Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywed Argymhelliad 9 o adroddiad archwiliad Arolygiaeth Heddluoedd Ei Fawrhydi (AHEF), sef ‘Twyll: Amser i Ddewis’, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2019, y “dylai Prif Gwnstabliaid gyhoeddi polisi eu Heddlu ar gyfer ymateb ac ymchwilio i honiadau o dwyll (mewn perthynas â galwadau am wasanaeth a lledaeniadau’r Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth am Dwyll ar gyfer gorfodi)” erbyn 30 Medi 2019.
Mae’r polisi hwn, o’i ddarllen ochr yn ochr â Strategaeth Dwyll yr Heddlu yn mynd i’r afael ag argymhelliad AHEF.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys (HDP) yn cydymffurfio o ran rheoli ac ymchwilio i ‘alwadau am wasanaeth’ mewn perthynas â thwyll a lledaeniadau’r Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth am Dwyll ar gyfer gorfodi, yn unol â Strategaeth Blismona Genedlaethol 2023-2028 ar gyfer Twyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu a safonau cofnodi troseddau cenedlaethol y Swyddfa Gartref.
Honiadau o dwyll yr adroddir amdanynt wrth Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu gan y dioddefydd, neu drwy alw heibio i Orsaf Heddlu, yw ‘galwadau am wasanaeth’. Nodir y canllawiau a’r prosesau ar gyfer rheoli galwadau am wasanaeth yn Strategaeth Dwyll yr Heddlu.
Mae’r Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth am Dwyll yn cyflwyno adroddiadau am dwyll i HDP ar gyfer gorfodi ar ôl asesu mai HDP fyddai’r heddlu mwyaf priodol i ymgymryd ag ymchwiliad. Nodir y canllawiau a’r prosesau ar gyfer rhannu yn Strategaeth Dwyll yr Heddlu.
Gallai peidio â chydymffurfio â’r polisi hwn olygu bod HDP yn methu â chydymffurfio â Strategaeth Blismona Genedlaethol 2023-2028 ar gyfer Twyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu a safonau cofnodi troseddau cenedlaethol y Swyddfa Gartref.
Mae’r polisi hwn yn effeithio ar y Tîm Troseddau Economaidd, yr Adran Ymchwilio i Droseddau, Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu, y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau, Swyddogion Ymateb yr Heddlu, Timoedd Plismona Bro ac Atal, a’r Swyddfa Cofnodi Troseddau. Dylai pob aelod staff o fewn y meysydd busnes hynny fod yn ymwybodol o’r polisi.
Mae’r polisi hwn yn addas ar gyfer y diben o ran y ffaith ei fod yn bodloni gofynion llywodraethu yn fewnol ac yn allanol, ac yn cydymffurfio â Strategaeth Blismona Genedlaethol 2023-2028 ar gyfer Twyll, Troseddau Economaidd a Seiberdroseddu ac Argymhelliad 9 o adroddiad archwiliad AHEF o’r enw ‘Twyll: Amser i Ddewis’.
Mae deddfwriaeth mewn perthynas â safonau cofnodi troseddau cenedlaethol y Swyddfa Gartref a’r Codau Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr yn berthnasol i rai agweddau o’r polisi hwn.
Mewnol –
Strategaeth Dwyll 2024 Heddlu Dyfed-Powys
Perchennog y Polisi: Bydd y polisi’n eiddo i’r Tîm Troseddau Economaidd, a fydd yn gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd ar gyfer:
Y Broses Gymeradwyo: Bydd Pennaeth yr Adran Ymchwilio i Droseddau a Bwrdd Plismona Gweithred yr Heddlu’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â gweithredu’r polisi.
Strategaeth Dwyll yr Heddlu: mae’r strategaeth yn adnabod y gweithdrefnau a’r prosesau ar gyfer ymateb i Alwadau am Wasanaeth a lledaeniadau’r Swyddfa Genedlaethol Cudd-wybodaeth am Dwyll ar gyfer gorfodi.
Hefyd, mae’r darparu canllawiau mewn perthynas â’r canlynol:
Mae’r prosesau a nodir yn Strategaeth Dwyll yr Heddlu’n berthnasol ar gyfer pob swyddog heddlu a phob aelod o staff yr heddlu sy’n gysylltiedig ag unrhyw agwedd o gofnodi, pennu ac ymchwilio i dwyll yn Heddlu Dyfed-Powys. Ceisir cyfeiriadau i oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor ac arweiniad pan ystyrir fod hyn yn briodol. Fodd bynnag, bydd y broses yn cael ei monitro’n gadarn ac effeithiol gan oruchwylwyr a rheolwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus [gweler 5. Gweithredu ac adolygu].
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Mae’r Strategaeth Dwyll yn nodi sut bydd yr heddlu’n rheoli galwadau am wasanaeth mewn perthynas â thwyll, lledaeniadau’r Swyddfa Gwybodaeth Twyll Genedlaethol a diogelu dioddefwyr, ac mae’r gweithdrefnau hyn yn cael eu profi’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn addas ar gyfer y diben ac wedi eu hymgorffori o fewn yr heddlu.
Er mwyn sicrhau dealltwriaeth o’r prosesau sydd wedi’u cynnwys o fewn y Strategaeth Dwyll, rhoddir hyfforddiant i Swyddogion a Staff yr Heddlu sy’n gweithio o fewn yr adrannau sydd wedi’u heffeithio gan y polisi hwn ac fe’u hatgoffir yn rheolaidd.
Cyfeirir unrhyw fethiannau sylweddol o fewn y gweithdrefnau a geir yn Strategaeth Dwyll yr Heddlu at Fwrdd Plismona Gweithredol yr Heddlu er ystyriaeth o dan adroddiadau ‘Dysgu’r Gwersi’.
Rhaid asesu cwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd i’r Adran Safonau Proffesiynol mewn perthynas â rheoli galwadau am wasanaeth sy’n ymwneud â thwyll a lledaeniadau’r Swyddfa Gwybodaeth Twyll Genedlaethol yn erbyn Strategaeth a Pholisi Twyll yr Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2025