Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Data Cyfathrebu’r Swyddfa Gartref mewn perthynas â Rhannau 3 a 4 Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 sydd wedi disodli Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 mewn perthynas â Data Cyfathrebu. Mae Caffael Data Cyfathrebu’n digwydd o dan ran 3 y Ddeddf ac mae’r gweithdrefnau i’w dilyn pan gedwir data cyfathrebu o dan Ran 4 y Ddeddf.
Mae’r polisi’n berthnasol i’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Diben y polisi hwn yw rhoi arweiniad i bersonél heddlu sy’n cael mynediad at ddata cyfathrebu o fewn yr Heddlu.
Y sail gyfreithiol ar gyfer arfer pwerau a dyletswyddau a amlinellir yn y polisi hwn yw:
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried bod y gweithredoedd hyn yn hanfodol mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd, ac er mwyn diogelu:
Wrth fabwysiadu’r polisi hwn, ac wrth arfer eu dyletswyddau dyddiol, rhaid i bob aelod staff sicrhau:
Er mwyn cael mynediad at gyfathrebu, rhaid cydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol;
Am wybodaeth mewn perthynas â chael mynediad at ddata cyfathrebu, mathau o ddata cyfathrebu a graddio, mae dogfen ar wahân sy’n ymdrin â hyn.
POLISÏAU, PROTOCOLAU, ARFERION NEU GYTUNDEBAU GWASANAETH CYSYLLTIEDIG
Dogfennau canllaw ynghylch Data Cyfathrebu
(a) Gwneud Cais am Ddata Cyfathrebu
(b) Gwrthdrawiadau Traffig y Ffyrdd Angheuol
(c) Canllawiau cam wrth gam ar gyfer ymgeiswyr
(d) Ceisiadau ar gyfer Data Cyfathrebu
(e) Polisi Rheoli Cynnyrch a Chofnodion Data Cudd
Bydd monitro’n parhau er mwyn ystyried y canlynol:
Mae’r adran Pwynt Cyswllt Sengl yn cael ei hadolygu’n flynyddol gan Swyddfa’r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio ac yn derbyn argymhellion ac arsylwadau a weithredir drwy gynllun gweithredu adrannol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2024