Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys drefn gyson ac ymagwedd broffesiynol at blismona digwyddiadau o stelcio ac aflonyddu, yn unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu sy'n nodi'r egwyddorion a'r safonau i'w dilyn.
Bydd polisi Dyfed-Powys yn adlewyrchu’n llwyr y “Protocol ar ymdrin yn briodol â throseddau stelcio neu aflonyddu rhwng Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron” (CPS). Bydd canllawiau gweithredu yn cael eu darparu yn y canllaw “Proses Heddlu Dyfed-Powys” a gedwir ar safle mewnrwyd yr heddlu mewn dogfennau canllaw Diogelu Pobl Fregus.
NODAU:
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r ymrwymiad i roi terfyn ar stelcio ac aflonyddu wedi'i wreiddio yn y Strategaeth Rhoi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod a Merched trawslywodraethol. Ategir y strategaeth gan waith partneriaeth effeithiol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae erlyn yr achosion hyn yn llwyddiannus a diogelu'r dioddefwyr hynny yn dibynnu ar waith partneriaeth cryf a chydweithredol rhwng yr heddlu ac erlynwyr.
Mae’r dull Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn cydnabod bod dioddefwyr stelcio fwy na heb yn fenywod.Er mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod nad yw'r math hwn o droseddu yn gyfyngedig i un rhywedd, a bod y polisi hwn felly yn berthnasol i bawb. Mae’r dull yn cydnabod Trais yn Erbyn Menywod a Merched fel cam-drin sylfaenol o hawliau dynol a hawliau menywod. Mae llywodraeth y DU wedi llofnodi a chadarnhau galwad y Cenhedloedd Unedig i bob gwladwriaeth atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod a merched. Ym mis Chwefror 2023, dosbarthodd y Swyddfa Gartref am y tro cyntaf, Trais yn Erbyn Menywod a Merched fel bygythiad cenedlaethol i ddiogelwch y cyhoedd a’i wneud yn rhan o’r Gofyniad Plismona Strategol. Mae hyn yn golygu bod heddluoedd yn blaenoriaethu eu hymatebion i Drais yn Erbyn Menywod a Merched yn yr un modd â therfysgaeth a throseddau cyfundrefnol a difrifol. Mae stelcio ac aflonyddu wedi’i nodi fel un o’r pum bygythiad tyngedfennol i fenywod a merched yn y Datganiad Plismona Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae’r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo i holl ddioddefwyr troseddau sydd wedi’u grwpio gyda’i gilydd fel ‘Trais yn Erbyn Menywod a Merched’ ac i’r perwyl hwnnw, mae eu dull yn gynhwysol. Mae'r holl bolisïau Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn gyfartal i bawb a ddrwgdybir a dioddefwyr trosedd - waeth beth fo'u rhywedd. Mae Datganiad Cyhoeddus Gwasanaeth Erlyn y Goron ar ddioddefwyr gwrywaidd yn berthnasol i'r protocol hwn - Datganiad Cyhoeddus Gwasanaeth Erlyn y Goron ar ddioddefwyr gwrywaidd troseddau a gwmpesir gan Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron | Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae gan Brif Gwnstabliaid gyfrifoldeb cyffredinol am ymchwilio i weithgarwch troseddol honedig yn eu hardal heddlu unigol.
Gwasanaeth Erlyn y Goron yw'r prif awdurdod erlyn sy'n delio ag erlyniadau troseddol yng Nghymru a Lloegr. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ymrwymo'n llwyr i erlyn yn deg ac yn effeithiol pawb sy'n aflonyddu neu'n stelcio.
Dylai heddluoedd a’u partneriaid sicrhau bod troseddau stelcio bob amser yn cael eu trin o ddifrif.
