Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mynediad drwy rym yn rhan hanfodol a rheolaidd o waith yr heddlu. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r gallu i gynnal gweithdrefnau “Dull Mynediad” ac yn hyfforddi swyddogion i’w gweithredu’n ddiogel. Ni ddylid amcangyfrif yn rhy isel y potensial i swyddogion gael eu hanafu yn y broses.
Mewn cydymffurfiaeth â Deddf yr Heddlu (Iechyd a Diogelwch) 1997, mae’r gwasanaeth heddlu wedi datblygu cyfres o weithdrefnau er mwyn ceisio sicrhau bod anafiadau i swyddogion yn cael eu lleihau. Bydd y gweithdrefnau hyn yn cael eu hadnabod fel Dull Mynediad, a byddant fel arfer yn cael eu cyflawni gan swyddogion heddlu sydd â chymwysterau addas yn dilyn hyfforddiant arbenigol.
Bydd y ddogfen hon a’r gweithdrefnau gweithredu safonol cysylltiedig yn rhoi canllawiau terfynol ar hyfforddiant, offer ac arferion i’w defnyddio gan swyddogion sydd wedi’u cymhwyso’n briodol mewn technegau dull mynediad. Yn ogystal, mae’n rhaid i swyddogion sy’n gyfrifol am gynllunio gweithrediadau lynu wrth y polisi hwn.
Ni ddylid darllen y ddogfen bolisi hon ar ben ei hun, ac os oes angen, dylid ei darllen ar y cyd â dogfennau Arferion Plismona Awdurdodedig megis canllawiau Arferion Proffesiynol Awdurdodedig Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu sy’n ymwneud â Phlismona Arfog a Threfn Gyhoeddus cenedlaethol priodol.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bydd unrhyw fynediad i eiddo drwy rym yn cael ei gynnal gan swyddogion Dull Mynediad awdurdodedig, heblaw bod angen mynediad drwy rym ar frys:
Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen i swyddogion gynnal asesiad risg dynamig o’r sefyllfa a chymryd camau priodol. Rhaid i swyddogion gyfathrebu eu bwriad i gyflawni mynediad drwy rym brys wrth oruchwylydd neu Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Lle bo’n briodol, dylai swyddogion alw am gymorth ar unwaith gan staff sydd wedi’u hyfforddi mewn dull mynediad.
Mae’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn gweithredu 24 awr y dydd. Mae swyddogion o’r Uned Plismona’r Ffyrdd wedi’u hyfforddi hyd lefel sylfaenol mewn dull mynediad ar gyfer dibenion mynediad drwy rym brys er mwyn achub bywyd. Mae cerbydau’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn cario offer dull mynediad sylfaenol ar gyfer y diben o fynediad drwy rym brys.
Yn achos mynediad drwy rym brys i eiddo fel y disgrifir uchod, dylai swyddogion sy’n cynnal yr asesiad risg dynamig ystyried y diogelwch lleiaf o ran cyfarpar diogelu personol ar gyfer eu hunain. Bydd cyfarpar diogelu personol lleiaf ar gael yn lleol. Ceir manylion yn y Gweithdrefnau Gweithredu Safon Dull Mynediad.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn weithredu safonol gysylltiedig yn berthnasol ar gyfer pob swyddog sydd wedi derbyn hyfforddiant dull mynediad addas. Yn ogystal, rhaid i swyddogion sy’n gyfrifol am drefnu gweithrediadau lynu wrth y polisi hwn.
Ni ddylai’r polisi hwn atal swyddogion rhag cael mynediad drwy rym i eiddo yn ddigymell mewn unrhyw ffordd er mwyn achub bywyd neu atal difrod difrifol i eiddo (Adran 17(i)(e) Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol1984). Fodd bynnag, dylai swyddogion fod yn ymwybodol o’u diogelwch eu hunain a diogelwch eraill wrth gael mynediad ar hap i eiddo.
Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen i swyddogion gynnal asesiad risg dynamig o’r sefyllfa a chymryd camau cymesur. Rhaid i swyddogion roi gwybod i oruchwylydd neu Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu am eu bwriad i gynnal mynediad drwy rym brys. Lle bydd yn briodol, dylai swyddogion alw am gymorth wrth staff sydd wedi’u hyfforddi mewn dull mynediad ar unwaith.
Y lefelau Dull Mynediad yw –
Lefel Sylfaenol 3
Lefel Uwch 2
Lefel Uwch 1
Nodir gofynion pob lefel yn y Weithdrefn Weithredu Safonol ar gyfer Dull Mynediad.
Rolau a Chyfrifoldebau
Hyfforddwr Dull Mynediad
Er mwyn bod yn hyfforddwr Dull Mynediad yr heddlu:
Gweithwyr Dull Mynediad
Cyn unrhyw leoli gweithredol, rhaid i Weithwyr Dull Mynediad ystyried unrhyw faterion Iechyd a Diogelwch penodol fel yr amlinellwyd yn eu hyfforddiant. Heblaw bod angen gweithredu digymell a brys, dylid cynnal asesiad risg ffurfiol cyn y weithred.
Bydd Hyfforddwyr/Gweithwyr Dull Mynediad yn sicrhau bod Swyddog Cymorth Cyntaf cymwys yn bresennol ym mhob sefyllfa hyfforddi a gweithredol lle y defnyddir Dull Mynediad.
Lle nad oes amser i gynnal asesiad risg cyn gweithredu, dylid cwblhau asesiad risg dynamig gan gyfeirio at asesiadau risg Dull Mynediad blaenorol tebyg a wnaed, pan fyddant ar gael.
Pwynt Cyswllt Sengl Dull Mynediad Rhanbarthol
Er mwyn cael ei awdurdodi’n Bwynt Cyswllt Sengl Dull Mynediad yr Heddlu:
Asesiadau Risg
Bydd Swyddogion, Staff, Gwirfoddolwyr a Goruchwylwyr yn cydymffurfio â’r mesurau rheoli a gynhwysir o fewn yr Asesiad Risg Cyffredinol sy’n berthnasol i leoliadau gweithredol a hyfforddiant fel y nodir yn atodiadau’r Weithdrefn Weithredu Safonol.
Gofynion Hyfforddi
Bydd hyfforddiant ond yn digwydd yn y cyfleuster hyfforddi a nodwyd gan ddefnyddio rig hyfforddi cymeradwy’r heddlu ac o dan lywodraeth y Prif Swyddog Arfau Saethu rhanbarthol a’i dîm.
Cynhelir yr holl hyfforddiant Dull Mynediad dan oruchwyliaeth Hyfforddwr Dull Mynediad sydd wedi’i achredu’n genedlaethol, a fydd yn cydymffurfio â’r maes llafur ar gyfer pob lefel cymhwysedd.
Bydd gan bob cwrs nifer priodol o hyfforddwyr Dull Mynediad sydd wedi’u hachredu’n genedlaethol i alluogi cyflenwi cynnwys y modiwl. Rhaid i o leiaf dau hyfforddwr fod yn bresennol. Wrth gyflwyno sesiynau ymarferol, pennir nifer yr hyfforddwyr gan y wers sy’n cael ei chyflwyno.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol i’r polisi hwn -
Bydd y polisi hwn a’r weithdrefn weithredu safonol yn cael eu monitro gan yr Unigolyn Enwebedig o fewn yr Adran Weithrediadau Arbenigol er mwyn sicrhau -
Gwneir unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn a/neu’r weithdrefn weithredu safonol gan yr Unigolyn Enwebedig yn yr Adran Gweithrediadau Arbenigol a’u goruchwylio gan y Bwrdd Plismona Gweithredol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2024