Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi yw sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys ymagwedd cyson a phroffesiynol at blismona digwyddiadau o gam-fanteisio troseddol sy’n ymwneud ag oedolion a phlant.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried bod camfanteisio troseddol yn cynnwys y canlynol.
Mae Dyfed-Powys yn mabwysiadu’r diffiniad canlynol ar gyfer Camfanteisio’n Droseddol ar Blant, fel y nodir yn Strategaeth Trais Difrifol 2018 y Swyddfa Gartref.
Mae Camfanteisio’n Droseddol ar Blant yn digwydd pan fo unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd pŵer i orfodi, rheoli, dylanwadu neu dwyllo plentyn neu unigolyn ifanc o dan 18 oed i unrhyw weithgaredd troseddol (a) yn gyfnewid am rywbeth y mae ar y dioddefwr ei angen neu ei eisiau, a/neu (b) er budd ariannol neu fantais arall i’r cyflawnwr neu’r hwylusydd a/neu (c) drwy drais neu fygythiad o drais. Mae’n bosibl y cam-fanteisiwyd ar y dioddefwr yn droseddol hyd yn oed os yw’r gweithgaredd yn ymddangos yn gydsyniol. Nid yw Camfanteisio’n Droseddol ar Blant bob amser yn cynnwys cyswllt corfforol. Gall hefyd ddigwydd trwy ddefnyddio technoleg.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i fynd i’r afael â phob math o gamfanteisio troseddol gan gydnabod ei gyrhaeddiad y tu hwnt i ffiniau’r Heddlu. Bydd ymgysylltiad â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol a bod yna gydweithio drwy ddefnyddio cudd-wybodaeth ac asedau a rennir. Byddwn yn defnyddio’r cyfrwng sefydledig megis trefniadau’r Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) o safbwynt caethwasiaeth fodern a chamfanteisio ar blant amlasiantaethol (MACE) er mwyn sicrhau diogelu a deall y bygythiadau ehangach sy’n effeithio ar ein hardal blismona.
Lle canfyddir cam-fanteisio, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn darparu ymateb cadarn i ymchwilio i weithgarwch troseddol ac amddiffyn dioddefwyr trwy ddefnyddio gorchmynion sifil a llwybrau cymorth eraill sy’n bodoli eisoes megis y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod na fydd llawer o’r bobl y cam-fanteisir arnynt yn nodi eu hunain fel dioddefwyr ac mae angen dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr er mwyn sicrhau tystiolaeth ac ymgysylltu â mesurau diogelu. Mae’r polisi’n berthnasol i bob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff amser llawn, rhanamser, parhaol, ar gyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth) neu ar secondiad.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod yr effaith ar fywydau unigolion sy’n agored i gamfanteisio troseddol. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall hyn ei chael ar fywydau aelodau agos o’r teulu a’r gymuned ehangach.
Mae diogelu unigolion sydd mewn perygl o wynebu cam-fanteisio yn hollbwysig a dylid cydnabod bod nodi risg bosibl yn gyfle i nodi a mynd i’r afael â risgiau. Gall y rhesymau pam y nodir bod person mewn perygl o wynebu cam-fanteisio fod yn gymhleth ac yn gysylltiedig ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol neu deuluol.
Mae Camfanteisio Troseddol yn digwydd pan fydd unigolyn neu grŵp yn manteisio ar anghydbwysedd pŵer i orfodi, rheoli, dylanwadu ar neu dwyllo plentyn neu oedolyn bregus i gyflawni troseddau neu i fod yn destun gweithredoedd troseddol. Mae’n bosibl y cam-fanteisiwyd ar y dioddefwr yn droseddol hyd yn oed os yw’r gweithgaredd yn ymddangos yn gydsyniol.
Derbynnir bod y canlynol yn flaenoriaethau i Heddlu Dyfed-Powys yn ei ddull o fynd i’r afael â cham-fanteisio:
Mae’r egwyddorion uchod yn fusnes i bawb a bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arfogi ei staff a’i wirfoddolwyr i adnabod ac ymateb yn gyflym ac effeithiol i amddiffyn y rhai sydd mewn perygl o niwed.
