Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddarparu plismona sy’n gyfreithlon, yn gymesur, yn atebol, yn foesegol, ac yn gyson â’r safonau ymddygiad proffesiynol uchaf. Rhaid i ddefnydd o rym gan bersonél yr heddlu gydymffurfio â’r gyfraith, y Cod Moeseg ac Arferion Proffesiynol Awdurdodedig bob amser. Mae’r heddlu’n cydnabod y gall defnyddio grym, ar adegau, fod yn angenrheidiol i warchod bywyd, atal troseddu, sicrhau diogelwch y cyhoedd, a chadw unigolion yn y ddalfa yn gyfreithlon.
Mae’r polisi hwn yn pennu’r disgwyliadau sefydliadol ar gyfer pob swyddog heddlu, cwnstabl gwirfoddol, swyddog cefnogi cymunedol yr heddlu, ac aelod o staff awdurdodedig mewn perthynas â defnyddio grym yn ddiogel, yn dryloyw ac yn gyfiawn. Mae’n nodi’r egwyddorion, yr ymddygiadau a’r fframwaith gwneud penderfyniadau sy’n ofynnol i sicrhau mai dim ond pan fo’n gwbl angenrheidiol y defnyddir grym, ac yn y modd sydd leiaf ymwthiol a mwyaf diogel o dan yr amgylchiadau.
Rydym yn gofyn i bob unigolyn sy’n gweithredu ar ran Heddlu Dyfed-Powys ddangos proffesiynoldeb, ataliaeth, empathi a pharch at urddas a hawliau pob unigolyn y maent yn dod ar ei draws. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl i’r holl bersonél sy’n defnyddio, goruchwylio neu adolygu grym ddeall difrifoldeb y cyfrifoldeb hwn a sicrhau bod pob gweithred yn gwrthsefyll craffu cyhoeddus, cyfreithiol a moesegol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob categori o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a staff awdurdodedig, boed yn llawn amser, rhan-amser, parhaol, tymor penodol, dros dro, personél ar secondiad, a phob gwirfoddolwr, gan gynnwys cwnstabliaid gwirfoddol. Rhaid i’r holl bersonél sy’n cael mynediad at, neu’n defnyddio, asedau, offer neu bwerau’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn llywodraethu’r holl amgylchiadau lle gall personél Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio grym wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Mae’n berthnasol i bob digwyddiad, boed yn ddirybudd neu wedi’i gynllunio ymlaen llaw, lle mae gweithredoedd, ymddygiad neu broffil risg unigolyn yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion neu staff awdurdodedig ystyried defnyddio grym neu opsiynau tactegol gwarchodol.
Gall defnyddio grym gael ei sbarduno gan ystod eang o ofynion gweithredol, gan gynnwys arestio cyfreithlon, atal troseddu, gwarchod y cyhoedd, ac ymyriadau diogelu. Mae ffactorau allanol sy’n dylanwadu ar y polisi hwn yn cynnwys disgwyliadau plismona cenedlaethol, dyletswyddau statudol, rhwymedigaethau hawliau dynol, craffu barnwrol, gofynion Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, a disgwyliadau cymunedol ynghylch cyfreithlondeb ac ymddiriedaeth.
Mae methu â chydymffurfio â’r polisi hwn yn amlygu’r heddlu i risgiau sylweddol, gan gynnwys defnydd anghyfreithlon neu anghymesur o rym, niwed i enw da, cwynion, achosion camymddwyn, ymgyfreitha sifil, tensiwn cymunedol, a methiannau mewn diogelu. I’r gwrthwyneb, mae cydymffurfedd glir yn cynnal plismona proffesiynol, yn gwella hyder y cyhoedd, ac yn gwarchod swyddogion ac aelodau’r cyhoedd rhag niwed.
Rhaid i bob swyddog, staff awdurdodedig a gwirfoddolwr, a allai wynebu sefyllfaoedd sy’n gofyn am rym, ddeall yr egwyddorion a nodir yn y polisi hwn, y safonau o ymddygiad a ddisgwylir, eu cyfrifoldebau cyfreithiol, a’r gofyniad am ddogfennaeth gynhwysfawr, cyfiawnhad ac atebolrwydd.
Mae’r defnydd cyfreithlon o rym wedi’i ategu gan sawl fframwaith cyfreithiol allweddol. Mae Deddf Cyfraith Troseddol 1967 yn caniatáu grym rhesymol wrth atal troseddu neu wrth arestio troseddwyr yn gyfreithlon. Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, yn enwedig adran 117, yn darparu awdurdod ar gyfer defnyddio grym rhesymol wrth arfer pwerau o dan y Ddeddf honno. Mae cyfraith gyffredin ymhellach yn darparu ar gyfer grym rhagataliol a gwarchodol lle mae cred onest y bydd niwed ar fin digwydd i’r unigolyn neu i rywun arall.
Rhaid i bob defnydd o rym gydymffurfio â Deddf Hawliau Dynol 1998, gan gynnwys yr hawl i fywyd (erthygl 2), gwahardd triniaeth annynol (erthygl 3), a’r hawl i barch at fywyd preifat (erthygl 8). Rhaid i rym fod yn angenrheidiol, yn gymesur, a’r opsiwn lleiaf ymwthiol sy’n gallu cyflawni’r amcan cyfreithlon bob amser.
