Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud mynd i’r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth strategol i'r heddlu. Dyma ein nod i ddileu cam-drin domestig yn ardal ein heddlu. Byddai cymryd unrhyw safbwynt yn llai na hyn yn gyfystyr â derbyn rhyw lefel o oddefgarwch.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod yr effaith y mae cam-drin domestig yn ei chael ar fywydau dioddefwyr, plant a’n cymunedau. Mae’r effaith hirdymor yn aml yn parhau trwy'r cylch cenhedlaeth oherwydd ymatebion trawma a ddatblygwyd wrth ddod i gysylltiad â cham-drin domestig yn ifanc. Mae’r dioddefaint yn aml yn cael ei guddio o’r golwg, gan greu rhwystrau ychwanegol i gael mynediad at gymorth.
Rydym yn cydnabod na ellir mynd i'r afael â Cham-drin Domestig drwy blismona yn unig a byddwn yn ceisio ymgysylltu cymaint â phosibl â phartneriaethau lleol a chenedlaethol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein nodau. Ni fydd egwyddorion cydweithio yn gyfyngedig i ymgysylltu ymarferol mewn digwyddiadau a byddant yn cynnwys rhannu gwybodaeth, cydleoli, a chyllido ar y cyd.
Nod y polisi hwn yw sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys drefn gyson ac ymagwedd broffesiynol at blismona achosion o Gam-drin Domestig, yn unol ag
Arfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Cam-drin Domestig, sydd yn nodi'r egwyddorion a'r safonau i'w dilyn. Bydd yr holl swyddogion a staff yn deall eu cyfrifoldebau wrth ymdrin ag achosion o Gam-drin Domestig er mwyn
lleihau'r perygl o niwed i ddioddefwyr.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy’r dulliau canlynol:
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i'r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy'n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo'r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bydd y polisi hwn ar gael i bob aelod o staff ei ddilyn yn ystod eu dyletswyddau a bydd swyddogion yn cael canllawiau gweithdrefnol lleol penodol yn unol ag Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig ar gam-drin domestig gan y Coleg Plismona.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol i nodi a diogelu’r rhai sydd mewn perygl, a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n briodol i amddiffyn oedolion a phlant sy’n agored i niwed. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd dull sy’n ystyriol o drawma a byddwn yn ceisio deall sut y gall nodweddion gwarchodedig a gwendidau effeithio ar y dioddefwr a deall a dileu rhwystrau.
Byddwn yn ceisio meithrin ymddiriedaeth i helpu pobl i ddatgelu troseddau Cam-drin Domestig – er enghraifft, drwy gynyddu hyder mewn grwpiau lleiafrifol sy’n ofni erledigaeth os ydynt mewn cysylltiad ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith.
Mae diogelu’r rhai sydd mewn perygl o gam-drin domestig yn gyfrifoldeb i bawb a bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arfogi ei staff i adnabod ac ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o niwed. Mae hyn yn cynnwys cydnabod effaith presenoldeb yr heddlu ar blant yn y cartref.
Bydd yr holl staff yn dilyn egwyddorion y polisi hwn wrth ymdrin â’r patrwm o adrodd am ddigwyddiadau cam-drin domestig, ymateb ac ymchwilio iddynt, a’u herlyn. Bydd canllawiau Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi manylion am gyfrifoldebau’r holl bartïon sy’n ymwneud â chynnal a rheoli ymchwiliadau, o’r cyswllt cyntaf â gweithiwr Heddlu Dyfed-Powys i’r gwerthusiad ar ôl y treial, sydd ar gael ar y fewnrwyd fewnol.
Mae diogelwch dioddefwyr yn hollbwysig. Mae methu ag adnabod cam-drin domestig ac ymdrin yn gadarn ag ef cyn gynted â phosibl yn erydu hyder ac yn caniatáu i'r rhai a ddrwgdybir barhau â'u hymddygiad. Gall hyn olygu bod dioddefwyr yn agored i berygl cynyddol, gan gynnwys mwy o drais, ymosodiadau rhywiol a dynladdiad. Rhaid felly ystyried y peryglon i ddioddefwyr yn ofalus yn yr achosion hyn. Mae hyn nid yn unig mewn perthynas â'r perygl uniongyrchol gan y sawl a ddrwgdybir i'r dioddefwyr, ond hefyd o ran unrhyw un sy'n gysylltiedig â dioddefwyr, megis eu plant a'u dibynyddion, aelodau o'r teulu a ffrindiau.
Mae angen darllen y polisi hwn ar y cyd â’r polisi Cam-drin ar Sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Er nad oes diffiniad statudol o gam-drin ar sail anrhydedd, casgliad ydyw o arferion a ddefnyddir i reoli ymddygiad o fewn teuluoedd a chymunedau i warchod eu hanrhydedd tybiedig, neu fynd i’r afael â chywilydd neu embaras y credir sydd wedi’i ddwyn ar y teulu. Gall troseddwyr cam- drin ar sail anrhydedd gynnwys partneriaid rhywiol neu gyn bartneriaid rhywiol, aelodau o’r teulu genedigol (megis rhieni, brodyr a chwiorydd neu gefndryd a chyfnitherod), neu deulu yng nghyfraith, ac felly bodloni diffiniad cam-drin domestig.
Byddwn yn cadw at y safon genedlaethol cofnodi troseddau (NCRS) drwy gofnodi unrhyw droseddau’n gywir a’u fflagio fel ‘Cam-drin Domestig’, gan sicrhau hefyd bod ymddygiadau fel gorfodaeth a rheolaeth, aflonyddu a stelcio, a all fod yn rhan o’r cam- drin, yn cael eu cofnodi fel troseddau ar wahân. Bydd torri gorchmynion yn cael ei ystyried yn drosedd stelcio/aflonyddu newydd.
Byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael gwybodaeth am y broses cyfiawnder troseddol a'u bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd yn unol â'u hawliau dan y Cod Dioddefwyr. Bydd pob dioddefwr yn cael gwybodaeth am y darpariaethau mesurau arbennig sydd ar gael i gefnogi'r dystiolaeth a ddarperir.
