Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Uned Hyfforddi Gyrwyr yn darparu hyfforddiant rhagnodedig i swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys yn unol â chwricwlwm Gyrru’r Heddlu.
Bydd yr holl hyfforddiant yn unol â’r polisi hwn a’r weithdrefn weithredu safonol gysylltiedig a bydd y Prif Hyfforddwr Gyrru yn gyfrifol am sicrhau cysondeb y ddarpariaeth.
Bydd y Prif Hyfforddwr Gyrru yn sicrhau bod pob gyrrwr yr heddlu yn derbyn hyfforddiant perthnasol a chywir gan bersonél cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol, a bydd yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn y modd mwyaf effeithiol, economaidd ac effeithlon.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn weithredu safonol gysylltiedig yn dwyn ynghyd yr holl brosesau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â darparu hyfforddiant gyrwyr Heddlu Dyfed-Powys, a’i fwriad yw lleihau’r risgiau i staff a defnyddwyr ffyrdd er mwyn hyrwyddo’r safon uchel o yrru a ddisgwylir gan swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Er mwyn ymdrechu i wella’n barhaus, mae’n ofynnol cynnal asesiadau perfformiad yn barhaus fel a ganlyn:-
Rhaid i swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, cwnstabliaid gwirfoddoli, swyddogion cymorth cefnogi cymunedol yr heddlu ac unrhyw aelod o staff yr heddlu y gallai fod gofyn iddynt yrru cerbydau wrth gyflawni eu dyletswyddau, neu gyflogaeth, gael eu hawdurdodi i yrru’r categorïau perthnasol o gerbydau yn unol â’r polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig.
Datblygir y polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig yn unol â’r Safonau Cenedlaethol a manyleb rhaglen fel y sefydlwyd gan y Coleg Plismona:-
Cyfrifoldeb y Coleg Plismona yw datblygu a chynnal cwricwla ac adnoddau ategol sy’n gysylltiedig â gyrru’r heddlu, gyda chefnogaeth gan Grŵp Strategol Cenedlaethol Gyrru’r Heddlu, (dan gadeiryddiaeth Arweinydd Gyrru’r Heddlu, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu) a Grŵp Ymarferwyr Gyrru’r Heddlu.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig yn cefnogi’r polisïau Heddlu Dyfed-Powys canlynol:
Bydd cyflwyno a datblygu’r holl hyfforddiant gyrwyr yn cael ei wneud yn unol â’r canlynol: -
Deddfwriaeth
Dylid darllen y polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig ar y cyd â’r dogfennau a’r canllawiau uchod, ynghyd â phecynnau hyfforddi’r Uned Hyfforddi Gyrwyr sy’n cynnwys cynlluniau gwersi, asesiadau risg a briffiau diogelwch.
Rolau a chyfrifoldebau
Yn unol â rhaglen yrru bresennol yr heddlu, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal tair lefel o awdurdodiad gyrru – Sylfaen, Ymateb ac Uwch.
Er mwyn cynnal safonau hyfforddi gyrwyr Heddlu Dyfed-Powys, mae deiliad y portffolio, Arweinydd Gyrru’r Heddlu ar gyfer hyfforddiant gyrwyr, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn yr heddlu ar hyn o bryd ar lefel Prif Gwnstabl Cynorthwyol. Bydd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol yn berchen ar y risg gyda’r disgwyliad y bydd y Prif Hyfforddwr Gyrru a’r Dirprwy Brif Hyfforddwr Gyrru yn rheoli’r risg. Y Prif Hyfforddwr Gyrru neu yn ei absenoldeb y Dirprwy Brif Hyfforddwr Gyrru yw pwynt cyswllt unigol yr Adran Hyfforddi Gyrwyr a bydd yn adrodd yn uniongyrchol i ddeiliad y portffolio.
