Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw amlinellu’r ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag ‘Oedolion Mewn Perygl’. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn darparu ymagwedd gyson a phroffesiynol tuag at ddiogelu oedolion y nodwyd eu bod yn fregus ac mewn perygl o niwed.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys sy’n ymateb i droseddau sy’n ymwneud ag oedolion mewn perygl, o’r cyswllt cyntaf hyd at yr ymchwiliad a’r erlyniad.
Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr arfer chwilfrydedd proffesiynol i nodi ac asesu bregusrwydd a pherygl o niwed a chymryd camau gweithredu effeithiol er mwyn sicrhau bod unrhyw oedolyn mewn perygl yn cael ei gefnogi a’i ddiogelu waeth pa beth bynnag yw’r canlyniadau cyfiawnder troseddol.
Gallai unrhyw un fod yn agored i niwed os yw’n canfod ei hun mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n gallu amddiffyn ei hun. Mewn sawl achos y mae’r heddlu’n gysylltiedig ag ef, fel arfer, daw’r perygl o niwed neu gamfanteisio wrth y troseddwr. Bydd angen gweithredu cadarnhaol i ddileu’r perygl a gyflwynir ganddo er mwyn diogelu’r dioddefydd.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio’n strategol a gweithredol gydag asiantaethau eraill er mwyn rhoi camau ar waith i atal niwed neu gam-drin pellach ac yn ffurfio rhan o Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru er mwyn sicrhau bod ein hymateb amlasiantaeth yn briodol a chyson.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn. Mae’r polisi hwn yn nodi’r ffordd y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio fel sefydliad a gyda’n partneriaeth amlasiantaethol er mwyn:
Diffiniadau
Bregus
Mae unigolyn yn fregus os na all, o ganlyniad i’w sefyllfa neu ei amgylchiadau, ofalu amdano ei hun neu amddiffyn ei hun neu eraill rhag niwed neu gam-fanteisio.
Oedolyn mewn Peryl
Unrhyw unigolyn 18 oed neu hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth (p’un a ydyw’r Awdurdod Lleol yn diwallu’r anghenion hynny ai peidio) ac sy’n wynebu neu mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sy’n methu ag amddiffyn ei hun rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu amddiffyn ei hun rhag y perygl hwnnw.
Mae canllawiau statudol yn nodi bod cynnwys y term ‘mewn perygl’ yn galluogi ymyrraeth gynnar i amddiffyn oedolyn sydd mewn perygl. Nid yw’r penderfyniad i weithredu yn gorfod dibynnu ar gam-drin neu esgeuluso gwirioneddol.
Cam-drin
Mae cam-drin yn golygu (ond heb fod yn gyfyngedig i) gam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol ac yn cynnwys cam-drin sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, boed mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw fan arall.
Mae rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o enghreifftiau o wahanol fathau o gam-drin i’w gweld yn y ddogfen gweithdrefnau atodol.
Esgeulustod
Ystyr Esgeulustod yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol unigolyn, sy’n debygol o amharu ar lesiant yr unigolyn. Gall esgeulustod fod yn fwriadol neu gall ddigwydd o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth o anghenion penodol unigolyn.
Galluedd Meddyliol
Mae galluedd yn disgrifio gallu unigolyn i wneud penderfyniad penodol ar amser penodol. Gall galluedd fod yn anwadal. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframwaith statudol i rymuso a diogelu pobl a all fod heb ddim galluedd i wneud penderfyniadau dros eu hunain ac mae’n sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ar eu rhan.
Dylid tybio bod gan yr unigolyn dan sylw’r galluedd i wneud penderfyniadau, gofalu am ei les a deall yr hyn sydd angen iddo wneud, heblaw ei fod yn glir bod ganddo amhariad, neu aflonyddwch, o ran gweithrediad y meddwl neu’r ymennydd. Ni all swyddogion heddlu, staff na gwirfoddolwyr wneud asesiadau ffurfiol o alluedd, ond gallant roi mewnwelediad defnyddiol i aseswyr os oes angen asesiad galluedd.
Mae egwyddorion sylfaenol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan bod rhaid hybu llesiant pobl sydd angen gofal a chymorth. Yn unol â’r Ddeddf, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r unigolyn yn cael eu hystyried a bydd yn rhoi sylw i’w nodweddion, eu diwylliant a’u credoau tra’n hyrwyddo urddas yr unigolyn.
Bydd swyddogion, staff a gwirfoddolwyr hefyd yn ystyried pwysigrwydd cymorth priodol i alluogi’r unigolyn i gymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arno. Os na all wneud penderfyniadau drosto’i hun, bydd y penderfyniadau a wneir mor agored â phosib ac er budd gorau’r unigolyn o dan sylw.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau partner perthnasol i roi gwybod am bryderon i’r awdurdod lleol os oes ganddynt achos rhesymol i amau bod oedolyn mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, fel y’i diffinnir yn adran 128 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Mae partneriaid perthnasol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr Awdurdod Lleol, gwasanaethau iechyd a’r heddlu. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn amlygu unrhyw bryderon diogelu/bregusrwydd drwy gyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd (PPN) i’r awdurdod lleol. Mae pedwar awdurdod lleol o fewn cyfansoddiad daearyddol Heddlu Dyfed-Powys; sef Cynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion, Penfro a Phowys.
Mae adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adran 12 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal ymchwiliad os oes amheuaeth bod unigolyn yn ‘oedolyn mewn perygl’.