Rydym wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ag ysgolion o dan Ymgyrch Encompass fel y gall staff hyfforddedig ddarparu cymorth emosiynol a chymorth ymarferol i ddisgyblion y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt.
Lle canfyddir cyflawnwyr, byddwn yn ystyried ac yn defnyddio'r ystod o offer sydd ar gael i ni i reoli risg a berir gan droseddwyr: Mechnïaeth Amodol; Hysbysiadau Amddiffyn Trais Domestig / Gorchmynion Amddiffyn Trais Domestig; Gorchmynion Ataliol; Gorchmynion Amddiffyn rhag Stelcio; Gorchmynion Amddiffyn rhag Priodas dan Orfod; Gorchmynion Amddiffyn rhag Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod.
Diffiniadau
Ceir diffiniad statudol o Gam-drin Domestig yn adrannau 1-3 Deddf Cam-drin Domestig 2021:
Mae ymddygiad person (“A”) tuag at berson arall (“B”) yn “gam-drin domestig” os—
a
Mae ymddygiad yn “gamdriniol” os yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—
ac nid oes gwahaniaeth a yw'r ymddygiad yn cynnwys un digwyddiad neu’n ymddygiad parhaus.
Mae “cam-drin economaidd” yn golygu unrhyw ymddygiad sy'n cael effaith andwyol sylweddol ar allu B i wneud y canlynol:
At ddibenion y Ddeddf hon, gall ymddygiad A fod yn ymddygiad “tuag at” B er gwaethaf y ffaith ei fod yn cynnwys ymddygiad sydd wedi'i gyfeirio at berson arall (er enghraifft, plentyn B).
Diffiniad o ‘Gysylltiedig yn Bersonol’
(ch) eu bod wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil (pa un a yw’r cytundeb wedi cael ei derfynu ai peidio);
(dd) bod gan bob un ohonynt, neu y bu amser pan oedd gan bob un ohonynt, berthynas riant mewn perthynas â’r un plentyn (gweler isadran (2));
ystyr “plentyn” yw person o dan 18 oed;
mae i “cytundeb partneriaeth sifil” yr ystyr a roddir gan adran 73 Deddf Partneriaeth Sifil 2004;
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag yn Neddf Plant 1989;
mae i “perthynas” yr ystyr a roddir gan adran 63(1) Deddf Cyfraith Teulu 1996. (gweler isod)
Mae “perthynas” yn golygu
y person hwnnw NEU briod, cyn-briod, partner sifil neu gynbartner sifil yr unigolyn hwnnw;
Mewn perthynas â pherson sy'n cyd-fyw neu sydd wedi cyd-fyw â pherson arall, mae'n cynnwys unrhyw unigolyn a fyddai’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) pe bai’r partïon yn briod â'i gilydd neu'n bartneriaid sifil i'w gilydd.
Adran 3. Plant fel dioddefwyr cam-drin domestig
** Mae’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y gall plentyn 16-18 oed sydd wedi ei faethu fod yn ddioddefydd cam-drin domestig. Rydym yn aml yn disgrifio hwn fel ‘gwarcheidiaeth’, sy’n cwmpasu maethu, hir a byr dymor.
Diffiniad o Ymddygiad Rheolaethol a Gorfodaethol (a.77 Deddf Troseddau Difrifol 2015):
Ymddygiad Rheolaethol yw: Ystod o weithredoedd wedi'u cynllunio i wneud person yn israddol a/neu'n ddibynnol drwy ei ynysu oddi wrth ffynonellau cymorth, manteisio ar ei adnoddau a'i alluoedd er budd personol, ei amddifadu o'r modd sydd ei angen ar gyfer annibyniaeth, gwrthwynebiad a dianc, a rheoli ei ymddygiad bob dydd; ac
Ymddygiad Gorfodaethol yw : Gweithred neu batrwm o weithredoedd o ymosod, bygwth, bychanu a brawychu neu gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu godi ofn ar ddioddefwr.
Y sail gyfreithiol ar gyfer arfer pwerau a dyletswyddau a amlinellir yn y polisi hwn yw:
Cyflwyno Tactegol
Mae’r Comander Ardal Blismona Leol a’r Ditectif Brif Arolygydd yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Pennaeth Cyswllt a Rheoli Digwyddiadau yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Prif Arolygydd arweiniol ar gyfer y Ganolfan Fregusrwydd yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd yr Rweinydd Lifrog ar gyfer Cam-drin Domestig (Uwcharolygydd) (yn cefnogi’r Ditectif Uwcharolygydd Diogelu Pobl Agored i Niwed) yn gyfrifol am y canlynol:
Adrodd
Mae pum ffordd o roi gwybod i Heddlu Dyfed Powys am bryderon ynghylch Cam-drin Domestig:
*Gall adroddiadau gael eu gwneud gan ddioddefwyr neu gan drydydd parti ar ran dioddefwyr.
Dylai swyddogion ymateb a fydd yn darparu'r ymateb diogelu cychwynnol ymdrin ag adroddiadau sy'n gofyn am gamau diogelu ar unwaith. Bydd pob adroddiad yn cael ei ystyried gan ddefnyddio asesiad THRIVE (Bygythiad, Niwed, Risg, Ymchwilio, Bregusrwydd ac Ymgysylltu) i sefydlu lefel yr ymateb sydd ei hangen.
Ymateb i adroddiadau
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyfeirio at arfer proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona fel arfer gorau ar gyfer arweiniad ar sut rydym yn disgwyl ymateb i gam-drin domestig.
Ymateb Cychwynnol
Presenoldeb ar y safle (ymatebion Gradd 1 a 2)
amgylchiadau lle mae risg yn parhau, mae'n debygol y bydd angen gweithredu yn erbyn dymuniadau'r dioddefwr.
