
Er mwyn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’n hadnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol, pennir ymchwiliadau i swyddogion ar gyfer ymchwiliad yn seiliedig ar nifer o ffactorau, megis:
Bydd hyn yn sicrhau bod yr ymchwilydd cywir â’r sgiliau, gwybodaeth a hyfforddiant gofynnol yn cael ei baru â phob ymchwiliad o’r cychwyn cyntaf.
4.4 Y Model Penderfynu Cenedlaethol
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r Model Penderfynu Cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ac wrth adolygu a gwerthuso hen benderfyniadau a chamau gweithredu. Defnyddir y Model Penderfynu Cenedlaethol i gefnogi hyfforddiant a hyrwyddo dysgu hefyd.
4.5 Safonau Ymchwilio
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn y Rhaglen Proffesiynoli Ymchwilio (PIP) er mwyn sicrhau bod staff achrededig sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn cael eu pennu i’r lefel ymchwilio gywir. Y safon genedlaethol, a ddilynir gan HDP, yw:
Pan nad oes staff â sgiliau priodol ar gael i’w lleoli oherwydd adnoddau a gofynion gweithredol, gweithredir mesurau ar gyfer cefnogi’r ymchwiliad i leihau’r perygl i’r cyhoedd, yr unigolyn a’r sefydliad a allai godi oherwydd y diffyg argaeledd hwnnw.
4.6 Cyfrifoldebau a Rolau Plismona Ymateb
Ar gyfer Ymateb Brys neu adroddiadau lle mae angen presenoldeb yr heddlu, rhaid i swyddogion sicrhau cydymffurfiaeth drwy ddilyn y Cymorth Cof Egwyddorion Awr Euraidd o ran eu dyletswyddau a’u cyfeiriad meddwl wrth bennu digwyddiadau a phresenoldeb yn lleoliad digwyddiadau.
Dylai swyddogion heddlu sy’n derbyn adroddiadau uniongyrchol am ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â throsedd gan aelodau o’r cyhoedd, neu sy’n nodi trosedd yn ystod eu dyletswyddau, gofnodi’r trosedd cyn gynted â phosibl. Rhaid mai ‘cofnodi ar gyfer ymchwilio’ yw’r arfer hollgyffredinol.
Ni fydd plismona ymateb yn cynnal perchnogaeth o ymchwiliadau tu hwnt i’r Egwyddorion Awr Euraidd.
Meysydd cyfrifoldeb Plismona Ymateb yw:
YMATEB CYCHWYNNOL
RHEOLI TROSEDDAU A DIGWYDDIADAU
DIOGELU
SGILIAU ARBENIGOL
MOESEG A CHANLYNIADAU
Prif rôl cwnstabliaid Ymateb yw diogelu’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu; ymateb i ddigwyddiadau; cofnodi troseddau ac adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol; cyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, ac ar yr un pryd, cynnal safonau sefydliadol a sicrhau bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith.
Prif rôl pob rhingyll Ymateb yw goruchwylio cyflenwi’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl. Maen nhw’n gyfrifol am oruchwylio swyddogion a staff yr heddlu o ddydd i ddydd, gan sicrhau y cynhelir safonau sefydliadol a bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith.
Bydd pob aelod staff yn cydymffurfio â pholisïau Heddlu Dyfed-Powys ar Ddatblygu Staff, y Proffil Asesu Datblygiad, Cyfleoedd Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu, Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth, ac yn gweithredu yn unol â phrotocolau a dogfennau canllaw’r Heddlu.
4.7 Rolau a Chyfrifoldebau’r Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau
Bydd y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau’n gyfrifol am gofnodi pob adroddiad trosedd sydd ddim angen presenoldeb heddlu cychwynnol (gweler y Polisi Ymateb Graddedig a Lleoli). Bydd y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau’n gyfrifol am ddilysu pob trosedd yr adroddir amdani, gan gynnwys y rhai yr ymgymerir â nhw gan eraill.
Rhaid trosglwyddo pob digwyddiad i’r Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau drwy’r system Gorchymyn a Rheoli. Mae’r Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau’n asesu ac yn ymateb i’r digwyddiadau hyn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac yn unol ag argaeledd y galwr.
