Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gweithdrefn Weithredu’r Ddalfa wedi’u hysgrifennu i ategu Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gyfer Gweithdrefnau Cadw a’r Ddalfa (APP) a Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE), ei godau ymarfer cysylltiedig a deddfwriaeth berthnasol arall, gan gynnwys Deddf Hawliau Dynol 1998.Mae’n gyfeirnod ar gyfer y rhai sy’n cyflawni rôl Swyddog y Ddalfa a rolau eraill o fewn amgylchedd y ddalfa.
Rhaid cadw at ddeddfwriaeth bob amser, serch hynny, efallai y bydd adegau pan na fydd camau gweithredu staff yn dilyn canllawiau cenedlaethol i’r llythyren. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid bod rhesymeg wedi’i chofnodi’n llawn dros wneud hynny. Mae gan Gweithdrefn Weithredu’r Ddalfa hon bolisïau a gweithdrefnau penodol sy’n berthnasol i Heddlu Dyfed-Powys ac mae’n ychwanegol at y canllawiau a geir yn yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer Gweithdrefnau Cadw a’r Ddalfa.
Mae’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yn ddogfen ar y we sy’n cael ei hadolygu’n aml ac sy’n cael ei diweddaru ar-lein. Mae wedi cyfuno gwybodaeth a chanllawiau presennol yn ddogfen ar-lein gyfunol. Yn ogystal â'r adnodd hwn, Gweithdrefn Weithredu’r Ddalfa, mae dogfennau polisi eraill yn bodoli ac ar gael ar fewnrwyd yr heddlu a, lle bo’n berthnasol, ar wefan newydd y Ddalfa Heddlu Dyfed-Powys.
Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yw prif ffynonellau canllawiau ar gyfer cadw a’r ddalfa a dylid cyfeirio atynt yn y lle cyntaf.
Mae’n ofynnol i heddluoedd gael strwythur rheoli sefydliadol effeithiol ar gyfer eu gweithrediadau dalfa, gyda mesurau atebolrwydd clir. Mae angen i linellau rheoli fod yn eglur ac yn ddiamwys a dylid eu cyfleu’n glir i’r holl staff sy’n cyflawni dyletswyddau’r ddalfa.
Dylai heddluoedd sicrhau bod swyddogion a staff y ddalfa yn deall yn glir eu rolau a’u cyfrifoldebau unigol yn y ddalfa. Rhaid i’r holl staff fod wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i gyflawni eu rôl yn y ddalfa a bod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau, eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a disgwyliadau eu cydweithwyr a’r heddlu.
Dyma’r gorsafoedd heddlu dynodedig presennol ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys:
Rhaid i bob aelod o staff, sy’n gweithio yn y ddalfa yn bennaf, fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau gadael mewn argyfwng tân ar gyfer pob uned dalfa y maent yn gweithio ynddi gan gynnwys allanfeydd addas a phwyntiau ymgynnull.
Rhaid cadw pob allanfa yn glir ac ni ddylid eu defnyddio fel mannau storio.
Bydd rhingyll y ddalfa yn gyfrifol am sicrhau bod aelodau newydd o staff yn cael gwybod am y weithdrefn gadael mewn argyfwng tân ar gyfer yr uned berthnasol yn y ddalfa ac yn eu dysgu. Mae gan bob uned dalfa ei gweithdrefn gadael mewn argyfwng tân pwrpasol ei hun sydd i’w gweld yn y gorsafoedd priodol.
Rhaid cynnal archwiliadau wythnosol o’r larymau tân.
Rhaid i arolygydd y ddalfa sicrhau bod dril gadael y ddalfa mewn argyfwng yn cael ei gynnal bob chwe mis.
Rhaid i staff ddarllen Polisi Diogelwch Tân Heddlu Dyfed-Powys.
Cadw a’r Ddalfa – Rheoli a Chynllunio Dalfeydd – Arferion Proffesiynol Awdurdodedig Diogelwch Tân..
Ar hyn o bryd mae Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio gwasanaethau Castle Rock Group. Bydd y contract hwn yn cael ei adnewyddu ym mis Mehefin (2024), pan fydd gwerthusiad llawn o’r gwasanaeth a ddarperir, ac unrhyw gontractau posibl eraill yn cael eu hystyried.
Dylai dalfeydd nad oes ganddynt ddarparwr gofal iechyd (Y Drenewydd ac Aberhonddu) ddisgwyl bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ymateb o fewn terfynau amser priodol. Os na chaiff yr amseroedd hyn eu bodloni, dylid hysbysu arolygydd y ddalfa.
Dylai pob cais am gymorth cyfreithiol fynd drwy Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr ar Ddyletswydd.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig
Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn ymdrin â defnyddio oedolion priodol sef Cod C 1.7A
Sefydliadau lleol hy, ADFERIAD i’w defnyddio lle nad oes aelod addas o’r teulu/gwarcheidwad ar gael.
Canllawiau’r Llywodraeth mewn perthynas ag oedolion priodol.