Mae diogelwch dioddefwyr yn hollbwysig. Mae methu ag adnabod ac ymdrin yn gadarn ag aflonyddu neu ymddygiad stelcio cyn gynted â phosibl yn galluogi’r rhai a ddrwgdybir i barhau â’u hymddygiad. Gall hyn olygu bod dioddefwyr yn agored i risg gynyddol, gan gynnwys ymosodiad rhywiol a dynladdiad. Rhaid felly ystyried y risgiau i ddioddefwyr yn ofalus yn yr achosion hyn. Mae hyn nid yn unig mewn perthynas â’r risg uniongyrchol i’r dioddefwr gan y sawl a ddrwgdybir, ond hefyd y risg i unrhyw un sy’n gysylltiedig â dioddefwyr, megis eu plant a’u dibynyddion, aelodau o’r teulu a ffrindiau.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio Arolygon Stelcio er mwyn mesur a deall bodlonrwydd dioddefwyr yn well.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod stelcio yn cael ei ystyried yn fath o drosedd risg uchel. Mae'r gwir risg i'r dioddefwr yn aml yn cael ei guddio gan ymddangosiad ymddygiad troseddol lefel isel.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r wyth cam ymchwil academaidd i laddiadau fel egwyddor ar gyfer deall y risg, a defnyddio’r pecyn cymorth buddsoddi amser i ganfod yr amser cudd y mae cyflawnwyr yn ei fuddsoddi mewn cyflawni troseddau o’r fath.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod ei bod yn hollbwysig ein bod yn nodi ymddygiadau stelcio ac felly byddwn yn ystyried pob achos o aflonyddu a chyfathrebu maleisus ar gyfer ymddygiad stelcio.
Mae achosion o stelcio mewn lleoliad domestig yn cael ymateb amlasiantaethol uwch fel y nodir ym mhrotocol Cynhadledd AmlAsiantaeth Asesu Risg yr heddlu. Pan fydd achosion o stelcio yn disgyn y tu allan i'r sefyllfa ddomestig, byddant i gyd yn cael eu hystyried gan swyddogion arbenigol a lle bo angen bydd ymatebion partneriaeth yn cael eu sefydlu fesul achos.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn egwyddorion polisi cofnodi a dyrannu troseddau'r heddlu wrth ystyried perchnogaeth pob ymchwiliad i stelcio neu aflonyddu. Oherwydd natur gymhleth troseddau ymddygiadol, bydd yr heddlu yn sicrhau bod rhwydwaith o swyddogion arbenigol a chefnogaeth cymheiriaid i gynnig arweiniad lle bo angen.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd safbwynt ragweithiol wrth geisio dod â throseddwyr o flaen y llys. Ym mhob achos byddwn yn cynnal ymchwiliad a arweinir gan dystiolaeth, a lle bodlonir y trothwyon tystiolaeth byddwn yn ceisio gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Erlyn y Goron i ddod â chyflawnwyr gerbron y llys.
Lle canfyddir stelcio bydd cynllun rheoli risg yn cael ei sefydlu ym mhob achos. Bydd cynlluniau rheoli risg yn gwneud y mwyaf o'r defnydd o orchmynion i gyfyngu ar weithgareddau'r troseddwr ac amddiffyn y dioddefwr. Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn cynhyrchu gorchmynion generig, ond bydd pob gorchymyn yn cael ei deilwra i ofynion penodol y cynllun rheoli risg. Lle bo'n briodol, bydd ein trefniadau partneriaeth ar gyfer rheoli troseddwyr yn cael eu defnyddio.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn rhagweithiol wrth geisio adsefydlu y troseddwyr gan ddefnyddio rhaglenni cyflawnwyr lle mae asesiad gan ddarparwyr gwasanaeth yn ystyried ei bod yn briodol ac yn ddiogel i wneud hynny.
Diffiniadau
2.1 Stelcio
Nid yw stelcio wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol ond mae adran 2A(3) o Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 yn rhestru sawl enghraifft o ymddygiadau sy’n gysylltiedig â stelcio. Nid yw'r rhestr yn un hollgynhwysfawr ond mae'n rhoi syniad o'r mathau o ymddygiad y gellir eu harddangos mewn trosedd stelcio. Yr ymddygiadau a restrir yw’r canlynol:
(a) dilyn unigolyn,
(b) cysylltu ag unigolyn, neu geisio cysylltu ag ef mewn unrhyw fodd,
(c) cyhoeddi unrhyw ddatganiad neu ddeunydd arall sy’n ymwneud ag unigolyn neu’n honni ei fod yn ymwneud ag unigolyn, neu’n honni ei fod yn tarddu oddi wrth unigolyn,
(ch) monitro’r defnydd gan unigolyn o’r rhyngrwyd, e-bost neu unrhyw ffurf arall ar gyfathrebu electronig,
(d) loetran mewn unrhyw le (cyhoeddus neu breifat),
(dd) ymyrryd ag unrhyw eiddo sydd ym meddiant unigolyn,
(e) gwylio neu ysbïo ar unigolyn. Nid yw aflonyddu sy'n cynnwys un neu fwy o'r nodweddion uchod yn stelcio yn awtomatig. Rhaid i batrwm yr ymddygiad, a asesir yn ei gyfanrwydd, gyd-fynd â'r dehongliad cyffredin o'r gair ‘stelcio’. Mae’r Coleg Plismona yn cynorthwyo ymhellach gyda chanllawiau ar wahaniaethu rhwng stelcio ac aflonyddu, gan ddarparu tri phwynt i’w hystyried gan gynnwys cofair ymarferol i’w gymhwyso i’r amgylchiadau,
- bydd stelcio yn aml yn canolbwyntio ar unigolyn, wrth i aflonyddu yn aml ganolbwyntio ar anghydfodau,
- a oes tystiolaeth i awgrymu, os bydd y broblem yn cael ei datrys, y bydd yr ymddygiad yn dod i ben?