Ymateb Fideo Cyflym (YFC)
Gwasanaeth ymgynghoriad fideo dwy ffordd yw YFC sy’n galluogi Swyddogion a Staff Heddlu Dyfed-Powys i ddefnyddio llwyfan meddalwedd fideo i ddarparu ymateb fideo di-oed i alwadau cymwys am wasanaeth cam-drin domestig lle nad yw’r troseddwr yn bresennol. Bydd y gwasanaeth ymateb fideo cyflym yn darparu’r un ymateb ag y byddai ymateb cyntaf yn ei wneud yn bersonol, gan gynnal pob llwybr ymholi yn unol â chanllawiau’r Coleg Plismona ar ymchwilio a diogelu’r cyhoedd.
Bydd swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant Ymateb Fideo Cyflym (YFC) yn gallu defnyddio meddalwedd fideo i gynnal ymgynghoriadau. Bydd swyddogion a staff heddlu sydd wedi’u hyfforddi’n briodol yn gallu cael mynediad i’r llwyfan, gan adolygu darnau ffilm wedi’u recordio a’u trosglwyddo. Defnyddir y feddalwedd fideo ar gyfer dibenion plismona yn unig mewn modd cywir a thryloyw, gan ddilyn y deddfwriaethau a’r codau ymarfer perthnasol.
Bydd diogelwch cyhoeddus, hyder cymunedol a’r broses cyfiawnder troseddol yn cael eu gwella drwy ddarparu gwasanaeth ymateb newydd a dewisol ar gyfer dioddefwyr trosedd priodol.
Rhaid i bob defnyddiwr ddarllen y dogfennau hyfforddi sydd ar gael neu dderbyn cyflwyniad hyfforddi gan swyddog neu aelod o staff yr heddlu sy’n deall sut i ddefnyddio’r system. Bydd hyfforddiant yn canolbwyntio ar sicrhau bod defnyddwyr yn deall bod defnyddio’r gwasanaeth gydag aelodau o’r cyhoedd yn cael ei ysgogi gan ganiatâd ac yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon.
Bydd Goruchwylwyr yr Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig yn gyfrifol am wirio ansawdd ymatebion swyddogion YFC.
Mae Swyddogion Heddlu, Staff Heddlu a gwirfoddolwyr unigol yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â’r canllawiau perthnasol ar gyfer eu rôl.
Cynhelir asesiadau risg priodol gan swyddogion Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu a’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig drwy bob galwad 999/101 er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn perygl drwy ddefnyddio’r llwyfan meddalwedd fideo.
Asesu risg
Lefelau risg DASH
Safonol – Ymddengys nad oes patrwm o ymddygiad camdriniol, neu reolaeth gan unigolyn dros rywun arall. Nid yw tystiolaeth gyfredol yn dynodi tebygolrwydd o achosi niwed difrifol.
Canolig – Ymddengys bod patrwm o gam-drin/rheolaeth gan unigolyn dros rywun arall a/neu drais corfforol mynych. Mae gan y cyflawnwr y potensial i achosi niwed difrifol ond mae’n annhebygol o wneud hynny oni bai fod newid mewn amgylchiadau, megis y dioddefydd yn ceisio gadael.
Uchel – Mae lefel eithafol o reolaeth gan unigolyn dros rywun arall a/neu drais corfforol difrifol aml iawn. Mae’r troseddwr yn cyflwyno bygythiad difrifol o niwed i’r troseddwr. Gallai'r digwyddiad posibl ddigwydd unrhyw bryd a byddai'r effaith yn ddifrifol.
Wrth ystyried y diffiniad o niwed difrifol, bydd yr heddlu yn defnyddio diffiniad Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) o niwed difrifol:
“Diffinnir risg o niwed difrifol fel: y tebygolrwydd o ymddygiad niweidiol o natur dreisgar neu rywiol sy’n bygwth bywyd a/neu’n drawmatig, ac y gellir yn rhesymol ddisgwyl y byddai adferiad yn ei sgil, boed yn gorfforol neu’n seicolegol, yn anodd neu’n amhosibl.”
Mewn achosion lle mae tagu wedi’i nodi fel ffactor risg, bydd hyn bob amser yn cael ei weld fel dangosydd risg o niwed difrifol ac felly ni fydd yn cael ei gofnodi fel achos risg safonol.
Lle canfyddir gwahaniad, ni fydd hyn yn cael ei ddefnyddio fel ffactor i liniaru risg yn y berthynas. Mae Heddlu Dyfed–Powys yn cydnabod y risg gynyddol i oroeswyr cam- drin domestig ar adeg gwahanu.
Unwaith y bydd gradd risg wedi'i sefydlu gan y swyddog â gofal a'i chytuno gan oruchwylydd y swyddog â gofal, ni wneir unrhyw newidiadau i'r asesiad risg heb gytundeb Uned Asesu Risg Eilaidd yr heddlu. Yn absenoldeb Uned Asesu Risg Eilaidd, gall Swyddog Cam-drin Domestig gynnal yr adolygiad. Dylid defnyddio Cyfarfod Rheoli Dyddiol yr Ardal Blismona Leol fel proses ddwysáu os oes anghytuno ynghylch graddau risg sy’n effeithio ar berchnogaeth a phennu (megis achosion dalfa). Yna, gellir dwysáu hyn i Gyfarfod Rheoli Dyddiol yr Heddlu.
Dylid cynnig cymorth arbenigol trwy asiantaethau partner i bob lefel risg. Mewn achosion risg uchel, bydd Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) yn cael y dasg ragweithiol i ymgysylltu â’r dioddefwr.
Asesiad o Anghenion Gofal Tyst
Mewn achosion Cam-drin Domestig Perygl Uwch, fel arfer, y Swyddog â Gofal fydd yn gyfrifol am gwblhau Asesiad o Anghenion Gofal Tyst yn dilyn Cyhuddiad. Arfer gorau yw cwblhau’r asesiad anghenion ar y cyd â’r Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig/ Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (os oes cynghorydd o’r fath wedi’i bennu).