Dylai oedolion priodol fynychu cyn gynted ag sy’n ymarferol er mwyn lleihau’r amser y mae plant, pobl ifanc a’r rhai sy'n fregus yn feddyliol yn ei dreulio yn y ddalfa. Y disgwyliadau yw y bydd oedolyn priodol yn mynychu o fewn dwy awr i’r cais cychwynnol. Dylai swyddogion gofnodi amser yr alwad ac amser presenoldeb yr oedolyn priodol.
Dylai pob unigolyn sy’n gweithredu fel oedolyn priodol gael copi o Canllaw i Oedolion Priodol y Swyddfa Gartref gan gynnwys oedolion priodol sy’n rhan o gynllun swyddogol.
Mae pob aelod o staff dalfa Heddlu Dyfed-Powys llawn amser yn cael eu dynodi a’u grymuso gan y Prif Gwnstabl o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002. Mae’r holl staff dalfa dan gontract dros dro yn cael eu dynodi a’u grymuso gan y Prif Gwnstabl o dan adran 39 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002
Mae’r rhestr ganlynol yn nodi pwerau ar gyfer rolau amrywiol staff ar gontract.
Swyddog y Ddalfa – Cymryd olion bysedd gyda/heb ganiatâd.
Swyddog y Ddalfa – Rhybudd cymryd samplau personol, cynnal archwiliad damcaniaethol
Swyddog y Ddalfa – Cymryd samplau nad ydynt o natur bersonol
Swyddog y Ddalfa – Cynnal chwiliadau nad ydynt o natur bersonol ar bobl a gedwir yn y ddalfa
Swyddog y Ddalfa – Cynnal chwiliadau personol ar bobl a gedwir yn y ddalfa
Swyddog y Ddalfa – Tynnu llun o bobl a gedwir yn y ddalfa gan yr heddlu
Swyddog y Ddalfa – Cymryd olion esgidiau.
Swyddog y Ddalfa – Cymryd samplau gan fynychwyr gwirfoddol.
Swyddog y Ddalfa – Cynnal chwiliadau ac archwiliadau, tynnu ffotograffau er mwyn adnabod.
Swyddogion Tywys – Awdurdod i dywys pobl a gedwir yn y ddalfa gan yr heddlu.
Swyddogion Tywys – Awdurdod i fynd â’r unigolyn sydd wedi’i arestio i orsaf yr heddlu.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Mae’n rhaid i bob unigolyn a gedwir yn y ddalfa roi caniatâd i’w gofnodion dalfa gael eu gweld gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Rhaid i bob aelod o staff gael hyfforddiant gloywi sgiliau ynghylch diogelwch swyddogion a chymorth cyntaf yn flynyddol yn unol â’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Bydd yr holl staff yn derbyn hyfforddiant gloywi sgiliau dalfeydd blynyddol.
Cynlluniau wrth gefn ar gyfer COVID – Wedi'i leoli ar dudalen fewnrwyd y Ddalfa.
Arestio yn ymwneud â therfysgaeth – Wedi'i leoli ar dudalen fewnrwyd y Ddalfa. Cyfeiriwch hefyd at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Unigolion bregus a gedwir yn y ddalfa:
Mae’r fframwaith Heddlu Dyfed-Powys canlynol yn bodoli mewn perthynas ag unigolion bregus a gedwir yn y ddalfa.
FFRAMWAITH ASESIAD BREGUSRWYDD:
Dylid ystyried y ffactorau canlynol ar gyfer pob unigolyn a gedwir sy’n cyrraedd y ddalfa a’u dwyn i sylw staff y ddalfa wrth gyrraedd. Dylid cofnodi’r wybodaeth hon ar gofnod y ddalfa neu ar y ffurflen gyrraedd berthnasol.
Mae’r arweiniad GYCPA isod yn gorgyffwrdd ac nid ydynt yn gweithredu ar wahân i’w gilydd. Maent hefyd yn ddeinamig, yn yr ystyr y gallant ddod i’r amlwg ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod cadw’r unigolyn a gedwir yn nalfa’r heddlu neu ar ôl y cyfnod yn y ddalfa.
G – Golwg
Y – Ymddygiad
C – Cyfathrebu ac Amgylchiadau Cyfathrebu
P – Perygl – A oes risg o berygl / niwed i’w hunan neu i rywun arall?
A – Amgylchedd
Rhaid cludo’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn syth i’r ysbyty os ydyw:
Yn dangos unrhyw arwyddion neu symptomau o anaf i’r pen
Yn feddw ac yn analluog ac nid oes canolfannau triniaeth ar gael.
Credir ei fod wedi llyncu cyffuriau mewn pecyn.
Credir ei fod wedi cymryd gorddos.
