Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma bolisi Heddlu Dyfed-Powys i ddarparu canllawiau mewn perthynas â gweithdrefnau a phrosesau ar gyfer dinistrio cyffuriau a reolir. Bydd yn gwneud y canlynol:
Rhaid i’r holl staff, wrth fabwysiadu’r polisi hwn, ac wrth gyflawni eu dyletswyddau dyddiol, sicrhau'r canlynol:
(a) Eu bod yn rhoi sylw dyledus i les, diogelwch, llesiant cyffredinol a hawliau dynol pob unigolyn.
(b) Nid ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn neu grwpiau o unigolion heb gyfiawnhad.
(c) Bod y camau a gymerir yn gyfiawn, yn gwbl gymesur â chyflawni eu nodau cyfreithlon ac mai’r camau a gymerir yw'r opsiwn lleiaf ymwthiol a niweidiol i gyflawni’r nodau hyn.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Atafaelu Cychwynnol a Phecynnu Cyffuriau a Reolir
Bydd yr holl gyffuriau, p'un a ydynt yn cael eu rheoli ai peidio, sy'n dod i feddiant yr Heddlu yn cael eu cofnodi ar Niche. Fodd bynnag, gellir cofnodi cyffuriau a atafaelwyd yn ystod ymchwiliad y Tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol gan ddefnyddio system HOLMES ar gyfarwyddyd yr uwch-swyddog ymchwilio.
Dylid gwisgo menig amddiffynnol bob amser wrth drin cyffuriau a reolir i atal unrhyw amsugno trwy'r croen. Mae'r risg o ddal clefydau heintus o eitemau sydd wedi'u halogi gan gyffuriau hefyd yn uchel.
Bydd cyffuriau a atafaelir fel tystiolaeth yn cael eu rhoi mewn bagiau tystiolaeth atal ymyrraeth, ar wahân i blanhigion Canabis y mae'n rhaid eu rhoi mewn bag / sach papur brown, nid plastig, gan fod hyn yn achosi i'r planhigyn bydru. Rhaid gosod offer hefyd mewn bagiau arddangos a'u labelu'n unol â hynny.
Bydd cyffuriau a atafaelir i'w dinistrio yn unig yn cael eu pecynnu mewn bagiau bioberygl melyn (trwch 300) a'u selio â seliau diogelwch dolen gebl.
Storio a Diogelwch Cyffuriau a Reolir
Mae pob Uned Gorchymyn Sylfaenol yn gyfrifol am storio a diogelu cyffuriau ac eitemau cysylltiedig a atafaelwyd dros dro. Ni ddylid storio unrhyw gyffuriau a reolir ar unrhyw adeg mewn mannau anniogel o fewn gorsafoedd heddlu, hy ar ddesgiau heb oruchwyliaeth neu i'w casglu mewn coridorau.
Bydd y canlynol yn cael eu cofnodi'n gywir ar Niche:
Bydd staff Rheoli Tystiolaeth ym mhob Uned Gorchymyn Sylfaenol yn gyfrifol am weithredu'r system storio yn y storfeydd Niche dros dro.
Bydd cyffuriau a ddarganfuwyd ac a roddwyd i'r Heddlu lle na ellir dod o hyd i'r perchennog yn cael eu trin yn yr un modd â chyffuriau a atafaelwyd. Mae hyn yn cynnwys pan fydd cyffuriau'n cael eu canfod mewn clybiau nos ac mae'r staff yn rhoi'r cyffuriau i mewn i'r Heddlu.
Trosglwyddo Cyffuriau i'r Uned Rheoli Tystiolaeth
Rhaid symud unrhyw eitemau cyffuriau a reolir o fewn yr Heddlu yn unol â'r polisi hwn a dylai gynnwys defnyddio Swyddogion Heddlu/Staff Heddlu priodol. Ni ddylai cyffuriau, o dan unrhyw amgylchiadau, gael eu rhoi yn system bost fewnol yr Heddlu.
Cyn trosglwyddo, bydd staff yr Uned Rheoli Tystiolaeth yn sicrhau bod Niche yn adlewyrchu'n gywir yr arddangosion cyffuriau y maent yn eu symud i Uned Rheoli Tystiolaeth.
I grynhoi, bydd y broses symud ar gyfer cyffuriau sydd angen eu dinistrio fel a ganlyn:
(a) Mae'r holl gofnodion ar Niche wedi'u rhestru a'u hardystio'n gywir.
(b) Mae'r cyffuriau a reolir a restrir ar Niche yn cael eu rhoi yn y bagiau bioberygl.
(c) Mae'r bagiau'n cael eu selio gan ddefnyddio dolen gebl â sêl diogelwch â rhif o amgylch agoriad y bag.
(d) Mae'r Cofnod Dinistrio Cyffuriau (Atodiad A) yn cael ei gynhyrchu a'i gludo i'r Uned Rheoli Tystiolaeth gyda'r cyffuriau.
