Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Teledu Cylch Cyfyng (TCC) yn dechnoleg sy’n cynnig ffordd effeithiol o adnabod pobl, cerbydau neu ddigwyddiadau a allai olygu bod angen i’r Heddlu neu sefydliadau partner gymryd camau gweithredu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhoi system TCC Man Cyhoeddus ar waith mewn 25 tref ar draws yr ardal heddlu, sy’n cynnwys dros 155 camera.
Mae’n arf plismona rhagweithiol ar gyfer ymchwiliadau a phlismona ymatebol, sy’n medru atal troseddolrwydd trwy dargedu troseddwyr ac ardaloedd sy’n dioddef lefelau trosedd uwch.
Defnyddir technoleg TCC o fewn Heddlu Dyfed-Powys er mwyn helpu i ddatrys ac atal gweithgarwch troseddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, ac aflonyddu arno. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â throseddwyr teithiol, terfysgwyr a Grwpiau Troseddu Trefnedig.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r system TCC er mwyn cynorthwyo staff a swyddogion gweithredol i gasglu tystiolaeth wrth ymchwilio i droseddau a thawelu meddyliau aelodau’r cyhoedd. Bydd y camerâu TCC yn cael eu monitro gan aelodau staff penodol, a bydd pob swyddog ac aelod staff gweithredol yn medru cael mynediad i’r delweddau TCC yn ôl yr angen ac yn unol â’u rolau a’u cyfrifoldebau.
Diben y polisi hwn yw adnabod y gweithdrefnau a'r protocolau sydd angen er mwyn i staff/swyddogion heddlu weithredu, lleoli a defnyddio camerâu TCC, gan ystyried deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol. Bydd y polisi hwn yn amlinellu ac yn cyflawni’r canlynol:
Mae'r polisi a chanllawiau cysylltiedig yn sefydlu'r sail gyfreithiol a'r canllawiau ar gyfer defnyddio TCC Mannau Cyhoeddus Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad neu wirfoddolwyr. Dylai unrhyw swyddog, aelod staff neu wirfoddolwr sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Bwriadwyd y polisi hwn a chanllawiau cysylltiedig, sef y Weithdrefn Gweithredu TCC, i alluogi swyddogion i gydymffurfio â deddfwriaethau a chanllawiau ar gyfer cipio tystiolaeth i'w defnyddio mewn gweithdrefnau llys ac ymchwilio i droseddau a’u datrys.
Egwyddorion trosfwaol ar gyfer y defnydd gweithredol o Deledu Cylch Cyfyng:
Mae gan Deledu Cylch Cyfyng Mannau Cyhoeddus rôl hanfodol i’w chwarae mewn cadw pobl yn ddiogel, ac ar yr un pryd, mae angen i bobl fod yn hyderus bod dal ganddynt hawl i’w preifatrwydd.
Bydd camerâu TCC:
Bydd y system TCC hon yn eiddo i Heddlu Dyfed-Powys, ac yn cael ei hariannu ganddo.
Bydd y system yn eiddo i Adran Weithrediadau’r Heddlu, a’r Uwch-arolygydd sy’n gyfrifol am Weithrediadau Arbenigol fydd yr Uwch Berchennog Cyfrifol dynodedig.
Pwynt Cyswllt Sengl, sef y Cydlynydd TCC, yw’r dynodiad ffurfiol ar lefel fwy tactegol, ac ef fydd y ffynhonnell cyngor arbenigol cydnabyddedig a chydlynydd yr holl allu a gweithgarwch camerâu gwyliadwriaeth amlwg o fewn y sefydliad. Yn ogystal, y Cydlynydd TCC fydd rheolwr llinell cyntaf y Gweithredwyr TCC.
Bydd y Prif Gwnstabl yn gweithredu fel y Rheolydd Data ar gyfer delweddau TCC sy’n cael eu recordio a’u cadw ar systemau’r heddlu.
Mae'r system wedi'i gosod, ei gweithredu a'i rheoli yn unol â’r Cod Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth, a bydd yr Uwch Berchennog Cyfrifol yn gyfrifol am arddangos unplygrwydd prosesau ac am ystyried Cod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth. Mae hyn yn galluogi’r Heddlu i ddangos i gymunedau ein bod ni’n gweithredu arferion gorau sy’n dryloyw a chymesur.
Cedwir delweddau TCC am 31 diwrnod. Ar ôl hynny, maent yn cael eu dileu'n awtomatig o ddydd i ddydd, heblaw eu bod yn cael eu lawrlwytho ar gyfer dibenion tystiolaethol, lle bydd delweddau'n cael eu cadw yn unol â rheoliadau Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu.
Cynhyrchwyd Gweithdrefn Weithredu sy'n amlinellu ac yn diffinio’r defnydd gweithredol o’r system TCC er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth briodol, y Cod Ymarfer a pholisïau’r heddlu. .
Mae gan y system gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Asiantaethau Cefnffyrdd, Cynghorau Tref a'r Cynghorau Sir unigol. Mae Memoranda Cyd-ddealltwriaeth wedi’u cytuno gyda’r partïon perthnasol sy’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau penodol.
