Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn a’r dogfennau cysylltiedig ar y Weithdrefn Marwolaeth Annisgwyl yw i roi arweiniad clir i swyddogion a staff, a sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn darparu ymateb proffesiynol tryloyw a chyson i adroddiadau o farwolaethau annisgwyl yn unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona.
Mae gan yr heddlu rwymedigaethau cyfreithiol a moesegol amrywiol wrth roi sylw i adroddiadau o farwolaethau annisgwyl, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Rhaid ymchwilio’n drylwyr i bob adroddiad o farwolaeth annisgwyl a bodloni’r safonau uchel a ddisgwylir gan deulu’r ymadawedig, y llysoedd (crwner / trosedd / sifil), a’r cyhoedd. Un o'r amcanion allweddol yw sicrhau bod y ffeithiau a'r amgylchiadau ynghylch y farwolaeth wedi'u cadarnhau'n llawn a'u cofnodi'n gywir mewn modd amserol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y cyfrifoldeb a’r atebolrwydd sydd eu hangen wrth ymchwilio i adroddiadau am farwolaethau anesboniadwy. Mae hwn yn ffactor pwysig sy'n effeithio'n uniongyrchol ar enw da'r heddlu ac yn effeithio ar y berthynas ag asiantaethau partner a hyder y cyhoedd yn y sefydliad.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, staff dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff ar secondiad neu wirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae ymchwilio i farwolaethau anesboniadwy yn ymateb plismona dilys i atal a chanfod trosedd ac mae'n cefnogi y Cynllun Heddlu a Throseddu.
Rhaid i'r broses fod yn gwbl dryloyw ac yn archwiliadwy.
Bydd yn ofynnol yn aml i adroddiadau am farwolaeth annisgwyl ddefnyddio adnoddau ychwanegol a rhaid ystyried y camau gweithredu canlynol ar ddechrau unrhyw ymchwiliad.
Bydd methu â chydymffurfio â’r polisi hwn a deddfwriaeth ac arferion proffesiynol cysylltiedig yn golygu bod Heddlu Dyfed-Powys yn fregus. Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfedd yn cynnwys ymgyfreitha, colli tystiolaeth mewn achosion troseddol, cyhoeddusrwydd anffafriol, a cholli hyder y cyhoedd.
Gan hynny, mae cydymffurfiaeth yn rhoi sicrwydd i asiantaethau partner, dioddefwyr trosedd a’r gymuned ehangach bod pwerau’r heddlu ar gyfer ymchwilio i farwolaethau annisgwyl yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn unol â chyfrifoldebau statudol.
Mae'r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig a restir isod yn adran 3 yn rhoi eglurder mewn perthynas â rolau a chyfrifoldebau i'r holl bersonél sy'n ymwneud ag ymchwiliadau o'r fath, ac yn atgyfnerthu'r safonau sydd angen drwy roi cyfeiriad ar gyfer y broses benderfynu.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r dogfennau polisi a chanllawiau cysylltiedig a ganlyn wrth gyflawni’r gofynion statudol mewn perthynas ag ymchwilio i farwolaethau annisgwyl:
Dogfennau mewnol Heddlu Dyfed-Powys:
Allanol
Mae’r egwyddorion cod moeseg canlynol yn berthnasol i’r polisi hwn:
Ar ôl gweithredu Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024 ym mis Medi 2024, mae’r system o ymchwiliadau i farwolaethau yng Nghymru a Lloegr nawr yn cyd-fynd yn fras ag un o ddau gategori.
Mae gan benderfyniadau yn lleoliad cychwynnol marwolaeth annisgwyl y potensial i 'golli' dynladdiad. Er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o'r fath golled, mae'n hollbwysig bod y gwasanaeth heddlu'n ymdrin â marwolaeth mewn modd systematig a phroffesiynol.
Mae’r Coleg Plismona wedi nodi pedwar categori o ymchwiliadau marwolaeth annisgwyl fel a ganlyn:
Bydd cymhwyso'r categorïau hyn yn cefnogi’r lleoli adnoddau'n effeithiol. Y mae hefyd yn bwysig bod pob adroddiad am farwolaeth annisgwyl yn cael ei ddosbarthu'n gywir ar system gofnodi'r heddlu.
Mae ymchwilio i adroddiadau am farwolaeth, disgwyliedig neu annisgwyl, yn faes plismona hynod sensitif a rhaid cael gweithdrefnau adolygu cadarn mewn grym ar gyfer sicrhau bod y polisi hwn yn effeithiol ac yn cael ei ddilyn gan swyddion ar staff. Rhaid i'r polisi hwn gael ei yn y lle cyntaf gan sy’n ymgymryd â’r Rolau Allweddol, fel yr amlinellir yn nogfen Categorïau Marwolaeth y Coleg Plismona Coleg Plismona – Categorïau Marwolaeth. Fodd bynnag, mae’r polisi berthnasol i’r holl swyddogion, aelodau staff a gyflogir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r heddlu hefyd yn rhan o’r teulu plismona ehangach lle mae cynrychiolwyr enwebedig yn cydweithio â chydweithwyr ac asiantaethau partner ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg, newidiadau i ddeddfwriaeth neu arferion a gweithdrefnau yn cael eu hystyried, eu lledaenu, a lle bo angen, eu mabwysiadu gan yr heddlu.
Bydd Pennaeth yr Adran Ymchwilio i Droseddau neu ddirprwy dynodedig yn goruchwylio ac yn monitro atebolrwydd am gydymffurfedd a chadw at y polisi hwn a gweithdrefnau cysylltiedig wrth ymchwilio i farwolaethau annisgwyl.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu gan Dditectif Arolygydd, yr Adran Ymchwilio i Droseddau, yn y pencadlys yn flynyddol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2025