Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Nod y polisi a’r canllaw ymarfer cysylltiedig yw sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys ymagwedd gyson a phroffesiynol tuag at ymdrin ag unigolion coll. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod ei staff yn medru adnabod ac ymateb yn gyflym ac effeithiol i warchod y rhai sydd mewn perygl o niwed.
Bydd y polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig ar gael i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Ymchwiliadau Unigolion Coll. Rhoddir manylion am unrhyw wyro oddi wrth yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yn y polisi hwn.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Gweithredir y polisi hwn ar draws yr heddlu. Mae’r canllaw ymarfer yn ddogfen ar wahân sy’n rhoi canllawiau gweithredol manwl i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr.
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n flynyddol neu’n gynt os bydd deddfwriaeth a chanllawiau’n newid. Dylid nodi’n glir os nad yw’r canllawiau o fewn y ddogfen hon yn cael eu dilyn, ynghyd â’r rhesymeg.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod yr effaith y gall digwyddiadau unigolyn coll gael ar fywydau’r rhai yr adroddir eu bod ar goll a’u teuluoedd. Dylid trin mynd ar goll fel arwydd y gallai’r unigolyn fod mewn perygl o niwed. Mae diogelu pobl sy’n agored i niwed yn hollbwysig i Heddlu Dyfed-Powys, a dylid cydnabod adroddiad am unigolyn coll fel cyfle i nodi a mynd i’r afael â pheryglon.
Cyflawnir hyn drwy:-
Dylid ystyried tri ffactor allweddol mewn ymchwiliad unigolyn coll:
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn plismona pob digwyddiad unigolyn coll yn unol ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Unigolion Coll.
Diffiniad unigolyn coll yw: -
“Ystyrir unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau ei lesiant neu fel arall.”
Diffiniad eang yw hwn, wedi’i fwriadu i sicrhau bod pob achos o bobl yr amheuir eu bod ar goll yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu’n cael eu hystyried ar gyfer ymateb plismona. Mae natur yr ymateb ar gyfer gwneuthurwyr penderfyniadau gweithredol. Ni fydd angen lleoli adnoddau heddlu ar gyfer pob adroddiad am unigolion coll.
Mewn rhai achosion, gall fod yn briodol i’r heddlu ddisgwyl i’r unigolyn sy’n adrodd ymgymryd â chamau rhesymol i bennu lleoliad yr unigolyn dan sylw heblaw bod perygl gwirioneddol, uniongyrchol o niwed sy’n cyfiawnhau ymyrraeth ar unwaith gan yr heddlu. Gwneuthurwyr penderfyniadau’r heddlu sydd i sefydlu pa un ai a yw unigolyn yn absennol, sy’n golygu nad ydyw yn y man lle disgwylir iddo fod, yn hwyr adref, neu heb roi gwybod i’r unigolyn sy’n adrodd ble y mae. Wrth ystyried pob achos, dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ystyried yr holl wybodaeth a nodir yn y polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig.
Dylai’r penderfyniad ynghylch cysylltiad yr heddlu ystyried ein dyletswyddau cyfreithiol i ymchwilio –
Gall fod angen cynnal ymchwiliad cychwynnol i bennu’r pethau hyn. Fodd bynnag, ar ôl cynnal ymholiadau cymesur, os bydd yr ymchwiliad yn dangos bod yr oedolyn yn gallu byw’n annibynnol heb ofal ac wedi dewis mynd ar goll, mae’n rhaid i’r heddlu ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng gwarchod oedolion bregus a pharchu Erthygl 8 Hawl i Barch at Fywyd Preifat a Theuluol oedolyn.
Yn unol â’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn y continwwm o risg, fodd bynnag, nid yw’r heddlu wedi derbyn y radd “dim risg amlwg”.
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gosod dyletswydd gadarnhaol ar swyddogion heddlu i gymryd camau rhesymol, o fewn eu pwerau, i ddiogelu hawliau unigolion a allai fod mewn perygl.