Uned Hyfforddi Gyrwyr
Mae’r Uned Hyfforddi Gyrwyr yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant gyrwyr yr heddlu yn unol â Rhaglen Yrru’r Heddlu. Bydd gofyn i bob Uned Hyfforddi Gyrwyr yr heddlu gael trwydded gan y Coleg Plismona i ddarparu hyfforddiant gyrru rhagnodedig.
Rhaid i Uned Hyfforddi Gyrwyr gael o leiaf un prif hyfforddwr gyrru a dau hyfforddwr gyrru yr heddlu (gan gynnwys dirprwy hyfforddwr gyrru).
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn glynu wrth fanyleb a strategaeth asesu Rhaglen Yrru’r Heddlu mewn perthynas â staff yr Uned Hyfforddi Gyrwyr. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod y prif hyfforddwr gyrru a’r dirprwy brif hyfforddwr gyrru ill dau wedi cael hyfforddiant Sicrwydd Safon Mewnol, a byddant yn gyfrifol am wirio cydymffurfedd pob cwrs â’r cwricwla.
Staff Uned Hyfforddi Gyrwyr (Hyfforddwyr)
Bydd gan bob hyfforddwr gyrwyr Gymhwyster Gyrru Uwch a byddant yn cael hyfforddiant gloywi yn unol ag Atodiad A o Ofynion Asesu’r Coleg Plismona.
Rhaid i hyfforddwyr fod yn gymwys yn alwedigaethol / weithredol ar gyfer unrhyw gwrs y maent yn ei addysgu.
Dim ond hyfforddwyr hyfforddedig uwch fydd yn cyflwyno cyrsiau arbenigol lle mae gofyniad i gyflwyno hyfforddiant o’r fath mewn cerbyd categori uwch.
Swyddogion a Staff (Dysgwyr) a Staff yr Uned Hyfforddi Gyrwyr
Rhaid i bob dysgwyr a staff yr Uned Hyfforddi Gyrwyr sicrhau eu bod yn ymddwyn yn hollol broffesiynol. Rhaid i dysgwyr a staff yr Uned Hyfforddi Gyrwyr bob amser weithredu yn unol â’r cod moeseg ar gyfer pob swyddog heddlu a staff. Mae gan bob aelod o staff rwymedigaeth i herio ymddygiad amhriodol.
Rhaid i dysgwyr sy’n mynychu hyfforddiant hysbysu’r prif hyfforddwr gyrru am unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar ganolbwyntio yn ystod y cwrs a sicrhau eu bod yn addas i ymgymryd â hyfforddiant. Yn yr un modd, mae hyn yn cynnwys unrhyw gyflwr corfforol neu seicolegol a allai fod yn niweidiol i’r unigolyn yn ystod hyfforddiant. Ni chaniateir i unrhyw unigolyn yrru pan nad yw’n addas mewn unrhyw ffordd i wneud hynny.
Cyfrifoldeb yr holl swyddogion a staff yw sicrhau bod eu trwydded yrru yn ddilys. Er mwyn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn, mae’r heddlu’n ei gwneud yn ofynnol i swyddogion a staff yr heddlu ganiatáu gweld eu trwydded ar unrhyw adeg, yn ôl yr amgylchiadau priodol. Bydd hyn yn cynnwys darparu copi o’u trwydded yrru cyn mynychu unrhyw gwrs hyfforddi gyrwyr.
Mae egwyddorion y cod moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig -
Bydd y polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig yn cael eu monitro a’u hadolygu’n flynyddol i sicrhau eu bod yn addas at y diben, i fynd i’r afael ag unrhyw heriau a wneir i’r polisi neu’r weithdrefn gweithredu safonol ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac unrhyw ddiweddariadau neu ofynion gan y Coleg Plismona.
Bydd y prif hyfforddwr gyrru yn gyfrifol am adolygu a gweithredu unrhyw welliannau / ychwanegiadau gofynnol. Bydd y polisi hwn a’r weithdrefn gweithredu safonol cysylltiedig yn cael eu goruchwylio gan y Bwrdd Plismona Gweithredol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026