Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw sicrhau bod ymateb strategol a thactegol cyson i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol, gan gynnwys yr holl droseddau rhyw eraill (sy’n cynnwys yr hyn a elwir yn droseddau rhyw digyswllt, megis dinoethi anweddus, voyeuriaeth, a seiberfflachio) ledled Heddlu Dyfed-Powys.Yn 2022, ymunodd Heddlu Dyfed-Powys â’r rhaglen ehangu ar gyfer Ymgyrch Soteria Bluestone a daeth yn rhan llawn, gan ymrwymo’n llawn hefyd i’r rhaglen Trawsnewid a Newid a ariennir gan y Swyddfa Gartref. Bydd y polisi hwn, a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig, yn adlewyrchu’r canllawiau a’r arfer gorau a ddosbarthwyd gan Gyd-Uned Soteria. Bydd yn adlewyrchu dull o ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, yr unigolyn a ddrwgdybir, a’r cyd-destun. Mae Ymgyrch Soteria Bluestone yn gyfle i gyflawni newid gwirioneddol, cynaliadwy drwy ddadansoddi gweithdrefnau Heddlu Dyfed-Powys yn ddidwyll, ochr yn ochr â’r system cyfiawnder troseddol ehangach a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Mae’r heddlu wedi ymrwymo i weithio gydag academyddion i wella profiadau dioddefwyr a thynhau gafael ar droseddwyr. Fel mabwysiadwr cynnar, mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o gyfrannu at y gwaith o ddatblygu model gweithredu cenedlaethol (NOM) newydd ar gyfer ymchwiliadau mwy grymus ac effeithlon i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl swyddogion a gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys sy’n ymateb i droseddau o’r fath, o’r pwynt cyswllt cyntaf, drwy’r ymchwiliad a’r erlyniad. Mae treisio a throseddau rhyw difrifol, fel y’u diffinnir yn Neddf Troseddau Rhywiol 2003, yn droseddau difrifol a all gael effaith hirdymor a dinistriol ar ddioddefwr.
Rhoddir blaenoriaeth i ymateb yr heddlu i achosion o dreisio ac mae’r ymrwymiad hwn wedi’i gwmpasu yn y Cynllun Cyflenwi ar gyfer yr Heddlu a Throseddu, yn benodol o dan flaenoriaethau cefnogi dioddefwyr, atal niwed a sicrhau bod ein system gyfiawnder yn fwy effeithiol. (). Mae treisio hefyd yn flaenoriaeth i’r heddlu. Byddwn yn darparu ymateb tosturiol i ddioddefwyr trais a throseddau rhyw difrifol ac yn mynd ar drywydd troseddwyr yn ddiflino.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn-amser, rhan-amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Prif nodau’r polisi hwn yw:
DIFFINIADAU
Daw’r diffiniad statudol o dreisio o adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
(1) Mae person (A) yn cyflawni trosedd— (a) os yw’n treiddio’n fwriadol i wain, anws neu geg person arall (B) â’i bidyn, (b) os nad yw B yn cydsynio i’r treiddiad, ac (c) os nad yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.
Nid oes diffiniad cenedlaethol o ‘droseddau rhyw difrifol’, ond mae’r troseddau canlynol yn cael eu cyfrif fel ‘troseddau rhyw eraill’ yn unol â Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref 2023/2024 a throseddau hysbysadwy 2024-2025. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried y rhain yn ‘droseddau rhyw difrifol’.
73 – Camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth mewn natur rywiol
70 – Gweithgarwch rhywiol gydag unigolyn ag anhwylder meddwl
22A – Achosi gweithgarwch rhywiol heb gydsyniad
21 – Gweithgarwch rhywiol yn ymwneud â phlentyn dan 13
22B – Gweithgarwch rhywiol yn ymwneud â phlentyn dan 16
20A – Ymosodiad rhywiol ar unigolyn benywaidd 13 oed neu’n hŷn
20B – Ymosodiad rhywiol ar blentyn benywaidd dan 13
17A – Ymosodiad rhywiol ar unigolyn gwrywaidd 13 oed neu’n hŷn
17B – Ymosodiad rhywiol ar blentyn gwrywaidd dan 13
88C – Troseddau rhywiol amrywiol eraill
88E – Dinoethiad a Voyeuriaeth
Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn o droseddau rhyw yma: Rheolau cyfrif troseddau hysbyssadwy a digwyddiadau hysbysadwy yr adroddwyd amdanynt 2024-2025.
Wrth ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol, disgwylir i swyddogion a staff lynu wrth egwyddorion sylfaenol Ymgyrch Soteria Bluestone a defnyddio’r canllawiau a’r pecynnau cymorth a ddarperir yn y model gweithredu cenedlaethol i wella’r ymchwiliad i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol a rhyngweithio’r heddlu â dioddefwyr.
Mae’r prosiect wedi’i rannu’n chwe ffrwd waith, gyda phob un yn ymdrin ag agwedd wahanol ar y broses ymchwilio, waeth pa mor gydgysylltiedig. Cyfeirir at y ffrydiau gwaith hyn fel pileri. Y chwe philer yw:
PILER 1 – Ymchwiliadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddrwgdybir
PILER 2 – Targedu ac amharu ar ad-droseddwyr
PILER 3 – Ymgysylltu â dioddefwyr
PILER 4 – Dysgu, datblygu a llesiant
PILER 5 – Defnyddio data a pherfformiad
PILER 6 – Gwaith fforensig digidol
Bydd grŵp cyflenwi Ymgyrch Soteria Bluestone yn cael ei gydlynu gan Uwch Swyddog Cyfrifol o reng Uwcharolygydd o leiaf, sydd wedi’i ddirprwyo gan Brif Arolygydd a fydd yn cario portffolio RASSO ar gyfer yr heddlu.
Arweinir pob piler gan swyddog o reng nad yw’n is na Phrif Arolygydd o fewn yr heddlu, a’i gyfrifoldeb yw gyrru ymlaen y gwaith o weithredu gwelliannau sy’n dod o dan eu piler o lefel strategol. O dan bob piler mae carfan o arweinwyr o reng nad yw’n is na Rhingyll, neu reng staff cyfatebol, a’u rolau fydd ysgogi newid trawsnewidiol.
Taith yr ymchwilydd
Mae’r model gweithredu cenedlaethol ar gyfer ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn fodel a gymeradwyir gan y Swyddfa Gartref a ddatblygwyd o waith Ymgyrch Soteria Bluestone. Mae’r model yn cefnogi heddluoedd ledled y DU drwy gyflawni newid trawsnewidiol yn yr ymchwiliad i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol, ac ymgysylltu â dioddefwyr. Fe’i datblygwyd gan academyddion mewn trafodaeth â dioddefwyr, a sefydliadau sy’n cefnogi dioddefwyr, i sicrhau bod anghenion y dioddefwr yn ganolog i’r broses drwy gydol taith yr ymchwilydd.
Mae taith yr ymchwilydd yn cynnwys 15 cam o’r deilliannau cyntaf i’r rhai terfynol. Mae’r daith yn canolbwyntio ar dair nodwedd allweddol, sef nodwedd sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, yr unigolyn a ddrwgdybir, a’r cyd-destun, a fydd yn llywio ein gwaith casglu ac asesu tystiolaeth drwy gydol y broses.
Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae egwyddor dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr yn tanlinellu pwysigrwydd cadw dioddefwyr a’u hanghenion yn ganolog drwy gydol y broses ymchwilio. Mae’r nodwedd allweddol hon yn sicrhau bod barn, dymuniadau, profiadau, llais a hawliau’r dioddefwr yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hefyd yn atal ymchwiliadau rhag bod yn destun rhagfarn broffesiynol gyda llai o le ar gyfer mythau treisio ac ystrydebau. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod llais dioddefwyr yn cael ei glywed, bod eu hanghenion yn cael eu hasesu, eu bod yn cael gwybodaeth gyfredol a pherthnasol, a’u bod yn cael eu trin â’r parch mwyaf, gan sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn ystod y broses ymchwilio.
Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddrwgdybir
Mae’r egwyddor o ganolbwyntio ar yr un a ddrwgdybir o’r cychwyn cyntaf yn amlygu pwysigrwydd bod ymchwilwyr yn ystyried y stori gyfan, gan ganolbwyntio ar ymddygiad yr unigolyn a ddrwgdybir a llai ar gymeriad y dioddefwr. Mae’r egwyddor o ganolbwyntio ar yr unigolyn a ddrwgdybir yn cydnabod arwyddocâd cynnal ymchwiliadau trylwyr a theg sy’n casglu tystiolaeth ac sy’n craffu ar weithredoedd yr unigolyn a ddrwgdybir. Mae’r model gweithredu cenedlaethol yn cefnogi swyddogion i ddatblygu a chymhwyso gwybodaeth am ymddygiad troseddol rhywiol yn hyderus i nodi llwybrau ymholi perthnasol.
Mae’r model gweithredu cenedlaethol yn nodi y dylai ymchwiliadau wneud y canlynol:
Dull sy’n cael ei lywio gan gyd-destun
Mae’r dull stori gyfan yn archwilio cyfleoedd ymchwilio ehangach yn hytrach na pharamedrau culach o fewn amserlen y drosedd. Mae hyn yn cyfyngu ar allu’r ymchwilydd i gymhwyso cyd-destun i berthynas yr unigolyn a ddrwgdybir a’r dioddefwr cyn y drosedd. Mae cyd-destun yn darparu ymwybyddiaeth o ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a sefyllfaol a bydd yn rhan o strategaeth ymchwiliol. Mae’n darparu dealltwriaeth ehangach o’r ddeinameg dan sylw, gan archwilio cyfleoedd tystiolaethol nodweddiadol yn ogystal â’r amgylchiadau cefndirol. Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), bydd ymchwilwyr, goruchwylwyr ac Uwch Swyddogion Ymchwilio (SIOs) yn ystyried y darlun cyfan, cyn cymhwyso’r prawf cod llawn mewn ymchwiliadau i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol.
Strategaeth ymchwilio
Mae taith yr ymchwilydd yn strategaeth ymchwilio enghreifftiol 15 cam, sy’n cynnig canllawiau, sicrwydd cyfreithiol a phwyntiau i’w hystyried i gefnogi swyddogion a staff wrth ymchwilio i achos. Mae’n dangos sut y gall ymchwiliadau i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol fod yn rhai sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr, yr unigolyn a ddrwgdybir, a’r cyd-destun ar bob cam.
Dyma 15 cam y daith ymchwiliol:
Gwybodaeth bellach:
Yr ymateb cyntaf
Dyrannu Swyddog Hyfforddedig Troseddau Rhyw (SOTO) ar gyfer adferiad fforensig
Tîm Canolog Bluestone
Gweler Cylch Gwaith Tîm Bluestone am ragor o wybodaeth.
Bydd holl swyddogion rheng flaen Heddlu Dyfed-Powys yn cael hyfforddiant ymatebwyr cyntaf mewn perthynas â threisio a throseddau rhyw difrifol, a disgwylir iddynt gymhwyso’r egwyddorion yn yr hyfforddiant hwn yn eu hymateb cychwynnol i unrhyw drosedd rhyw. Rhaid iddynt wneud y canlynol:
Cofnodi troseddau
Safonau cenedlaethol ar gyfer cofnodi digwyddiadau a throseddau
Mae pob adroddiad o dreisio a throsedd rhyw ddifrifol yn cael ei gofnodi yn unol â’r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau (NCRS) ar systemau dynodedig yr heddlu. Rhaid cofnodi cynnydd yr ymchwiliad ar system ddynodedig yr heddlu.
Mae egwyddorion cyffredinol y Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau yn nodi y bydd digwyddiadau’n cael eu cofnodi fel trosedd os, yn ôl yr hyn sy’n debygol:
O ran amseroldeb cofnodi, mae’r canllawiau’n nodi: ‘Lle mae’r wybodaeth a gafwyd o’r pwynt cyswllt cyntaf yn bodloni’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch cofnodi troseddau, y disgwyl yw y bydd troseddau a nodwyd yn cael eu cofnodi ar unwaith. Disgwylir y bydd troseddau o’r fath yn cael eu cofnodi ar yr un diwrnod ag y ceir yr adroddiad – ac mewn unrhyw achos mae’n rhaid eu cofnodi o fewn 24 awr i’r amser y cafwyd yr adroddiad cychwynnol’.
Yn ogystal â hyn, disgrifir dau achlysur pan ddylai troseddau gael eu cofnodi heb gadarnhad gan y dioddefwr:
Rhaid i oruchwylwyr a swyddogion feithrin diwylliant o ‘gofnodi i ymchwilio’ ac nid ‘ymchwilio i gofnodi’.
N100 – Digwyddiadau o dreisio yr adroddwyd amdanynt
Rhaid i bob digwyddiad o dreisio, neu ymgais i dreisio, yr adroddir amdano, boed gan ddioddefwyr, tystion neu drydydd partïon, nad ydynt yn cael eu cofnodi ar unwaith fel trosedd a gadarnhawyd gael ei gofnodi fel N100, oni bai bod yr adroddiad wedi’i wneud gan weithiwr proffesiynol. Os yr olaf, bydd dosbarthiad ystadegol o dreisio yn cael ei gofnodi.
Bydd rheolau cofnodi troseddau yn dweud mai’r disgwyl yw, unwaith y cadarnheir bod digwyddiad o dreisio yr adroddwyd amdano yn drosedd hysbysadwy, y bydd yn cael ei ailddosbarthu i adlewyrchu hynny ar y cyfle cyntaf yn ddiymdroi.
Yn yr un modd, ni ddylai ailddosbarthu’r drosedd gael unrhyw effaith ar gynnydd yr ymchwiliad.
Os na chaiff trosedd hysbysadwy ei chadarnhau wrth siarad â’r dioddefwr, bydd y digwyddiad o dreisio yr adroddwyd amdano yn aros ar system droseddu’r heddlu yn erbyn nifer o godau penodol a restrir.
Ymdrinnir â’r uchod yn fanylach ym Mholisi Cofnodi Troseddau a Deilliannau y Swyddfa Gartref ac yn y gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer staff canolfannau gwasanaethau cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan GOV.UK o dan y rheolau cyfrif ar gyfer troseddau a gofnodwyd.
Nodweddion gwarchodedig
Fel rhan o’r broses gychwynnol honno o gasglu gwybodaeth a chwblhau llyfryn ymateb cyntaf mewn perthynas ag achos o dreisio a throsedd rhyw ddifrifol (RFRB), mae angen i swyddogion sicrhau bod nodweddion gwarchodedig dioddefwyr o dreisio a throseddau rhyw difrifol (er enghraifft hil, crefyddau, anabledd) yn cael eu cofnodi’n gywir ac yn gyson o fewn y llyfryn.
Dyrannu troseddau
Mae pob achos o dreisio a throsedd rhyw ddifrifol yn destun ymchwiliad cymesur gyda chefnogaeth swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n addas.
Bydd ymchwiliadau i achosion o dreisio a throseddau rhyw treiddiol yn cael eu dyrannu i dimau’r Adran Ymchwilio i Droseddau (CID) / Bluestone / Cyd-uned Ymchwilio (JIT) sydd â swyddog achrededig Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio (PIP) Lefel 2 neu swyddog sy’n gweithio tuag at y cymhwyster hwn.
Bydd ymchwiliadau eraill i droseddau rhyw difrifol yn cael eu dyrannu i naill ai’r Adran Ymchwilio i Droseddau (swyddog achrededig Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 / swyddog sy’n gweithio tuag at y cymhwyster hwnnw) neu unedau ymchwilio lleol yn unol â Pholisi Cofnodi Troseddau a Digwyddiadau ac Ymchwilio Iddynt.
Mae’r ffactorau isod wedi’u nodi fel rhai sy’n debygol o olygu bod angen dyrannu’r ymchwiliad i ymchwilydd achrededig Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2:
Ffactorau a all gynyddu difrifoldeb, cymhlethdod, neu’r angen am ymchwiliad Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 |
|
Digwyddiad argyfyngus |
Trosedd gasineb |
Craffu gan y cyfryngau, neu debygolrwydd cryf o graffu |
Mater sy’n effeithio ar enw da yr heddlu |
Troseddwr rhyw cofrestredig (RSO) / unigolyn a ddrwgdybir sy’n destun trefniadaeth aml-asiantaethol er diogelu’r cyhoedd (MAPPA) |
Cyfres gysylltiedig |
Sefyllfa o ymddiriedaeth |
Dioddefwr bregus |
Troseddau rhyw digyswllt
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod canllawiau diweddaraf y Coleg Plismona yn sgil cyhoeddi argymhellion Angiolini a’r ymchwiliadau yn ymwneud â throseddau rhyw ‘digyswllt’, ac yn ystyried y canlynol fel y tri math o drosedd rhyw ‘digyswllt’:
Bydd unrhyw droseddau o ddinoethi sy’n cynnwys mastyrbio, neu a nodir fel cyfres o weithredoedd o ddinoethi, neu sy’n ymwneud â chyffwrdd, cornelu, neu erlid dioddefwr yn cael eu dyrannu i’r Adran Ymchwilio i Droseddau ac yn cael eu hymchwilio.
