Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw darparu cerbyd i ddeiliaid swyddi cymwys sy’n addas ar gyfer cynnal busnes yr heddlu a nodi sut y bydd y cynllun yn cael ei weithredu o fewn yr heddlu.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn disodli pob polisi blaenorol yn ymwneud â Chynllun Ceir yr Heddlu.
Gallai car o wneuthuriad a math y mae’r heddlu yn ei ystyried yn addas gael ei ddarparu i ddeiliad swydd cymwys.
Mae’r cynllun yn agored i’r swyddi canlynol:
Polisi rheoli, cadw a gwaredu cofnodion CThEF
Llawlyfr Incwm Cyflogaeth CThEF
Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003
Deddf Cyllid 2017
Bydd cerbydau’n cael eu prynu drwy fframwaith caffael BlueLight Commercial gan ddefnyddio cyllideb cyfalaf y fflyd. Bydd y dewis o gerbyd yn cael ei benderfynu yn seiliedig ar werth am arian ac allyriadau CO2 er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i nodau ariannol a chynaliadwyedd. Bydd Rheolwr y Fflyd yn dewis cerbyd yn unol â’r uchafswm a bennir gan y Cyfarwyddwr Cyllid a bydd cadeirydd Cymdeithas yr Uwch-arolygwyr yn cytuno arno. Yr uchafswm cyfredol yw £25,000 a bydd yn cael ei adolygu bob blwyddyn yn seiliedig ar brisiau cerbydau drwy’r fframwaith. Bydd y cerbyd yn addas ar gyfer cynnal busnes yr heddlu. Ni chaniateir dewis unrhyw ychwanegiadau. Yn achos cerbydau trydan, ni fydd gwefrwr cartref yn cael ei ddarparu gyda’r cerbyd ac fe’i ystyrir yn ddewis personol.
Ni fydd goleuadau glas yn cael eu gosod ar y cerbydau oni bai ei fod yn angenrheidrwydd gweithredol. Bydd y penderfyniad i wneud hynny yn cael ei awdurdodi gan y Pennaeth Fflyd ar ôl ymgynghori â’r cynrychiolydd gweithredol priodol. Bydd goleuadau glas disylw neu oleuadau blaen sy’n fflachio yn cael eu gosod ar geir sydd wedi’u haddasu i gael eu defnyddio gan yr heddlu yn ôl yr angen.
Disgwylir i swyddogion sy’n dechrau swyddi lle mae car heddlu eisoes ar gael (er enghraifft, oherwydd ymddeoliad deiliad blaenorol y swydd) ac sy’n dymuno manteisio ar y cynllun ddefnyddio’r car presennol hyd nes y bydd angen ei newid am gar newydd, yn unol â’r meini prawf a ddisgrifir o dan ‘Tynnu ceir heddlu yn eu hôl’. Efallai y bydd rhaid i rai sy’n ymuno â’r cynllun o’r newydd aros hyd at flwyddyn i gael cerbyd. Bydd hyn yn seiliedig ar y cyfnod o fewn y flwyddyn ariannol oherwydd dyraniad y gyllideb ac amseroedd dosbarthu’r cerbydau, a bennir gan y gweithgynhyrchwyr.
Rhaid i ddeiliaid swyddi dalu am yr holl danwydd ar gyfer y cerbydau, a rhaid i’r deiliad swydd gadw’r holl slipiau tanwydd sy’n gysylltiedig â milltiroedd busnes am gyfnod o saith mlynedd oherwydd polisi rheoli a chadw a gwaredu cofnodion CThEF. Rhaid gwneud cofnod llawn a chywir o’r holl filltiroedd busnes a deithiwyd gan ddefnyddio llyfr log electronig a ddarperir gan y gyflogres. O ran cerbydau trydan, rhaid i’r deiliaid swyddi gofnodi p’un a gafodd y cerbyd ei wefru gan ddefnyddio gwefrwr cartref neu wefrwr cyhoeddus. Rhaid cyflwyno copi o filltiroedd y mis blaenorol i adran y gyflogres yn fisol cyn y seithfed o’r mis. Bydd deiliaid swyddi yn cael eu had-dalu am filltiroedd busnes yn eu cyflog ar gyfradd tanwydd gynghorol CThEF fesul milltir neu yn ôl cyfradd milltiroedd briodol. Dylid cyflwyno milltiroedd yn fisol i’r Gwasanaethau Fflyd er mwyn caniatáu diweddariadau cywir o ran milltiroedd er mwyn helpu gyda’r gwaith o gynnal a chadw ac olrhain yr angen i newid cerbydau. Gallai methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn arwain at dynnu’r cerbyd yn ôl.
Mae’r deiliad swydd yn cydnabod y cytunir ar ddyddiad ar gyfer dychwelyd y cerbyd mewn amgylchiadau o’r fath. Os bydd anghydfod, bydd penderfyniad yr heddlu yn derfynol. Bydd y deiliad swydd yn ad-dalu’r holl gostau sy’n gysylltiedig ag adfer y cerbyd os na fydd y deiliad swydd yn dychwelyd y cerbyd erbyn y dyddiad penodedig. Yn gyffredinol, derbynnir y bydd y deiliad swydd yn cadw’r cerbyd hyd nes y bydd yn cael ei waredu, yn unol â’r meini prawf a gynhwysir o dan ‘Tynnu ceir yr heddlu yn ôl’, ac eithrio mewn achosion lle mae terfyniad cynnar. Bydd Rheolwr y Fflyd yn trefnu i waredu cerbydau drwy ocsiwn. Dylai deiliaid swyddi sydd â diddordeb mewn prynu’r cerbyd gofrestru eu diddordeb â Rheolwr y Fflyd, a fydd yn eu hysbysu o ddyddiad a lleoliad yr ocsiwn.