Gan ystyried anghenion / gwendidau’r dioddefwr ynghyd ag unrhyw gymhlethdodau ymchwilio, os yw’r Swyddog â Gofal yn ei ystyried yn briodol i Ofal Tystion gynnal yr Asesiad Anghenion ar ei ran, bydd yn hysbysu Gofal Tystion, a fydd yna’n medru cynnal yr asesiad, drwy e-bost.
Perchnogaeth a phennu droseddau:
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar risg at berchnogaeth ar gynlluniau rheoli risg a chymorth parhaus i ddioddefwyr. Ni ddylai dyraniad yr ymchwiliad i drosedd fod yn seiliedig yn unig ar yr asesiad risg DASH sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad ond dylai ystyried difrifoldeb a chymhlethdod y digwyddiad yn unol â chanllawiau dyrannu troseddau. Mae'r isod yn nodi'r egwyddorion a fydd yn cael eu cymhwyso:
Risg uchel - Pennir Swyddog Diogelu Pobl Fregus arbenigol i sefydlu a rheoli’r cynllun rheoli risg a darparu cymorth ymchwiliol o ran cipio tystiolaeth ar gyfer achosion perygl uwch. Bydd hyn yn cefnogi’r pwynt cyswllt sengl ac yn lleihau ail-drawmateiddio drwy ailadrodd cyfrifon. Bydd achosion risg uchel yn cael eu hadolygu gan Dditectif Arolygydd er mwyn ystyried dyrannu ymchwilydd hyfforddedig PIP2 (neu ymchwilydd sy’n gweithio tuag at PIP Lefel 2) ar gyfer achosion difrifol neu gymhleth. Os yw'r drosedd yn ymwneud â thrais a throseddau rhywiol difrifol neu ymosodiad ag anafiadau niwed corfforol difrifol, yna bydd hwn yn cael ei ddyrannu i ymchwilydd PIP Lefel 2 (neu ymchwilydd sy’n gweithio tuag at PIP Lefel 2).
Risg ganolig - Ar gyfer achosion perygl cymedrol, bydd angen i’r swyddog sy’n bresennol sefydlu cynllun rheoli risg effeithiol. Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu gan Swyddog Diogelu Pobl Fregus er mwyn sicrhau y darparwyd cyngor ac ystyriaeth arbenigol. Bydd yr ymchwiliad yn aros gyda’r swyddog PIP Lefel 1 sydd â gofal dros yr achos a bennwyd oni bai fod y drosedd yn ymwneud â thrais neu droseddau rhywiol difrifol neu mae ymosodiad ag anafiadau niwed corfforol difrifol yn drais neu drosedd rywiol ddifrifol/anafiadau niwed corfforol difrifol, neu y byddai difrifoldeb neu gymhlethdod yr achos yn gofyn am sgiliau ymchwilydd PIP2.
Risg safonol – Ar gyfer achosion perygl safonol, bydd angen i Swyddog yr Achos sefydlu cynllun rheoli risg effeithiol. Swyddog hyfforddedig PIP1 a fydd yn cael ei sefydlu fel y swyddog â gofal i gynnal yr ymchwiliad oni bai fod y drosedd yn ymwneud â thrais neu drosedd rywiol ddifrifol neu ymosodiad ag anafiadau niwed corfforol difrifol, yn drais neu drosedd rywiol ddifrifol/anafiadau niwed corfforol difrifol, neu y byddai difrifoldeb neu gymhlethdod yr achos yn gofyn am sgiliau ymchwilydd PIP2.
Er nad yw difrifoldeb a/neu gymhlethdod wedi'u diffinio, mae canllawiau dyrannu troseddau'r heddlu yn nodi'r canlynol fel ystyriaethau:
Difrifoldeb a/neu gymhlethdodau
|
Graddio risg |
Cyfrifoldeb ymchwilio |
Nodyn |
Cyfrifoldeb diogelu |
|
Safonol |
Uned Ymchwilio i Droseddau |
|
Swyddog â gofal |
|
Canolig |
Uned Ymchwilio i Droseddau |
Heb drais neu drosedd rywiol ddifrifol arall, anafiadau niwed corfforol difrifol, neu’n ddifrifol a chymhleth |
Swyddog â gofal gyda swyddog diogelu pobl fregus yn adolygu’r cynllun rheoli risg |
|
Risg uchel |
Uned Ymchwilio i Droseddau |
Pob achos cam-drin domestig sydd â sgôr risg uchel |
Swyddog Diogelu Pobl Fregus / Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig / Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol |
|
Unrhyw risg |
CID |
Os yw'n drais neu drosedd rywiol ddifrifol arall, yn gysylltiedig â niwed corfforol difrifol, neu’n ddifrifol a chymhleth |
Cyfrifoldebau ar gyfer sicrhau bod troseddau’n cael eu pennu’n effeithiol:
Adolygiad Risg Eilaidd a Chynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg
Plant sy’n agored i Gam-drin Domestig
Pan nodir bod plentyn yn rhan o deulu lle mae unrhyw gam-drin domestig wedi digwydd, nodir y gall yr effaith ar y plentyn hwnnw fod yn niweidiol gyda thrawma yn para am oes. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud y canlynol:
Os nodir bod plentyn mewn perygl o niwed sylweddol, yna disgwylir i’r swyddog sy’n cyflwyno’r Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â cham- drin domestig, stelcio ac aflonyddu gyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â phlant ar wahân a fydd yna’n cychwyn trafodaeth ynghylch strategaeth diogelu plant.
Llais y Plentyn
Os oes plant wedi’u henwi ar Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â cham- drin domestig, RHAID i’r swyddog gipio llais y plentyn o fewn yr hysbysiad.
Os oes plentyn yn bresennol pan mae’r heddlu yno, mae angen cipio’r canlynol o fewn y maes Llais y Plentyn o fewn yr Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â phlant:
*Os oes plentyn yn bresennol ond mae’n ymddangos ei fod yn cysgu, RHAID i swyddogion ddefnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu pa un ai a ddylid deffro’r plentyn/plant. Rhaid cydbwyso hyn yn erbyn y gofyniad diogelu â’r effaith emosiynol/seicolegol o ddeffro’r plentyn er mwyn cipio ei lais. Gallai’r swyddog dal gipio manylion ‘Ymddangosiad ac Amgylchedd’ o fewn yr Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â cham-drin domestig. Dylid nodi’r rhesymau dros beidio â deffro’r plentyn/plant o fewn y maes ‘Llais y Plentyn’ ar yr Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd.
