Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried ac yn asesu pa mor fregus yw pob unigolyn y byddwn yn dod ar ei draws gan geisio cymorth ac ymyrraeth cyn gynted â phosibl.
Diben y polisi hwn yw sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cyflawni ymagwedd gyson a phroffesiynol sy’n ystyriol o drawma wrth ymdrin ag unigolion a nodwyd i fod yn fregus. Mae’n berthnasol i holl Swyddogion, staff a gwirfoddolwyr a gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, o’r pwynt cyswllt cyntaf, trwy ymchwiliad ac erlyniad.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi ystyriaeth arbennig i’r aelodau hynny o gymdeithas a allai gael eu diffinio fel unigolion bregus.
Mae cam-drin pobl fregus yn annerbyniol ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio i atal y rhai sy’n cyflawni troseddau yn erbyn pobl fregus. Ni fydd Heddlu DyfedPowys yn goddef achosion o gam-drin pobl fregus a bydd yn nodi’r rhai a all fod yn fregus, yn asesu a ydynt mewn perygl o niwed ai peidio, yn delio ag unrhyw bryderon diogelu uniongyrchol ac yn gweithio gydag asiantaethau eraill i roi camau ar waith i atal unrhyw gamdriniaeth neu niwed pellach.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â gweithdrefnau amlasiantaeth y byrddau diogelu lleol er mwyn lleihau erledigaeth ac achosion o gam-fanteisio yn erbyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cael ei arwain gan y Strategaeth Fregusrwydd Genedlaethol a’r cynllun gweithredu cysylltiedig.
Drwy’r holl bolisïau a gweithdrefnau cysylltiedig, mae Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod aelodau o’n sefydliad yn –
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn diffinio Bregusrwydd fel a ganlyn:
“Mae unigolyn yn fregus os na all, o ganlyniad i’w sefyllfa neu ei amgylchiadau, ofalu amdano ei hun neu amddiffyn ei hun neu eraill rhag niwed neu gamfanteisio.”
Mae amrywiaeth o bynciau yn dod o dan y faner ‘bregusrwydd’, ac felly dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r polisïau ardal-benodol canlynol:
Fel y nodir o fewn y polisi gwarchod plant ac oedolion mewn perygl, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio llwybrau sefydledig ar gyfer rhannu gwybodaeth â phartneriaid o fewn paramedrau deddfwriaeth ac yn ceisio cryfhau’r prosesau hyn a dileu rhwystrau rhag rhannu gwybodaeth ar bob cyfle posibl.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n nodi’r rolau a chyfrifoldebau hanfodol ar gyfer ymarferwyr i sicrhau eu bod nhw’n diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod. Maen nhw hefyd yn helpu ymarferwyr (gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys) i weithredu’r ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 (Cymru). Y nod yw gwella canlyniadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod a phlant mewn perygl.
Mae Deddf Plant 1989 a 2004 yn gosod dyletswydd ar bob asiantaeth i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, sy’n cynnwys rhannu pryderon yn gynnar er mwyn annog camau gweithredu ataliol.
Dogfen ganllaw gynhwysfawr yw Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Plant: canllaw i weithio'n rhyngasiantaethol er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant sy’n cynnwys y gofynion deddfwriaethol a osodir ar wasanaethau unigol, gan gynnwys yr Heddlu. Mae’r ddogfen hon yn darparu fframwaith ar gyfer partneriaid diogelu lleol i wneud trefniadau er mwyn cydweithio i ddiogelu a hyrwyddo lles plant drwy nodi eu hanghenion ac ymateb iddynt.
Cyfrifoldeb pob swyddog rheng flaen, aelod staff a gwirfoddolwr yw adnabod bregusrwydd. Os teimlir bod unigolyn/teulu angen ymyrraeth gynnar a chefnogaeth, anogir swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys i weithredu’n syth i gyfeirio’r unigolyn/unigolion at y llwybrau/asiantaethau cymorth perthnasol, ac yna cyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n amlinellu’r bregusrwydd, a fydd yn cael ei anfon at y Ddesg Brysbennu ac Asesu a leolir yn y Ganolfan Fregusrwydd ym Mhencadlys yr Heddlu.
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag adolygu Hysbysiadau Diogelu’r Cyhoedd, cyfeiriwch at y polisïau diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
Mae’r Egwyddorion Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn
Yr Adran Ymchwilio i Droseddau – Gwarchod Unigolion Bregus a fydd yn berchen ar y polisi hwn.
Bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei effeithiolrwydd a bydd diwygiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud mewn perthynas â newidiadau a diweddariadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig.
Bydd penderfyniadau cymeradwyo sy’n ymwneud â gweithredu’r polisi hwn yn cael eu gwneud gan y Ditectif Uwcharolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus a’r Bwrdd Bregusrwydd Strategol.
Cynhelir gwaith craffu ac archwilio i gofnodion yr Heddlu yn rheolaidd i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithredu’n briodol i ddiogelu a cheisio cymorth i bobl fregus lle bo angen.
Adolygir portffolios unigol sy’n cwmpasu ‘bregusrwydd’ yn rheolaidd o fewn y cyfarfod portffolio bregusrwydd, sy’n cael ei gadeirio gan bennaeth Diogelu Pobl Fregus, a’r Bwrdd Bregusrwydd Strategol, sy’n darparu llywodraethu a goruchwyliaeth, gan sicrhau bod yr ymagwedd strategol a’r ymateb i fregusrwydd yn cael eu hymgorffori’n llawn o fewn y sefydliad.
Mae Strategaeth Diogelu Pobl Heddlu Dyfed-Powys, sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth Fregusrwydd Genedlaethol, yn darparu ffocws a chyfeiriad clir. Adolygir ein cynnydd yn erbyn y cynllun hwn yn rheolaidd o fewn y Bwrdd Bregusrwydd Strategol. Cynhelir adolygiadau ac archwiliadau rheolaidd o logiau digwyddiad, cofnodion a phenderfyniadau er mwyn sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â deddfwriaethau a chanllawiau.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2025