Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1.1 Mae’r polisi hwn yn nodi’r disgwyliadau sefydliadol, safonau gofynnol, fframwaith llywodraethu a chyfrifoldebau sy’n ymwneud â’r Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd o fewn Heddlu Dyfed‑Powys.
1.2 Mae’r polisi’n sicrhau bod pob Swyddog a Chwnstabl Gwirfoddol sy’n gorfod ymgymryd â Hyfforddiant Diogelwch Cyhoeddus a Phersonol, a’r rhai sy’n gweithio mewn rolau arbenigol, yn cynnal y safonau ffitrwydd aerobig a orfodir yn genedlaethol sydd wedi’u gosod gan y Coleg Plismona.
1.3 Mae’r polisi’n cefnogi cydymffurfiaeth gyfreithiol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, Deddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau’r Heddlu, deddfwriaeth Diogelu Data, a chanllawiau cysylltiedig y Coleg Plismona.
1.4 Mae’r polisi hwn yn darparu cyfeiriad strategol. Rhoddir manylion am brosesau gweithredol, camau prawf ffitrwydd, sgrinio meddygol a llwybrau dwysáu yn y Weithdrefn Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd gysylltiedig.
2.1 Mae Heddlu Dyfed‑Powys yn mynnu bod pob Swyddog Heddlu a Chwnstabl Gwirfoddol yn arddangos y lefel ffitrwydd aerobeg leiaf o 3.7 yn y prawf ffitrwydd aml gam 15 medr (neu beiriant rhedeg dilys cyfwerth) yn flynyddol i ymgymryd â hyfforddiant diogelwch cyhoeddus a phersonol ac aros yn leoladwy yn weithredol.
2.2 Nid yw Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) na Swyddogion y Ddalfa a Thywys yn destun profion ffitrwydd blynyddol sy’n gysylltiedig â’r swydd. Bydd SCCH yn ymgymryd â phrawf ffitrwydd fel rhan o’r broses recriwtio.
2.3 Rhaid i rolau arbenigol fodloni lefelau uwch fel y’u diffinnir gan y Coleg Plismona ac a fanylir o fewn y Weithdrefn Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd.
2.4 Bydd yr heddlu’n darparu profion ffitrwydd diogel, teg a chyson gyda rheolaethau risg priodol, sgrinio cyn prawf, a goruchwyliaeth Iechyd Galwedigaethol.
2.5 Bydd swyddogion sy’n methu â bodloni’r safon ofynnol yn dilyn proses ddatblygu gefnogol wedi’i strwythuro (Camau 1–3) gan gynnwys cyfeiriad i’r Uned Iechyd Galwedigaethol a chreu cynllun gweithredu wedi’i deilwra.
2.6 Gwneir addasiadau rhesymol lle mae hynny’n briodol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, heb newid y safonau lleiaf sy’n ofynnol ar gyfer cymryd rhan mewn hyfforddiant diogelwch cyhoeddus a phersonol diogel.
2.7 Bydd canlyniadau profion ffitrwydd yn cael eu cofnodi’n gywir a’u monitro ar gyfer cydymffurfiaeth, ac yn destun archwiliad mewnol.
3.1 Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob recriwt SCCH, Swyddog Heddlu a Chwnstabl Gwirfoddol, ac unrhyw rôl staff heddlu lle mae profion ffitrwydd yn ofynnol oherwydd gofynion gweithredol.
3.2 Mae’r polisi’n llywodraethu profion ffitrwydd blynyddol, gofynion ffitrwydd adeg recriwtio, profion ffitrwydd adeg cyfnod prawf, safonau unedau arbenigol, mathau prawf cymeradwy a llwybrau datblygu ar ôl methu prawf.
3.3 Rhaid darllen y polisi hwn ochr yn ochr â’r Weithdrefn Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd, Polisi Hyfforddiant Diogelwch Cyhoeddus a Phersonol, Polisi Iechyd Galwedigaethol a gweithdrefnau Perfformiad Anfoddhaol.
PFfGS – Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd.
PFfAG – Prawf Ffitrwydd Aml Gam (‘prawf blîp’).
PCPRhCH – Prawf Cerdded Peiriant Rhedeg Chester yr Heddlu.
PRhPRhCH – Prawf Rhedeg Peiriant Rhedeg Chester yr Heddlu.
HDCPh – Hyfforddiant Diogelwch Cyhoeddus a Phersonol.
Swyddog Lleoladwy – Swyddog neu Gwnstabl Gwirfoddol yr awdurdodwyd ei fod yn ffit i ymgymryd â hyfforddiant diogelwch cyhoeddus a phersonol a dyletswyddau rheng flaen.
5.1 Mae’r polisi hwn yn cyd-fynd â’r deddfwriaethau a gofynion cenedlaethol canlynol:
5.2 Mae gan y Prif Gwnstabl awdurdod i orchymyn profion ffitrwydd fel rhan o ofynion lleoli gweithredol.
5.3 Gosodir safonau ffitrwydd yn genedlaethol gan y Coleg Plismona ac ni ellir eu hamrywio’n lleol.
Prif Gwnstabl - Perchennog y polisi sy’n sicrhau cydymffurfiaeth gorfforaethol ac yn awdurdodi profion gorfodol.