Bydd pob trosedd rhyw yn cael ei hadolygu gan Dditectif Oruchwyliwr o reng Ditectif Ringyll o leiaf cyn cyfarfod rheoli dyddiol (DMM) i sicrhau bod asesiad risg priodol yn cael ei gynnal, bod dioddefwyr yn cael eu diogelu ac unrhyw dystion yn cael sylw, a bod y drosedd yn cael ei dyrannu yn unol â’r drosedd a’r polisi dyrannu.
Uwch Swyddog Ymchwilio
Ym mhob achos o dreisio bydd Ditectif Arolygydd (DI) yn cael ei benodi fel yr Uwch Swyddog Ymchwilio, a bydd yn cadw cyfrifoldeb ac atebolrwydd am gynnal yr ymchwiliad, ynghyd a’i amseroldeb. Ei gyfrifoldeb yw datblygu a rheoli’r strategaeth ymchwiliol, cofnodi penderfyniadau allweddol a’r rhesymeg drostynt, adolygu cynnydd a chofnodi deilliannau. Rhaid i’r Uwch Swyddog Ymchwilio hefyd reoli adnoddau, gan gynnwys unrhyw arbenigwyr y mae eu hangen ar gyfer yr ymchwiliad, a bod yn atebol i’r prif swyddogion am gynnal yr ymchwiliad.
Bydd Uwch Swyddog Ymchwilio (ag achrediad Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 3 / yn gweithio tuag at y cymhwyster hwnnw) yn cael ei ddyrannu i achos o dreisio dieithryn. Ystyrir hefyd defnyddio’r Tîm Cymorth Troseddau Mawr, a rheoli’r ymchwiliad trwy System Ymchwiliadau Mawr a Difrifol y Swyddfa Gartref (HOLMES).
Goruchwylydd a Swyddog yr Achos (OIC)
Bydd y Ditectif Ringyll neu’r Ditectif Ringyll Dros Dro yn darparu goruchwyliaeth briodol i helpu i yrru ymlaen rheolaeth gweithredu. Bydd ditectif achrededig Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 (neu sy’n gweithio tuag at y cymhwyster hwn) yn cyflawni rôl swyddog yr achos a’r swyddog datgelu.
Mewn perthynas ag ymosodiadau rhywiol difrifol eraill gall yr uwch swyddog ymchwilio fod yn Dditectif Ringyll.
Adroddiad cychwynnol
Llyfryn Ymateb Cyntaf RASSO
Bydd swyddogion yn defnyddio llyfryn ymateb cyntaf pwrpasol wrth ymgysylltu â’r dioddefwr.
Unwaith y bydd y llyfryn ymateb cyntaf hwn yn cael ei gwblhau, bydd y ddogfen hon yn cael ei hadolygu gan swyddog penodedig yr achos.
Rhan hanfodol o’r llyfryn ymateb cyntaf yw’r ‘adroddiad cychwynnol’ a gymerir gan y dioddefwr, gan sicrhau bod canllawiau Sicrhau’r Dystiolaeth Orau (ABE) yn cael eu dilyn.
Rhaid cofnodi’r adroddiad cychwynnol yn gywir. Cyfeiriwch at ganllawiau’r camera corff isod wrth lunio adroddiadau cychwynnol.
GoodSAM
Bydd Tîm Bluestone yn dilyn egwyddorion y llyfryn ymateb cyntaf, ond bydd yn recordio’r adroddiad cychwynnol trwy dechnoleg galwad fideo. Bydd y dioddefwr yn cael cynnig atgyfeiriad i Llwybrau Newydd, ynghyd â chynnig i gael Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) yn bresennol yn ystod yr adroddiad cychwynnol.
Bydd yr alwad fideo yn cael ei throsglwyddo i storfa cwmwl fel bod modd i swyddog penodedig yr achos ei chyrchu a’i hadolygu.
Plant
Dylai adroddiadau cychwynnol gan blant sy’n ddioddefwyr (unrhyw un o dan 18 oed) gael eu cofnodi yn y llyfryn ymateb cyntaf lle bo’n briodol gan gyfwelydd plant penodedig. Wrth gael adroddiad cyntaf gan blant, mae’n hollbwysig bod y cwestiynau a’r atebion yn cael eu dogfennu.
Defnyddio camerâu corff
Bydd y swyddogion sy’n bresennol gyntaf yn cydymffurfio â pholisi camerâu corff Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer actifadu eu camerâu corff pan fyddant yn bresennol mewn lleoliad achos o dreisio neu drosedd rhyw ddifrifol, sydd hefyd yn cydymffurfio â Phapur Sefyllfa Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) (29 Medi 2022) ynghylch defynuddion camerau corff.
Os oes gan y swyddog sy’n bresennol ddyfais camera corff, disgwylir y bydd y camera hwn yn cael ei actifadu wrth ymateb i adroddiad o dreisio neu drosedd rhyw ddifrifol. Mae camera corff yn arf casglu tystiolaeth da ac effeithiol sy’n gallu dangos mewn eiliadau yr hyn a allai gymryd oriau i’w ysgrifennu.
Dylid actifadu camera corff wrth gael y llyfryn ymateb cyntaf. Dylid rhoi gwybod i’r dioddefwr bod y camera corff wedi’i actifadu.
Yr eithriad i hyn yw os bydd y dioddefwr yn gofyn i’r camera gael ei ddiffodd. Bydd y swyddog yn cydymffurfio â’r cais hwn ac yn gwneud cofnod, gan esbonio pam y gwnaed y penderfyniad hwn ar gofnod yr ymchwiliad. Yn yr un modd, os yw’r dioddefwr yn blentyn neu’n oedolyn bregus, dylid diffodd y camera corff ar unwaith.
Mae’n bwysig bod ymatebwyr cyntaf yn cyfyngu’r cwestiynu i sefydlu’r ffeithiau sylfaenol yn unig, a dylent adael yr holi manwl i ymchwilwyr hyfforddedig arbenigol. Dylai cynnwys y llyfryn ymateb cyntaf gadarnhau’r hyn y mae’r dioddefwr wedi’i ddatgelu ar y camera corff.
Pecynnau tystiolaeth gynnar (EEKs)
Rhaid i becynnau tystiolaeth gynnar fod yn hygyrch i bob ardal blismona leol gan eu bod yn ffurfio rhan annatod o’r gwaith casglu fforensig. Rhaid ystyried pecynnau tystiolaeth gynnar ym mhob achos perthnasol. Bydd achos perthnasol yn cynnwys pob achos o drosedd rhyw cyswllt acíwt, lle mae’r cyfnod fforensig ar agor (o fewn saith niwrnod).Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn canllawiau’r Cyfleuster Meddygaeth Gyfreithiol Fforensig (FFLM).
Nid oes angen i’r swyddogion fod wedi cael hyfforddiant Swyddog Hyfforddedig Troseddau Rhyw i ddefnyddio’r pecynnau tystiolaeth gynnar. Ceir canllawiau llawn ar fewnrwyd yr heddlu.
Strategaeth ddigidol
Y dioddefwr
Canfuwyd yn genedlaethol, trwy ymgysylltu â grwpiau dioddefwyr, y gall cymryd ffôn dioddefwr am unrhyw gyfnod yn ystod ymchwiliad fod yn anodd iddynt, yn enwedig os mai dyma eu hunig ffordd i gyfathrebu a chael cymorth. Dim ond â chaniatâd y dioddefwr y gellir archwilio ei ffôn. Dylid cofnodi sail resymegol dros beidio â chyflwyno ffôn y dioddefwr ar gofnod ymchwilio’r digwyddiad (OEL). Rhoddir sylw i adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) Commissioners Opinion Who's Under Investigation. Bydd paramedrau digidol yn gymesur ac yn gyfiawn.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i geisio lawrlwytho ffôn symudol dioddefwr a’i ddychwelyd o fewn 24 awr. Lle mae arwydd y gallai archwilio’r ffôn achosi oedi y tu hwnt i 24 awr, rhaid darparu’r wybodaeth hon i’r dioddefwr a rhaid cynnig ffôn dros dro i’r dioddefwr, sydd ar gael o’r Ganolfan Bregusrwydd.
