Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddod yn wasanaeth heddlu cynaliadwy – mae’n anelu i gyflwyno manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr Ardaloedd Plismona Lleol drwy ddarparu lle diogel i fyw a gweithio ynddo, sy’n gydnaws â’n Cynllun Sefydliadol Strategol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymrwymo i:
Gan ddefnyddio tri philer cynaliadwyedd (cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol), mae Heddlu Dyfed-Powys yn anelu i adeiladu llwyfan solet i gyflenwi ei ganlyniadau amcanion ohono.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) neu staff ar secondiad. Dylai unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh, sydd, yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys swyddogion heddlu, holl aelodau staff yr heddlu (gan gynnwys staff dros dro/staff asiantaeth/cymdeithion/contractwyr/staff ar secondiad), staff SCHTh, cwnstabliaid gwirfoddol, gwirfoddolwr, ymwelwyr, a phawb sydd, am y tro, wedi’u gosod gyda Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh o dan gynlluniau Profiad Gwaith, Prentisiaeth Fodern neu Gadetiaid yr Heddlu. Mae’r polisi’n berthnasol ar gyfer pob categori gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol neu dros dro, ac unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio. Y mae hefyd yn berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn eiddo a rennir, partneriaethau a’r rhai sydd ar secondiad gyda sefydliadau eraill. Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd angen cydweithredu rhwng y partïon cysylltiedig er mwyn sicrhau bod pawb yn glir ynghylch statws eu trefniadau, gweithdrefnau a pholisïau unigol.
Mae’r polisi hwn yn amlinellu ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys tuag at gyflenwi gwasanaeth effeithlon mewn modd cyson a chynaliadwy. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn addo mabwysiadu egwyddorion Siarter Cenedlaethol Amgylcheddau a Chynaliadwyedd y Gwasanaethau Brys a Strategaeth Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio Cymru Gyfan, sy’n anelu i arddangos ymagwedd safonol ac ystyrlon tuag at gynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd mewn gweithdrefnau a phrosesau penderyfnu bob dydd.
Er mwyn darparu manteision cynaliadwy o’n gweithrediadau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar weithwyr a chymunedau ein hardal Heddlu, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymrwymo i’r canlynol:
Strategaethau a deddfwriaethau perthnasol:
Bydd Dogfen Strategaeth Gynaliadwyedd Heddlu Dyfed-Powys yn gyson â dogfen Strategaeth Gynaliadwyedd Cymru Gyfan:-
Y Prif Gwnstabl: Mae’r Prif Gwnstabl yn gyfrifol am ymrwymo’n bendant i chwarae ei ran, ac am ddatblygu’r strategaeth hon, sefydlu ein huchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio, ac ymrwymo i wasanaeth heddlu cynaliadwy hirdymor yn y dyfodol.
Grŵp Cynaliadwyedd Heddlu Dyfed-Powys: Mae’r Grŵp Llywio Cynaliadwyedd yn gyfrifol am weithredu’r ymrwymiadau a’r targedau a nodir yn Strategaeth Gynaliadwyedd Cymru Gyfan. Gwneud penderfyniadau, monitro ac adolygu targedau a chynnydd o ran gwella.
Pob Gweithiwr a Gwirfoddolwr: Dylem rymuso ac annog pob aelod staff — pob rheng, ym mhob lleoliad — i gefnogi nodau cynaliadwy’r Heddlu, cyflymu ymdrechion lleihau, ac awgrymu gwelliannau. Mae’n bosibl y bydd angen newid diwylliant sy’n sefydlu blaenoriaethau cynaliadwyedd, gan gynnwys prif genhadaeth o ‘blismona sero net’ ac yn annog awgrymiadau rhagweithiol parhaus ar gyfer sut i gyflawni hyn.
Llywodraethu
Mae gan Heddluoedd Cymru strwythur llywodraethu, ‘Pileri’, sydd wedi’i hen sefydlu, a fydd yn darparu llywodraethu a goruchwyliaeth strategol ar gyfer cyflenwi’r Strategaeth Cynaliadwyedd a Datgarboneiddio.
