Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo’n llwyr i amddiffyn y cyhoedd rhag troseddwyr peryglus sy’n cyflwyno perygl o niwed difrifol. Mae cyflenwi’r flaenoriaeth blismona hon yn llwyddiannus yn hanfodol ar gyfer cynnal a gwella hyder y cyhoedd yn ein heddlu a gyda’n hasiantaethau partner.
Nid yw diogelu’r cyhoedd yn rhywbeth y gallwn gyflawni ar ben ein hun. Nid oes gan yr un asiantaeth unigol y gallu i amddiffyn y cyhoedd yn ei gyfanrwydd ac mae partneriaethau cryf ac effeithiol gydag asiantaethau eraill yn allweddol ar gyfer amddiffyn cymunedau Dyfed-Powys.
Nod y polisi hwn yw sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys ymagwedd gyson a phroffesiynol tuag at reoli pobl a allai fod yn beryglus. Mae’r diben hwn wedi’i unioni ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer rheoli pobl a allai fod yn beryglus. Bydd y polisi hwn, ynghyd â dogfennau canllaw, ar gael ar safle mewnrwyd yr heddlu er mwyn cynorthwyo staff i ddeall eu cyfrifoldebau o ran adnabod risg yn gynnar a rheolaeth barhaus troseddwyr sy’n cyflwyno risg uniongyrchol o achosi niwed difrifol. Mae’r polisi hwn yn nodi sut y bydd Dyfed-Powys yn adnabod pobl yn ein cymuned a allai fod yn beryglus ac yn rheoli’r unigolion hyn drwy ymagwedd amlasiantaeth wedi’i strwythuro.
Cyflawnir hyn drwy:
(ch) Bod camau a gymerir yn gyfiawn a chymesur, ac mai dyna’r dewis lleiaf ymwthiol i’w ystyried ochr yn ochr â’r perygl a nodwyd.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr.
Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r Polisi wedi’i fwriadu i gefnogi rheolwyr, goruchwylwyr, swyddogion, staff heddlu a gwirfoddolwyr i ymdrin yn effeithiol â phob agwedd o asesu a rheoli’r peryglon a gyflwynir gan unigolion a allai fod yn beryglus.
Er nad yw wedi’i ddiffinio mewn statud, diffinnir y term ‘person a allai fod yn beryglus’ (PAB) fel unigolyn sydd heb ei euogfarnu, na’i rybuddio, ar gyfer unrhyw drosedd berthnasol, ond sy’n ymddwyn mewn modd sy’n rhoi sail resymol dros gredu bod tebygolrwydd y bydd yn cyflawni trosedd neu droseddau a fydd yn achosi niwed difrifol.
Oherwydd eu diffiniad, nid yw pobl a allai fod yn beryglus yn syrthio o fewn Protocol Lleol Dyfed-Powys a’r ddogfen bolisi ar gyfer y broses Trefniadau Amlasiantaeth Er Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA). Does dim proses statudol neu fframwaith sy’n llywodraethu eu rheoli. Fodd bynnag, mae egwyddorion eu rheoli’n debyg ym mhob agwedd i reoli troseddwyr o fewn y broses MAPPA ac mae budd clir o ddefnyddio’r fframwaith hwn.
Mae’r gofyniad a’r awdurdod i reoli pobl a allai fod yn beryglus yn gorwedd yn y rhwymedigaethau cadarnhaol o dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, fel yr ymgorfforir gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Rhain yw Erthygl 2 (yr hawl i fywyd) ac Erthygl 3 (yr hawl i ryddid rhag artaith neu gosb neu driniaeth annynol neu ddiraddiol).
Oherwydd natur anstatudol y broses reoli hon, dylid dilyn materion gweithdrefnol ychwanegol ar gyfer pobl a allai fod yn beryglus ac mae dogfen ganllaw ar gael i gynorthwyo swyddogion, staff a gwirfoddolwyr i ddilyn y broses gywir.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol i nodi a sicrhau bod cynllun rheoli risg cadarn mewn grym ar gyfer pobl a allai fod yn beryglus.
Bydd y polisi hwn ar gael i bob swyddog, staff a gwirfoddolwr i ddilyn wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau, a byddant yn derbyn canllaw gweithdrefnau lleol yn unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer rheoli Troseddwyr a Allai fod yn Beryglus.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio PAB fel rhywun nad yw’n gymwys i gael ei reoli o dan y broses Trefniadau Amlasiantaeth Er Diogelu’r Cyhoedd (MAPPA) ond sy’n ymddwyn mewn modd sy’n rhoi sail resymol dros gredu bod tebygolrwydd cyfredol y byddant yn cyflawni trosedd neu droseddau a fydd yn achosi niwed difrifol.
