Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw rhoi dealltwriaeth i bersonél Heddlu Dyfed-Powys (HDP) am lywodraethu a rheoli Cudd-wybodaeth o fewn y sefydliad.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bydd y polisi hwn yn cwmpasu perchnogaeth a strwythur datblygu cudd-wybodaeth yn Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth yn gyfrifol am y gweithdrefnau a’r prosesau cudd-wybodaeth yn Heddlu Dyfed-Powys.
Personél HDP sydd â’r dasg o gyflwyno cofnodion cudd-wybodaeth yn unol â meysydd strategaeth reoli presennol yr heddlu, sef:
Trais Domestig
Treisio a Throseddau Rhywiol
Cyffuriau Anghyfreithlon
Mae Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu’n gyfrifol am adolygu’r polisi hwn gan mai rôl graidd Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu yw materion cudd-wybodaeth.
Mae’r polisi hwn yn effeithio ar bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cyflwyno, prosesu ac adolygu cudd-wybodaeth o fewn eu rolau yn y sefydliad o ddydd i ddydd.
Mae prosesau datblygu cudd-wybodaeth yn caniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud mewn perthynas â bygythiad, niwed a risg. Y mae hefyd yn caniatáu ar gyfer ystyried dewisiadau tactegol i reoli risg neu ddatblygu cudd-wybodaeth.
Mae Rheoli Cudd-wybodaeth yn HDP yn cydymffurfio ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona mewn perthynas â datblygu cudd-wybodaeth:
Rheoli Cudd-wybodaeth | y Coleg Plismona
Gwybodaeth sy’n cael ei chasglu, ei chofnodi, ei gwerthuso, ei chadw, ei dadansoddi, ei rhannu a’i thasgio ar gyfer diben plismona yw cudd-wybodaeth. Gall diben plismona gynnwys un neu fwy o’r canlynol:
Mae HDP yn dilyn y model graddio cudd-wybodaeth 3x5x2 sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol
Mae personél HDP yn gyfrifol am gyflwyno cofnodion cudd-wybodaeth o fewn amgylchedd cudd-wybodaeth Niche.
Mae Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu’n gyfrifol am brosesu, ymchwilio a datblygu cofnodion cudd-wybodaeth.
Mae Uwch-arolygwyr yr ardaloedd plismona lleol yn gyfrifol am gadeirio’r cyfarfod bygythiad a thasgio misol.
Mae’r Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth yn gyfrifol am gadeirio grŵp Cudd-wybodaeth a Datblygu misol yr Heddlu.
Mae’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol yn gyfrifol am gadeirio Grŵp Tactegol a Chydlynu misol yr Heddlu.
Cesglir gwybodaeth a brosesir fel cudd-wybodaeth mewn un o 3 ffordd:
Dylai personél HDP ystyried y math o wybodaeth a allai fod a’r gael a’r tebygolrwydd fod ganddi werth fel cudd-wybodaeth, yn seiliedig ar y gofyniad cudd-wybodaeth (Strategaeth Reoli). Rheolir casglu drwy ddefnyddio cynlluniau casglu cudd-wybodaeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio. Ni fydd hyn yn atal staff rhag cyflwyno gwybodaeth ar gyfer diben plismona nad yw’n cael ei gynnwys mewn gofyniad cudd-wybodaeth presennol.
Bydd personél HDP sy’n cyflawni rolau yn y maes cudd-wybodaeth naill ai wedi cwblhau’r Rhaglen Proffesiynoli Cudd-wybodaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â’u rôl, neu’n gweithio tuag at ei chwblhau.
Defnyddir y model penderfynu cenedlaethol wrth wneud penderfyniadau - Adroddiad cudd-wybodaeth | y Coleg Plismona
Mae’r Cod Moeseg yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn;
Bydd y polisi cudd-wybodaeth yn cael ei adolygu gan y Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth bob blwyddyn, gan gymryd barn rhanddeiliaid megis Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Comanderiaid Ardaloedd Plismona Lleol, Uwch Dîm Rheoli CID, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cudd-wybodaeth a Ditectif Arolygydd Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu.
Bydd y Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth sy’n cadeirio grŵp Datblygu Cudd-wybodaeth misol yr heddlu’n ceisio adborth wrth y rhai sy’n bresennol o ran pa un ai a yw’r prosesau a’r gweithdrefnau’n llwyddiannus ai peidio, a pha un ai a oes unrhyw argymhellion.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2024