Materion Iechyd a Diogelwch sy'n Codi yn Ystod Dinistrio
Rhaid i bersonél sy'n ymwneud â'r broses ddinistrio fod yn ymwybodol bod y deunydd resinaidd sy'n dod allan o 'Canabis Satifa' yn sylwedd gwenwynig, sy'n cynnwys tetrahydrocanabinalau a gall fod yn niweidiol hyd yn oed mewn meintiau bach. Mae'r resin i'w gael yn ei grynodiad uchaf yn y blodau benywaidd ac mae'n dal i fod yn weithredol pan fydd y planhigion wedi'u sychu. Mae'r defnydd o beiriant rhwygo gardd i leihau'r rhan fwyaf o blanhigion cyn eu llosgi yn cyflwyno lefel uchel o risg pan fydd y resin sy’n dod allan ohono yn anodd ei reoli ac nid yw'n hawdd ei lanhau'n ddiogel o rannau symudol y peiriant. Os caiff ei anadlu neu ei lyncu, gall yr effeithiau canlyniadol fod yn anghildroadwy, felly NI DDYLID YMGYMRYD Â'R BROSES.
Mae'n bwysig bod yr holl weithdrefnau perthnasol yn cael eu dilyn yn ofalus i leihau'r risg o anaf neu salwch ac i sicrhau cydymffurfedd â'r 'ddyletswydd gofal' a osodir ar yr Heddlu gan ddeddfwriaeth amgylcheddol.
Ni ddylid ar unrhyw gyfrif agor y bagiau bioberygl yn ystod y broses ddinistrio. Bydd y bagiau a'r cynnwys yn cael eu rhoi yn y llosgydd yn eu cyfanrwydd.
WEDINOS – Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru
Mae WEDINOS wedi’i sefydlu yng Nghymru gan y gwasanaethau iechyd i ddarparu mecanwaith ar gyfer profi sylweddau seicoweithredol newydd, a chyfuniadau o sylweddau newydd a sefydledig.
Mae WEDINOS yn darparu gwybodaeth ar sylweddau a brofir yn unig. Gall cyffuriau neu gyfuniadau o sylweddau newydd, anhysbys neu anarferol gael eu cyflwyno bellach gan ystod eang o unigolion gan gynnwys defnyddwyr sylweddau seicoweithredol newydd a’r rhai y gallent fod mewn cysylltiad â nhw.
Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn cynnwys gwasanaethau camddefnyddio sylweddau (Haenau 1-3), tai a hosteli, clybiau ieuenctid a gwasanaethau pobl ifanc, addysg, clybiau nos a bariau, timau cymunedol iechyd meddwl, awdurdodau lleol, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Heddlu. Dylid cofnodi'r rhain ar y system Niche yn y ffordd arferol ond gyda 'sampl WEDINOS' wedi'i farcio'n glir.
Ni all cyflwyniadau i WEDINOS fyth fod yn samplau tystiolaethol a dylai ymchwilwyr ystyried a oes angen y canlyniadau ar gyfer ymchwiliad troseddol. Adran Cudd-wybodaeth yr Heddlu yw'r porthorion ar gyfer cyflwyniadau WEDINOS, a chedwir y bagiau cyflwyno a'r ffurflenni gydag Adran Cudd-wybodaeth yr Heddlu
Bydd y samplau hyn wedyn yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio'r pecyn arbenigol a ddarparwyd at y diben hwnnw.
Unwaith y bydd y cyffuriau hyn wedi'u profi, cânt eu dinistrio wedyn yn unol â gweithdrefn WEDINOS.
Pwrpas y polisi hwn yw rhoi cyfeiriad i bersonél yr heddlu ar y gweithdrefnau i'w mabwysiadu ar gyfer dinistrio cyffuriau a reolir.
Y sail gyfreithiol ar gyfer arfer pwerau a dyletswyddau a amlinellir yn y polisi hwn yw:
Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, 1984
Rheoliadau Gwastraff Arbennig, 1996 fel y'u diwygiwyd.
Deddf Diogelu'r Amgylchedd, 1990
Deddf Hawliau Dynol, 1984
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried bod y camau hyn yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd, ac er mwyn diogelu, diogelwch y cyhoedd.
Perchennog y polisi yw Pennaeth Cyfiawnder Troseddol ac yntau sydd â chyfrifoldeb cyffredinol. Rheolwr Cymorth Busnes a Systemau sy'n gyfrifol am sicrhau y glynir at y polisi, a'i fod yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn canllawiau cenedlaethol a gweithdrefnau Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r gweithdrefnau a'r prosesau a nodir yn y polisi hwn yn berthnasol i bob Swyddog Heddlu a staff sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y broses gyffuriau yn Heddlu Dyfed-Powys. Cyfeirir at oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor ac arweiniad lle bo hynny'n briodol.
Cod Egwyddorion Moeseg
Mae'r Cod Moeseg yn god ymarfer cenedlaethol, sy'n diffinio gwerthoedd plismona craidd a safonau ymddygiad pawb sy'n gweithio ym maes plismona. Yn unol â'r egwyddor hyn, mae’r Polisi Dinistrio Cyffuriau a Reolir yn ceisio ymgorffori’r canlynol:
Perchennog y polisi yw Pennaeth Cyfiawnder Troseddolac yntau sydd â chyfrifoldeb cyffredinol. Rheolwr Cymorth Busnes a Systemau sy'n gyfrifol am sicrhau y glynir at y polisi, a'i fod yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn canllawiau cenedlaethol a gweithdrefnau Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r gweithdrefnau a'r prosesau a nodir yn y polisi hwn yn berthnasol i bob Swyddog Heddlu a staff sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar y broses gyffuriau yn Heddlu Dyfed-Powys. Cyfeirir at oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor ac arweiniad lle bo hynny'n briodol.
Bydd y polisi yn cael ei adolygu bob pedair blynedd (Asesiad Risg wedi'i gwblhau).
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2025