Tra bod yr achos ar gyfer datgarboneiddio’n glir, er mwyn cyflawni hyn, mae’n hollbwysig rhoi llywodraethu, strwythurau sefydliadol, cyllidebau a thargedau mewn grym a fydd yn sicrhau bod rheoli carbon wedi’i wreiddio ar draws pob heddlu yng Nghymru. Er y bydd adrannau penodol ym mhob heddlu’n amlwg yn gysylltiedig â chyflenwi, e.e. y rhai sy’n cyflenwi gwasanaeth corfforaethol megis adeiladau a fflyd, mae’n hollbwysig lledaenu perchnogaeth o’r nod cynaliadwyedd a datgarboneiddio ar draws pob rhan o’r heddluoedd.
Dylem rymuso ac annog pob aelod staff – pob rheng, ym mhob lleoliad – i gefnogi nodau cynaliadwy’r Heddlu, cyflymu ymdrechion lleihau ac awgrymu gwelliannau. Mae’n bosibl y bydd angen newid diwylliant sy’n sefydlu blaenoriaethau cynaliadwyedd, gan gynnwys prif genhadaeth o ‘blismona sero net’, ac yn annog awgrymiadau rhagweithiol parhaus ar gyfer sut i gyflawni hyn.
Byddwn yn cyflwyno gwerth cymdeithasol drwy weithgareddau caffael a chomisiynu ac yn sefydlu ein blaenoriaethau mewn perthynas â gwerth cymdeithasol. Yr ydym angen i’r Heddlu a’n cyflenwyr gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy’n cael ei gomisiynu a’i gaffael a’n cefnogi’n foesegol a chyfreithlon i gyflenwi ein blaenoriaethau Cynaliadwyedd.
Mae’r polisi hwn yn eiddo i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd yr Uwch Reolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd yn cynnal y broses adolygu bob blwyddyn er mwyn sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, ac yn ystyried unrhyw newidiadau i strategaethau, deddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd effeithiolrwydd y polisi’n cael ei fonitro’n rheolaidd uwchlaw a thu hwn i’r cyfnod adolygu un flwyddyn, a bydd unrhyw bryderon difrifol yn cael eu dwysáu fel y bo’n briodol.
Bydd effeithiolrwydd y polisi’n cael ei fesur drwy Grŵp Cynaliadwyedd Heddlu Dyfed-Powys.
Disgwylir i heddluoedd Cymru roi adroddiadau a data i nifer o randdeiliaid allweddol.
Bydd Grŵp Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd Cymru’n hybu a chyflenwi’r holl adrodd ac olrhain lleol a deddfwriaethol, gan gynnwys hyn yn fframweithiau’r heddlu ar gyfer adrodd ar berfformiad.
Mae adrodd rheolaidd a chymharol yn hollbwysig a bydd yn hysbysu cynlluniau gwella blynyddol i ddangos lle mae heddluoedd ar y trywydd iawn a lle mae angen gwneud addasiadau, ac yn tynnu sylw at feysydd blaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth y DU yn diweddaru ei ganllawiau ar gyfer mesur ac adrodd ar allyriadau nwy tŷ gwydr, gan gynnwys ffactorau addasu a methodolegau. Mae heddluoedd Cymru’n defnyddio’r methodolegau diweddaraf er mwyn cadw’n wastad ag arfer gorau, a phan mae methodolegau’n newid yn sylweddol, ailgyfrif ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol fel bod modd cymharu pob blwyddyn. Er mwyn adrodd ar allyriadau nwy tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau plismona, mae heddluoedd yn trosi data gweithgarwch, megis pellter a deithiwyd, litrau o danwydd a ddefnyddiwyd, neu dunelli o wastraff a waredwyd, yn allyriadau carbon.
Mae methodolegau’n gyson â Chanllaw Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero Net, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021. Mae’r ymagwedd hon yn defnyddio methodoleg gyson a chymharol ar gyfer amcangyfrif allyriadau gwaelodlin, nodi ffynonellau blaenoriaeth a monitro cynnydd tuag at fodloni targedau.
Rhaid i ofynion caffael gynnwys blaenoriaethau a chanlyniadau cynaliadwy sy’n cynnwys gofynion Gwerth Cymdeithasol a Chaethwasiaeth Fodern yn unol â gofynion Deddf Gwerth Cymdeithasol a Nodyn Polisi Caffael 06/20, gan gyfrif am werth cymdeithasol.
Mae angen i Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern gael ei gymeradwyo a’i gyhoeddi’n flynyddol ynghyd â chynllun gweithredu ar gyfer gwella parhaus.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2023