Mae Dadansoddiad o Batrymau Troseddu, gan gynnwys data trosedd, digwyddiadau troseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a galwadau am wasanaeth, ynghyd â gwybodaeth blismona leol, yn hysbysu penderfyniadau sy'n ymwneud â lleoliadau camera.
Bydd y Cydlynydd TCC yn cynnal adolygiadau blynyddol o leoliadau camera. Bydd cyfrifoldeb cyffredinol yn gorwedd gyda'r Uwch-arolygydd sy'n gyfrifol am Weithrediadau Arbenigol, fel yr Uwch Berchennog Cyfrifol.
Bydd Asesiadau Effaith ar Breifatrwydd yn cael eu cyflawni ar gyfer pob lleoliad camera, ac fe’u cyhoeddir ar wefan Heddlu Dyfed-Powys.
Yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth, bydd pob safle camera’n cael ei adolygu’n flynyddol a bydd Asesiadau Effaith ar Breifatrwydd wedi’u diweddaru’n cael eu cyhoeddi pan fod angen. Pan benderfynir dileu a/neu adleoli safle camera, bydd Asesiad Effaith ar Breifatrwydd newydd yn cael ei gyhoeddi/diweddaru yn ôl yr angen.
Fel gofyniad sylfaenol, bydd adolygiadau blynyddol o safleoedd camera’n cynnwys adolygiad o’r mygydau preifatrwydd a weithredir i bob camera er mwyn sicrhau bod ffenestri a/neu ddrysau unrhyw anheddau preifat yn cael eu mygydu’n briodol er mwyn lleihau ymyrraeth.
Bydd y Cydlynydd TCC yn gyfrifol am gynorthwyo defnyddwyr gweithredol o ran defnyddio'r system TCC.
Bydd y Cydlynydd TCC yn gyfrifol am ymgymryd ag adolygiadau ad hoc misol a rhoi gwybodaeth i reolwyr yn ôl yr angen ac fel yr amlinellir yn y Fframwaith Perfformiad.
Bydd y system TCC yn cael ei monitro gan dîm penodol o Weithredwyr TCC yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu ym Mhencadlys yr Heddlu, lle mae mynediad wedi’i gyfyngu. Dim ond personél awdurdodedig caiff fynediad i’r lle hwn. Bydd yr holl ddelweddau TCC yn cael eu recordio 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a byddant yn wyliadwy yn lleol hefyd.
Yn y lle cyntaf, bydd y Cydlynydd TCC yn ymchwilio i unrhyw achos o dorri’r Polisi TCC, neu gamddefnydd o’r system TCC, gan swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys neu unrhyw ddefnyddiwr awdurdodedig arall, er mwyn asesu a chanfod pa un ai a yw amodau’r polisi wedi’u torri. Bydd unrhyw achos difrifol o dorri amodau’r Polisi TCC neu gamddefnydd o’r system yn cael ei ymchwilio’n syth, a bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn cynnal ymchwiliad annibynnol er mwyn gwneud argymhellion ynghylch sut y dylid datrys y mater.
Mae Gweithredwyr TCC, o dan oruchwyliaeth y Cydlynydd TCC, yn gyfrifol am ddwyn pob nam â'r camerâu neu offer cysylltiedig i sylw'r Contractwr.
Bydd gan bob swyddog heddlu gweithredol a phob gwirfoddolwr ac aelod staff heddlu ymchwiliol fynediad i'r system HikCentral, sy'n cael ei rheoli drwy'r broses Mynediad at Systemau electronig.
Mae cwmni Baydale Control Systems Cyf yn gyfrifol am gynnal a chadw camerâu yn flynyddol ac am gynhyrchu'r ddogfennaeth ofynnol.
Rhaid i ddefnyddwyr fod mewn sefyllfa i gyfiawnhau eu defnydd o’r system, sydd angen ymwneud â diben plismona, yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.
Mae defnyddwyr yn gyfrifol am rannu darnau ffilm â GEG yn ôl yr angen.
Gweithredir y polisi ochr yn ochr â'r Weithdrefn Weithredu sy'n amlinellu defnydd a diben bwriadedig y system TCC Mannau Cyhoeddus a meddalwedd gysylltiedig.
Bydd cydymffurfiaeth â'r polisi a gweithdrefnau Gweithredu cysylltiedig yn cael eu monitro drwy:
Atgyfnerthir gweithredu'r polisi a Chod Ymarfer y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth drwy gyhoeddi’r Asesiadau Effaith ar Breifatrwydd ar wefan yr Heddlu. Bydd y Cydlynydd TCC yn adolygu’r polisi hwn bob yn eilflwydd.
Mae tudalen TCC hefyd yn bodoli ar fewnrwyd yr heddlu, sy'n rhoi gwybodaeth i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr am ymarferoldeb y system a'r defnydd ohoni, yn ogystal â lleoliadau'r holl gamerâu.
Bydd yr Uwch-arolygydd Gweithrediadau Arbenigol yn cymeradwyo pob adroddiad ar Deledu Cylch Cyfyng Mannau Cyhoeddus.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2023