Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Cam-drin ar Sail Anrhydedd fel y’i gelwir, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn mynd yn groes i Hawliau Dynol, sy’n annerbyniol. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i roi gwasanaeth cyson a phroffesiynol i ddioddefwyr, ac ymchwilio i bob trosedd a gyflawnir er ‘anrhydedd’ fel y’i gelwir.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r diffiniad canlynol o drais ar sail anrhydedd fel y’i gelwir:
‘digwyddiad neu drosedd sy'n ymwneud â thrais, bygythiadau o drais, codi ofn, gorfodaeth neu gamdriniaeth (gan gynnwys camdriniaeth seicolegol, gorfforol, rywiol, ariannol neu emosiynol), sydd wedi neu a allai fod wedi eu cyflawni i amddiffyn neu warchod anrhydedd yr unigolyn, y teulu a/neu'r gymuned - oherwydd honnir bod cod ymddygiad y teulu a/neu'r gymuned wedi'i dorri.’ - Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod pob aelod staff yn deall natur gymhleth a sensitif y troseddau a’r digwyddiadau hyn, ac nad oes unrhyw ‘anrhydedd’ sy’n medru cyfiawnhau mynd yn groes i hawliau dynol eraill. Bydd rhai swyddogion yn derbyn hyfforddiant uwch er mwyn dod yn arbenigwyr, ond bydd pob swyddog yn derbyn hyfforddiant ac yn ymwybodol o’r rheol ‘un cyfle’. Efallai mai dim ond un cyfle fydd ganddynt i siarad â dioddefydd posibl ac achub bywyd. Mae gan bob dioddefydd yr hawl sylfaenol i gael ei gredu.
Gall Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod effeithio ar unigolion mewn sawl ffordd sy’n medru arwain at ymosodiad difrifol neu farwolaeth. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddatblygu ymatebion sy’n cadw pobl yn ddiogel ac yn dal troseddwyr i gyfrif heb ystrydebu, gwarthnodi na gwneud honiadau am unrhyw unigolyn neu gymuned.
Mae’r polisi hwn yn eistedd yn gadarn o fewn ein blaenoriaeth strategol i ‘Amddiffyn Pobl Fregus’. Yr ydym yn cydnabod y gall cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod fod yn fath o gam-drin domestig neu drais rhywiol hefyd, felly rydym yn ystyried ein hymateb ochr yn ochr â’r polisi Cam-drin Domestig, Trais ac Ymosodiad Rhywiol Difrifol a pholisïau cysylltiedig eraill.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i geisio ymagwedd system gyfan tuag at fynd i’r afael â materion cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir drwy bartneriaethau gydag asiantaethau statudol ac anstatudol.
Mae gan bawb ohonom gydgyfrifoldeb i sicrhau bod digwyddiadau cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu hadnabod a’u gweithredu’n gywir. Gan hynny, rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau’r heddlu roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn. Mae’n berthnasol ar gyfer holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad. Gall asiantaethau partner ei ddefnyddio i ddeall ein bwriad strategol wrth ymdrin â digwyddiadau cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir, priodas dan orfod neu anffurfio organau cenhedlu benywod.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Ein nod strategol yw dileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag adrodd am y digwyddiadau hyn. Mae cynyddu ffydd a hyder mewn cymunedau yr effeithir arnynt, gan gynnwys y rhai a allai ofni erledigaeth pe baent mewn cysylltiad ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith, yn flaenoriaeth. Gall ymgysylltu â chymunedau a chodi ymwybyddiaeth leihau tanadrodd ac amlygu troseddau cudd. Bydd arweinwyr yn sicrhau bod ymateb effeithiol yn cael ei ddarparu bob tro yr ydym yn derbyn adroddiad drwy nodi’r risg yn gywir ac ymateb iddo, a blaenoriaethu gwarchod dioddefwyr ac eraill rhag niwed.
Mae diogelwch y dioddefydd, ac unrhyw un arall y nodir ei fod mewn perygl o niwed, yn hollbwysig. Bydd ei ddiogelwch wrth galon ein hymateb cychwynnol a’n hymchwiliad. Mae’n bwysig mai dyma’r flaenoriaeth gyntaf, â ffocws ar atal ac ymyrryd. Dylid ystyried canlyniadau cyfiawnder troseddol yn erbyn troseddwyr ym mhob achos lle mai sail, gan gofnodi rhesymau clir ar gyfer pob penderfyniad. Rhaid cwblhau asesiad risg gyda’r dioddefydd, gan ystyried aelodau teulu ehangach neu blant a allai fod mewn perygl hefyd. Mae cynllunio ar gyfer diogelwch yn hanfodol.