Yn dioddef unrhyw gyflwr meddygol arall sydd angen sylw meddygol brys
Yn dioddef unrhyw gyflwr arall y mae’r swyddog arestio neu’r swyddog cludo yn credu sydd angen triniaeth cyn cael ei gadw yn y ddalfa, neu
Wedi dioddef anaf difrifol, lle bo modd, dylai’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a asesodd yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa gadarnhau a llofnodi'r ffurflen gofnodi tywys unigolyn cyn iddo adael am yr ysbyty. Mae’r broses hon yn golygu y gall risgiau parhaus i ddiogelwch yr unigolyn a’i ofal meddygol barhau i gael eu rheoli gan y rhai sy’n etifeddu dyletswydd gofal.
Dylai unrhyw un sy’n cael ei gadw o dan adran 136 Deddf Iechyd Meddwl 1983 gael ei gludo i gyfleuster meddygol addas oni bai bod ymddygiad yr unigolyn hwnnw mor beryglus mai’r ddalfa yw’r unig opsiwn.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Y sawl sy’n cyrraedd yn dreisgar – rhaid i swyddogion a staff y ddalfa fod yn ymwybodol ac ystyried y gallai fod rhesymau meddygol dros ymddygiad treisgar. Gallai enghreifftiau gynnwys aflonyddwch acíwt o ran ymddygiad, digwyddiad diabetig, gwenwyndra cocaethylen, anaf i’r pen, defnyddio cyffuriau neu alcohol.
Mae’n rhaid i swyddogion a staff y ddalfa fod yn ymwybodol y gallai brwydro gydag unigolyn a gedwir yn y ddalfa neu ei atal am unrhyw gyfnod o amser arwain at lacto asidosis. Mae hwn yn gyflwr sy’n effeithio ar y galon a gall fod yn angheuol.
Rhaid i swyddogion y ddalfa a staff y ddalfa holi ynghylch unrhyw frwydro/atal y gallai’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa fod wedi bod yn gysylltiedig ag ef cyn cyrraedd y ddalfa a chymryd y camau priodol ynghylch asesiad gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ôl yr angen.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig
Cyfeiriwch at Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Mae capasiti dalfeydd yn seiliedig ar ddeiliadaeth un gell yn unol â Chod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol paragraff 8.1.
Mae capasiti gweithredu diogel y ddalfa yn dibynnu ar nifer o ffactorau:
Nifer yr unigolion a gedwir yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Lefel y monitro sy’n ofynnol ar gyfer yr unigolion a gedwir yn y ddalfa.
Risgiau a nodwyd.
Yn ogystal â’r weithdrefn celloedd a addysgir yn genedlaethol (pen i ffwrdd o ddrws y gell pan ddaw i mewn) mae gan Heddlu Dyfed-Powys ei weithdrefn ei hun ar gyfer celloedd hefyd (pen tuag at ddrws y gell). Gellir defnyddio’r naill neu’r llall ac mae’r ddau yn cael eu haddysgu mewn sesiynau gloywi hyfforddiant diogelwch swyddogion ar hyn o bryd.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Ymdrinnir yn yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Rhaid i swyddogion y ddalfa nodi risgiau i iechyd unigolion a gedwir yn y ddalfa cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd y ddalfa a rhaid iddynt gynnwys y rheini sy’n aros mewn ciw neu mewn cerbydau. Rhaid i asesiadau risg ac unrhyw ganfyddiadau gael eu cofnodi ar gofnod y ddalfa cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Rhaid i swyddogion y ddalfa holi swyddogion arestio a/neu gludo a oes gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa unrhyw risgiau neu gyflyrau meddygol hysbys neu a amheuir ac a oes ganddo unrhyw anafiadau neu anafiadau a amheuir.
Gallai holi swyddogion a’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa er mwyn cael gwybod am risgiau posibl ynghylch cymryd cyffuriau neu alcohol a/neu ymwneud â digwyddiad treisgar neu wrthdrawiad dynnu sylw swyddog y ddalfa at risgiau pellach. Er enghraifft, wedi eu gwenwyno gan cocaethylen ac yn dioddef anafiadau arafu.
Rhaid rhoi ystyriaeth lawn i effeithiau angheuol posibl lacto asidosis. Rhaid i swyddogion arestio neu swyddogion cludo hysbysu swyddog y ddalfa am unrhyw frwydro/ataliaeth sydd wedi digwydd yn ystod arestio neu gludo.
Mae’r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig yn ymdrin â materion sy’n ymwneud ag amlfeddiannaeth celloedd
Lle gallai’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa ei chael hi’n anodd deall ei hawliau, dylid rhoi copi o’r llyfryn “hawdd ei ddarllen” sydd ar gael ym mhob un o unedau’r ddalfa iddo: Hysbysiad o hawliau: hawliau unigolyn sy’n cael ei gadw yn y ddalfa gan yr heddlu
Mae’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â mynychwyr gwirfoddol.
