Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Darperir plismona yn bennaf fel gwasanaeth cyhoeddus, a ariennir yn bennaf gan drethi cenedlaethol a lleol. Fodd bynnag, mae yna hefyd rai swyddogaethau a gyflawnir sydd y tu hwnt i ddyletswydd gyhoeddus gyffredin, pan fo'n briodol i Heddlu Dyfed-Powys godi tâl ar unigolion neu sefydliadau i adennill costau.
Mewn meysydd eraill, mae cyfleoedd i Heddlu Dyfed-Powys ddarparu nwyddau neu wasanaethau sy'n berthnasol i rolau a sgiliau plismona penodol.
Mae sicrhau bod taliadau'n cael eu codi'n effeithiol mewn amgylchiadau o'r fath yn amddiffyn y ddarpariaeth heddlu gyhoeddus ac yn cyfrannu at gyllid cyffredinol y gwasanaeth. Mae'r polisi hwn yn ystyried y gofynion ar gyfer stiwardiaeth arian cyhoeddus.
Bwriad y polisi hwn yw sicrhau cysondeb lle bynnag y bo modd ac i sicrhau hygrededd a hyder yn y broses codi tâl ac i sicrhau bod y broses o adfer costau ar draws y gwasanaeth yn briodol ac nid yw’n cael ei thanseilio.
Mae'r polisi hwn yn seiliedig ar y canllawiau a ddarparwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn eu dogfennau am ganllawiau cenedlaethol ar godi tâl am wasanaethau’r heddlu: National Policing Guidelines on Charging for Police Services: Special Police Services a National Policing Guidelines on Charging for Police Services: General. Cyfeirir at y dogfennau hyn drwy gydol y polisi hwn fel “y Canllawiau”.
Mae Canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn darparu’r rhesymeg y tu ôl i’r angen i godi tâl ar unigolion a chyrff am rai gwasanaethau arbennig yr heddlu ac felly nid yw’r rhesymau hynny’n cael eu hailadrodd yng nghorff y polisi hwn. Mae'r polisi hwn yn amlinellu sut mae'r canllawiau a ddarperir yn cael eu gweithredu yn Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw berson sy'n gofyn am ddarparu gwasanaethau arbennig yr heddlu (er enghraifft mewn digwyddiad); mae tri dosbarthiad o ddigwyddiadau, yn benodol:
Hefyd yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Gwasanaethau plismona a ddarperir ar gais unigolyn neu sefydliad yw gwasanaethau arbennig yr heddlu ac nid ydynt yn rhan o rwymedigaeth yr heddlu i ddarparu plismona i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae enghreifftiau'n cynnwys plismona digwyddiadau, ffilmio masnachol, a hebrwng llwythi annormal.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r egwyddorion canlynol:
Nid yw'r heddlu'n codi tâl am y canlynol:
Mae'r gweithgareddau hyn yn cael eu hariannu drwy grant cyhoeddus a phraesept ac nid yw pwerau adfer incwm yn berthnasol iddynt.
Bydd ceisiadau am wasanaethau arbennig y heddlu:
Ni ellir trin plismona sy'n ofynnol wrth gyflawni dyletswyddau statudol fel gwasanaeth arbennig yr heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio methodolegau codi tâl cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, fel yr amlinellir yn y Canllawiau.
Argymhellir yn gryf codi cost economaidd llawn ar gyfer gwasanaethau arbennig yr heddlu a ddarperir ar gyfer digwyddiadau masnachol. Mae'n hanfodol bod y dull hwn yn cael ei fabwysiadu'n gyson ledled y wlad er mwyn sicrhau nad yw adferiad dilys costau'r heddlu yn cael ei danseilio. Dim ond ar sail eithriadol, a chyda chymeradwyaeth benodol CHTh y dylid gwneud unrhyw wyriad o'r egwyddor hon.
Gellir gweld manylion am lefelau cymeradwyo o fewn y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol.
Dylid costio plismona pob digwyddiad yn y lle cyntaf ar sail cost economaidd lawn yn unol â chyfraddau gwasanaethau arbennig yr heddlu cenedlaethol sydd wedi'u hymgorffori yng Nghanllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Mae'r Canllawiau'n darparu atodiadau a chyfraddau penodol fesul rheng swyddogion yr heddlu/swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu; mae defnyddio'r cyfraddau hyn yn sicrhau dull cyson ar draws heddluoedd, gan roi mwy o sicrwydd i'r sefydliadau hynny sy'n ceisio ymgysylltu â heddlu mewn gweithgaredd y gellir codi tâl amdano.
Mae'r dull a gymerwyd gan Heddlu Dyfed-Powys a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cynnwys cymhwyso un o'r tair categori canlynol i bob digwyddiad:
Mae hyn yn gwneud unrhyw asesiad codi tâl yn symlach, yn fwy tryloyw, ac yn haws i gwsmeriaid a heddluoedd ei ddeall.