Cymesuredd a rheidrwydd |
Mae cymesuredd a rheidrwydd yn arbennig o berthnasol wrth ystyried cyflwyno dyfeisiau sy’n perthyn i ddioddefwyr a thystion pan ddylid bob amser ystyried y dull lleiaf ymwthiol. Ym mhob achos, dylai echdynnu gwybodaeth o ddyfais (ac eithrio dyfais yr unigolyn a ddrwgdybir) fod y dewis olaf a dim ond pan fydd dulliau eraill llai ymwthiol i gael yr wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi’u dihysbyddu neu pan ystyrir nad yw’n rhesymol ymarferol i’w dilyn.
Mae dulliau llai ymwthiol o gaffael data digidol yn cynnwys sgrinluniau a lawrlwythiadau archif cyfrifon a gyflwynir gan y dioddefwr. Dylid ystyried y rhain cyn cyflwyno dyfeisiau digidol ar gyfer echdynnu eu data. Cysylltwch â’r Uned Cudd-wybodaeth Adrannol (DIU) am gyngor a chyfarwyddyd pellach.
SYLWER: RHAID i swyddogion BEIDIO ag archwilio dyfeisiau. |
Dylid eu cyflwyno i’r Uned Fforensig Ddigidol (DFU) i echdynnu’r data |
Mae Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd wedi darparu sail statudol glir i’r heddlu, ac awdurdodau eraill, echdynnu gwybodaeth o ddyfeisiau digidol, gyda chytundeb defnyddiwr y ddyfais. Mae’r pwerau’n sicrhau na wneir ceisiadau am wybodaeth o ddyfeisiau sy’n perthyn i ddioddefwyr a thystion ac eithrio lle bo angen, a hynny’n gymesur ac fel rhan o lwybr ymholi rhesymol.
Er mwyn sicrhau nad oes rhaid i ddioddefwyr fod heb eu ffonau symudol am fwy na 24 awr, dylid trefnu dyddiad, amser a lle penodol gyda’r perchennog/dioddefwr a’r adran Uned Fforensig Ddigidol/Uned Cudd-wybodaeth Adrannol.
Bydd angen i dystion a dioddefwyr gwblhau a chyflwyno Hysbysiad Prosesu Data (DPNa), sy’n caniatáu i’r perchennog osod paramedrau ar gyfer echdynnu data o’r ffôn. Rhaid cwblhau’r rhain yn ofalus i gasglu’r wybodaeth berthnasol sy’n ofynnol yn yr ymchwiliad, megis amseroedd/dyddiadau, cymwysiadau, enwau ffeiliau, cysylltiadau neu enwau defnyddwyr. Dim ond setiau data a pharamedrau a restrir ar y ffurflen hon fydd yn cael eu darparu yn yr adroddiad a gynhyrchir gan yr Uned Fforensig Ddigidol.
Dylai pob cyflwyniad MG21 a DPNa i’r Uned Fforensig Ddigidol gael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost canlynol a’i nodi fel neges o bwys mawr.
SYLWER: Dylai’r DPNa gael ei lofnodi gan Arolygydd a fedr awdurdodi. |
Yr unigolyn a ddrwgdybir
Anogir ymchwilwyr i nodi cyfleoedd fforensig digidol sy’n ymwneud â dyfeisiau’r unigolyn a ddrwgdybir. Mewn achosion lle mae lle i gredu y gallai dyfeisiau’r sawl a ddrwgdybir fod wedi bod yn rhan o gyflawni trosedd cyn, yn ystod neu ar ôl hynny, dylai fod strategaeth ymchwiliol glir sy’n ystyried yr angen i arestio neu wneud cais am warantau chwilio, i alluogi bod y dyfeisiau hyn yn cael eu hatafaelu i’w hymchwilio maes o law. Lle atafaelwyd dyfais/dyfeisiau yr unigolyn a ddrwgdybir o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, dylai ymchwilwyr geisio cyflwyno arddangosion yn brydlon drwy’r sianeli cyflwyno cywir er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth ymchwilio.
Cadw
Rhaid i unrhyw arddangosyn a atafaelwyd gael ei gofnodi ar Niche (system rheoli cofnodion) i gydymffurfio â’r canllawiau cadw.
Sut mae cyflwyno dyfais ar gyfer archwiliad fforensig digidol?
Hysbysiadau Prosesu Digidol
MG21b
Adran 49 o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA)
Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)
Lle mae achos o dreisio a throsedd rhyw ddifrifol wedi’i adrodd, efallai y bydd angen archwiliad meddygol, a rhaid ceisio caniatâd y dioddefwr a’i ddogfennu. Cynhelir yr archwiliad meddygol yn unol â gweithdrefnau lleol sy’n ymwneud â’r Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol. Mae defnyddio’r Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol o’r cychwyn yn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu i’r dioddefwr. Lle nad yw’r Canolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol wedi’i ddefnyddio, rhaid cofnodi rhesymeg glir ar gofnod yr ymchwiliad.
Datgeliad
Mae pob swyddog yn glynu wrth Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 a’i chod ymarfer wrth ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol. Mae Uwch Swyddogion Ymchwilio yn sicrhau bod y rolau perthnasol a nodir yn y ddeddfwriaeth yn cael eu henwebu ar gyfer pob ymchwiliad.
Wrth gyflwyno ffeil i Wasanaeth Erlyn y Goron, dylid hefyd cyflwyno Dogfen Rheoli Ymchwiliad gynhwysfawr.
Deunydd trydydd partïon
Mae’n rhaid gwneud ymholiadau yn gynnar mewn ymchwiliad i gadarnhau a oes angen deunydd gan drydydd parti. Rhaid i unrhyw gais i asiantaeth arall ddarparu digon o wybodaeth i ganiatáu’r derbynnydd i ddeall yr wybodaeth a geisir, er mwyn sicrhau mai dim ond deunydd y gofynnir amdano a ddarperir wedyn i’w adolygu. Mae’n rhaid i geisiadau am ddeunydd trydydd parti fod yn gymesur, ac wedi’u targedu, ac ni fyddant yn dibynnu ar ganiatâd. Gellir trafod paramedrau trydydd parti gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystod y cam cyngor cynnar. Rhoddir sylw i adroddiad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd y paramedrau’n gymesur ac yn gyfiawn.
Adran Dadansoddi Troseddau Difrifol (SCAS)
Mae’r heddlu’n cyflwyno gwybodaeth yn unol â pholisi’r Adran Dadansoddi Troseddau Difrifol. Mae aelod o staff a bennwyd o fewn Adran Cudd-wybodaeth yr Heddlu (FIB) yn ymgymryd â rôl Pwynt Cyswllt Unigol yr Adran (SPOC) yn yr heddlu, a bydd yn monitro perfformiad. Rhaid i’r Uwch Swyddogion Ymchwilio ystyried ymchwil yr Adran Dadansoddi Troseddau Difrifol fel rhan o’u strategaeth cudd-wybodaeth.
Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyngor cynnar
Mae’n rhaid i Swyddogion Ymchwilio a’u goruchwylwyr gydweithio â chyfreithwyr arbenigol achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol i adeiladu achos tystiolaethol cryf.
Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron dîm ymroddedig o erlynwyr i ymdrin ag achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol. Cytunwyd ar Femorandwm Dealltwriaeth sydd i’w ddarllen ar y cyd â’r Protocol Cenedlaethol ar Dreisio rhwng gwasanaeth yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wrth ymchwilio ac erlyn mewn perthynas ag achosion o dreisio. Mae rhestr wirio safonol ofynnol ar gyfer cyflwyno ffeiliau ar gyfer penderfyniadau cyhuddo. Gweler y dogfennau isod:
Mae’n rhaid i swyddogion fanteisio ar gyngor cynnar gan Wasanaeth Erlyn y Goron yn unol â phrotocol Gwasanaeth Erlyn y Goron a memorandwm dealltwriaeth o gyngor cynnar.