Yr Erthyglau Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a allai fod yn berthnasol i unigolion coll yw:
Pan adroddir fod unigolyn ar goll, mae dyletswydd ar yr heddlu i gofnodi’r digwyddiad, gan gipio’r holl fanylion sydd ar gael fel bod modd cwblhau asesiad risg. Gall yr heddlu neu eraill ymgymryd â chamau diogelu a rhaid dogfennu hyn yn glir o fewn y rhesymeg. Bydd asesiad risg cychwynnol yn darparu’r sail ar gyfer ymateb cymesur a phriodol yn unol â lefel y risg i’r unigolyn ac eraill.
Rhaid i’r ardal heddlu (neu’r gwasanaeth heddlu) sy’n derbyn yr adroddiad am unigolyn coll gofnodi yn unol â’r canllaw hwn a’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig. Rhaid peidio â dweud wrth yr unigolyn sy’n adrodd am gysylltu â gwasanaeth heddlu arall ni waeth ble mae’r unigolyn sy’n adrodd yn byw.
Mae’n bwysig hefyd i ystyried pa un ai a oes gan yr unigolyn wendid penodol a allai gynyddu ei risg, megis:
Gall unigolyn fod yn agored i niwed am amrediad o resymau eraill. Er enghraifft, gall y rhain ymwneud â’i amgylchedd uniongyrchol neu ei les meddyliol, anawsterau o fewn ei fywyd neu heriau sydd ganddo sy’n effeithio er ei ymddygiad neu ei allu i gyfathrebu neu geisio cymorth.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn arddangos ein hegwyddorion plismona moesegol, gan weithredu â dewrder, dangos parch ac empathi, ac arddangos gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r canllaw ymarfer cysylltiedig –
Fel gweithwyr proffesiynol plismona, rydym yn ymrwymo i –
Mae’r cyfrifoldeb am gyflenwi’r polisi hwn yn gorwedd gyda Chanolfan Gorchymyn a Rheoli’r Heddlu a Chomanderiaid Ardaloedd Plismona Lleol a Thimoedd Rheoli Uwch sy’n gyfrifol am weithredu’r polisi hwn a chydymffurfio ag ef gyda’u swyddogion, staff a gwirfoddolwyr.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, a ble bo hynny’n briodol, bydd yn rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau partner lle mae pryder diogelu’n deillio o ymchwiliad unigolyn coll. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr gyflwyno Hysbysiad Diogelu’r Cyhoedd bob tro yr adroddir bod plentyn ar goll.
Ymgyrch Endeavour
Proses rhannu gwybodaeth a luniwyd i fynd i’r afael â diffygion o ran rhannu gwybodaeth gydag ysgolion yw Ymgyrch Endeavour; gyda gweledigaeth i ddiogelu plant a phobl ifainc yr adroddir wrth yr heddlu eu bod ar goll drwy sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael gwybod am ddigwyddiad cyn gynted â phosibl.
Partneriaeth rhwng Heddlu Dyfed-Powys, Adrannau Addysg y pedwar awdurdod lleol ac unigolion diogelu dynodedig o fewn yr ysgolion yw Ymgyrch Endeavour. Mae staff o fewn y Ganolfan Fregusrwydd yn sicrhau bod copi o adroddiadau unigolion coll perthnasol yn cael eu rhannu gydag adran addysg yr awdurdod lleol drwy gyfeiriad e-bost diogel sy’n caniatáu i’r awdurdod lleol hysbysu’r ysgol perthnasol am y digwyddiad.
Adolygir ein cynnydd yn rheolaidd o fewn y Grŵp Bregusrwydd Strategol sy’n darparu llywodraethu a goruchwyliaeth gan sicrhau yr ymgorfforir yr ymagwedd strategol a’r ymateb i fregusrwydd yn llawn o fewn y sefydliad.
Cadeirir y grŵp gan Brif Gwnstabl Cynorthwyol yr Heddlu, sy’n adrodd i’r Prif Gwnstabl ym Mwrdd Perfformiad yr Heddlu.
Bydd y Grŵp Bregusrwydd Strategol yn parhau i fonitro effeithiolrwydd, gan ganolbwyntio ar ddysgu parhaus yn y maes hwn.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024