Lle bo modd, dylid cynnal cyfweliadau â mynychwyr gwirfoddol y tu allan i amgylchedd y ddalfa. Mae ystafelloedd cyfweld wedi’u gosod ym mhob gorsaf a dylent gadw’r gwaith papur gofynnol i’w gwblhau a’i gyhoeddi cyn/yn ystod/ar ôl cyfweliad gan gynnwys asesiad risg cyn ac ar ôl cyfweliad. Mae’r swyddog cyfweld yn gyfrifol am gynnal yr asesiad risg ar Niche, gan gynnwys unrhyw faterion sy’n codi o hyn.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig
Mesur Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn y Senedd yn yr arfaeth
Canllawiau Rhyddhau o dan Fechnïaeth yr Heddlu i'w chynnwys https://dppi2/media/vxlczyqh/bail-rui-guidance-2022.docx
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Ar gyfer cludo o’r ddalfa i’r llys, mae pob heddlu yn defnyddio contract PECS SERCO ar gyfer trosglwyddo unigolion a gedwir yn y ddalfa i’r llys. Dros nos anfonir ffurflen e-bost i [email protected] i hysbysu SERCO.Y rhif cyswllt ar gyfer rheolaeth SERCO yw 0800 7818 141.
Os na fydd cludiant ar gael bydd swyddogion y ddalfa yn cysylltu â thimau ymateb lleol i sicrhau cludiant addas i'r llys. Rhaid gwneud hyn trwy/gyda gwybodaeth y rhingyll ar ddyletswydd sy’n gyfrifol am y swyddogion hynny er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth briodol yn parhau.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylid cludo pob unigolyn a gedwir yn y ddalfa sydd angen sylw meddygol brys mewn ambiwlans oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Lle defnyddir cerbyd heddlu a swyddog heddlu neu staff o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, dylid cwblhau adolygiad llawn o’r (amgylchiadau). Os yn bosibl, dylai’r penderfyniad gael ei adolygu ar y pryd gan oruchwyliwr oni bai y byddai oedi wrth aros am yr adolygiad hwn yn niweidiol i iechyd yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Mae protocol gwasanaeth ambiwlans y GIG yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau ambiwlans ledled y wlad gludo holl unigolyn a gedwir yn y ddalfa adran 136 y Ddeddf Iechyd Meddwl oni bai bod yr unigolyn mor dreisgar fel ei bod yn anniogel i wneud hynny. Lle mae hyn yn wir, dylai’r ambiwlans fynd gyda cherbyd yr heddlu a dylai aelod o staff yr ambiwlans deithio yng ngherbyd yr heddlu.
Pan fydd swyddog yn arestio, mae’n bersonol gyfrifol am asesu risg a lles y person sy’n cael ei gadw. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn parhau hyd nes y bydd yr un a ddrwgdybir yn cael ei drosglwyddo i swyddog y ddalfa am benderfyniad ynghylch ei gadw.
Mae asesu risg yn golygu asesu’r risg a’r risg bosibl y mae pob unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn ei gyflwyno iddo’i hunan, staff, unigolion eraill a gedwir yn y ddalfa a phobl eraill sy’n dod i mewn i’r ddalfa.
Rhaid trosglwyddo gwybodaeth hysbys a gwybodaeth a amheuir am unrhyw fregusrwydd i swyddog y ddalfa.
Gall natur ddeinamig y digwyddiad a’r broses arestio gael effaith ar yr asesiad sydd, oherwydd ei natur, yn debygol o fod yn barhaus ac sydd angen ymateb i ofynion sefyllfaol newidiol. Gall fod yn anymarferol ysgrifennu’r asesiad hwn ond rhaid ei ddogfennu cyn gynted â phosibl.
Rhaid i swyddogion fod yn ymwybodol bod ganddynt gyfrifoldeb a dyletswydd gofal parhaus tuag at yr unigolyn sy’n cael ei gadw a rhaid iddynt asesu eu hamgylchedd ac effaith eu gweithredoedd.
Mae’n rhaid i swyddog y ddalfa gofnodi risgiau a nodwyd a mesurau rheoli yng nghofnod y ddalfa fel y'i cwmpasir yng nghod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol paragraff 3.8.
Mae paragraff 3.8A yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 a GDPR y DU. Fodd bynnag, ni ddylai swyddogion gadw gwybodaeth yn ôl rhag unrhyw unigolyn sy’n gweithredu ar ran yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa, megis cyfieithwyr ar y pryd, cyfreithwyr, neu oedolion priodol os gallai gwneud hynny roi’r unigolyn hwnnw mewn perygl.
Nid yw nodiadau meddygol yn rhan o gofnod y ddalfa ac nid oes modd eu datgelu.
Dylai’r swyddog arestio neu hebrwng fonitro lles yr unigolyn a gedwir y mae’n gyfrifol amdano hyd nes y bydd yn dod ag ef gerbron swyddog y ddalfa. Mae staff y ddalfa yn gyfrifol am ddogfennu a chofnodi’r asesiad risg ar gyfer pob unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn y cofnod cadw yn unol â pharagraffau 3.6 i 3.10 o God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol
Rhaid i staff swyddog y ddalfa sicrhau bod pawb sy’n gyfrifol am gadw’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn cael eu briffio am y risgiau. Dylent sicrhau bod eu hymatebion i risg yn ddeinamig, yn cael eu hadolygu a’u cyfleu i bawb sy’n ymwneud â gofalu am yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa, gan gynnwys staff gofal iechyd perthnasol.