Gan weithio ochr yn ochr â’n hasiantaethau partner, byddwn yn ceisio:
Bydd y polisi hwn ar gael i’r cyhoedd, ac i’n holl aelodau staff. Dylid ei ystyried yn ystod y pwynt adrodd cyntaf er mwyn ymateb yn gyflym ac effeithio i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o niwed.
Dylai staff ymgyfarwyddo ag ef, a gyda’r canllawiau gweithredol ar safle mewnrwyd yr heddlu lle mae cyngor tactegol ar gyfer swyddogion ymchwilio ar gael.
Y sail gyfreithiol ar gyfer arfer y pwerau a’r dyletswyddau a amlinellir yn y polisi hwn yw:
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn nodi’r rolau a chyfrifoldebau hanfodol ar gyfer ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod. Maen nhw hefyd yn helpu ymarferwyr (ni) i weithredu’r ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014 (Cymru).
Dylai ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol fabwysiadu Ymagwedd Hawliau Plant yn unol â’r ddyletswydd o ystyriaeth ddyledus i’r CCUHP a dilyn Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn bartner sefydliadol Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac fe gynorthwyodd â datblygiad y ‘Protocol Rhannu Gwybodaeth ar gyfer Diogelu Plant, Pobl Ifainc ac Oedolion Agored i Niwedd’. Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar y cyd ag arweinwyr gwasanaethau diogelu, gan gynnwys ein Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd, ac mae’r darpariaethau canlynol wedi’u hystyried:
Mae’r Protocol Rhannu Gwybodaeth hwn yn rhoi hyder i staff o bob sefydliad partner rannu gwybodaeth berthnasol pan mai’r diben yw amddiffyn neu atal plant, pobl ifainc ac oedolion sy’n agored i niwed rhag profi cam-drin, esgeulustod neu fathau eraill o niwed, a bod rhannu’r wybodaeth hon yn gyfreithlon heb ganiatâd yr unigolion dan sylw.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda GEG er mwyn sicrhau bod ymchwilio i anffurfio organau cenhedlu benywod a’i erlyn yn cael ei gydlynu rhwng asiantaethau. Ceir hyd i’r protocol rhwng Heddlu Dyfed-Powys a GEG, sef Protocol rhwng yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron o ran ymchwilio i honiadau o anffurfio organau rhywiol benywod, ar y fewnrwyd.
Cyfeirir ato’n aml fel ‘Trais ar Sail Anrhydedd’ ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod nad yw pob math o gam-drin yn dreisgar (yn unol â diffiniad Cam-drin Domestig). Gan hynny, byddwn yn cyfeirio ato fel Cam-drin ar Sail Anrhydedd fel y’i gelwir. Does dim trosedd benodol ar sail anrhydedd. Term ymbarél yw ‘trosedd ar sail anrhydedd’ i gwmpasu cymhelliad troseddwr ar gyfer cyflawni troseddau amrywiol sy’n cael eu cwmpasu gan ddeddfwriaethau presennol.
Priodas Dan Orfod
Mae’n drosedd gorfodi rhywun i briodi. Diffinnir Priodas Dan Orfod fel – priodas a gynhelir heb ganiatâd dilys un neu'r ddau unigolyn, lle mae gorfodaeth yn ffactor, gan gynnwys:
Ynghyd â’r tramgwydd troseddol hwn, mae rhwymedi sifil o gael Gorchymyn Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod yn bodoli. Gellir gwneud cais amdano drwy’r llysoedd teulu. Mae hyn yn rhoi dewis i ddioddefwyr o ran sut y maent yn dymuno cael eu cynorthwyo:
Mae torri unrhyw un o’r gwaharddiadau, cyfyngiadau neu ofynion a nodir yn y Gorchymyn yn dramgwydd troseddol y byddwn yn ymchwilio iddo ac yn ceisio ei erlyn.
Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod
Yn Ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ystyrir anffurfio organau cenhedlu benywod yn ymarfer ddiwylliannol sydd fel arfer yn digwydd i ferched ar ryw adeg rhwng babandod a 15 oed. Fodd bynnag, gall ddigwydd i fenywod a merched o bob oed, gan gynnwys babanod sydd newydd eu geni, a menywod sy’n oedolion mewn cysylltiad â phriodas neu ail-waëgu ar ôl geni plentyn.
Mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn deillio o gysyniadau o burdeb, anrhydedd teuluol a phwysigrwydd priodas mewn cymdeithasau lle mae diogelwch a goroesiad yn dibynnu’n fawr ar briodi’n dda. Mewn rhai cymunedau, dim ond menyw sydd â’i horganau cenhedlu wedi’u hanffurfio sy’n cael ei hystyried yn addas ar gyfer priodas gan ei fod yn arddangos diweirdeb a phurdeb. O ganlyniad, mae rhieni’n caniatáu i’w merched gael eu horganau cenhedlu wedi’u hanffurfio, neu’n mynnu hynny, fel ffordd o warchod eu dyfodol. Tanategir y cysyniadau hyn gan gredoau mewn perthynas â safle menywod a merched o fewn y diwylliannau hynny. Nid yw anffurfio organau cenhedlu benywod wedi’i gyfyngu gan ddosbarth cymdeithasol neu addysg.