Gellid adnabod PAB drwy amryw o ddulliau, er enghraifft:
(a) Swyddog heddlu, aelod staff neu wirfoddolwyr
(b) Gall testun honiad sydd heb ei brofi o drosedd Atodlen 15 (Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003) neu honiadau bod unigolyn wedi cyflawni trosedd o’r fath neu’n arddangos ymddygiad sy’n dynodi ei fod yn debygol iawn o gyflawni trosedd o’r fath, ddynodi bod unigolyn yn debygol iawn o gael ei ystyried yn unigolyn a allai fod yn beryglus.
(c) Mae’r cydlynydd MAPPA yn cyfeirio achos lle mae’r unigolyn wedi’i gyfeirio at MAPPA ond sydd ddim yn gymwys ar gyfer MAPPA, fodd bynnag, mae’n bodloni meini prawf PAB
(ch) Nid yw’r unigolyn yn destun MAPPA rhagor, ond mae’n bodloni meini prawf PAB
(d) Mae asiantaeth arall yn cyfeirio unigolyn mae’n credu sy’n bodloni meini prawf PAB
(dd) Gwybodaeth neu gudd-wybodaeth a gafwyd gan yr heddlu.
(e) Cyfeiriad gan asiantaeth arall, megis gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal plant, neu wasanaethau cymdeithaso.
(f) Cyfeiriad gan unrhyw unigolyn neu uned yn a gwasanaeth heddlu gyda gwybodaeth fod rhywun yn bodloni’r meini prawf ar gyfer unigolyn a allai fod yn beryglus.
Ar ôl cael eu cyfeirio, mae achosion yn cael eu sgrinio a’u hasesu ar gyfer addasrwydd, ac os ydynt yn cael eu derbyn, bydd Cynllun Rheoli Risg yn cael ei lunio. Bydd proses sgrinio hefyd yn cael ei chynnal yn ystod y cam datgofrestru os ystyrir nad yw’r unigolyn yn cael ei ystyried yn rhywun a allai fod yn beryglus mwyach.
Mae methu ag adnabod ac ymdrin yn effeithiol â phobl a allai fod yn beryglus cyn gynted â phosibl yn cyflwyno perygl uwch o niwed i’r gymuned. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn trin rheoli troseddwyr o ddifri ac yn sicrhau bod darpariaethau monitro cadarn mewn grym ar gyfer rheoli unrhyw berygl a nodwyd o ran pob troseddwr yn llwyddiannus, gan gynnwys pobl a allai fod yn beryglus sy’n peri risg sylweddol i’n cymunedau.
Tra bod y weithdrefn hon yn darparu fframwaith ar gyfer nodi a rheoli pobl a allai fod yn beryglus, ni ddylai fod yn rhwystr rhag cymryd camau gweithredu sy’n ofynnol ar gyfer diogelu’r cyhoedd rhag niwed difrifol yn syth pan fydd yr amgylchiadau’n briodol.
Diben y ddogfen hon yw darparu canllawiau ar gyfer personél yr heddlu ar Reoli Pobl a Allai Fod y yn Beryglus Sydd Heb eu Heuogfarnu.
Y sail gyfreithlon dros arfer y pwerau a’r dyletswyddau a amlinellir yn y polisi hwn yw:
Mae’r polisi’n cydymffurfio â’r canllawiau canlynol:-
Mae Dyfed-Powys yn ystyried bod y gweithredoedd hyn yn ofynnol ar gyfer diogelu’r cyhoedd a chyfrannu at atal trosedd neu anhrefn; gwarchod y cyhoedd a gwarchod hawliau a rhyddidau eraill.
Bydd angen rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng unrhyw asiantaethau sy’n dal gwybodaeth berthnasol er mwyn rheoli pobl a allai fod yn beryglus yn effeithiol. Gan hynny, dylid rhannu gwybodaeth yn unol â Chytundebau Rhannu Gwybodaeth cyfredol o fewn cyfyngiadau Adran 115 Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, y Ddeddf Diogelu Data, ac unrhyw ddeddfwriaethau perthnasol eraill.
Rhaid i’r rhai sy’n gyfrifol am reoli pobl a allai fod yn beryglus ystyried cydbwyso hawliau dynol y bobl a allai fod yn beryglus, sef hawl unigolyn i fywyd preifat (Erthygl 8) a’r hawl i fyw’n rhydd rhag triniaeth ddiraddiol (Erthygl 3) wedi’i gydbwyso â’r camau cymesur y mae dyletswydd ar yr heddlu i’w cymryd er mwyn gwarchod hawl y cyhoedd i fywyd (Erthygl 2).