Dylai’r swyddog arestio neu dywys wirio unrhyw ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael ar unwaith sy’n berthnasol i les yr unigolyn a arestiwyd. Gall hyn gynnwys:
Rhaid cofnodi cynllun gofal ar gofnod y ddalfa ar gyfer pob unigolyn a gedwir yn y ddalfa. Rhaid i’r cynllun gofal amlinellu pa fesurau sydd wedi’u rhoi ar waith i reoli risgiau a nodwyd.
Rhaid i bob cynllun gofal gael ei adolygu a’i lofnodi gan swyddog y ddalfa a fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am reoli ac adolygu’r cynllun gofal yn seiliedig ar natur ddeinamig y risgiau a nodwyd a chyflwr parhaus yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Fel isafswm, dylai’r cynllun gofal gwmpasu’r pwyntiau isod a chynnwys sail resymegol ar gyfer pob un:
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai unrhyw unigolyn a gedwir yn y ddalfa sydd angen sylw meddygol brys gael ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Mae’n rhaid hysbysu’r arolygydd ar ddyletswydd os yw cludiant yr heddlu’n cael ei ddefnyddio ac os bydd digwyddiad a fu bron â digwydd/digwyddiad andwyol yn cael ei gofnodi.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig, ond dylid trin unrhyw achosion a amheuir o aflonyddwch acíwt o ran ymddygiad fel argyfwng meddygol.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai unigolion a gedwir yn y ddalfa sydd wedi dioddef anafiadau i’r pen gael eu cludo ar unwaith i’r ysbyty ar gyfer asesiad meddygol a monitro. Dylid ystyried hyn mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd difrifol/cyflymder uchel lle mae’r gyrrwr/teithiwr wedi’i arestio yn dilyn y gwrthdrawiad ar y ffordd.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol paragraff 9.7.
Y bobl y credir eu bod yn cuddio/stwffio/pacio cyffuriau yn fewnol. Mae’r canlynol ar waith ar hyn o bryd:
Polisi Stwffwyr a Phacwyr
https://dppi2/media/wp3iofn5/drug-recovery-protocol.pdf
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ond nodwch yr isod:
Cyfrifoldeb staff y ddalfa yw cwblhau asesiad risg cyn rhyddhau ym mhob achos.
Mae’n rhaid i gynllunio ar gyfer rhyddhau fod yn broses barhaus drwy gydol y cyfnod cadw yn y ddalfa a chael ei gychwyn wrth greu’r cynllun gofal cychwynnol. Dylid adolygu asesiad risg cyn rhyddhau fel rhan o bob adolygiad o’r cynllun gofal a’i gwblhau ar adeg rhyddhau.
Dylai staff y dalfeydd ddefnyddio’r cofair ICRACHDTC (gweler isod) fel rhan o greu, adolygu a chwblhau asesiad risg cyn rhyddhau. Dylai staff y ddalfa hefyd ystyried y gwasanaethau a ddarperir gan weithwyr atgyfeirio arestio wrth greu asesiad risg cyn rhyddhau.
Dylid ystyried gwybodaeth asesu risg bresennol, gan gynnwys unrhyw wendidau, fel rhan o’r asesiad risg cyn rhyddhau. Dylai staff y ddalfa benderfynu pa gamau, os o gwbl, sy’n briodol i gefnogi unigolion bregus a gedwir yn y ddalfa. Dylid darparu gwybodaeth am asiantaethau atgyfeirio a deunydd ysgrifenedig a allai helpu unigolion a gedwir yn y ddalfa i hunan-atgyfeirio at asiantaethau os dymunant ar ôl eu rhyddhau.
Mae creu asesiad risg cyn rhyddhau yn broses barhaus a all newid yn ystod y cyfnod cadw. Rhaid i staff y ddalfa dalu sylw arbennig ar adegau a digwyddiadau arwyddocaol yn ystod y cyfnod cadw. Ee, ar ôl cyfweliad, ar ôl eu cadw ar remand yn y ddalfa ac ar ôl cael eu cyhuddo. Rhaid ystyried unrhyw risgiau a amlygir fel rhan o’r broses asesiad risg cyn rhyddhau a lle bo’n ymarferol cymryd camau priodol i’w lliniaru.
Cyfrifoldeb staff y ddalfa yw’r broses hon. Wrth gwblhau asesiad risg cyn rhyddhau, mae’n rhaid i swyddogion y ddalfa gadarnhau eu bod wedi adolygu’r asesiadau risg cychwynnol a dilynol, cynllun gofal yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa, a’r cofnod dalfa, ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau a allai fod wedi digwydd yn ystod cyfnod cadw’r unigolyn yn y ddalfa. Dylai staff y ddalfa ystyried unrhyw ffynhonnell wybodaeth bosibl a allai fod yn berthnasol wrth greu asesiad risg cyn rhyddhau. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, y swyddog arestio, swyddog â gofal, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, gweithiwr atgyfeirio arestio, oedolion priodol.