Mater i’r swyddog ymchwilio a’i oruchwyliwr yw amseriad y cais am gyngor cynnar. Serch hynny, anogir ymchwilwyr i ystyried ceisio cyngor cynnar unwaith y bydd y dystiolaeth allweddol wedi’i deall, hyd yn oed os nad ydyw wedi’i datblygu’n llawn, a phan fydd materion yn yr achos wedi’u nodi.
Mae cyngor cynnar yn rhoi cyfeiriad ymchwiliol ac yn gosod paramedrau priodol yn ymwneud ag enghreifftiau megis deunydd trydydd partïon a chyflwyniadau fforensig a digidol. Ni ddylid ceisio cyngor cynnar mewn achosion y mae’r ymchwilydd yn dymuno eu harchwilio os ydyw erlyn er budd y cyhoedd.
Mewn achosion lle na cheisir cyngor cynnar, gall ymchwilwyr barhau i drefnu ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron trwy’r calendr dyletswydd wythnosol.
Mae’n bwysig bod goruchwylwyr yn cymeradwyo cofnod ymchwilio’r digwyddiad yn Niche gyda rhesymau’n esbonio pam na cheisiwyd cyngor cynnar mewn ymchwiliadau’n ymwneud â threisio a throseddau rhyw difrifol.
Cyfeiriwch at y canllawiau isod:
Memorandwm dealltwriaeth – Cyngor cynnar mewn perthynas ag achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol
Y Protocol Cenedlaethol ar Dreisio
Rhestr wirio achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol (ar gael ar Niche)
Treisio a throseddau rhyw difrifol, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac adeiladu achosion
Herio mythau ac ystrydebau treisio
Penderfyniad i gyflwyno cais am gyngor ar gyhuddo
Defnyddir dau fath o brawf tystiolaeth i benderfynu a ddylid codi cyhuddiad.
Mae’r prawf cyntaf yn ‘brawf trothwy’. (Gweler dogfen y model gweithredu cenedlaethol: Y prawf trothwy ar gyfer achosion o dreisioa throseddau rhyw difrifol. Defnyddir y prawf hwn pan nad oes ffeil lawn o dystiolaeth ar gael eto, ond mae difrifoldeb yr achos yn gofyn am benderfyniad cyhuddo ar unwaith ac mae sail resymol i gredu y bydd parhau â’r ymchwiliad yn darparu tystiolaeth a fydd yn rhoi tystiolaeth o obaith realistig o euogfarn. Bydd Uwch Swyddogion Ymchwilio yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ynglŷn â chyflwyno achosion ar brawf trothwy yn seiliedig ar dystiolaeth ac amgylchiadau’r achos.
Yr ail brawf yw’r ‘prawf cod llawn’. Bydd Uwch Swyddogion Ymchwilio yn adolygu’r ymchwiliad ac yn asesu a ydyw’r achos yn diwallu’r prawf cod llawn yn unol â chanllawiau cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Os bydd yr Uwch Swyddog Ymchwilio yn barnu bod y dystiolaeth yn ddigonol i ddiwallu’r ‘prawf cod llawn’, caiff yr achos ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei ddogfennu gan y Ditectif Arolygydd, a chaiff gopi ei anfon gyda’r ffeil. Wrth gynnal yr adolygiad hwn, dylai Uwch Swyddogion Ymchwilio ddilyn yr hyn sydd yn nogfen y model gweithredu cenedlaethol: Y prawf cod llawn ar gyfer achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol.
Lle mae’r Uwch Swyddog Ymchwilio yn barnu bod y dystiolaeth yn annigonol i gyrraedd y trothwy, mae’n gwirio a oes unrhyw lwybrau ymholi pellach a allai ddatblygu’r achos tystiolaethol. Os dilynwyd pob llwybr ymholi rhesymol ac os nad yw’r dystiolaeth yn bodloni’r prawf, ni fydd yr achos yn cael ei yrru yn ei flaen i Wasanaeth Erlyn y Goron.
O dan yr amgylchiadau hyn mae’r Uwch Swyddog Ymchwilio yn cwblhau adroddiad terfynol a fydd yn cael ei atodi i’r system rheoli cofnodion (RMS).
Cwblhau troseddau
Penderfyniad Dim Gweithredu Pellach (NFA)
Yr Uwch Swyddog Ymchwilio sy’n penderfynu a oes angen cymryd camau gweithredu pellach ai peidio. Mewn perthynas ag achosion o dreisio, bydd hwn yn Dditectif Arolygydd (beth bynnag fo dymuniadau’r dioddefwr o ran deilliant y cyfiawnder troseddol), ac ar gyfer pob trosedd rhyw arall bydd hwn yn Rhingyll.
Y dioddefwr wedi ymddieithrio – Deilliant 14/16
Mae templed wedi’i greu ar system rheoli cofnodion Niche i Uwch Swyddogion Ymchwilio ei gwblhau pan fydd dioddefwyr wedi ymddieithrio o’r ymchwiliad. Mae angen cwblhau hwn cyn ceisio cwblhau Deilliant 16.
Treisio a throseddau treiddiol:
Os gwneir penderfyniad nad yw’r achos yn diwallu’r gofynion tystiolaethol i’w yrru ymlaen i atgyfeiriad Gwasanaeth Erlyn y Goron, bydd yr Uwch Swyddog Ymchwilio yn cwblhau adroddiad terfynol ynghyd â llythyr yn hysbysu nad oes angen gweithredu pellach, yn unol â thempledi llythyrau Dim Gweithredu Pellach y model gweithredu cenedlaethol.
Bydd y penderfyniad a’r llythyr Dim Gweithredu Pellach yn cael eu darparu i’r dioddefwr yn unol â’u cytundeb cyswllt yn y Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr (VCP). Serch hynny, disgwylir y dylai penderfyniadau o Ddim Gweithredu Pellach gael eu darparu fel arfer mewn cyfarfod wyneb yn wyneb neu drwy alwadau fideo (os yw’n well gan y dioddefwr hynny), gyda’r Swyddog Hyfforddedig Troseddau Rhyw, y Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol, neu gefnogwr arall sydd yn bresennol. Rhaid i’r swyddogion fod yn barod i egluro’r rhesymeg dros wneud y penderfyniad.
Pob trosedd rhyw arall:
Mae gan bob dioddefwr trosedd rhyw hawl i hawliau uwch o dan Cod y Dioddefwyr. Fel y cyfryw, dylid hysbysu dioddefwyr o’r penderfyniad y bydd Dim Gweithredu Pellach o fewn un diwrnod gwaith. Dylid cyfathrebu hyn trwy Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol, neu gefnogwr arall, yn unol â’r cytundeb yn y Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr.
Hawl dioddefwyr i adolygiad
Mae Hawl Dioddefwyr i Adolygiad gan yr Heddlu (PVRR) yn ymwneud â hawl dioddefwr i ofyn am adolygiad o benderfyniad i beidio ag erlyn yr unigolyn a ddrwgdybir.
Dylid hysbysu pob dioddefwr o’i hawl i ofyn am adolygiad ar yr adeg y cânt wybod am y penderfyniad i beidio ag erlyn.
Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i ddioddefwr ofyn am adolygiad o fewn tri mis i’r dyddiad y cafodd ei hysbysu bod yr achos yn cael ei ffeilio. Er hynny, mae disgresiwn yn bodoli i adolygu achosion y tu hwnt i’r cyfnod tri mis hwn mewn amgylchiadau penodol, a chaiff y rhain eu hadolygu yn ôl eu teilyngdod.
Dylai adolygiadau gael eu cynnal gan swyddog sydd o leiaf un rheng yn uwch na’r penderfynwr gwreiddiol ac nad oedd yn rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol.
Dylid cyfeirio pob cais am adolygiad at yr Adran Cyfiawnder Troseddol naill ai ar ffurf llythyr, neges e-bost neu drwy wefan Heddlu Dyfed-Powys.