Mae’r ymarfer fwyaf cyffredin yn ardaloedd dwyreiniol, gorllewinol a gogledd-ddwyreiniol Affrica a rhannau o Asia a’r Dwyrain Canol. Mae mudo cynyddol yn golygu y gellir dod o hyd i gymunedau sy’n ymarfer anffurfio organau cenhedlu benywod ledled y byd, gan gynnwys Ewrop, De a Gogledd America, ac Awstralasia. Ni ddylai swyddogion a staff yr heddlu gymryd yn ganiataol nad yw anffurfio organau cenhedlu benywod yn digwydd yn yr ardal maen nhw’n gweithio ynddi.
Cyflwynwyd Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 ym mis Mawrth 2004, gan wahardd yr ymarfer yn y wlad hon.
Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn creu tri throsedd sylfaenol:
Mae unrhyw un sy’n cymryd rhan yn un o’r gweithredoedd hyn sydd wedi’u gwahardd yn y DU, ni waeth beth yw ei genedl neu ei statws mewnfudo, yn cyflawni trosedd.
Anffurfio organau cenhedlu benywod yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at ddileu rhan, neu’r cyfan, o organau cenhedlu allanol benywod am resymau diwylliannol neu resymau eraill antherapiwtig, neu anaf arall i organau cenhedlu benywod am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Mae pedwar math o ymarfer anffurfio organau cenhedlu benywod:
Nid oes gan anffurfio organau cenhedlu benywod unrhyw fanteision iechyd hysbys a gall fod canlyniadau iechyd difrifol i’r ferch neu’r fenyw y mae’r broses hon yn cael ei chynnal arni. Cyfeiriwch at arferion proffesiynol awdurdodedig yr heddlu ar anffurfio organau cenhedlu benywod am ganllawiau pellach. Ceir canllawiau pellach ar Arf Asesu Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod – y Ganolfan Genedlaethol Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod hefyd.
Profi Gwyryfdod
Mae’n anghyfreithlon cynnal, cynnig neu helpu mewn unrhyw ffordd gyda phrofion gwyryfdod neu hymenoplasti mewn unrhyw ran o’r DU, fel rhan o Ddeddf Iechyd a Gofal 2022. Y mae hefyd yn anghyfreithlon i wladolion a phreswylwyr y DU gynnal yr ymarferion hyn y tu allan i’r DU. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, ‘ymyriad â hawliau’r dioddefydd yw profi gwyryfdod ac mae’n gysylltiedig â chanlyniadau uniongyrchol a hirdymor sy’n niweidiol i’w lles corfforol, seicolegol a chymdeithasol.’ Dosbarthiad y Swyddfa Gartref yw 68/21 a’r ddedfryd fwyaf yw pum mlynedd o garchar. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 (legislation.gov.uk) a phrofi Gwyryfdod - GOV.UK.
Adrodd Gorfodol
Mae dyletswydd adrodd orfodol ar weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol ac athrawon yng Nghymru a Lloegr o dan Adran 5B y Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Mae dyletswydd arnynt i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw achos hysbys o anffurfio organau cenhedlu benywod ar unrhyw un sydd o dan 18 oed adeg cyflwyno’r adroddiad. Fodd bynnag, lle mae gweithiwr proffesiynol yn credu bod unigolyn mewn perygl o anffurfio organau cenhedlu benywod, nid yw hyn yn dod o dan y ddyletswydd adrodd orfodol. Yn hytrach, bydd yn cael ei drin drwy Weithdrefnau Diogelu Cymru sydd wedi’u sefydlu drwy’r protocolau Diogelu Amlasiantaeth ar ôl i Gyfeiriad Amlasiantaeth gael ei gyflwyno gan yr awdurdod perthnasol i gychwyn y Drafodaeth Strategaeth.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r dogfennau canlynol sy’n darparu canllawiau penodol pellach mewn perthynas ag ymchwilio i Drais/Cam-drin ar Sail Anrhydedd fel y’i gelwir, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod:
Cyflenwi Tactegol
Mae Comander yr Ardal Blismona Leol a’r Ditectif Brif Arolygydd yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau’n gyfrifol am y canlynol:
Bydd Prif Arolygydd arweiniol y Ganolfan Fregusrwydd yn gyfrifol am y canlynol:
Cofnodir pob adroddiad a chyfeiriad ar gyfer cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir/priodas dan orfod/anffurfio organau cenhedlu benywod ar system gorchymyn a rheoli’r Heddlu, sef STORM, a’n system rheoli cofnodion, sef NICHE.