Disgwylir i unigolion sy’n dod i gysylltiad â’r sawl a gedwir yn y ddalfa roi gwybod i swyddog y ddalfa am unrhyw risgiau y maent yn dod yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â gofal yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa tra bydd yn y ddalfa. Disgwylir hefyd i unigolion sy’n dod i gysylltiad â’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa, neu sy’n ymdrin ag ef, roi gwybod i staff y ddalfa am unrhyw risgiau y maent yn dod yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â rhyddhau yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa. Mae hyn yn cynnwys risgiau y gall yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa eu hachosi iddo’i hun yn dilyn rhyddhau, risgiau posibl i’r sawl a gedwir yn y ddalfa o’r gymuned neu risgiau posibl y gallai’r sawl a gedwir yn y ddalfa eu hachosi i’r dioddefwr(wyr), tystion neu’r gymuned ehangach.
Rhaid cwblhau asesiad risg cyn rhyddhau o hyd ar gyfer yr unigolion hynny a gedwir yn y ddalfa sy'n cael eu trosglwyddo i unrhyw asiantaeth allanol gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cadw ar gyfer ymddangos yn y llys. Rhaid i bob risg a nodir ac unrhyw gamau lliniaru perthnasol a gofnodwyd ar yr asesiad risg cyn rhyddhau gael eu trosglwyddo i'r ffurflen tywys unigolyn.
Dylid defnyddio cofair ICRACHDTC i gofnodi bod ystyriaeth briodol wedi’i rhoi i’r canlynol:
I – Iechyd – Pa broblemau iechyd sydd gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa a allai effeithio ar ei ryddhau neu ei wneud yn fwy bregus?
C – Camddefnyddio alcohol a chyffuriau – Pa broblemau sydd gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa gydag alcohol/cyffuriau a allai effeithio ar ei ryddhau?
R – Risg – Pa risg y mae’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn ei achosi iddo’i hunan ar ôl ei ryddhau o’r ddalfa? Pwy arall sy’n debygol o fod mewn perygl gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r ddalfa?
A – Amgylchiadau domestig – A yw hyn yn ffactor adeg rhyddhau? A oes unrhyw broblemau rhagweladwy gartref ar ôl i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa gael ei ryddhau?
C – Cyllid – Pa arian parod/cardiau banc sydd gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa gyda nhw i gynorthwyo gyda theithio?
H – Honiad – A allai natur y drosedd yr ymchwilir iddi gael effaith ar yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa ar ôl iddo gael ei ryddhau?
D – Dillad – A oes gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa ddillad priodol i’w rhyddhau?
T – Teithio – Beth yw’r tywydd? Beth yw’r amser o’r dydd? Sut bydd yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn cyrraedd adref?
C – Cefnogaeth – Pa gefnogaeth sydd gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa gan ffrindiau/teulu/asiantaethau eraill? A ddylai’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa gael ei atgyfeirio neu ei atgyfeirio ei hun ac at ba asiantaeth?
A oes unrhyw wybodaeth neu bryderon a allai awgrymu risg uwch o hunanladdiad neu hunan-niwed ar ôl rhyddhau? Nid yw ICRACHDTC yn rhestr hollgynhwysfawr.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai holl swyddogion heddlu a staff y ddalfa fod yn ymwybodol o beryglon asffycsia lleoliadol a pherygl atal pobl sy’n profi aflonyddwch acíwt o ran ymddygiad neu argyfwng iechyd meddwl, sy’n faterion meddygol brys.
Rhagor o wybodaeth am aflonyddwch acíwt o ran ymddygiad: http://www.fflm.ac.uk/wp-content/uploads/documentstore/1310745561.pdf
Mae swyddfa’r ddalfa yn amgylchedd rheoledig, a’r prif amcanion ddylai fod i osgoi defnyddio grym yn y ddalfa.
Dylai staff drin unigolion a gedwir yn y ddalfa ag urddas a pharch a cheisio tawelu unrhyw sefyllfaoedd a allai arwain at orfod defnyddio grym.
Dylai staff y ddalfa reoli eu hamgylchedd fel bod sefyllfaoedd lle gall fod angen defnyddio grym yn cael eu dad-ddwysáu. Rhaid i bob defnydd o rym fod yn gymesur, yn gyfreithlon, ac yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau.
Bydd staff yn atebol am bob achos lle defnyddir grym. Rhaid cofnodi unrhyw ddefnydd o rym yn y ddalfa ar system adrodd defnydd o rym Heddlu Dyfed-Powys/trwy’r terfynellau data symudol.