Os nad yw’r plentyn/plant yn bresennol, RHAID i’r swyddog gipio’r elfen Amgylchedd o fewn yr Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd sy’n ymwneud â cham-drin domestig.
Cam-drin Rhieni gan Blant
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod Cam-drin Rhieni gan Blant fel math o Gam- drin Domestig. Ar hyn o bryd, does dim diffiniad cyfreithiol o Gam-drin Rhieni gan Blant. Fodd bynnag, caiff ei gydnabod yn gynyddol fel math o Gam-drin Domestig, a chan ddibynnu ar oed y plentyn, gall ddod o dan diffiniad swyddogol y llywodraeth o gam-drin a thrais domestig (dros 16).
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod Cam-drin Rhieni gan Blant yn fater gydol oes. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol ar gyfer y berthynas rhwng rhiant a phlentyn, gan gynnwys cam-drin rhieni gan blant ifanc, pobl ifainc a phlant sy’n oedolion.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio mewn partneriaeth â Parent Educational Growth Support (PEGS) drwy gyfeirio dioddefwyr cam-drin rhieni gan blant atynt unwaith y ceir caniatâd hyddysg. Bydd HDP yn glynu wrth y Canllawiau Rhanbarthol ar Gam-drin Rhieni gan Blant a grëwyd gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Tynnu cwyn dioddefwr yn ôl
Mae sawl rheswm pam mae dioddefwyr yn ceisio tynnu eu cwyn am gam-drin domestig yn ôl. Efallai bod eu camdriniwr yn eu bygwth; mae gormod o ofn arnynt; mae aelodau eraill o’r teulu’n dwyn perswâd arnynt; maent wedi cymodi â’u camdriniwr; maent yn dewis parhau drwy’r llysoedd sifil; neu maen nhw’n teimlo nad ydynt eisiau rhoi tystiolaeth yn y llys a mynd drwy’r broses farnwrol. Ceir pwerau sy’n caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) gyflwyno tystiolaeth y dioddefwr heb fod angen iddo fod yn bresennol yn y llys.
Pan mae dioddefwr yn dweud ei fod eisiau tynnu ei gefnogaeth yn ôl ar gyfer y broses erlyn, dylid cymryd datganiad sy’n nodi ac yn disgrifio unrhyw resymau dros dynnu’n ôl. Pan fydd ar gael, ar gyfer achosion ôl-gyhuddo, dylai Swyddog Diogelu Pobl Fregus gymryd datganiad tynnu’n ôl ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig perygl Uwch/Canolig/Safonol. Y swyddog hwnnw sydd yn y sefyllfa orau i drafod oblygiadau llawn y cam hwn gyda dioddefwr. Os nad yw’r Swyddog Diogelu Pobl Fregus ar gael, dylai’r swyddog sy’n cymryd datganiad tynnu’n ôl geisio cyngor Swyddog Diogelu Pobl Fregus neu Oruchwylydd neu Dditectif Ringyll CID.
Dylai pob datganiad tynnu’n ôl gynnwys y canlynol:
Bydd adroddiad gan swyddog â gofal (MG6(DA)) yn cyd-fynd â datganiad tynnu’n ôl y dioddefwr
Cwblhad canlyniad 16 – angen awdurdodiad Arolygydd
Rhaid i arolygwyr awdurdodi gweithredu Canlyniad 16 ar gyfer pob digwyddiad Cam- drin Domestig. Rhaid i arolygwyr fod yn fodlon ar yr isod cyn cadarnhau y gellir ffeilio’r mater o dan Ganlyniad 16:
Gwarediad y Tu Allan i’r Llys ac arfau dargyfeiriol ar gyfer ymchwiliadau Cam- drin Domestig
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn Arfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona a chanllawiau GEG ar y defnydd o warediadau y tu allan i’r llys ar gyfer achosion Cam- drin Domestig.
Defnyddio Cyfiawnder Adferol
Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi’r defnydd o gyfiawnder adferol mewn achosion Cam-drin Domestig. Ni ddylid defnyddio cyfiawnder adferol fel gwarediad ar gyfer unrhyw drosedd Cam-drin Domestig. Mae gan bob dioddefwr yr hawl i dderbyn gwybodaeth am gyfiawnder adferol gan yr heddlu, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig, ond nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi defnyddio cyfiawnder adferol ar gyfer unrhyw drosedd Cam-drin Domestig.
Rhybuddion Syml Oedolion
Nid yn aml y mae rhybuddion yn briodol mewn achosion cam-drin domestig. Wrth natur, maen nhw’n cynnwys y ffactor gwaethygol o dor-ymddiriedaeth ac nid yw cam- drin yn cael ei adrodd yn syth ar ôl yr achos cyntaf yn aml iawn. Gall ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol hefyd ddylanwadu ar farn y dioddefwr ar rybudd. Gan hynny, cyhuddiad yw’r dewis sy’n cael ei ffafrio bob amser pan mae’r achos yn pasio’r profion budd cyhoeddus a thystiolaethol. Mewn egwyddor, os oes digon o dystiolaeth i rybuddio, mae digon o dystiolaeth i gyhuddo. Gall fod budd cyhoeddus neu resymau eraill dros beidio â pharhau ag erlyniad mewn achos penodol – yn yr achosion hynny, gellir ystyried rhybudd fel dewis arall yn lle ‘Dim Gweithredu Pellach’.