Bydd y polisi hwn yn eiddo i’r Pennaeth Amddiffyn Pobl Fregus, a bydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd gan y Ganolfan Fregusrwydd ar gyfer:
Y Broses Gymeradwyo: Bydd penderfyniadau cymeradwyo mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn yn cael eu gwneud gan y Pennaeth Amddiffyn Pobl Fregus a’r Bwrdd Bregusrwydd Strategol.
Mae polisi’r heddlu’n adlewyrchu yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig Cenedlaethol y Coleg Plismona ar Bobl a Allai Fod yn Beryglus yn llawn, ac mae canllawiau gweithredol ar safle mewnrwyd Heddlu Dyfed-Powys ynghyd â manylion cyswllt goruchwylydd y Ganolfan Fregusrwydd os oes angen cyngor ac arweiniad. Mae’r broses yn cael ei rheoli’n gadarn ac effeithiol gan oruchwylwyr a rheolwyr er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth parhaus.
Mae’r Polisi a’r canllawiau’n rhoi gwybodaeth ynghylch y canlynol:
Mae’r canllawiau a’r prosesau a nodwyd yn y polisi’n berthnasol i bob swyddog heddlu ac aelod staff heddlu sy’n gysylltiedig ag unrhyw agwedd o adnabod a chofnodi pobl a allai fod yn beryglus, ymchwilio iddynt a’u rheoli.
Mae canllawiau ar gael. Mae hyn yn galluogi gwybodaeth i fod ar gael yn hawdd i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr o fewn y sefydliad. Mae manylion cyswllt hefyd ar gael ar gyfer y Ditectif Ringyll Rheoli Troseddwyr pe bai angen unrhyw gyngor/arweiniad.
Rhaid i bob aelod staff, wrth fabwysiadu’r polisi hwn ac wrth arfer eu dyletswyddau dyddiol, weithredu’n unol â’r Cod Moeseg, gan sicrhau:-
Cynhelir adolygiad o’r broses PAB bob dwy flynedd er mwyn sicrhau fod y polisi’n adlewyrchu amcanion yr heddlu’n gywir o ran rheoli troseddwyr.
Bydd cymhwysedd unigolion ar gyfer PAB yn cael ei asesu’n gyson yng nghyfarfodydd MAPPA ac ar sail wythnosol gan y panel dethol amlasiantaeth, lle mae cyfeiriadau ar gyfer MAPPA a rhaglenni Rheoli Troseddwyr eraill yn cael eu sgrinio. Mae’r panel yn cwrdd yn wythnosol yn y Ganolfan Fregusrwydd ac yn cynnwys y Cydlynydd MAPPA, Ditectif Ringyll, Cydlynydd Rheoli Troseddwyr yn Integredig a rheolwr y Tîm Prawf. Mae cyfeiriadau’n cael eu hadolygu a gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng bob asiantaeth. Os yw unigolyn yn cael ei nodi fel troseddwr heb ei euogfarnu nad yw’n gymwys ar gyfer MAPPA, ond mae ymddygiad yr unigolyn yn arddangos perygl yn y dyfodol agos o niwed difrifol, gwneir argymhelliad ar gyfer PAB a gosodir camau gweithredu i reolwyr troseddwyr ddatblygu.
Mae’r Uned Cofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw’n creu pob cofnod PAB yn unol â Safonau’r Swyddfa Gartref ar gyfer troseddwyr o’r fath. Mae cofnodion pob cyfarfod yn cael eu cadw’n ddiogel ar gofnod Cofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw’r PAB.
Mae’r Uned Cofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw hefyd yn cwblhau adolygiad data bob mis. Bydd y data ar gyfer pobl a allai fod yn beryglus yn cael ei gasglu ar wahân ac ni fydd yn cael ei gynnwys yng nghasgliad data troseddwyr treisgar a throseddwyr rhyw, sy’n cael ei gynnwys o fewn adroddiad blynyddol MAPPA.
Disgwylir y bydd canlyniadau llwyddiannus yn cyfrannu’n sylweddol tuag at well bodlonrwydd a hyder cyhoeddus.
Cynhelir goruchwyliaeth weithredol a strategol gan y Ganolfan Fregusrwydd ac adroddir yn chwarterol i’r Grŵp Bregusrwydd Strategol er mwyn ymdrin â meysydd sy’n llwyddiannus neu feysydd sy’n achosi pryder.
Bydd cwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd i’r Adran Safonau Proffesiynol mewn perthynas â Rheoli Troseddwyr ar gyfer gorfodi’n cael eu hasesu yn erbyn y polisi Rheoli Troseddwyr a chanllawiau gweithdrefnol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024