Dylid ystyried y Model Gwneud Penderfyniad Cenedlaethol wrth ddefnyddio unrhyw lefel o rym.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig – Dylid cofnodi pob defnydd o rym drwy ffurflen defnydd o rym ar-lein Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi’i lleoli ar y terfynellau data symudol neu’r fewnrwyd. Dylid gwneud hyn cyn gynted â phosibl ac ym mhob achos cyn diwedd diwrnod gwaith y swyddog/aelod o staff. Un ffurflen defnydd o rym i’w chyflwyno gan bob swyddog/aelod o staff sy’n defnyddio grym.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Nid oes gan Heddlu Dyfed-Powys bolisi na phrotocol ar gyfer defnyddio taser mewn unrhyw swyddogaeth a gynlluniwyd ymlaen llaw. Yr unig eithriad fyddai pe bai digwyddiad a oedd angen gweithredu ar unwaith, a phenderfyniad y swyddog sy'n cario taser fydd cyfiawnhau’r angen i’w ddefnyddio.
Rhaid i staff y ddalfa ystyried anafiadau eilaidd posibl o ganlyniad i ddefnyddio taser, er enghraifft, anafiadau i’r pen ar ôl cwympo.
Rhaid i bob unigolyn a gedwir yn y ddalfa sydd wedi profi effaith taser gael ei weld gan ymarferydd meddygol fforensig neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Mae’n rhaid rhoi taflen wybodaeth i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa ac sydd wedi bod yn destun defnydd taser.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol ar gyfer diogelu pobl a phlant bregus o ran noeth-chwiliadau
Mae Polisi Cynhwysiant Traws Heddlu Dyfed-Powys yn ymwneud â dibenion chwilio unigolion traws a gedwir yn y ddalfa.
Dylai pob eiddo gael ei nodi a’i lofnodi gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa. Mater i staff y ddalfa yw penderfynu a all eitemau penodol hy gemwaith aros gyda’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai unigolion a gedwir yn y ddalfa allu aros yn lân ac yn gyfforddus yn ystod eu hamser yn y ddalfa. Dylid hwyluso newid dillad, yn enwedig dillad isaf, yn ôl yr angen. Mae’n rhaid i staff gyfiawnhau cael gwared ar ddillad er diogelwch neu ddibenion ymchwilio a chofnodi hyn yn yr asesiad risg a chofnod y ddalfa.
Dylai staff wneud y penderfyniad i symud eitemau o’r fath ar ôl cynnal asesiad risg. Rhaid i swyddog y ddalfa gydbwyso unrhyw risg gyda’r angen i drin unigolion a gedwir yn y ddalfa ag urddas.
Os credir bod unigolyn a gedwir yn y ddalfa mewn perygl o hunanladdiad neu hunan-niweidio, efallai na fydd atafaelu a chyfnewid dillad yn dileu’r risg ond gallai gynyddu’r trallod a achosir i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa ac, felly, gynyddu’r risg y bydd yn hunan-niweidio. Gall gadael unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn ei ddillad ei hun helpu i normaleiddio ei sefyllfa. Gall arsylwi neu arsylwi cyson yn agos (lefel 3 neu 4) fod yn fesur rheoli mwy priodol o dan yr amgylchiadau hyn.
Os bydd aelod o staff y ddalfa yn rhesymoli y dylid rhoi’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa mewn dillad gwrth-niwed, mae’n dilyn bod angen tynnu holl ddillad yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa, gan gynnwys dillad isaf.
Gellir cymryd dillad oddi wrth yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn ystod ymchwiliad fel tystiolaeth neu at ddibenion hylendid. Ym mhob achos rhaid darparu dillad newydd. Nid oes unrhyw wisg yn gwbl ddiogel, er bod rhai yn fwy anodd eu defnyddio mewn ymdrechion hunan-niweidio nag eraill. Bydd asesiadau risg parhaus ac unwaith y bydd y risg wedi dod i ben dylid rhoi dillad amgen i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa gyda’r rhesymeg wedi’i nodi ar gofnod y ddalfa.
Nid yw gwisg bapur yn cael ei hystyried yn ddillad cyfnewid priodol ac ni ddylid ei defnyddio.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyn i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa adael y ddalfa, rhaid gwirio ei gell am arwyddion o ddifrod, pwyntiau rhwymo, sbwriel ac unrhyw eiddo. Rhaid rhoi gwybod ar unwaith i staff y ddalfa am unrhyw ddifrod, ac ymdrin â’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn unol â hynny.
Unwaith y bydd y gell wedi’i gadael, dylid ei glanhau’n drylwyr i baratoi ar gyfer yr unigolyn nesaf a gedwir yn y ddalfa. Os bu unrhyw bryderon am Covid, rhaid glanhau’n ychwanegol cyn i’r gell gael ei hailddefnyddio.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Rhaid cofnodi pob trosglwyddiad ar ffurf fideo, a recordio’r sain. Rhaid i staff y ddalfa ymweld â’r holl unigolion a gedwir yn y ddalfa a chyflwyno eu hunain cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl trosglwyddo ar ddechrau shifft. Bydd hyn yn cynorthwyo staff y ddalfa i adolygu’r asesiad risg, cynllun gofal a chyflwr yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa. Rhaid cofnodi’r ymweliad hwn ar gofnod y ddalfa.