Meysydd cyfrifoldeb y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau yw:
COFNODI TROSEDDAU A DIGWYDDIADAU
ASESU TROSEDDAU A DIGWYDDIADAU
YMCHWILIADAU
MONITRO A RHEOLI
CANLYNIADAU
Prif rôl Ymchwilwyr y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau yw diogelu’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, ymateb i ddigwyddiadau, ymchwilio i droseddau ac adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, ac ar yr un pryd, cynnal safonau sefydliadol a sicrhau bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith. Maent yn gyfrifol am gofnodi, asesu ac ymchwilio i droseddau, gan ymgysylltu â’r dioddefydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo.
Prif rôl goruchwylwyr y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau yw goruchwylio cyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl. Maent yn gyfrifol am oruchwylio swyddogion a staff yr heddlu o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod safonau sefydliadol yn cael eu cynnal a bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith. Byddant yn monitro galw, baich gwaith a pherfformiad, ac yn ymgysylltu ag adrannau eraill yn ôl yr angen.
Bydd arbenigwyr Cofnodi Troseddau yn y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau yn dilysu ac yn cynorthwyo cofnodi troseddau a gweithredu canlyniadau gan eraill.
Bydd pob aelod staff yn cydymffurfio â Pholisïau Heddlu Dyfed-Powys ar Ddatblygu Staff, y Proffil Asesu Datblygiad, Cyfleoedd Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu, Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth, ac yn gweithredu yn unol â phrotocolau a dogfennau canllaw’r Heddlu.
4.8 Rolau a Chyfrifoldebau Unedau Ymchwilio Lleol
Bydd gan bob Ardal Blismona Leol Uned Ymchwilio leol. Bydd yr ardal a nifer yr adnoddau’n cael eu cysoni â’r galw, ond bydd eu swyddogaethau’n cael eu categoreiddio fel isod:
Meysydd cyfrifoldeb yr Uned Ymchwilio yw:
RHEOLI DRWGDYBIEDIGION A DALFEYDD
YMCHWILIADAU
DIOGELU AC ASESU
GALW A PHERFFORMIAD
Prif rôl Ymchwilwyr UY lleol yw diogelu’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, ymateb i ddigwyddiadau, ymchwilio i droseddau ac adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol, a chyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, ac ar yr un pryd, cynnal safonau sefydliadol a sicrhau bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith. Maent yn gyfrifol am ymchwilio i droseddau, ymdrin â materion dalfa byw, cydlynu drwgdybiedigion y mae angen mynd i’r afael â nhw, ymgysylltu â’r dioddefydd a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo.
Prif rôl goruchwylwyr UY lleol yw goruchwylio cyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl. Maent yn gyfrifol am oruchwylio swyddogion a staff yr heddlu o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod safonau sefydliadol yn cael eu cynnal a bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith. Byddant yn monitro galw, baich gwaith a pherfformiad, ac yn ymgysylltu ag adrannau eraill yn ôl yr angen.
Bydd pob aelod staff yn cydymffurfio â Pholisïau Heddlu Dyfed-Powys ar Ddatblygu Staff, y Proffil Asesu Datblygiad, Cyfleoedd Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu, Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth, ac yn gweithredu yn unol â phrotocolau a dogfennau canllaw’r Heddlu.
4.9 Rolau a Chyfrifoldebau Ymchwilio i Ddigwyddiadau a Throseddau Arbenigol
Mae troseddau arbenigol yn cael eu categoreiddio o fewn y polisi hwn fel yr Adran Ymchwiliadau Troseddol (CID) a’r Uned Rheoli Troseddwyr ar draws yr ardaloedd plismona lleol. Mae adrannau arbenigol eraill yn cynorthwyo â’r ymateb heddlu ac yn ei gydlynu, ond nid ydynt yn cadw prif berchnogaeth o’r ymchwiliad.
Meysydd cyfrifoldeb Troseddau Arbenigol yw:
RHEOLI RISG
YMCHWILIADAU
RHEOLI TROSEDDWYR
GALW A PHERFFORMIAD
Prif rôl ditectif gwnstabliaid yw diogelu’r gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu, ymateb i ddigwyddiadau, ymchwilio i droseddau a rheoli troseddwyr yn eu maes arbenigol penodol, a chyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, ac ar yr un pryd, cynnal safonau sefydliadol a sicrhau bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith.