Mae adran 76(7) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 yn cydnabod na all unigolion sy’n gweithredu at ddibenion cyfreithlon fesur grym yn fanwl gywir bob amser, ac y gall gweithredoedd gonest, greddfol fod yn dystiolaeth gref o resymoldeb.
Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd ag Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar ddefnyddio grym, ac mae’n ymgorffori’r Model Gwneud Penderfyniadau Cenedlaethol a’r 10 egwyddor ar gyfer defnyddio grym. Mae wedi cael ei adolygu’n gyfreithiol ac mae wedi’i gefnogi gan asesiad o effaith ar gydraddoldeb llawn i sicrhau tegwch, atal gwahaniaethu, a gwarchod grwpiau agored i niwed.
Mae dogfennau sy’n uniongyrchol gysylltiedig yn cynnwys y weithdrefn defnyddio grym, polisi hyfforddiant diogelwch personol, polisi camerâu corff, gweithdrefnau gweithredu safonol dyfeisiau taser a dyfeisiau dargludo ynni, canllawiau iechyd meddwl ac atal, a gweithdrefnau diogelu.
Mae cyfrifoldeb am ddefnyddio grym yn nwylo’r unigolyn sy’n ei gymhwyso. Rhaid i bob swyddog heddlu, cwnstabl gwirfoddol, ac aelod o staff sydd wedi’u hawdurdodi i ddefnyddio grym ddangos eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau cadarn, wedi’u harwain gan y Model Gwneud Penderfyniadau Cenedlaethol a’r cod moeseg, egwyddorion dewrder, parch ac empathi, a gwasanaeth cyhoeddus. Rhaid i swyddogion a staff awdurdodedig asesu risg yn barhaus, adolygu opsiynau tactegol, a dewis yr ymateb lleiaf ymwthiol a mwyaf diogel sy’n gallu cyflawni’r amcan cyfreithlon.
Disgwylir i bersonél ddefnyddio dulliau llacio, negodi, cyfathrebu ac ymyriadau nad ydynt yn gorfforol pryd bynnag y bo’n bosibl. Pan fydd grym yn anochel, rhaid ei gyfiawnhau, rhaidd iddo fod yn angenrheidiol, a bod yn gymesur. Gall swyddogion ddefnyddio opsiynau tactegol o fewn eu lefel hyfforddiant ac achrediad, ond rhaid iddynt gyfeirio materion at oruchwylwyr lle y mae angen opsiynau heddlu risg uwch, offer arbenigol, neu awdurdodau tactegol ychwanegol.
Mae goruchwylwyr yn gyfrifol am oruchwylio, gan gynnwys adolygiad ar ôl digwyddiad, ystyriaethau lles, gwiriadau diogelu, a sicrhau adrodd cywir ac amserol. Mae sefyllfaoedd sy’n ymwneud â phlant, oedolion sy’n agored i niwed, argyfyngau iechyd meddwl, neu nodweddion gwarchodedig yn gofyn am ystyriaeth uwch, a rhaid eu ddwysau yn briodol.
Mae cynllunio wrth gefn yn cynnwys mynediad at adnoddau arbenigol (arfau tanio, unedau cŵn, negodwyr, asedau trefn gyhoeddus), cymorth meddygol, a gwasanaethau diogelu pan fo angen.
Bydd effeithiolrwydd y polisi hwn yn cael ei fesur drwy fonitro, dadansoddi a llywodraethu cadarn. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn adolygu data defnyddio grym, camerâu corff, adroddiadau digwyddiadau, cwynion a chanlyniadau gweithredol yn systematig er mwyn sicrhau cydymffurfedd, nodi tueddiadau anghymesur, cryfhau hyfforddiant, ac ysgogi dysgu sefydliadol.
Gall dangosyddion perfformiad gynnwys tueddiadau mewn demograffeg pynciau, amlder a math y grym a ddefnyddir, canlyniadau anafiadau, cwynion y cyhoedd, pryderon swyddogion, ac adborth gan gyrff craffu. Bydd y polisi’n cael ei werthuso’n rheolaidd drwy archwiliadau mewnol, adolygiad Safonau Proffesiynol, a phaneli craffu allanol dan gadeiryddiaeth aelodau annibynnol o’r cyhoedd.
Bydd canfyddiadau, pryderon a phwyntiau dysgu yn cael eu hadrodd i’r bwrdd plismona perthnasol, gyda chylch llywodraethu ffurfiol yn sicrhau bod gwelliannau’n cael eu nodi, eu gweithredu a’u cyfleu ar draws yr heddlu. Bydd prosesau gwersi a ddysgwyd, adolygiadau ymarfer myfyriol, a mecanweithiau dadfriffio yn darparu adborth amser real ar gyfer gwelliant parhaus.
Bydd unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol, cyngor cyfreithiol, neu ystyriaethau moesegol yn sbarduno adolygiad ffurfiol o’r polisi hwn. Yn ogystal, bydd mewnwelediadau gan bartneriaid allanol, gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Gwasanaethau Cyfreithiol, a chynrychiolwyr cymunedol, yn llywio’r gwaith mireinio parhaus i sicrhau bod swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ac aelodau staff awdurdodedig yn cynnal arferion gorau, a thrwy hynny yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2025