Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig yw rhoi cyfeiriad ar ddiogelwch Adeiladau Heddlu Dyfed-Powys a Phencadlys yr Heddlu er diogelwch personél.
Yn sgil sefyllfaoedd domestig, cenedlaethol a rhyngwladol achlysurol, mae lefelau risg neu fygythiadau penodol i adeiladau’r heddlu’n codi. Gan hynny, mae’n hollbwysig fod y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig yn cyflwyno mesurau diogelwch, sy’n ofynnol ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth a gwyliadwriaeth a gwarchod personél, eiddo’r heddlu ac adeiladau’r heddlu.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i'r canlynol: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad neu wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy'n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo'r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl swyddogion, staff, contractwyr a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd y Lefelau Ymateb/Rhybudd Diogelwch yn adeiladau’r heddlu’n adlewyrchu’r bygythiad presennol i adeiladau a phersonél yr heddlu o ganlyniad i unrhyw sefyllfa a grëir yn genedlaethol, yn ddomestig neu’n rhyngwladol, ac fe’u bwriedir i sicrhau gwyliadwriaeth, amddiffyniad a chanllawiau i ddiogelu personél, eiddo ac adeiladau. Bydd y rhain yn cysylltu â’r Lefel Bygythiad Terfysgaeth sy’n berthnasol ar y pryd.
Rhaid rhoi gwybod i’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, yr Uwch-arolygydd Gweithrediadau Arbenigol a’r Prif Uwch-arolygydd Plismona Lifrog am bob mater a allai effeithio ar y LEFEL YMATEB. Bydd y swyddogion rhagddywedig yna’n ystyried y cyfarwyddiadau diogelwch i’w gweithredu ar ôl codi’r lefel Ymateb ar gyfer Adeiladau’r Heddlu drwy Grŵp Diogelwch yr Heddlu. Rhoddir gwybod i Gomanderiaid Ardaloedd Plismona Lleol a Phenaethiaid Adran yn ôl yr angen. Rhaid gweithredu mesurau a amlinellir yn y polisi hwn ac unrhyw atodiadau perthnasol yn syth pan roddir gwybod am newid.
Cynllun Digwyddiadau Mawr yr Heddlu.
Cyfarwyddebau Cenedlaethol.
Negeseuon Grŵp Ymgynghorol.
Cynllun Wrth Gefn “Ymateb Cychwynnol i Ddigwyddiadau/Bygythiadau Bom a Gweithredoedd Terfysgol”
Rolau a Chyfrifoldebau
Tra bod gan yr holl bersonél ddyletswydd mewn perthynas â diogelwch, mae’r prif feysydd cyfrifoldeb o fewn y Pencadlys yn gorwedd gyda:
Bydd y polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig yn destun adolygiad blynyddol yn y lle cyntaf, gydag adolygiadau dilynol yn cael eu cynnal pan fod angen, ac o leiaf bob yn ail flwyddyn.
Bydd y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd, ei fod yn addas ar gyfer y diben, unrhyw heriau i’r polisi a newidiadau i strategaethau neu ganllawiau cenedlaethol.
Cymeradwyir pob diwygiad i’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig drwy’r strwythur llywodraethu Gweithrediadau Arbenigol a’r Bwrdd Plismona Gweithredol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2024