Os gwneir penderfyniad i BEIDIO ac atgyfeirio/rhannu gwybodaeth â’r awdurdod lleol, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud cofnod o’r pryder ac unrhyw gamau a gymerwyd. Mae angen cofnodi achosion o niwed lefel isel fel eu bod yn hawdd eu hadnabod, a’u hatgyfeirio yn y man os cânt eu hailadrodd.
Pan wneir atgyfeiriad diogelu i’r awdurdod lleol, mae dyletswydd gyfreithiol ar yr awdurdod i wneud ymholiadau ac amddiffyn ac ymchwilio’n ddigonol i achosion lle mae cam-drin neu esgeuluso wedi digwydd neu lle mae perygl o hynny. Diben ymchwiliad diogelu yw rhoi cyfle i’r awdurdod lleol sicrhau eglurhad a phenderfynu pa gamau (os o gwbl) sydd eu hangen er mwyn amddiffyn yr oedolyn o dan sylw rhag cael ei gam-drin a/neu ei esgeuluso. Os oes angen cymryd unrhyw gamau, yr awdurdod lleol sydd i arwain ar y gwaith o drefnu pa gamau sy’n briodol a chan bwy.
Mewn rhai achosion, Heddlu Dyfed-Powys fydd yn arwain yr ymchwiliadau, a hynny os oes amheuaeth o dramgwyddau troseddol fel arfer. Yn yr achosion hyn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda’r awdurdod lleol ac asiantaethau partner eraill er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu a bod cynllun rheoli risg neu ddiogelu’n cael ei cytuno’n gynnar.
Mewn achosion lle ystyrir bod cychwyn achos troseddol yn amhriodol, dylai’r heddlu gytuno ar gamau gweithredu gydag asiantaethau partneriaeth i amddiffyn yr oedolyn/oedolion er mwyn sicrhau llesiant yr unigolyn o dan sylw.
Comander yr Uned Gorchymyn Sylfaenol a’r Ditectif Brif Arolygydd sy’n gyfrifol am y canlynol:
Adrodd
Mae pum ffordd o roi gwybod i’r heddlu am ‘Oedolyn mewn Perygl’:
Fel arfer, bydd adroddiadau sy’n gofyn am gamau diogelu ar unwaith yn cael eu trin gan swyddogion ymateb, a ddylai gynnal asesiad risg gan arfer chwilfrydedd proffesiynol fel rhan o unrhyw ymchwiliad sy’n cychwyn o’u presenoldeb. Mae’r swyddogion sy’n bresennol yn gyfrifol am gyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd er mwyn rhannu gwybodaeth gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a allai sicrhau cymorth asiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â diogelu hirdymor yr unigolyn mewn perygl.
Caiff pob Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud ag oedolion mewn perygl eu hadolygu gan y Ddesg Brysbennu ac Asesu yn Uned Gyfeirio Ganolog y Ganolfan Fregusrwydd, a’u hasesu o safbwynt risg lle yr ystyrir y Bygythiad, Niwed, Perygl, Ymchwiliad, Bregusrwydd ac Ymgysylltiad. Rheolir achosion oedolion sy’n agored i niwed yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.
Mae tri ffordd o ymdrin â’r cyfeiriad:
Bydd unrhyw gyfeiriad a dderbynnir gan asiantaethau partner sydd â datgeliad o drosedd yn cael ei gofnodi fel trosedd yn unol â’r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau a’i bennu ar gyfer ymchwiliad gan swyddog sydd wedi’i hyfforddi’n briodol.
Trafodaethau Strategaeth
Bydd Ditectif Ringylliaid yn mynychu pob trafodaeth strategaeth gychwynnol ar gyfer oedolion mewn perygl. Yn ystod oriau swyddfa (Dydd Llun – Dydd Gwener) bydd y Ditectif Ringyll o’r Uned Gyfeirio Ganolog, ond gall fod yn Dditectif Ringyll rhanbarthol tu allan i oriau swyddfa neu yn ystod adegau o alw mawr.
Fforwm yw’r cyfarfod/trafodaeth strategaeth ar gyfer –
Gall mwy nag un drafodaeth/cyfarfod strategaeth fod yn briodol, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r achos, er enghraifft, er mwyn:
Rhaid i bob trafodaeth/cyfarfod adolygu’r pryderon am esgeulustod a/neu gam-drin i’r oedolyn mewn perygl ac oedolion eraill neu blant mewn perygl a chytuno ar gamau gweithredu i reoli hyn.
Ymchwiliad
Lle y nodir bod trosedd wedi’i gyflawni yn erbyn oedolyn mewn perygl ac mae angen ymchwiliad ar y cyd gan yr heddlu a’r awdurdod lleol, yna bydd Heddlu Dyfed-Powys yn pennu’r ymchwiliad i swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant PIP lefel 2 o fewn yr Adran Ymchwilio i Droseddau. Mewn rhai meysydd, y Timoedd Ymchwilio ar y Cyd fydd y rhain.
Wrth i ymchwiliad fynd rhagddo, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i fynychu unrhyw gynhadledd neu gyfarfod dilynol mewn perthynas â’r oedolyn mewn perygl er mwyn sicrhau y cynhelir rhannu gwybodaeth a bod cynlluniau diogelu’n briodol.
Y swyddog arweiniol yw’r Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus, sy’n gyfrifol am arweinydd strategol Bregusrwydd, a chydlynu Polisïau.
Rheolir ‘Oedolion Mewn Perygl’ o dan y portffolio Bregusrwydd, sy’n derbyn goruchwyliaeth gan y Bwrdd Bregusrwydd Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2024