Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw sefydlu safonau clir mewn perthynas â gwisg, cynhaliaeth ac ymddangosiad priodol Swyddogion Heddlu, Cadetiaid Heddlu, Gwirfoddolwyr yr Heddlu a Staff yr Heddlu. Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer pob swyddog, gwirfoddolwr ac aelod staff, p’un a ydynt wedi’u lleoli’n weithredol, mewn gorsaf, neu’n mynychu gweithgaredd swyddogol ac fe’i lluniwyd i hyrwyddo delwedd broffesiynol, gwella hyder y cyhoedd, a sicrhau diogelwch.
Rhaid i Heddlu Dyfed-Powys ddarparu’r gwasanaeth plismona gorau posibl. Mae gennym gyfrifoldeb i wella hyder y cyhoedd mewn plismona a chyflwyno delwedd broffesiynol o’n sefydliad.
Rhaid gweithredu gwisgo lifrai a safonau gwisg yn gyson drwy’r sefydliad. Rhaid i holl swyddogion, staff, arweinwyr cadetiaid gwirfoddol a chwnstabliaid gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys gyflwyno delwedd broffesiynol i’r cyhoedd a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Bydd ymddangosiad trwsiadus a phroffesiynol yn dangos awdurdod ac yn ennyn parch, ac yn sicrhau’r cyhoedd ein bod ni’n cynnig gwasanaeth o safon broffesiynol. Mae ymddangosiad swyddogion yr heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr yn ffactor a allai ddylanwadu ar farn, a gall ymddangosiad anniben ddifrïo gwasanaeth sydd fel arall yn ardderchog.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau y bodlonir anghenion amrywiol holl swyddogion, staff a gwirfoddolwr yr heddlu, lle bo’n bosibl, ar yr amod nad ydynt yn gwrthdaro, nac yn cyfaddawdu, â chyflwyno gwasanaethau gweithredol a dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a’r safonau a gofynion cyffredinol a nodir yn y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid, a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion Heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Nod y polisi yw safoni gwisg ac ymddangosiad yr holl swyddogion mewn lifrai, aelodau staff heddlu a gwirfoddolwyr, a thrwy hynny, sicrhau cysondeb a diogelwch ar gyfer pawb wrth bortreadu delwedd sy’n peri hyder, hygrededd a pharch gan y cyhoedd rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae’r polisi’n cydymffurfio ag arfer gorau, fel y nodir yng nghylchlythyr 051/2003 y Swyddfa Gartref.
Amcan y polisi yw sefydlu fframwaith o arweiniad a chyfarwyddyd a fydd yn cynorthwyo swyddogion, staff, gwirfoddolwyr, goruchwylwyr a rheolwyr llinell i adnabod a chynnal safonau gwisg ac ymddangosiad derbyniol a disgwyliedig. Darperir ar gyfer gofynion crefyddol a diwylliannol cymaint ag y bo modd.
Mae panel o bersonél ar draws yr heddlu’n cwrdd i drafod newidiadau posibl i lifrai fel rhan o’r Gweithgor Lifrai. Rhaid i bob cais ar gyfer ychwanegiadau neu newidiadau i lifrai/offer safonol gael ei ystyried gan y grŵp.
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
Rheoliadau’r Heddlu 2003
Mewnol –
Gweithdrefn Lifrai Heddlu Dyfed-Powys 2025
Polisi Iechyd a Diogelwch Heddlu Dyfed-Powys
Polisi a Gweithdrefnau Cwnstabliaeth Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys
Egwyddorion Cyffredinol
Cyfrifoldebau
Swyddogion Heddlu, Staff Heddlu a Gwirfoddolwyr
Ceir manylion llawn am ymddangosiad personol unigolion o fewn y ddogfen Weithdrefn Lifrai.
Ceir manylion llawn am lifrai a gyhoeddir i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr o fewn y ddogfen Weithdrefn Lifrai.
Rheolwyr Llinell, Goruchwylwyr a Hyfforddwyr
Cyfrifoldeb rheolwyr llinell, goruchwylwyr a hyfforddwyr yw sicrhau fod pob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr yn cydymffurfio â’r safonau lifrai ac ymddangosiad, a bod safon ymddangosiad dda yn cael ei chynnal.
Rhaid iddynt wneud y canlynol -
Panel Safonau
Bydd y Panel Safonau’n cynnwys 6 unigolyn o leiaf, gan gynnwys cynrychiolaeth o’r canlynol:
Diben y panel fydd adolygu achosion unigol a phennu addasrwydd ar gyfer dibenion recriwtio neu swydd bresennol y swyddog/aelod staff, h.y. tatŵ.
Iechyd a Diogelwch
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn berthnasol i bawb yn y gwasanaeth heddlu. Cyhoeddir Cyfarpar Diogelu Personol er eich diogelwch. Rhaid ei wisgo neu ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddyd – mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth.
Dyrannu Lifrai a Chyllideb
Mae pob awdurdodiad lifrai nawr wedi’u priodoli’n uniongyrchol i gyllidebau. Mae pob arolygydd daearyddol a phennaeth adran yn gyfrifol am reoli eu cyllidebau lifrai eu hunain. O’r herwydd, dylai ceisiadau lifrai gael eu hawdurdodi gan eich arolygydd daearyddol neu bennaeth adran yn unig (nid yw’n cynnwys lifrai amgen am resymau meddygol – gweler isod). Gellir awdurdodi mewn argyfwng, fodd bynnag, dylid ond gwneud hyn mewn amgylchiadau eithriadol. Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalen gartref y storfa.
Ceisiadau ar gyfer lifrai amgen am resymau meddygol: Lle mae swyddog/aelod staff yn adrodd bod lifrai’n achosi problem feddygol ac mae angen iddo/iddi newid lifrai, rhaid iddo/iddi ddarparu tystysgrif feddygol sy’n amlinellu’r broblem feddygol. Dylid ei rhoi i’r goruchwylydd, a fydd yn ysgrifennu adroddiad i’r Pennaeth Adran/Uwch Dîm Arwain yr URS yn amlinellu’r cais. Bydd hwn yn cael ei gyflwyno wedyn i’r adran Adnoddau Dynol a’r Uned Iechyd Galwedigaethol, a fydd yn ystyried pa un ai a oes angen Bwrdd Presenoldeb Rheoli Iechyd. Unwaith y bydd y mater hwn wedi’i drafod mewn Bwrdd Presenoldeb Rheoli Iechyd ac mae’r swyddog wedi cael caniatâd i newid ei lifrai, caniateir iddo/iddi wneud hynny a thrafod ei (g)ofyniad penodol gyda’r Storfa Lifrai. Bydd pasbort gallu’r swyddog/aelod staff yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu awdurdodi dillad amgen.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig -
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig fel y bo’n briodol ac er mwyn sicrhau effeithiolrwydd, os oes her ac os/ble y mae newidiadau perthnasol mewn deddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Gweithredir pob diwygiad gan yr adran Gweithrediadau Arbenigol gyda goruchwyliaeth ac mewn ymgynghoriad â’r Gweithgor Lifrai a’r Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2025