Bydd y polisi hwn ar gael i bob aelod o staff ei ddilyn yn ystod eu dyletswyddau a bydd swyddfeydd yn cael canllawiau gweithdrefnol lleol penodol yn unol ag Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig ar ymchwiliadau i bersonau coll gan y Coleg Plismona.
Bydd yr holl staff yn dilyn egwyddorion y polisi hwn wrth ymdrin â’r patrwm adrodd, ymateb i, ac ymchwilio i adroddiadau o gamfanteisio troseddol. Bydd canllawiau Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi manylion am gyfrifoldebau’r holl bartïon sy’n ymwneud â chynnal a rheoli ymchwiliadau, o’r cyswllt cyntaf â gweithiwr yn ardal Heddlu Dyfed-Powys hyd at ddiwedd yr ymchwiliad.
Bydd canllawiau ar gael i’r holl staff ar fewnrwyd y sefydliad.
Mae diogelwch a llesiant unigolion sydd mewn perygl o wynebu cam-fanteisio yn hollbwysig. Gallai methu â nodi risgiau a’u graddio’n briodol cyn gynted â phosibl arwain at ganlyniadau difrifol.
Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
Deddf Troseddau Rhywiol 2003
Strategaeth Trais Difrifol 2018, Y Swyddfa Gartref
Mae’r canlynol yn Arferion Proffesiynol Awdurdodedig a grëwyd gan y Coleg Plismona sy’n amlinellu arfer gorau.
Arferion proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Arferion proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Puteindra a Gwaith Rhyw
Arferion proffesiynol awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Caethwasiaeth Fodern
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys dîm camfanteisio sy’n cynnwys Ditectif Ringyll a chydlynwyr ar gyfer Cam-drin a Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, Caethwasiaeth Fodern ac Unigolion Coll. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ledled yr heddlu er mwyn mynd i’r afael â chamfanteisio troseddol.
Mae’r Tîm yn cadeirio cyfarfodydd camfanteisio wythnosol gyda’r pedair ardal blismona leol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o’r tîm Camfanteisio, y Swyddfa Cudd-wybodaeth Maes a swyddogion Camfanteisio Troseddol. Y nod yw adolygu diogelu a rheoli’r holl droseddwyr enwebedig ledled yr heddlu yn ogystal ag unrhyw droseddwyr newydd, a nodwyd gan Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu drwy gudd-wybodaeth newydd a chudd-wybodaeth sy’n datblygu. Pennir pob troseddwr a reolir i'r ardal blismona leol briodol i reoli’r diogelu a nodi unrhyw gamau a nodwyd. Mae pob troseddwr yn cael ei fflagio ar system rheoli cofnodion yr heddlu (Niche) ac yn ffurfio rhan o Gyfarfodydd Bygythiad a Thasgio’r Uned Gorchymyn Sylfaenol a Grwp Datblygu Cudd-wybodaeth ur Heddlu.
Bydd y polisi hwn yn eiddo i’r Adran Ymchwilio i Droseddau – Diogelu Pobl Fregus.
Bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd a gwneud diwygiadau gofynnol mewn perthynas â newidiadau a diweddariadau i ganllawiau a deddfwriaethau cysylltiedig.
Bydd Ditectif Uwch-arolygydd Diogelu Pobl Fregus a’r Grŵp Bregusrwydd Strategol yn gwneud penderfyniadau cymeradwyo mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Mae cofnodion yr heddlu’n destun craffu ac archwilio rheolaidd er mwyn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithredu’n unol â hynny i ddiogelu pobl fregus a cheisio cymorth ar eu cyfer pan fod angen.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol:
Y Ditectif Uwch-arolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus yw’r arweinydd strategol Bregusrwydd, ac mae’n gyfrifol hefyd am gydlynu Polisïau. Rheolir Camfanteisio Troseddol o dan y portffolio Bregusrwydd, sy’n cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Bregusrwydd Strategol, gan sicrhau bod yr ymagwedd strategol a’r ymateb i fregusrwydd wedi’i ymgorffori’n llawn o fewn y sefydliad.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2025