Hawl Dioddefwyr i Adolygiad
Yr Adran Cyfiawnder Troseddol
Heddlu Dyfed-Powys
Blwch SP 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Canllawiau hawl dioddefwyr i adolygiad mewnol yr heddlu
Map o’r broses – Hawl Dioddefwyr i Adolygiad gan yr Heddlu
Penderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron bod Dim Gweithredu Pellach
Os yw Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu nad oes angen gweithredu pellach yn yr ymchwiliad, bydd yn darparu llythyr i’r dioddefwr yn egluro ei resymeg dros hyn. Dylid anfon y llythyr hwn at y dioddefwr, ac os bydd gan y dioddefwr unrhyw ymholiadau ychwanegol bydd manylion cyswllt y Swyddog Cyswllt Dioddefwyr (VLO) yn cael eu rhoi i’r dioddefwr. Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys manylion yn esbonio sut y gall y dioddefwr ofyn am ei hawl i adolygiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Diogelu
Y dioddefwr
Cod Ymarfer i Ddioddefwyr (VCOP)
Mae’r dioddefwr yn cael ei drin yn unol â’r Cod Ymarfer i Ddioddefwyr. Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gofnodi ar Niche. Er mwyn sicrhau bod yr ymchwiliad wedi cydymffurfio â’r asesiad o anghenion dioddefwyr (VNA), mae’n rhaid i swyddog yr achos a’r goruchwyliwr sicrhau bod templed trosedd cychwynnol cofnod ymchwilio’r digwyddiad a’r ddogfen rheoli cysylltiadau’r dioddefwyr wedi’u cwblhau o’r cychwyn cyntaf.
Mae rheoli cyswllt â dioddefwyr yn elfen hanfodol o ymchwiliad. Mae model gweithredu cenedlaethol Ymgyrch Soteria Bluestone yn cydnabod pwysigrwydd ymagwedd sy’n edrych ar y sefyllfa o safbwynt y dioddefwr i ymchwiliadau sy’n ymwneud â threisio a throseddau rhyw difrifol. Mae’n gwneud y broses yn dryloyw i ddioddefwyr ac yn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Mae gan ddioddefwyr yr hawl i gael manylion y drosedd ar unwaith, gwybodaeth wrth adrodd am y drosedd, gwybodaeth am yr ymchwiliad a’r erlyniad, ac i gael eu diweddaru drwy gydol ymchwiliad drwy’r dull cyswllt y cytunwyd arno a’r cyfnod a gofnodwyd yn y cynllun cyfathrebu.
Canllaw Gwybodaeth i Ddioddefwyr
Bydd pob dioddefwr o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn cael canllaw gwybodaeth pwrpasol pan fydd y drosedd yn cael ei gofnodi. Bydd y canllaw hwn yn esbonio’r daith ymchwiliol / y daith drwy’r system cyfiawnder troseddol, a bydd yn cynnwys manylion y cymorth.
Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr (VCP)
Mae’n orfodol bod Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr yn cael ei greu gan swyddog yr achos a’r dioddefwr. Mae’n rhaid adolygu’r Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr yn rheolaidd ac mae’n rhaid i swyddog yr achos sicrhau bod yr holl gyfathrebu â’r dioddefwr yn cydymffurfio â’r cytundeb yn y Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr.
Sicrhau’r dystiolaeth orau a mesurau arbennig
Mae’r Cynllun Cyfathrebu â Dioddefwyr yn gosod cyfrifoldeb ar yr heddlu i nodi tystion sy’n fregus ac sydd dan fygythiad, ac i egluro’r mesurau arbennig sydd ar gael iddynt i’w cynorthwyo wrth roi tystiolaeth. Mae’r Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol yn gosod dyletswydd ar y llys i ystyried barn y tyst yng nghyd-destun holl amgylchiadau’r achos wrth ystyried a ydyw mesurau arbennig yn debygol o wella ansawdd tystiolaeth y tyst. Dylid manylu ar gais am fesurau arbennig ar y ffurflenni MG2, MG6 ac MG11. Mae’n rhaid esbonio mesurau arbennig i ddioddefwyr fel eu bod yn ymwybodol o’r amrywiaeth o fesurau sydd ar gael er mwyn caniatáu i ddioddefwyr wneud penderfyniadau gwybodus amdanynt.
O dan adran 17.4 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol dylid ystyried dioddefwyr o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn dystion sydd dan fygythiad. Mae hyn yn golygu eu bod yn debygol o fod ag ofn neu ofid ynglŷn â thystio i’r fath raddau fel bod angen mesurau arbennig i sicrhau bod eu tystiolaeth o’r ansawdd orau bosibl. Mae’n rhaid esbonio’r broses o gyfiawnder troseddol, gan gynnwys y gwahanol opsiynau sydd ar gael i ddioddefwyr wrth ddarparu eu tystiolaeth yn y llys. Er nad yw’n orfodol, dylid cynnig i ddioddefwyr treisio a throseddau rhyw difrifol y dewis o ddarparu eu prif dystiolaeth ar ffurf fideo sydd wedi’i recordio.
Cyfeiriwch at y canllawiau hyn ar sicrhau’r dystiolaeth orau mewn achosion troseddol: Canllawiau ar gyfweld â dioddefwyr a thystion, a chanllawiau ar ddefnyddio mesurau arbennig (2022) am ganllawiau manylach ar gategorïau o dystion.
Atgyfeirio i Llwybrau Newydd / Cymorth Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol
Rhaid cynnig atgyfeiriad i wasanaeth cynghori annibynnol ar drais rhywiol i bob dioddefwr. Lle nad oes angen atgyfeiriad ar y dioddefwyr, rhaid rhoi gwybodaeth iddynt am yr opsiwn i hunanatgyfeirio. Bydd nodyn atgoffa o’r cymorth sydd ar gael yn cael ei gynnig trwy gydol yr ymchwiliad a’i gofnodi ar gofnod yr ymchwiliad. Dylid rhannu fideo Llwybrau Newydd cymeradwy sy’n darparu gwybodaeth am y gwasanaeth cynghori annibynnol ar drais rhywiol gyda dioddefwyr o dreisio a throseddau rhyw difrifol.
Gellir cynnal cyswllt parhaus â’r dioddefwr trwy drydydd parti, gan gynnwys Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol cyn belled â bod y dioddefwr yn cytuno â hyn. Diben hyn yw gwella cyswllt a chefnogaeth i ddioddefwyr. Bydd pob cyswllt rhwng swyddog yr achos, y Swyddog Hyfforddedig Troseddau Rhyw a’r dioddefwr yn cael ei gofnodi ar gofnod yr ymchwiliad. Mae’n ofynnol bod swyddogion yr achos yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol penodedig y dioddefwr drwy gydol yr ymchwiliad. Ar ôl y cyhuddiad/gwys, bydd cofnod yr ymchwiliad yn parhau i fod yn weithredol ar hidlydd swyddog yr achos gyda’r cod deilliant perthnasol er mwyn caniatáu i wybodaeth newydd gael eu cofnodi ar ôl y cyhuddiad/gwys.
Mae pob dioddefwr yn destun asesiad risg a chynllun rheoli risg i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol.
Datganiad tynnu honiad yn ôl
Pan fydd dioddefwr yn penderfynu tynnu honiad o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn ôl, bydd swyddog penodedig yr achos yn cymryd y datganiad ac yn cadarnhau amgylchiadau’r tynnu’n ôl. Os yw ymchwiliad i dreisio a throseddau rhyw difrifol yn ymwneud â cham-drin domestig, dylai’r Swyddog Cam-drin Domestig wneud hyn.
Achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol sy’n cynnwys pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
Dylai swyddogion sy’n ymchwilio neu’n ymateb i dreisio a throseddau rhyw difrifol sy’n cynnwys dioddefwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fod yn ymwybodol o’r mesurau diogelu ychwanegol sydd ar gael. Dylai swyddogion ystyried a gafodd y drosedd ei gwaethygu gan nodwedd warchodedig megis hil, crefydd neu anabledd y dioddefwr. Dylai swyddogion ystyried y gofyniad i ddyrannu Swyddog Cymorth Troseddau Casineb. Ar ben hynny, dylai swyddogion ystyried yr effaith y gallai adrodd i’r heddlu ei chael o ran bod yn destun cam-drin neu drais ar sail anrhydeddu gan eu teulu neu eu cymuned. Dylid trin dioddefwyr yn unol â’u hanghenion a’u cefndir diwylliannol. Dylid cymhwyso chwilfrydedd proffesiynol i nodi unrhyw droseddu ehangach, megis troseddau caethwasiaeth fodern.
Dylai swyddogion ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael, megis llinell iaith a’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol mewn achosion lle nad Saesneg yw iaith gyntaf y dioddefwr. Gellir cael cymorth pellach gan BAWSO.
