Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw amlinellu ymateb Heddlu Dyfed-Powys ynghylch cam-drin plant ac amddiffyn plant.
Bydd y polisi hwn yn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cyflawni ymagwedd gyson a phroffesiynol wrth blismona achosion o gam-drin plant ac amddiffyn plant sy’n wynebu risg er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu, a bod unrhyw achosion o gam-drin plant yn cael eu hymchwilio’n briodol ac yn drylwyr.
Mae’n berthnasol i holl swyddogion a gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys sy’n ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â phlant, o’r pwynt cyswllt cyntaf, trwy ymchwiliad ac erlyniad.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi ystyriaeth arbennig i ddiogelu plant, yn anoddefgar tuag at unrhyw gam-drin neu esgeulustod a bydd yn nodi’r unigolion a allai fod yn fregus, ac yn asesu a ydynt yn wynebu risg o niwed, gan ddelio ag unrhyw bryderon diogelu uniongyrchol a gweithio gydag asiantaethau eraill i roi camau gweithredu ar waith er mwyn atal cam-drin neu niwed pellach yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â byrddau diogelu rhanbarthol yn unol â’u protocolau amlasiantaeth. Cysur | Polisïau a Gweithdrefnau Rhanbarthol
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Gweithredir y polisi hwn ar draws yr heddlu.
Bydd y polisi'n cael ei adolygu'n flynyddol a'i ddiweddaru yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau. Dylid dogfennu unrhyw wyro oddi wrth y polisi hwn yn glir gyda'r rhesymeg briodol. Bydd y dogfennau polisi a gweithdrefn yn amlinellu’r ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio fel sefydliad a chyda’n partneriaid amlasiantaethol i wneud y canlynol:
Diffiniadau
Plentyn – Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau cysylltiedig yn diffinio ‘plentyn’ fel person dan 18 oed.
Plentyn sy'n wynebu risg – mae adran 130 (4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn diffinio plentyn sy’n wynebu risg yw plentyn:
Mae’n bwysig nodi’r canlynol:
Caiff niwed ei ddiffinio fel a ganlyn:
Niwed sylweddol
Pryderon ynghylch niwed sylweddol tebygol neu wirioneddol i blentyn yw’r trothwy ar gyfer cychwyn ymholiadau adran 47 o dan Ddeddf Plant 1989. Nid oes diffiniad statudol o niwed sylweddol. Felly, rhaid i ymarferwyr ystyried y canlynol:
Mathau o niwed
Isod ceir rhestr anghyflawn o enghreifftiau.
Gall y perygl o niwed gwirioneddol neu niwed posibl arall i blentyn neu berson ifanc hefyd ddeillio o’r canlynol:
Plant coll
Gall plentyn sydd ar goll (boed wedi’i adrodd ai peidio) neu deulu neu blentyn sy’n colli apwyntiadau pwysig (er enghraifft, gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol) a/neu yr amheuir ei fod wedi symud allan o’r ardal leol heb rybudd fod yn arwydd o gam-drin plant. Gall plant sy’n mynd ar goll fod yn wynebu risg tra eu bod ar goll a/neu efallai eu bod wedi rhedeg i ffwrdd er mwyn dianc rhag cael eu cam-drin.
Cyn dychwelyd plant coll, dylid gwneud ymholiadau i ddarganfod y rhesymau dros eu diflannu trwy gyfweliadau ‘diogel ac iach’. Gall yr ymholiadau hyn arwain at bryderon pellach am y plentyn a datgelu achosion o gam-drin. Mewn rhai achosion gellir dod o hyd i blentyn nad yw wedi cael ei hysbysu i’r heddlu fel plentyn sydd ar goll, efallai oherwydd bod y plentyn wedi'i wahardd yn fwriadol o amgylchedd y cartref. Mewn achosion o’r fath dylai swyddogion ystyried diogelwch y plentyn a pha mor fregus ydyw.
Gall gwybodaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod ymchwiliadau i bobl ar goll (er enghraifft, pan fydd plentyn neu blant yn cael eu canfod yn rheolaidd yn yr un cyfeiriad neu gyda'r un unigolyn) ddangos bod angen ymchwiliad pellach.