Prif Gwnstabl Cynorthwyol (Cymorth Gweithredol) – Goruchwyliaeth strategol o gyflenwi a chydymffurfio.
Pennaeth Gweithrediadau Arbenigol – Mae’n sicrhau cyflenwi profion ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd, unplygrwydd profion, a hyfforddiant hyfforddwyr.
Uned Iechyd Galwedigaethol – Mae’n adolygu ffurflenni sgrinio, nodi cyfyngiadau meddygol, ac yn cynghori ynghylch addasiadau rhesymol.
Rheolwyr Llinell – Cefnogi Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol a monitro statws ffitrwydd, a chwblhau cynlluniau gweithredu yn dilyn methiannau.
Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol – Cynnal ffitrwydd personol a chydymffurfio â gofynion profi.
Dysgu a Datblygu – Cofnodi canlyniadau, trefnu profion, cynnal data cydymffurfiaeth.
7.1 Lle nad yw Swyddog neu Gwnstabl Gwirfoddol yn gallu ymgymryd â’r PFfAG am resymau meddygol, gall yr Uned Iechyd Galwedigaethol gymeradwyo dull amgen dilys (PCPRhCH neu PRhPRhCH).
7.2 Gall salwch dros dro arwain at aildrefnu heb sbarduno llwybrau datblygu graddol.
7.3 Bydd Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol sy’n methu’r prawf ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd dro ar ôl tro’n dilyn y broses raddol:
- Cam 1: Methiant cychwynnol, cyfeiriad i’r rheolwr llinell, gweithredir cyfyngiadau.
- Cam 2: Cynllun datblygu chwe wythnos ac ail brawf.
- Cam 3: Cyfle olaf o fewn cynllun datblygu; Gweithdrefnau Perfformiad Anfoddhaol Cam 1 posibl.
7.4 Gall Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol gael eu tynnu o ddyletswyddau gweithredol dros dro yn ystod y camau hyn.
8.1 Cofnodir methu â mynychu neu wrthod y prawf heb gyfiawnhad meddygol fel methiant.
8.2 Bydd Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol sy’n methu’r prawf yn cael eu cyfyngu rhag dyletswyddau sy’n wynebu’r cyhoedd a’u hatal rhag mynychu HDCPh.
8.3 Gall methiant parhaus yn dilyn Camau 1 – 3 arwain at Weithdrefnau Perfformiad Anfoddhaol.
8.4 Gellir ystyried rhyddhau swyddogion ar brawf sy’n methu’n gyson o dan Reoliad 13.
9.1 Rhaid i hyfforddwyr hyfforddedig gynnal pob prawf yn dilyn asesiadau risg.
9.2 Rhaid i bob cyfranogwr gwblhau sgrinio meddygol cyn prawf.
9.3 Rhaid i swyddog cymorth cyntaf fod yn bresennol yn ystod pob sesiwn brofi.
9.4 Rhaid cwblhau asesiadau amgylcheddol a lleoliad ar gyfer pob lleoliad prawf.
9.5 Rhaid i Swyddogion a Chwnstabliaid Gwirfoddol ddatgelu unrhyw newidiadau i iechyd cyn y prawf.
10.1 Bydd yr heddlu’n sicrhau bod profi’n cael ei weithredu’n deg, yn gyson, a heb wahaniaethu.
10.2 Ystyrir addasiadau rhesymol ar gyfer anableddau yn unol â dyletswyddau’r Ddeddf Cydraddoldeb.
10.3 Ni fydd safonau ffitrwydd yn cael eu newid gan eu bod nhw’n cael eu gorchymyn yn genedlaethol ar gyfer diogelwch gweithredol.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
11.1 Bydd canlyniadau ffitrwydd yn cael eu cofnodi’n ddiogel ar TRENT a systemau Iechyd Galwedigaethol ac Adnoddau Dynol priodol.
11.2 Bydd data meddygol personol ond yn cael ei brosesu gan yr Uned Iechyd Galwedigaethol a bydd yn cael ei gadw’n unol â GDPR y DU.
11.3 Bydd cofnodion yn cael eu cadw yn unol ag amserlen gadw’r heddlu.
12.1 Gall archwiliad mewnol adolygu cydymffurfiaeth â gweinyddu a chadw cofnodion profion ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd.
12.2 Bydd Gweithrediadau Arbenigol yn monitro cyfraddau pasio/methu ac yn dwysáu pryderon i’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol.
12.3 Bydd y polisi hwn yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y diben, mynd i’r afael ag unrhyw heriau i’r polisi, a mynd i’r afael ag unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu ganllawiau cenedlaethol. Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi’n cael eu cytuno a’u goruchwylio gan y Bwrdd Plismona Gweithredol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2025