Rhannu gwybodaeth
Bydd y polisi hwn yn sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni ac yn gweithredu’r gofynion cyfreithiol o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 (DPA), Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data 2018 (GDPR y DU) a Deddf Hawliau Dynol 1998 (HRA) wrth rannu gwybodaeth bersonol. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn Arferion Proffesiynol Awdurdodedig (APP) y Coleg Plismona ar reoli gwybodaeth – rhannu gwybodaeth. Yn ogystal â hyn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn canllawiau a ddarperir gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n cynnwys Cod Ymarfer Rhannu Data’r Swyddfa. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn glynu wrth Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona a Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI), fel sail i ganllawiau a thempledi ar gyfer datblygu a chreu cytundebau rhannu gwybodaeth.
Dylai swyddogion sy’n ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol ystyried pa wendidau sydd dan sylw a phwy allai fod mewn perygl. Gall ymchwiliadau i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol arwain at ddiogelu ehangach y tu hwnt i gymorth ar gyfer y drosedd benodol. Gall ymchwiliadau o’r fath nodi materion sy’n ymwneud â cham-drin domestig, iechyd meddwl a dioddefwyr sy’n dioddef trawma sy’n ei chael yn anodd cefnogi dibynyddion, ac yn y blaen.
Mae Hysbysiad er Diogelu’r Cyhoedd (PPN) yn ddogfen rhannu gwybodaeth sy’n caniatáu swyddogion i gofnodi pryderon diogelu ac mae’n rhaid ei hystyried ar gyfer achosion sy’n ymwneud â phlant neu oedolion bregus. Mae’n rhaid graddio’r dasg yn gywir yn unol â’r risg (isel, canolig neu uchel). Dylai swyddogion wella eu hymwybyddiaeth o asiantaethau partner a all gefnogi dioddefwr, neu’r sawl yr effeithir arnynt, ar ôl i’r dioddefwr ddioddef cam-drin rhywiol. Lle bo angen, bydd Hysbysiad er Diogelu’r Cyhoedd yn cael ei anfon ymlaen at asiantaethau partner er mwyn eu hysbysu ac er mwyn iddynt gymryd camau gweithredu priodol.
Safonau’r Gymraeg
Mae canllaw gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr o dreisio a throseddau rhyw difrifol ar gael yn Gymraeg.
Gall dioddefwyr a throseddwyr ofyn am gael eu trin trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei hwyluso pan fo hynny’n bosibl. *os yw dod o hyd i siaradwr Cymraeg yn achosi oedi sy’n cynyddu’r risg / yn peryglu’r ymchwiliad, darperir swyddog / staff sy’n siarad Cymraeg ar ôl i’r risgiau gael eu lliniaru. Bydd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, a phroffesiynoldeb y swyddogion, yn parhau i fod o’r un ansawdd beth bynnag fo’r iaith.
Gall dioddefwyr ofyn am Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA) / Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) sy’n siarad Cymraeg.
Troseddwr
Cyfrifoldeb yr unedau rheoli troseddwyr (OMUs) dynodedig y mae’r unigolyn a ddrwgdybir neu’r troseddwr yn byw ynddynt yw rheoli troseddwyr rhyw cofrestredig, trefniadaeth amlasiantaethol er diogelu’r cyhoedd a rheoli troseddwyr yn integredig (penodedig, hyblyg, rhydd).
Mae’n rhaid i’r uwch swyddog ymchwilio sicrhau bod pob cam gweithredu i leihau risg i’r dioddefwr, ac aelodau’r gymuned, yn cael ei roi ar waith, gan gynnwys defnyddio’r canlynol lle bo’n briodol, ee gorchmynion sifil, Cynlluniau Datgelu Trais Domestig (DVDS), mechnïaeth cyn cyhuddo, rhaglenni atgyfeirio i droseddwyr.
Proffil testun
Dylai pob troseddwr treisio a enwyd fod yn destun ymchwil cefndir a gwiriadau cudd-wybodaeth er mwyn llywio tactegau rheoli risg ac addasrwydd ar gyfer cymhwyso gorchymyn sifil. Mae templed proffil testun treisio (RSP) wedi’i greu a bydd Adran Cudd-wybodaeth Heddlu Dyfed-Powys yn ei gwblhau.
Ar gyfer pob trosedd rhyw ddifrifol arall, swyddog yr achos fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gwblhau ymchwil cefndir a chudd-wybodaeth. Gellir gofyn am gymorth ar gyfer chwiliadau manylach, megis cronfa ddata genedlaethol yr heddlu gan staff hyfforddedig. Mae gwybodaeth gefndir am bobl a ddrwgdybir yn hanfodol i sicrhau bod cynllun rheoli risg cywir yn cael ei greu a’i gymeradwyo ar gofnod yr ymchwiliad.
Gorchmynion sifil
Anogir ymchwilwyr, goruchwylwyr ac Uwch Swyddogion Ymchwilio i ystyried gorchmynion sifil ar gyfer yr unigolyn a ddrwgdybir o ddechrau’r ymchwiliadau. Mewn achosion lle na chymerir camau gweithredu pellach, dylid ystyried a ydyw’r unigolion a ddrwgdybir yn gymwys ar gyfer gorchymyn risg rhywiol (SRO) er mwyn lliniaru troseddu pellach. Mae’r baich profi ar gyfer gorchymyn risg rhywiol (yn ôl yr hyn sy’n debygol) yn is na’r baich troseddol, y tu hwnt i bob amheuaeth resymol.
Chwilfrydedd proffesiynol
Anogir swyddogion sy’n ymchwilio i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol i ddangos chwilfrydedd proffesiynol gan archwilio cyfleoedd ymchwiliol ehangach a thybiaethau i ddeall deinameg a chymhlethdod sefyllfaoedd yn well. Yn ogystal ag ymdrin â’r hyn sydd o’ch blaen, wrth ymateb i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol ac ymchwilio iddynt, mae’n bwysig bod â meddwl agored a bod yn ymwybodol efallai na fydd rhai dioddefwyr yn cydnabod eu bod wedi dioddef cam-drin rhywiol, megis mewn amgylchiadau domestig.
Anogir swyddogion i wneud y canlynol:
Camdriniaeth a chamymddwyn a gyflawnir gan yr heddlu
Fel swyddogion a staff yr heddlu, rydym yn dal swyddi o awdurdod a phŵer. Mae ein cymunedau yn ymddiried ynom i ymateb i adroddiadau am dreisio a throseddau rhyw difrifol, i gefnogi dioddefwyr ac i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. Pan fydd unrhyw fath o gam-drin rhywiol yn cael ei gyflawni gan weithiwr yn y sefydliad, rydym yn cydnabod y bydd y ffordd yr ydym yn ymateb i adroddiadau o’r fath yn adlewyrchu ar ein sefydliad a’r hyder sydd gan ein staff a’n cymunedau yn ein hymrwymiad i fynd i’r afael ag achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol. Rydym yn deall y caiff hyder mewn plismona ei erydu os bydd diffyg ymateb cadarn a thryloyw. Nid oes lle i’r sawl sy’n cyflawni cam-drin rhywiol o fewn yr heddlu.
Mae cam-drin rhywiol yn ymddygiad annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef gan Heddlu Dyfed-Powys. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio’n gadarn i honiadau o gam-drin rhywiol a gall cyflawnwyr a geir yn euog mewn achosion troseddol a/neu ddisgyblu dilynol o droseddau o’r fath wynebu cael eu diswyddo o’r gwasanaeth.
Wrth ystyried mesurau disgyblu, mae’n hanfodol nad yw diogelwch y dioddefwr a’u plant yn cael ei beryglu.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried defnyddio camau disgyblu yn erbyn swyddogion/staff yr honnir eu bod wedi cyflawni cam-drin rhywiol. Os na cheir euogfarn droseddol, mae’n bosibl y bydd achos disgyblu yn dal i gael ei gynnal, gyda’r ystod lawn o sancsiynau disgyblu ar gael, gan gynnwys diswyddo. Bydd mesurau asesu risg yn cael eu hadolygu gan y rheolwr atebol ac ar y cyd â’r Adran Safonau Proffesiynol (PSD).