- ystyriwch y cofair stelcio SODA. A yw'r ymddygiadau yn:
Sefydlog,
Obsesiynol,
Digroeso,
Ailadroddus
2.2 Aflonyddu
Mae aflonyddu fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 yn nodi dwy drosedd o aflonyddu.
Trosedd Adran 2 - Aflonyddu
Elfennau trosedd adran 2 yw fel a ganlyn:
- patrwm ymddygiad;
- sy'n gyfystyr ag aflonyddu ar rywun arall; a
- y mae'r diffynnydd yn gwybod, neu dylai wybod ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu ar rywun arall.
Adran 4A(1)(b)(ii) Trosedd - Stelcio sy’n cynnwys ofn o drais neu ddychryn difrifol neu ofid,:
Elfennau trosedd adran 4 yw fel a ganlyn:
- Unigolyn (“A”) y mae patrwm ei ymddygiad –
- yn gyfystyr â stelcio, a naill ai - yn peri i rywun arall (“B”) ofni, ar o leiaf ddau achlysur, y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn erbyn “B”, neu’n achosi dychryn neu ofid difrifol i “B” sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar weithgareddau arferol o ddydd i ddydd B,
- yn euog o drosedd os yw “A” yn gwybod neu y dylai wybod y bydd patrwm ymddygiad “A” yn achosi “B” felly i ofni ar bob un o’r achlysuron hynny neu (yn ôl rhaid) y bydd yn achosi dychryn neu ofid o’r fath.
- Dylai “A” wybod y bydd “patrwm ymddygiad A yn achosi i “B” ofni y bydd trais yn cael ei ddefnyddio yn erbyn “B” ar unrhyw achlysur pe bai unigolyn rhesymol sydd â’r un wybodaeth yn ei feddiant yn meddwl y byddai patrwm ymddygiad A yn achosi “ B” felly i'w ofni ar yr achlysur hwnnw.
- Dylai “A” wybod y bydd patrwm ymddygiad “A” yn achosi dychryn neu ofid difrifol i “B” sy’n cael effaith andwyol sylweddol ar weithgareddau arferol B o ddydd i ddydd, pe bai unigolyn rhesymol sydd â’r un wybodaeth yn ei feddiant yn meddwl y byddai’r patrwm ymddygiad yn achosi dychryn neu ofid o'r fath.
Adrodd
Mae pum ffordd i roi gwybod i’r heddlu am stelcio neu aflonyddu:
*Gall adroddiadau gael eu gwneud yn uniongyrchol gan ddioddefwyr neu ar ran dioddefwyr trwy drydydd parti.
Ymateb Cychwynnol
Diogelu
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu er mwyn sicrhau bod cymorth ar gyfer dioddefwyr Stelcio mewn grym.
SASH Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu
Beth yw Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu a elwir weithiau’n SASH?