Ysgrifennir y polisi hwn yn unol â'r .
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau uchod gan gydnabod y canllawiau a nodir yn Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona mewn perthynas â cham-drin plant a diogelu plant.
Mae adran 46 o Ddeddf Plant 1989 yn darparu pŵer argyfwng sy’n caniatáu i unrhyw swyddog heddlu amddiffyn plentyn y credir yn rhesymol ei fod yn wynebu risg o niwed sylweddol. Mae’r ddeddf hon yn grymuso swyddog i symud plentyn i lety addas neu atal plentyn rhag cael ei symud o ysbyty neu le arall lle mae’r plentyn hwnnw’n cael ei letya. Pan fydd y pwerau hyn yn cael eu harfer, ystyrir bod y plentyn yn cael ei amddiffyn gan yr heddlu. Nid yw amddiffyniad yr heddlu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i’r heddlu ac nid yw, er enghraifft, yn rhoi’r gallu i’r heddlu gydsynio ar ran y plentyn i archwiliad meddygol fforensig. Ni chaniateir cadw unrhyw blentyn dan amddiffyniad yr heddlu am fwy na 72 awr. Dim ond pan fo angen eu defnyddio am resymau sy'n ymwneud â diogelwch uniongyrchol y plentyn y dylid defnyddio pwerau amddiffyn yr heddlu.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol ac yn gysylltiedig â pholisïau eraill yr heddlu a dylid ei ystyried ochr yn ochr â nhw. Y polisïau hyn yw –
Egwyddorion cyffredinol
Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob asiantaeth, gan gynnwys yr heddlu, i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, sy’n cynnwys rhannu pryderon yn gynnar er mwyn annog camau ataliol.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn bartner sefydliadol i’r bwrdd diogelu rhanbarthol. Bydd Heddlu Dyfed-Powys, ynghyd â’i asiantaethau partner, yn amddiffyn plant sy’n wynebu risg o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod yn y ffyrdd canlynol:
Egwyddorion diogelu
Er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu’n effeithiol, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd y camau canlynol:
Dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn
Mae Heddlu Dyfed-Powys, yn unol â Rhan 2.6(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cydnabod y canlynol:
Chwilfrydedd proffesiynol
Wrth ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â phlant, rhaid i staff ddangos chwilfrydedd proffesiynol er mwyn archwilio a deall beth sy’n digwydd i unigolyn, neu o fewn teulu, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau neu dderbyn pethau heb eu cwestiynu.
Anogir swyddogion a staff i wneud y canlynol:
Llais y plentyn
Mae angen ystyried llais y plentyn bob tro y mae swyddog heddlu yn ymchwilio i bryder amddiffyn plant gan ddefnyddio’r cofair AWARE. Mae staff yn cael eu cyfarwyddo i ddefnyddio eu chwilfrydedd proffesiynol wrth ystyried y ffactorau canlynol o brofiadau bywyd plentyn –
A – Appearance (edrychiad)
W – Words (geiriau)
A – Activity and Behaviours (gweithgarwch ac ymddygiadau)
R – Relationships and Dynamics (perthnasoedd a dynameg)
E – Environment (amgylchedd)
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Bydd yr heddlu yn defnyddio dull sy’n ystyriol o drawma ar gyfer pob achos sy’n gofyn am ymateb sy’n amddiffyn plant neu’n cynnig cymorth cynnar. Bydd hyn yn cynnwys asesu a dogfennu ffactorau gwydnwch plant i’w rhannu â phartneriaid fel rhan o asesiadau parhaus y plentyn.
I gydnabod effaith trawma yn ystod plentyndod, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi’r penderfyniad i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol, fel y nodir yn Neddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Dyletswyddau asiantaethau partner perthnasol
Mae dyletswydd gyfreithiol ar asiantaethau partner perthnasol i adrodd am bryderon i’r awdurdod lleol os oes ganddynt wybodaeth am bryderon neu amheuon bod plentyn wedi dioddef, neu’n wynebu risg o ddioddef niwed sylweddol.