Ar gyfer digwyddiadau statudol, megis gorymdeithiau Dydd y Cofio, digwyddiadau Jiwbilî neu gyfansoddiadol, mae presenoldeb yr heddlu yn aml yn rhan o ddyletswyddau blynyddol arferol yr heddlu ac ni chodir tâl ar eu cyfer.
Ar gyfer digwyddiadau anfasnachol, megis digwyddiadau cymunedol awdurdodau lleol, gorymdeithiau crefyddol, a digwyddiadau elusennol yn unig, mae heddluoedd yn aml yn codi tâl ar gyfer cost uniongyrchol plismona'r digwyddiad.
Dyma’r costau y gall gwasanaeth yr heddlu eu hadennill:
Mae Heddlu Dyfed-Powys a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi mabwysiadu'n llawn y methodolegau codi tâl sydd wedi'u cynnwys yng Nghanllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu. Anfonebir taliadau ymlaen llaw pan fo'n briodol a byddant yn cynnwys darpariaethau ar gyfer canslo a pheidio â thalu.
Mae'r polisi'n caniatáu lleihau neu ostwng costau pan fo’r digwyddiad yn elusennol, ar gyfer y gymuned, neu'n anfasnachol, neu pan fyddai codi tâl yn tanseilio hyder y gymuned/pan fyddai budd clir i'r cyhoedd.
Rhaid cymeradwyo pob gostyngiad ar lefel uwch briodol a rhaid iddo gael ei ddogfennu a bod yn archwiliadwy. Rhaid i daliadau a godir sy’n cael eu gostwng hefyd gyd-fynd ag egwyddorion cydraddoldeb a thegwch.
Caiff yr incwm a gynhyrchir ei reoli yn unol â'r Cyd-fframwaith Llywodraethu Corfforaethol a chaiff ei gofnodi, ei fonitro, a chyflwyno adroddiadau amdano yn dryloyw. Mae hefyd yn cyfrannu at ddiogelu plismona rheng flaen a gwerth am arian.
Mae trefniadau adennill dyledion, anfonebu, ac archwilio yn dilyn gweithdrefnau ariannol a gymeradwywyd gan CHTh.
Gwasanaeth yn ôl disgresiwn yw hwn, a dylid gwneud unrhyw gais gyda rhybudd rhesymol, a dylai fod yn ffurfiol ac yn ysgrifenedig. Cedwir yr hawl gan Heddlu Dyfed-Powys i wrthwynebu unrhyw ddigwyddiadau a’r hawl i beidio â darparu ei adnoddau.
Mae'r polisi hwn wedi'i danategu gan y canlynol:
Mae'r polisi hwn yn mabwysiadu Canllawiau Plismona Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar godi tâl am wasanaethau'r heddlu: gwasanaethau heddlu cyffredinol ac arbennig fel y dehongliad awdurdodol o'r pwerau hyn.
Er mwyn sicrhau cysondeb, rhaid defnyddio'r dogfennau canlynol ar y cyd â'r ddogfen hon:
Mae'r polisïau presennol canlynol yn arbennig o berthnasol a rhaid eu darllen ochr yn ochr â'r polisi hwn:
Mae gweithdrefnau gweithredol yn rhan o'r polisi hwn ac yn cyd-fynd â fframwaith polisi ehangach Heddlu Dyfed-Powys.
Yn unol â'r Cyd-fframwaith Llywodraethu Corfforaethol, mae CHTh yn gyfrifol am y canlynol:
Mae incwm yn elfen benodol o gyfrifoldebau stiwardiaeth ariannol y CHTh o dan adran 10.2 (Incwm) o'r fframwaith llywodraethu.
Mae'r Prif Gwnstabl yn cadw:
Ni chaiff unrhyw benderfyniad ynghylch codi tâl beryglu annibyniaeth plismona gweithredol.
Yn seiliedig ar asesiad risg digonol, gellir pennu lefel adnoddau’r heddlu ar gyfer pob digwyddiad. Fel arfer, cyflawnir hyn drwy gyfathrebu’n uniongyrchol â threfnydd y digwyddiad a chaiff ei drafod yn fewnol mewn cyfarfodydd trwyddedu ac adolygu digwyddiadau, neu gyfarfodydd penodol i’r digwyddiad.
Adolygir y polisi hwn yn flynyddol, neu pan fydd canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn cael eu diweddaru, gan Gyfarwyddwr Cyllid y Prif Gwnstabl/Prif Swyddog Ariannol SCHTh. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol ac yn parhau i fod yn addas at y diben. Mae'r CHTh yn monitro cydymffurfedd a chraffu ar y maes polisi hwn drwy fecanweithiau llywodraethu presennol, er enghraifft, drwy'r Fframwaith Llywodraethiant Corfforaethol.
Mae'r polisi hwn wedi'i gyhoeddi ar wefan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn ogystal ag ar wefan Heddlu Dyfed-Powys yn y Gymraeg a'r Saesneg.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ebrill 2026