Gellir ond ystyried rhybuddion yn warediad priodol pan mae’r prawf tystiolaethol wedi’i basio, ac mae’r canlynol wedi’u hystyried (Gall yr heddlu ond gwneud penderfyniadau ynghylch cyhoeddi rhybuddion ar droseddau naill ffordd neu’r llall ac NID troseddau ditiadwy YN UNIG):
Cam-drin Domestig sy’n cynnwys Trais, Trosedd Rywiol, Stelcio neu droseddau Aflonyddu:
Cam-drin Domestig HEB Drais, Trosedd Rywiol, Stelcio neu droseddau Aflonyddu:
Ni ddylid defnyddio rhybuddion oherwydd eu bod yn ymddangos yn ddewis haws nag adeiladu ffeil erlyniad. Dylai goruchwylwyr fonitro unrhyw rybuddion a weinyddir mewn achosion Cam-drin Domestig yn agos.
Rhaid i swyddog o reng Arolygydd neu uwch awdurdodi pob rhybudd ar gyfer digwyddiadau sy’n ymwneud â cham-drin domestig a rhaid rhoi rhesymeg glir ar y cofnod ymholiad digwyddiad sy’n cynnwys yr ystyriaethau uchod.
Rhybuddion Amodol a Rhybuddio a Cham-drin Perthynas (CARA)
Mae ymyrraeth Rhybuddio a Cham-drin Perthynas (CARA) yn gorwedd o fewn y system Cyfiawnder Troseddol fel ymyrraeth gynnar sy’n targedu troseddwyr cam-drin domestig sy’n bodloni meini prawf penodol ac sy’n derbyn Rhybudd Amodol. O dan y fframwaith datrysiad y tu allan i’r llys newydd, defnyddir CARA ar gyfer troseddwyr sy’n derbyn Rhybudd Dargyfeiriol.
Mae CARA yn cefnogi troseddwyr i wneud dewisiadau gwell o ran ymddygiad yn eu perthnasau. Mae’n hyrwyddo diogelwch teulu’r troseddwr drwy wasanaeth cyswllt dioddefwyr cysylltiedig sy’n cynnig diogelu a chefnogaeth.
Mae CARA yn hyrwyddo gwell ymateb Cyfiawnder Troseddol ar gyfer dioddefwyr Cam-drin Domestig –
Ceir manylion pellach am y broses CARA o fewn y ddogfen weithdrefn gysylltiedig.
Datrysiadau Cymunedol Oedolion
Eto, mae Datrysiadau Cymunedol Oedolion yn annhebygol o fod yn briodol fel gwarediad cam-drin domestig. Dylai ymchwilwyr wastad ceisio Cyhuddo troseddwr o gam-drin domestig, ac os nad yw erlyniad o fudd i’r cyhoedd, dylid ystyried Rhybudd Syml gan ddefnyddio’r canllawiau uchod ar Rybuddion Cam-drin Domestig. Os bydd y drwgdybyn yn gwneud cyfaddefiad llawn ac nid yw Cyhuddiad neu Rybudd o fudd i’r cyhoedd, er bod hynny’n annhebygol, gellir ystyried datrysiad cymunedol oedolion ar gyfer achosion cam-drin domestig heb fod o natur bersonol a heb fod yn dreisgar. Bydd yr amgylchiadau hyn yn cael eu hystyried fel rhai eithriadol, ac mae angen awdurdod y Prif Arolygydd. Rhaid cofnodi’r rhesymeg lawn ar y system Niche, gan amlinellu ei benderfyniad ynglŷn â pham oedd Cyhuddiad neu Rybudd yn amhriodol yn glir.
*Gan na ellir defnyddio’r cynllun dargyfeiriol ar gyfer troseddau rhywiol neu gam-drin domestig, mae’n annhebygol y byddai datrysiad cymunedol oedolion yn briodol dros Rybudd syml.
Dylid defnyddio’r matrics difrifoldeb oedolion wrth ystyried gwarediad drwy gyfrwng Datrysiad Cymunedol. Ni ddylid cyhoeddi datrysiad cymunedol oedolion ar gyfer y canlynol:
Canllawiau 2023 ar gyfer Datrysiadau Cymunedol Oedolion f6:
Y Cynllun Datgelu Trais Domestig
Mae gan yr heddlu bwerau cyfraith gyffredin i ddatgelu gwybodaeth, yn fras lle mae angen dybryd i amddiffyn pobl. Yn y cyd-destun hwn, mae’r pwerau hyn yn sail i ddatgeliadau o dan y Cynllun Datgelu Trais Domestig, sy’n golygu yn ymarferol y gellir rhannu gwybodaeth am hanes hysbys rhywun o drais neu gam-drin, sydd fel arfer yn ymwneud ag euogfarnau neu gyhuddiadau blaenorol, i aelodau o’r cyhoedd lle mae angen dybryd am ddatgelu’r wybodaeth er mwyn atal rhagor o droseddu.
Prif nod y Cynllun Datgelu Trais Domestig yw cyflwyno gweithdrefnau cydnabyddedig a chyson ar gyfer arfer y pŵer hwn yn y cyd-destun hwn, er mwyn galluogi’r heddlu i ddatgelu gwybodaeth lle byddai’n amddiffyn aelod o’r cyhoedd a allai fod mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig.
Mae gan y cynllun ddwy elfen: yr “Hawl i Ofyn” a’r “Hawl i Wybod”.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn glynu wrth Ganllawiau Statudol Cynllun Datgelu Trais Domestig y Swyddfa Gartref (Ebrill 2023) ac yn cydymffurfio â mapio prosesau mewnol.
Trafodaethau Amlasiantaeth
Yr Hawl i Ofyn – Bydd pob achos sy’n cael ei ystyried yn achos Perygl Uwch yn cael ei gyfeirio at fforwm Trafodaeth Dyddiol (MARAC). Ni fydd achosion Perygl Safonol a Chanolig yn cael eu trafod fel arfer, heblaw eu bod wedi’u cyfeirio drwy farn proffesiynol.
Yr Hawl i Wybod – Bydd pob achos sy’n cael ei gyfeirio at yr Uned MARAC gan bartneriaid allanol yn cael ei gyfeirio at fforwm Trafodaeth Dyddiol (MARAC).