Os yw’r deiliad swydd yn dymuno tynnu’n ôl o’r cynllun, rhaid i’r deiliad swydd hysbysu adran y gyflogres a Rheolwr y Fflyd drwy roi o leiaf mis o rybudd, a bydd yn dychwelyd y cerbyd ar ddyddiad y cytunwyd arno.
Dylid cadw at egwyddorion a gymerwyd o Lawlyfr Incwm Cyflogaeth CThEF wrth ystyried beth sy’n cyfrif fel cymudo arferol a beth ddylid ei drin fel milltiroedd busnes. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
Caniateir i ddeiliaid swyddi y mae car heddlu wedi’i ddyrannu iddynt ddefnyddio’r car yn ystod gwyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus, yn amodol ar yr amodau canlynol:
Fel rhan o’r trefniadau hyn, mae’n ofynnol bod pawb y mae car heddlu wedi’i ddyrannu iddynt yn cadw cofnod o’u milltiroedd busnes. Bydd unrhyw filltiroedd nad ydynt wedi’u cofnodi fel milltiroedd busnes yn filltiroedd preifat. Rhaid cyflwyno llyfr log electronig misol ardystiedig a ddarperir gan y gyflogres mewn da bryd i gyrraedd yr adran erbyn y seithfed o’r mis er mwyn galluogi’r gyflogres i gyfrifo’r cyfraniad priodol sy’n ddyledus i’r deiliad swydd o ran milltiroedd busnes ar gyfer y mis blaenorol.
Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig y gall yr heddlu nodi pwy oedd yn gyrru’r car ar unrhyw adeg benodol. Cymerir yn ganiataol mai y deiliad swydd cymwys yw’r gyrrwr, oni bai fod y llyfr log yn nodi fel arall. Felly, mae’n bwysig, os yw’r car yn cael ei yrru gan unrhyw un heblaw y deiliad swydd y mae’r cerbyd wedi’i ddyrannu iddo, bod y llyfr log yn cael ei gwblhau yn unol â hynny, e.e. swyddog arall o’r heddlu.
Mae pob car wedi’i yswirio gyda’r AA os yw’n torri i lawr a gellir cael mynediad at y gwasanaeth drwy ffonio 0800 424 151. Dylid rhoi gwybod i Reolwr y Fflyd am unrhyw ddefnydd o’r gwasanaeth hwn. Dylai deiliaid swyddi ddefnyddio gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith y mae adran y fflyd yn eu darparu, megis yn achos tyllau teiars ac atgyweiriadau, trwy gwmnïau allanol lle bo’n briodol. I gael manylion cyswllt gwasanaethau y tu allan i oriau gwaith, cysylltwch ag adran y fflyd.
Disgwylir i ddeiliaid swyddi sydd â cheir yr heddlu ganiatáu i aelodau eraill o’r heddlu ddefnyddio’r cerbyd o bryd i’w gilydd ar gyfer cynnal dyletswyddau gweithredol sy’n gysylltiedig â’r heddlu (nid teithio busnes arferol). Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw i’r deiliad swydd os oes angen y cerbyd a bydd y galw yn cael ei gydlynu / ei reoli gan Reolwr y Fflyd, a fydd hefyd yn gyfrifol am drefnu i logi cerbyd addas i’w ddefnyddio gan y deiliad swydd.
Mae pob cerbyd a ddosberthir fel ‘asedau’ yn fuddion trethadwy. O fis Ebrill 2025 ymlaen, bydd pob budd trethadwy yn cael ei drethu wrth y ffynhonnell yn uniongyrchol drwy gyflog yr unigolyn mewn amser real, yn hytrach nag ar ddiwedd pob blwyddyn dreth ar ffurf ffurflen P11d fel yn y blynyddoedd a fu.
Bydd buddion y gyflogres yn ymddangos fel eitem ar wahân ar slipiau cyflog fel ychwanegiad trethadwy at enillion. Bydd hyn yn caniatáu i dreth gael ei chyfrifo a’i thynnu wrth y ffynhonnell yn achos pob budd sydd ar waith.
Cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwirio ei sefyllfa benodol o ran treth gyda Chyllid a Thollau EF. Nid yw’r heddlu yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw rwymedigaethau treth incwm personol ar gyfer defnyddwyr y cynllun nac am unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth dreth a allai effeithio ar sefyllfa treth incwm unigolyn.
Mae’r pwyntiau canlynol yn rhoi syniad o ddealltwriaeth gyfredol yr heddlu o’r sefyllfa dreth:
Mae’r deiliad swydd yn atebol am dalu unrhyw ddirwyon, ffioedd neu gosbau yn ymwneud â’r cerbyd yn ystod y cyfnod defnydd, ac eithrio pan godir taliadau o’r fath pan fydd y cerbyd wedi’i alw’n ôl i gael ei ddefnyddio gan yr heddlu.
Nid oes dim wedi’i nodi yn y cytundeb uchod sy’n atal swyddog rhag dewis parhau fel defnyddiwr hanfodol/achlysurol. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau o’r fath, ni fydd y swyddog yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun hwn.
Mae egwyddorion y cod moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y polisi hwn, bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd, gan ystyried heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol. Bydd y polisi’n cael ei adolygu gan rôl enwebedig a bydd yn cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Fflyd Strategol.
Bydd polisïau’n cael eu hadolygu i ddechrau ar ôl i 12 mis fynd heibio ac yna byddant yn destun adolygiad bob dwy flynedd (ond gall perchennog y polisi gynnal adolygiad yn gynt os, er enghraifft, ceir newidiadau mawr i ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r polisi, newidiadau mawr i’r broses ac ati).
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026