Ymchwiliadau (troseddol a chamymddwyn)
Swyddogion heddlu/aelodau o staff sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol
Cydnabyddir bod holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn ddinasyddion cyhoeddus yn bennaf oll.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y gall ein gweithwyr fod yn ddioddefwyr o gam-drin rhywiol. Mae’n rhaid trin swyddogion heddlu neu aelodau o staff sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol fel dioddefwyr. Ni ddylid disgwyl i ddioddefwyr yr ‘heddlu’ ymateb nac ymddwyn yn unol â’u hyfforddiant neu brofiad gwaith. Dylent gael eu trin â’r un urddas a pharch, a chael yr un lefel o wasanaeth ag y byddai unrhyw aelod arall o’r cyhoedd yn ei chael, a dylid rhoi sylw ychwanegol i’r ffaith bod gan heddluoedd yr un rhwymedigaethau ag unrhyw gyflogwr arall i gefnogi eu gweithwyr a’u diogelu nhw a’u cydweithwyr.
Gall dioddefwyr o gam-drin rhywiol yn yr heddlu fod yn ddioddefwyr dan ddwylo cyflawnwyr o fewn a’r tu allan i’r heddlu.
Wrth ymdrin ag unrhyw aelod o staff sy’n wynebu, neu sydd wedi wynebu cam-drin rhywiol, rhaid i’w reolwr atebol wneud y canlynol:
Prif egwyddorion a chamau gweithredu:
* Dylid ceisio ymgynghori â’r Adran Safonau Proffesiynol bob amser mewn achosion pan fo dioddefwr a’r troseddwr yn aelodau o bersonél yr heddlu *
Bydd dioddefwyr o gam-drin rhywiol a gyflawnir gan yr heddlu, gan gynnwys dioddefwyr sydd hefyd yn swyddogion heddlu neu’n aelodau o staff yr heddlu, yn cael yr un lefel o wasanaeth â dioddefwyr eraill o gam-drin rhywiol. Byddant yn cael cynnig cymorth cyfrinachol o ffynonellau mewnol ac allanol. Bydd ganddynt fynediad i’r un lefel o gymorth gan yr heddlu, os oes angen, trwy drefniadau i gyrchu’r cymorth hwn oddi wrth ranbarth heddlu neu heddlu arall.
Bydd swyddog lles priodol yn cael ei benodi, a fydd yn sicrhau bod atgyfeiriadau cymorth perthnasol ar gyfer dioddefwyr yn cael eu gwneud. Gall y swyddog lles fod yn aelod o’r Adran Safonau Proffesiynol neu’r ardal blismona leol.Gall y swyddog lles fod yn oruchwylydd y dioddefwr, swyddog yr achos, neu unrhyw unigolyn arall y gellir ymddiried ynddynt a nodir gan y dioddefwr.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod dioddefwyr yr heddlu yn cael esboniad llawn o’r adran berthnasol hon o’r polisi ar dreisio a throseddau rhyw difrifol ac yn cael eu hysbysu’n llawn am gynnydd ymchwiliadau mewnol a phrosesau camymddwyn. Bydd copi o’r polisi ar dreisio a throseddau rhyw difrifol yn cael ei ddarparu.
Dylai personél yr heddlu sy’n darparu gwybodaeth o’r fath fod o reng briodol ac yn meddu ar y sgiliau a’r hyfforddiant priodol. Y nod yw y bydd ymchwiliadau troseddol a chamymddwyn yn cael eu cynnal gan ymchwilwyr o’r Adran Safonau Proffesiynol, sydd ag achrediad Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2 (neu’n gweithio tuag at y cymhwyster hwn). Mae ymchwilwyr o fewn yr adran hefyd wedi cael hyfforddiant ar gam-drin domestig, troseddau rhyw ac mae ganddynt brofiad ym maes diogelu’r cyhoedd.
Mae cynnal hyder y dioddefwr a’r cyhoedd yn hanfodol i hygrededd yr heddlu.
Os yw adrodd yn cael ei annog, mae’n rhaid bod mesurau diogelu digonol yn eu lle i atal cam-drin pellach er mwyn lleihau trallod i’r dioddefwr, ac mae’n rhaid sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei thrin yn ofalus lle bynnag y bo modd.
Bydd cyfyngiadau priodol yn cael eu gweithredu ar adeg cofnodi mewn perthynas â’r System Gofnodi Digwyddiadau a Defnydd o Adnoddau (STORM), a digwyddiadau lle mae’r unigolion a ddrwgdybir yn swyddog heddlu a/neu’n aelod o staff yr heddlu.
Bydd cyfyngiadau hefyd yn cael eu gosod pan fo’r dioddefwr yn swyddog heddlu a/neu’n aelod o staff yr heddlu. Serch hynny, rhoddir ystyriaeth drylwyr i osod cyfyngiadau o ystyried y risg bosibl i ddioddefwr os yw gwybodaeth am y digwyddiad yn anhysbys i eraill, a allai fod ag achos i ymateb i alwadau am wasanaeth yn y dyfodol.
Bydd mynediad i gynnwys cofnodion cyfyngedig yn cael ei gyfyngu i bersonél yr Adran Safonau Proffesiynol a phersonél gwrth-lygredigaeth, yn ogystal ag unrhyw bersonél y mae angen mynediad iddynt i gynorthwyo gyda rheoli achosion troseddol a diogelu.
Yn ogystal â hyn, bydd gan y rheolwr digwyddiadau’r heddlu fynediad 24/7 gyda’r gallu i ganiatáu mynediad pellach lle bo angen er mwyn cyflymu a rheoli camau gweithredu a diogelu ymchwiliol parhaus yn effeithiol.
Cymorth
Cymorth i ymchwilwyr
Mae ymchwiliadau i achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn faes busnes heriol ac emosiynol.
Darperir hyfforddiant llesiant ehangach i dditectifs ar Raglen Datblygu Sgiliau Ymchwilio mewn Perthynas â Threisio a Throseddau Rhyw Difrifol (RISDP), Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio Lefel 2, a’r Rhaglen Datblygu Ymchwiliadau Arbenigol i Gam-drin Plant (SCAIDP).
Mae’r mewnbynnau’n cynnwys adnabod arwyddion a symptomau posibl straen a gorflinder yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan yr Uned Iechyd Galwedigaethol a’r amrywiol wasanaethau cymorth a sefydliadau sydd ar gael.
Yn gyffredinol, yr Uned Iechyd Galwedigaethol sy’n darparu’r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd yn ogystal â gwasanaethau eraill yr Uned Iechyd Galwedigaethol. Mae’n defnyddio ffeiriau llesiant gyda fan Oscar Kilo a diwrnodau pan fo cŵn OK9, cwnselwyr, ac Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol yn galw heibio i orsafoedd. Mae Ffederasiwn yr Heddlu, caplaniaeth gilyddol yr heddlu ac Unsain hefyd yn cymryd rhan yn y dyddiau hyn.
Strategaeth llesiant Heddlu Dyfed-Powys.
Cyflawni tactegol
Mae Comander yr ardal blismona leol a’r Ditectif Brif Arolygydd yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Pennaeth Cyswllt a Rheoli Digwyddiadau yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd arweinydd y Prif Arolygydd ar gyfer achosion o dreisio a throseddau rhyw difrifol yn gyfrifol am y canlynol:
Adolygiad o ymchwiliadau i achosion o dreisio
Mae Ditectif Arolygwyr yn gyfrifol am archwiliadau misol i ymchwiliadau i achosion o dreisio, sy’n edrych ar sicrhau ansawdd i wneud yn siŵr bod polisi ac egwyddorion Ymgyrch Soteria yn cael eu dilyn. Mae arolygu ac archwilio yn rhan allweddol o rôl Ditectif Arolygydd i nodi gweithdrefnau da neu feysydd i’w gwella.
Y panel craffu ar dreisio
Er mwyn rhoi sicrwydd ynghylch penderfyniadau’r heddlu, ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron, Llwybrau Newydd a Bawso, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal panel craffu, lle bydd y penderfyniadau i beidio â gweithredu ymhellach yn cael eu craffu
Mae’r polisi hwn wedi’i adolygu gan y tîm Cyllid Corfforaethol i sicrhau defnydd effeithiol o wariant cyhoeddus, gan sicrhau’r gwerth am arian gorau.
Ymgyfarwyddo â pholisi
Dylai’r canlynol ymgyfarwyddo â’r weithdrefn hon a glynu wrth swyddogaethau sy’n benodol i’r rôl:
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Gorffennaf 2024