Bydd y fforwm yn cynnwys 3 Asiantaeth arall o leiaf – asiantaethau craidd – sef yr Heddlu/y Gwasanaeth Prawf/Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu yn y fforwm hwn a diogelu’n cael ei drafod. Gall gwybodaeth a rennir mewn paneli amlasiantaeth hysbysu ystyriaethau o gwmpas datgelu lle bo’n berthnasol, ond yr heddlu sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol o ran pa un ai a i ddatgelu ai peidio.
Cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu
Fel swyddogion a staff yr heddlu, yr ydym yn dal swyddi o awdurdod a phŵer. Mae ein cymunedau’n ymddiried ynom i ymateb i adroddiadau am Gam-drin Domestig, cefnogi dioddefwyr a dwyn troseddwyr i gyfiawnder. Pan mae cam-drin domestig yn cael ei gyflawni gan un o weithwyr y sefydliad, yr ydym yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn ymateb i adroddiadau o’r fath yn adlewyrchu ar ein sefydliad a’r hyder sydd gan ein staff a’n cymunedau yn ein hymrwymiad i fynd i’r afael â Cham-drin Domestig. Deallwn fod hyder mewn plismona’n cael ei erydu yn absenoldeb ymateb cadarn a thryloyw. Does dim lle ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan mewn Cyflawni Cam-drin Domestig o fewn plismona.
Mae Cam-drin Domestig yn ymddygiad annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef gan Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio’n gadarn i honiadau o gam-drin domestig a gall cyflawnwyr a geir yn euog mewn achosion troseddol a/neu ddisgyblu dilynol o droseddau o’r fath gael eu diswyddo o’r gwasanaeth.
Wrth ystyried mesurau disgyblu, mae'n hanfodol nad yw diogelwch y dioddefwr a'i blant yn cael ei beryglu.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dal i ystyried y defnydd o gamau disgyblu yn erbyn Swyddogion/Staff yr honnir eu bod wedi cyflawni cam-drin domestig. Yn absenoldeb euogfarn droseddol, efallai y bydd achos disgyblu yn dal i gael ei gynnal, gyda'r ystod lawn o sancsiynau disgyblu ar gael, gan gynnwys diswyddo. Bydd mesurau asesu risg yn cael eu hadolygu gan y rheolwr llinell, ac ar y cyd â'r Adran Safonau Proffesiynol.
Ymchwiliadau (troseddol a chamymddwyn)
Os yw aelod o staff yn profi neu wedi profi cam-drin domestig
Cydnabyddir bod holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn ddinasyddion cyhoeddus yn gyntaf ac yn flaenaf.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y gallai ein gweithwyr fod yn ddioddefwyr Cam-drin Domestig. Rhaid trin Swyddogion Heddlu neu aelodau staff sy’n ddioddefwyr cam-drin domestig felly. Ni ddylid disgwyl i ddioddefwyr sy’n aelodau o’r heddlu ymateb neu ymddwyn yn unol â’u hyfforddiant neu brofiad gwaith. Dylid eu trin â’r un urddas a pharch a rhoi iddynt yr un lefel o wasanaeth ag y byddai unrhyw aelod arall o’r cyhoedd yn derbyn, gan gofio hefyd bod gan wasanaethau heddlu’r un rhwymedigaethau ag unrhyw gyflogwr arall i gefnogi eu gweithwyr a’u diogelu nhw a’u cydweithwyr.
Gall dioddefwyr Cam-drin Domestig sy’n aelodau o’r heddlu fod yn ddioddefwyr cyflawnwyr sy’n aelodau o’r heddlu neu gyflawnwyr sydd ddim yn aelodau o’r heddlu.
Wrth ymdrin ag unrhyw aelod o staff sy’n dioddef neu sydd wedi profi cam-drin domestig, rhaid i’r rheolwr wneud y canlynol:
Egwyddorion Allweddol a Chamau Gweithredu:
* Dylid ymgynghori â’r Adran Safonau Proffesiynol bob amser mewn achosion lle mae’r dioddefwr a’r troseddwr yn aelodau o Bersonél yr Heddlu.
Bydd dioddefwyr cam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu, gan gynnwys dioddefwyr sydd hefyd yn swyddogion heddlu neu aelodau o staff yr heddlu, yn cael yr un lefel o wasanaeth â dioddefwyr eraill cam-drin domestig. Byddant yn cael cynnig cymorth cyfrinachol o ffynonellau mewnol ac allanol. Bydd ganddynt fynediad i'r un lefel o gymorth heddlu, os oes angen, trwy drefniadau i gyrchu hwn gan isadran heddlu neu heddlu arall.
Penodir swyddog lles priodol, a fydd yn sicrhau y gwneir cyfeiriadau cymorth dioddefwyr perthnasol. Gallai’r swyddog lles fod o’r Adran Safonau Proffesiynol, neu’r Ardal Blismona Leol. Ar gyfer achosion perygl uwch, fel arfer, bydd y swyddog lles yn Swyddog Diogelu Pobl Fregus. Mewn achosion perygl Safonol / Canolig, efallai mai goruchwylydd y dioddefwr, y swyddog â gofal, neu unigolyn dibynadwy arall a nodir gan y dioddefwr fydd y swyddog lles.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n aelodau o’r heddlu’n cael esboniad llawn o’r adran berthnasol hon o’r Polisi Cam-drin Domestig ac yn cael eu hysbysu’n llawn am gynnydd ymchwiliadau mewnol a phrosesau camymddwyn. Darperir copi o’r Polisi Cam-drin Domestig.
Dylai personél yr heddlu sy'n darparu gwybodaeth o'r fath fod o reng briodol a meddu ar y sgiliau a hyfforddiant priodol. Y nod yw y bydd ymchwiliadau troseddol a chamymddwyn yn cael eu cynnal gan ymchwilwyr yr Adran Safonau Proffesiynol sydd wedi'u hachredu ar Lefel 2 y Rhaglen Proffesiynoli Ymchwiliadau (PIP); mae ymchwilwyr o fewn yr adran hefyd wedi'u hyfforddi mewn cam-drin domestig a throseddau rhywiol ac mae ganddynt brofiad ym maes amddiffyn y cyhoedd.