Mae SASH yn acronym ar gyfer Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu. Dim ond pan fydd tystiolaeth o batrwm stelcio neu aflonyddu cyfredol y dylid defnyddio'r Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu, hynny yw, patrwm o gyfathrebiadau neu gysylltiadau digroeso dro ar ôl tro sy'n achosi pryder, gofid neu ddychryn i'r targed. Mae’n bosibl bod y stelcio wedi parhau am fisoedd lawer neu hyd yn oed flynyddoedd, ond er mwyn i episod fod yn gyfredol rhaid iddo olygu bod y stelciwr yn ymyrryd yn ddiangen yn ystod y chwe mis cyn yr asesiad. Gellir defnyddio'r Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu ar gyfer cyflawnwyr gwrywaidd a benywaidd ni waeth a yw
|
Lefel y Pryder ac Ymateb: ISEL – Dylai’r achosion hyn gael yr ymateb safonal. CANOLIG/CYMEDROL – Dylai’r achosion hyn gael ymateb cynhwysfawr. UCHEL – Dylai’r achosion hyn gael ymateb ar unwaith a chynhwysfawr. Bydd achosion pryder uchel a chymedrol yn aml yn derby mathau tebyg o ymatebion, a’r gwahaniaeth mawr fydd y brys I’w gweithredu. |
stelciwr a’r dioddefwr o wahanol rywedd neu o'r un rhywedd.
Cyfrifoldeb y Swyddog Cam-drin Domestig fydd mynd i'r afael â diogelu yn ymwneud â phob Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu a nodir fel pryder UCHEL/CYMEDROL, ni waeth a ydynt yn achosion cam-drin domestig ai peidio.Os yw lefel y pryder yn ‘ISEL’, yna bydd y cyfrifoldeb diogelu yn aros gyda swyddog yr achos. Ni fydd y Swyddog Cam-drin Domestig yn adolygu’r cynllun rheoli risg fel arfer, ond bydd ar gael i roi cyngor os gofynnir amdano.
Ym mhob sefyllfa, bydd y Swyddog Cam-drin Domestig yn diweddaru'r digwyddiad ar Niche gyda chanlyniad yr Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu fel bod swyddog / goruchwyliwr yr achos yn ymwybodol o'r canlyniad er mwyn sicrhau eglurder perchnogaeth risg / ymchwiliad.
Os bydd y swyddog Diogelu Pobl Fregus yn nodi o’i adolygiad nad oes angen Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu, bydd yn cadarnhau’r rhesymeg ar y digwyddiad Niche. Os bydd y dosbarthiad ystadegau’n newid o Stelcio, cychwynnir tasg i Gofrestrydd Troseddau a Digwyddiadau’r Heddlu ei adolygu.
Cofnodi Troseddau
Os oes mwy nag un drosedd yn cael ei hysbysu, dylid cofnodi’r drosedd fwyaf difrifol (yn unol â Rheolau Cofnodi Troseddau y Swyddfa Gartref / Rheol Prif Drosedd). Fodd bynnag, dylid ymchwilio i'r drosedd stelcio hefyd fel rhan o'r ymchwiliad.
Os yw ymchwiliad blaenorol yn ymwneud â’r un dioddefydd a drwgdybyn wedi’i gwblhau (Canlyniad 15/6) o fewn y 3 mis diwethaf, dylid ailagor yr ymchwiliad gwreiddiol gan fod yr ymddygiad stelcio’n barhad o’r Stelcio gwreiddiol.
Os oedd ymchwiliad blaenorol yn ymwneud â’r un dioddefydd a drwgdybyn wedi’i gwblhau (Canlyniad 15/6) dros 3 mis yn ôl, dylid cofnodi trosedd Stelcio newydd.
Ymchwiliad Stelcio - Dyrannu Troseddau
Ar gyfer POB trosedd stelcio a nodir fel PRYDER UCHEL yn dilyn Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu, bydd yr ymchwiliad yn cael ei gyfeirio at yr Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) i ddyrannu ymchwilydd Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio (PIP) Lefel 2 i symud yr ymchwiliad yn ei flaen. Hyd nes y bydd yr Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu wedi'i gwblhau, bydd perchenogaeth gychwynnol yr ymchwiliad yn cael ei dyrannu ar sail canlyniad sgôr Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd yn ymwneud â cham-drin domestig / stelcio neu aflonyddu a bydd angen ei drafod yn y cyfarfodydd rheoli dyddiol ar draws yr URS.
Gydag achosion o gam-drin domestig sy'n cynnwys stelcio efallai na fydd cydberthynas bob amser rhwng yr asesiad risg Cam-drin Domestig, Stelcio ac Aflonyddu cychwynnol a sgôr yr Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu dilynol. Yn yr achosion hyn, os caiff yr Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu ei raddio fel risg UCHEL, yna bydd hyn yn gofyn am ymchwilydd Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 (Adran Ymchwilio i Droseddau) i symud yr ymchwiliad yn ei flaen ni waeth Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd yn ymwneud â cham-drin domestig.