Dylai swyddogion rheng flaen gwblhau Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd cyn gynted â phosibl er mwyn cychwyn trafodaeth strategaeth amlasiantaeth. Yn dilyn Trafodaeth Strategaeth, bydd cofnod digwyddiad NICHE yn cael ei ddiweddaru a’i bennu i’r tîm CID yn yr ardal blismona leol berthnasol, a bydd y goruchwylydd ar ddyletswydd yn cael ei hysbysu.
Rhaid i’r Ditectif Arolygydd ar ddyletswydd neu ar alwad ymgymryd â pherchnogaeth gychwynnol unrhyw ymchwiliad i gam-drin ar sail anrhydedd/priodas dan orfod/anffurfio organau cenhedlu benywod, neu bryder am hyn, a rhaid i gynllun diogelwch gael ei ystyried yn syth.
Cyfrifoldeb swyddog yr achos a’i oruchwylydd yw datblygu’r achos, gan ymgysylltu ag asiantaethau partner i reoli’r diogelu.
Rhoddir hyfforddiant i swyddogion a staff yr heddlu er mwyn sicrhau eu bod yn deall y broses o ymchwilio i gam-drin ar sail anrhydedd/priodas dan orfod/anffurfio organau cenhedlu benywod.
Strategaethau Ymchwiliol a Chamau Gweithredu Cychwynnol
Ar gyfer llinellau ymholi cychwynnol ac eilaidd, cyfeiriwch at y canlynol hefyd:
Dilynwch y ddolen hon ar gyfer Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.
Ymchwiliadau Eilaidd ac adolygiadau
Fel yn achos pob ymchwiliad troseddol, dylid cyfweld â phlant a phobl ifainc o dan y gweithdrefnau / canllawiau perthnasol (e.e. Sicrhau’r Dystiolaeth Orau). Os yw’r dioddefydd yn agored i niwed neu’n blentyn, trefnwch fod oedolyn priodol yn bresennol sy’n annibynnol ac nid yn aelod o’r teulu neu’n gysylltiedig â’r teulu.
Rhaid pennu’r ymchwiliad i ymchwilydd Lefel 2 PIP (neu ymchwilydd sy’n gweithio tuag at hyn) gyda Ditectif Ringyll / Goruchwylydd PIP2 cymwys yn goruchwylio o fewn y 24 awr cyntaf.
Bydd Ditectif Arolygydd yn adolygu’r ymchwiliad yn rheolaidd ac yn sicrhau bod cynllun rheoli risg cadarn mewn grym sy’n cael ei fonitro’n weithredol.
Mae barn broffesiynol hefyd yn bwysig. Efallai bydd dioddefwyr y troseddau hyn yn lleihau’r cam-drin, neu efallai na fyddant yn adnabod y perygl o niwed i’w hunain ac eraill. Gall swyddog neu asiantaeth partner wneud cyfeiriadau MARAC os ydynt yn teimlo mai hon yw’r ffordd iawn o weithredu yn seiliedig ar eu barn broffesiynol eu hun. Yna, gall trafodaeth amlasiantaeth gael ei chynnal er mwyn gwarchod y rheini sydd mewn perygl. Gellir ceisio cyngor gan y Ganolfan Fregusrwydd.
Os bydd gan swyddogion unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau ar gyfer gwella, neu os fyddant yn adnabod unrhyw rwystrau i arfer da, gallant gyfeirio i’w rheolwyr neu ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Ganolfan Fregusrwydd.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2024
Ymchwilir i bob adroddiad am gam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir a phriodas dan orfod er mwyn diogelu bywydau a lles pawb sydd mewn perygl.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob 2 flynedd gan Dditectif Arolygydd y Ganolfan Fregusrwydd, heblaw bod unrhyw weithdrefn neu bolisi cenedlaethol wedi’i ddiweddaru sy’n berthnasol iddo’n cael ei gyhoeddi yn y cyfamser, neu mae adborth gan y pwyllgor moeseg, yr Adran Safonau Proffesiynol neu’r Gwasanaethau Cyfreithiol.
Yn y pen draw, y Ganolfan Fregusrwydd sy’n gyfrifol am y polisi, a bydd yn monitro cydymffurfiaeth yn rheolaidd drwy hap samplu digwyddiadau ac ymchwiliadau, ac yn archwilio ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol staff. Bydd unrhyw gwynion y mae’r heddlu’n derbyn am ein hymateb i gam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir, priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu hymchwilio er mwyn nodi dysgu, a bydd unrhyw adborth da’n cael ei rannu â staff.
Os bydd unrhyw feysydd y mae angen eu gwella’n cael eu hamlygu, bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu neu ei ddiwygio er mwyn sicrhau gwella parhaus. Adroddir am hyn yn ffurfiol wrth y Pennaeth Amddiffyn Pobl Fregus.