Mae partneriaid perthnasol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) yr awdurdod lleol, gwasanaethau iechyd a'r heddlu.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn amlygu unrhyw bryderon diogelu drwy gyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd i’r awdurdod lleol. Mae pedwar awdurdod lleol o fewn cyfansoddiad daearyddol Heddlu Dyfed-Powys; sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Powys.
Rhaid i swyddogion heddlu a staff heddlu sy'n ymwneud â'r broses ymchwilio feddu ar y cymwysterau, y cymwyseddau a'r sgiliau priodol. Un o elfennau allweddol ymateb effeithiol yr heddlu i gam-drin plant yw ymagwedd gyfannol, teulu cyfan at yr ymchwiliad a chamau gweithredu cysylltiedig yr heddlu a chamau amlasiantaethol cysylltiedig. Yn y mwyafrif o achosion o gam-drin plant bydd hyn, o reidrwydd, yn cynnwys ymchwilwyr cam-drin plant arbenigol.
Mae’r holl staff yn yr Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) yn ymchwilwyr sydd wedi cyflawni hyfforddiant Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio lefel 2 a hyfforddiant cam-drin plant arbenigol, neu’n gweithio tuag at hyn dan gyfarwyddyd goruchwylwyr hyfforddedig. Yn adran CID rhai ardaloedd plismona lleol ceir Cyd-unedau Ymchwilio penodedig sy’n ymdrin â’r ymchwiliadau amddiffyn plant i sicrhau bod unrhyw weithgarwch ymchwilio a diogelu yn amserol. Yna gellir dyrannu ymchwiliadau hirfaith i swyddog sydd wedi'i hyfforddi'n briodol o'r adran CID i sicrhau bod swyddogion y Cyd-uned Ymchwilio yn gallu bwrw ymlaen ag atgyfeiriadau mewn modd amserol. Cyfrifoldeb y Ditectif Brif Arolygydd lleol yw sicrhau bod yr holl staff yn yr adrannau hyn wedi'u hyfforddi'n briodol ac yn gymwys i gyflawni eu rôl neu ar y llwybr tuag at hyn.
Y swyddog arweiniol yw'r Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus, sef yr arweinydd strategol ar gyfer Bregusrwydd.
Mae Comander yr Ardal Blismona Leol a'r Ditectif Brif Arolygydd yn gyfrifol am y canlynol:
Drwy gymhwyso’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu’n unol â’r egwyddorion plismona moesegol gan ddangos dewrder, parch, empathi a gwasanaeth cyhoeddus.
Rheolir cam-drin plant ac amddiffyn plant o dan y portffolio Bregusrwydd a gaiff ei oruchwylio gan y Bwrdd Bregusrwydd Strategol a’i gadeirio gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol bob chwarter.
Mae Portffolio Bregusrwydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn cyfeiriad strategol y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Bregusrwydd.
Caiff ymateb yr heddlu i ymchwiliadau sy'n ymwneud ag amddiffyn pobl fregus ei reoli gan bob Ditectif Brif Arolygydd yr Ardaloedd Plismona Lleol, wedi’i oruchwylio gan y Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus.
Y Ditectif Brif Arolygydd gyda chyfrifoldeb dros y Portffolio Bregusrwydd sy’n gyfrifol am lunio adolygiad blynyddol o ymateb yr heddlu i amddiffyn pobl fregus, yn ogystal â llunio Datganiad Rheoli'r Heddlu, sy’n canolbwyntio ar y capasiti a'r gallu yn y maes arbenigol hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhan o’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac mae’r Pennaeth Diogelu Pobl Fregus, neu gynrychiolydd enwebedig, yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd gweithredol bob chwarter gyda’r bwrdd ac arweinwyr eraill o’r partner-asiantaethau perthnasol. Mae'r broses hon yn dal y sefydliad i gyfrif ar y lefel weithredol ar draws pob maes o Fregusrwydd, gan gynnwys cam-drin plant ac amddiffyn plant.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu yn unol â’n protocol diogelu amlasiantaethol rhanbarthol ar gyfer datrys gwahaniaethau proffesiynol lle bo’n berthnasol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Awst 2024