Prif rôl ditectif ringylliaid yw goruchwylio cyflawni’r Cynllun Plismona a blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl. Maent yn gyfrifol am oruchwylio swyddogion a staff yr heddlu o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod safonau sefydliadol yn cael eu cynnal a bod y Cod Moeseg yn tanategu pob maes gwaith. Byddant yn monitro galw, baich gwaith a pherfformiad, ac yn ymgysylltu ag adrannau eraill yn ôl yr angen.
Rhaid i bob aelod staff gydymffurfio â Pholisïau Heddlu Dyfed-Powys ar Ddatblygu Staff, y Proffil Asesu Datblygiad, Cyfleoedd Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu, Diogelu Data a Diogelwch Gwybodaeth a gweithredu yn unol â phrotocolau a dogfennau canllaw’r Heddlu.
Diweddariadau’r Goruchwylydd a’r Swyddog sydd â Gofal Dros Achos
Bydd y Swyddog sydd â Gofal Dros Achos yn rhoi diweddariad Cychwynnol o fewn 24 awr ar ôl i’r drosedd gael ei chofnodi. Bydd y goruchwylydd yn diweddaru’r drosedd o fewn 48 awr ar ôl i’r drosedd gael ei chofnodi. Wedi hynny, rhaid cofnodi pob diweddariad fel y mae isod:
Bob 7 diwrnod, rhaid i swyddog sydd â gofal dros achos ddatblygu diweddariad cynnydd i’r digwyddiad. Rhaid i’r swyddog sydd â gofal dros achos sicrhau bod y cyswllt â’r dioddefydd yn cael ei ddiweddaru yn ôl y cytundeb a wnaed, yn unol â’r Cod Ymarfer Dioddefwyr (Hawl 6).
Bob 14 diwrnod, rhaid i’r goruchwylydd ychwanegu adolygiad, gan sefydlu llwybrau ymholi clir yn seiliedig ar y diweddariadau a roddir gan y swyddog sydd â gofal dros yr achos.
Bob 28 diwrnod, rhaid i’r Arolygydd adolygu achos a sicrhau ei fod yn datblygu’n ddiymdroi, a chefnogi’r drosedd yn unol â hynny.
Cau Troseddau
Rhaid asesu ac adolygu pob trosedd cyn i’r goruchwylydd, sy’n gweithredu’r canlyniad priodol, ei chau. Mae templed sy’n eu tywys i’r canlyniad perthnasol yn cynorthwyo’r goruchwylwyr. Rhaid i’r Uned Unplygrwydd Data Trosedd neu’r Tîm Archwilio Troseddau ddilysu pob canlyniad.
Mae’r polisi hwn yn eiddo i’r Adran Ymchwiliadau Troseddol. Cynhelir y broses adolygu gan y Rheolwr CID priodol bob yn ail flwyddyn er mwyn sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi hwn, a gan ystyried unrhyw newid i ddeddfwriaethau, gweithdrefnau’r heddlu, canllawiau’r Swyddfa Gartref, canllawiau’r Coleg Plismona ac ati. Bydd effeithiolrwydd y polisi’n cael ei fonitro’n rheolaidd, ac yn amlach na’r cyfnod dwy flynedd. Ystyrir unrhyw heriau i’r polisi ac unrhyw eitemau aneffeithlon a nodwyd mewn perthynas â’i weithredu. Bydd unrhyw bryderon difrifol yn cael eu dwysau fel y bo’n briodol.
Yn achos unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn, ei gynnwys, neu unrhyw ddogfennau canllaw cysylltiedig, dylai unigolion gysylltu ag uwch gynrychiolydd CID Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd y polisi hwn yn cael ei hyrwyddo’n briodol, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth yn ystod cyflwyniadau a mewnbynnau hyfforddi perthnasol ar gyfer staff ar draws yr heddlu. Mae’r polisi ar gael i’w ddarllen ar fewnrwyd a rhyngrwyd yr heddlu. Bydd ei gyhoeddi drwy’r rhyngrwyd yn sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd ei ddarllen. Gallai’r broses Adolygiad Mewnol amlygu problemau â’r polisi hwn a chanllawiau cysylltiedig. Os felly, rhaid cymryd camau gweithredu priodol. Lle y nodir problemau, rhaid i’r cynrychiolydd CID weithio’n agos â chynrychiolwyr o’r adrannau perthnasol i fynd i’r afael â’r materion a sicrhau y dysgir gwersi.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Chwefror 2024