Rheolaeth y Tîm Plismona Bro
Yn achos aflonyddu yn y gymuned, gall fod yn briodol i'r Tîm Plismona Bro ac Atal Lleol fabwysiadu dull Plismona sy'n Canolbwyntio ar Broblem. Bydd hyn fel arfer yn digwydd pan fydd sawl digwyddiadau ac yn ymwneud ag anghydfod (hy, fel perchnogaeth tir).
Os bernir bod dull plismona sy’n canolbwyntio ar broblem yn briodol, caiff cynllun plismona sy’n canolbwyntio ar broblem ei greu i liniaru / rheoli'r risg.
Bydd rheolaeth y cynllun plismona sy'n canolbwyntio ar broblem yn parhau gyda'r Tîm Plismona Bro ac Atal lleol.
Cydlynydd Troseddwyr Stelcio:
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys Gydlynydd Troseddwyr Stelcio pwrpasol sy’n gyfrifol am gydlynu ymateb yr heddlu i Stelcio. Mae eu gwaith o ddydd i ddydd yn cynnwys:
Rheoli Troseddwyr / Adsefydlu
Ym mhob achos dylid ystyried rheoli ymddygiad troseddol yn y tymor hir er mwyn lleihau'r risg o droseddu pellach.
Proses adnabod cyflawnwyr risg uchel
Bydd y Cydlynydd Stelcio yn adolygu canlyniadau Asesiad Sgrinio ar gyfer Stelcio ac Aflonyddu, ynghyd â chynnal adolygiadau achos i nodi cyflawnwyr “Risg Uchel”.
Bydd cyflawnwyr ‘Risg Uchel’ yn cael eu hadolygu gan y Cydlynydd Stelcio er mwyn ystyried eu cynnwys mewn Cyfarfodydd Tasgau Bygythiad a Niwed URS ar gyfer targedu ac amharu pwrpasol. Byddant hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer trafodaeth mewn cyfarfod Rhaglen Ymyrraeth Stelcio misol.
Ymagwedd amlasiantaeth:
Panel Gwella Gwasanaeth ar y Cyd Amlasiantaeth
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys grŵp gwella ar y cyd deufisol gyda GEG a gwasanaeth cymorth stelcio Paladin sy’n sicrhau ymagwedd ar y cyd tuag at wella canlyniadau ymchwiliad ar gyfer dioddefwyr Stelcio.
Nod y cyfarfod yw:
Rhaglen Ymyrraeth Stelcio
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal Rhaglen Ymyrraeth Stelcio fisol sy’n cynnwys partneriaid mewnol ac allanol. Diben y Rhaglen Ymyrraeth Stelcio yw:
Cod Moeseg
Mae holl egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Safonau'r Gymraeg
Gall dioddefwyr a throseddwyr ofyn am gael eu trin trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei ddarparu pryd bynnag y bo modd. *os yw dod o hyd i siaradwr Cymraeg yn achosi oedi sy’n cynyddu’r risg / yn peryglu’r ymchwiliad, bydd swyddog / staff sy’n siarad Cymraeg yn cael ei ddarparu ar ôl i’r risgiau gael eu lliniaru.Bydd y gwasanaeth a ddarperir a phroffesiynoldeb swyddogion yn aros yr un fath beth bynnag fo'u hiaith.
Llywodraethu
Y swyddog arweiniol yw'r Ditectif Uwcharolygydd ar gyfer Diogelu Pobl Fregus.
Mae Comander yr Uned Reoli Sylfaenol (URS) a’r Ditectif Brif Arolygydd yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Pennaeth Cyswllt a Rheoli Digwyddiad yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn addas i’r diben, i adlewyrchu unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu ganllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau a wneir i’r polisi.
Rheolir stelcio ac aflonyddu o dan y portffolio bregusrwydd sy'n cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Bregusrwydd ac Atal Strategol, a gadeirir gan Brif Gwnstabl Cynorthwyol yr heddlu.
Mae’r Ditectif Uwch-arolygydd yn sicrhau bod prosesau ar waith i gyflawni’r canlynol:
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026