Cyfrinachedd
Mae cynnal hyder y dioddefwr a'r cyhoedd yn hanfodol i hygrededd yr heddlu.
Os yw adrodd yn cael ei annog, rhaid bod mesurau diogelu digonol yn eu lle i atal cam-drin pellach er mwyn lleihau trallod i'r dioddefwr, ac i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei thrin yn ofalus lle bynnag y bo modd.
Bydd cyfyngiadau priodol yn cael eu gweithredu ar adeg cofnodi mewn perthynas â STORM, a digwyddiadau lle mae'r sawl a ddrwgdybir yn swyddog heddlu a/neu'n aelod o staff yr heddlu.
Gweithredir cyfyngiadau hefyd lle mae’r dioddefwr yn swyddog heddlu a / neu’n aelod o staff yr heddlu; fodd bynnag, ceir ystyriaeth drylwyr mewn perthynas â gweithredu cyfyngiadau o ystyried y perygl posibl a gyflwynir i ddioddefwr os nad oes gan eraill, a allai gael achos i ymateb i alwadau am wasanaeth yn y dyfodol, wybodaeth am y digwyddiad.
Bydd mynediad i gynnwys cofnodion cyfyngedig yn gyfyngedig i bersonél Safonau Proffesiynol a Gwrthlygredd, yn ogystal ag unrhyw bersonél y mae angen mynediad iddynt i gynorthwyo gyda rheoli gweithdrefnau troseddol a diogelu.
Yn ogystal, bydd gan Reolwr Digwyddiadau’r Heddlu fynediad fel adnodd 24/7 gyda'r gallu i ganiatáu mynediad pellach lle bo angen er mwyn cyflymu a rheoli camau ymchwilio a diogelu parhaus yn effeithiol.
Cymorth
**Bydd y dioddefwr yn cael cynnig y dewis i dderbyn cymorth gan wasanaeth Trydydd Sector/Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig o Ardal Blismona Leol heblaw’r un lle mae’n gweithio. O ystyried cysylltiadau posibl swyddogion/staff amrywiol â’r gwasanaethau hyn yn ystod eu swydd, cydnabyddir y gall hyn fod yn rhwystr i dderbyn cymorth fel dioddefwr**
Tabl ymchwilio i gam-drin domestig a gyflawnir gan yr heddlu
|
Dioddefwr |
Troseddwr |
Uned Ymchwilio |
Yr Ardal sy’n Berchen ar yr Ymchwiliad i Gychwyn |
|||
|
Aelod Heddlu |
o’r |
Aelod Heddlu |
o’r |
Adran Proffesiynol |
Safonau |
Nid yw’r ardal blismona leol yn gysylltiedig â’r dioddefwr na’r cyflawnwr |
|
Ddim Aelod Heddlu |
yn o’r |
Aelod Heddlu |
o’r |
Adran Proffesiynol |
Safonau |
Nid yw’r ardal blismona leol yn gysylltiedig â’r dioddefwr na’r cyflawnwr |
|
Aelod Heddlu |
o’r |
Ddim Aelod Heddlu |
yn o’r |
Adran Ymchwilio i Droseddau / Uned Ymchwilio Leol |
Nid yw’r ardal blismona leol yn gysylltiedig â’r dioddefwr na’r cyflawnwr (heblaw bod y dioddefwr eisiau i’r ymchwiliad aros o fewn ei ardal blismona leol) |
|
Chwalu Rhwystrau Adrodd
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys swydd yr ymddiriedir ynddi o fewn ein cymunedau ac felly nid oes lle i'r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig o fewn y sefydliad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn edrych yn barhaus i godi ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn allanol er mwyn magu hyder yn y prosesau ymchwilio troseddol a/neu ddisgyblaethol cadarn a thryloyw; trwy ymgysylltu a rhannu gwybodaeth, rydym yn gobeithio nodi a goresgyn rhwystrau i adrodd.
Rheoli Troseddwyr ac Adsefydlu
Mae rheoli ac adsefydlu troseddwyr yn effeithiol yn hanfodol i'n nod o ddileu cam-drin domestig. Mae ymchwil helaeth yn amlygu parhad patrymau ymddygiad troseddol yn absenoldeb her gadarn.
Llywodraethu
Y swyddog arweiniol yw'r Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus, sy'n gyfrifol am yr arweinydd strategol ar gyfer Bregusrwydd, a chydlynu Polisïau.
Rheolir Cam-Drin domestig o dan y portffolio Bregusrwydd, sy'n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Bregusrwydd Strategol, sy'n cael ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol.
Mae Portffolio Bregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd cyfeiriad strategol o'r Cynllun Gweithredu Bregusrwydd Cenedlaethol a'r Strategaeth Genedlaethol Trais yn Erbyn Menywod a Merched.
Archwiliadau
Bydd y tîm Perfformiad yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi archwiliadau Arolygydd o Ganlyniadau archwilio Cam-drin Domestig 14, 15, 16. Bydd y canfyddiadau o’r archwiliadau’n cael eu hadrodd wrth y Grŵp Safonau Ymchwilio a Grŵp Perfformiad Misol y Dirprwy Brif Gwnstabl sy’n Canolbwyntio ar y Dioddefwr.
Bydd y Ditectif Arolygydd o fewn y Ganolfan Fregusrwydd yn gyfrifol am archwilio prosesau rhannu gwybodaeth a swyddogaethau o fewn yr Uned Asesu Risg Eilaidd. Rhennir y canfyddiadau yn y portffolio Bregusrwydd sy’n cael ei oruchwylio gan y Grŵp Bregusrwydd Strategol a gadeirir gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol.
Deall y bygythiad
Mae cam-drin domestig yn destun y Gofynion Plismona Strategol, sy’n gosod dyletswydd ar heddluoedd i ddeall y bygythiad a’u gallu i fynd i’r afael â’r bygythiad hwnnw.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2025