Os yw byrddau gwyn/byrddau marcio i gael eu defnyddio i gynorthwyo staff y ddalfa, ni ddylent fod yn weladwy i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa/aelodau eraill o’r cyhoedd.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig ar gyfer gofynion arsylwi.
Rhaid i staff y ddalfa:
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Cyfeiriwch at God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (paragraff 9.5, 9.5a, 9.5b a 9c)..
Rhaid storio meddyginiaeth mewn locer diogel a byth gerllaw cofnod y ddalfa. Rhaid rhoi meddyginiaeth a ddosberthir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i staff y ddalfa mewn bag wedi’i farcio ar gyfer yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa a nifer a chryfder y feddyginiaeth. Rhaid storio hwn mewn locer meddyginiaeth neu locer eiddo’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa, a ddylai gael ei nodi’n glir i ba gell y mae’r feddyginiaeth yn perthyn.
Rhaid i feddyginiaeth sydd wedi’i dwyn i’r ddalfa gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa pan gafodd ei gadw, neu sydd wedi’i ddwyn i mewn wedi hynny gan naill ai’r heddlu neu ffrind neu aelod o’r teulu gael ei selio yn eiddo’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa a’i logio ynghyd ag eiddo arall. Rhaid iddo gael ei gofnodi gydag enw’r feddyginiaeth a nodi p’un a yw mewn bocs ac wedi’i labelu.
Os yw meddyginiaeth yn mynd i gael ei roi i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa, rhaid iddo gael ei awdurdodi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yna rhaid agor y bag eiddo a nodi’r rhesymau pam y gwneir hyn ynghyd â rhif y sêl newydd ar gofnod y ddalfa. Rhaid i bob meddyginiaeth a awdurdodir yn bersonol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol gael ei dogfennu ar ffurflen feddyginiaeth Castle Rock Group.
Rhaid cael gwared ar feddyginiaeth sydd wedi’i roi gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac nad yw wedi’i defnyddio gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn y blwch a ddarperir ar gyfer y defnydd hwn yn yr ystafell feddygol a fydd yn cael ei gasglu gan Reliance. Rhaid dychwelyd meddyginiaeth yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa iddo yn yr un modd ag unrhyw eiddo arall.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Rhaid i swyddogion a staff sy’n cynnal ymweliadau neu arsylwi:
Gael eu briffio’n briodol am sefyllfa’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa, gan gynnwys cynllun gofal, asesiad risg ac anghenion penodol,
Cymryd rhan weithredol wrth gyfathrebu â’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa a sefydlu perthynas,
Bod yn gyfarwydd â gweithdrefn frys uned y ddalfa ac yn ymwybodol o’r offer sydd ar gael,
Sicrhau bod pob gwiriad yn cael ei gofnodi yng nghofnod y ddalfa a bod gwybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu a’i defnyddio fel rhan o’r broses asesu risg barhaus,
Meddu ar allwedd y gell a thorrwr clymau,
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig..
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Gweler 17, 3.18, 3.19, 3.20 a 3.21.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dalfeydd Heddlu Dyfed-Powys sydd ag iard ymarfer corff – bydd pob achos yn cael ei adolygu yn ôl ei rinweddau ei hun i weld a gaiff unigolyn a gedwir yn y ddalfa ddefnyddio’r iard ymarfer corff. Bydd hyn yn ystyried argaeledd staff, asesiad risg o’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa hyd at y pwynt hwnnw, unigolion eraill a gedwir yn y ddalfa sydd allan o’u cell ar y pryd ac ati.
Dylai fod gan bob dalfa ddetholiad sylfaenol o ddeunydd darllen addas gan gynnwys deunydd ar gyfer unigolion iau a gedwir yn y ddalfa ac yn yr ieithoedd tramor mwyaf cyffredin.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Er mwyn lleihau effaith gwahanu mamau oddi wrth blant ifanc, dylai swyddogion y ddalfa flaenoriaethu cyswllt ffôn dan oruchwyliaeth ynghylch materion gofal plant, a dylid hwyluso ymweliadau â phlant a’u gofalwyr ar gyfer cyfnodau cadw hirach oni bai bod natur y drosedd honedig neu’r ymchwiliad parhaus yn atal hyn.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylid cymryd pob cwyn cyn i’r unigolion a gedwir yn y ddalfa adael y ddalfa oni bai nad yw’n briodol a’i gofnodi yn y modd cywir.
Bydd arwyddion addas i’w gweld yn y dalfeydd i egluro’r drefn gwyno a sut y gall yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa wneud cwyn.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai dillad gwely a dillad glân ac addas yn ogystal ag eitemau misglwyf fod ar gael yn rhwydd ym mhob ystafell. Dylid darparu papur toiled yn y gell fel mater o drefn oni bai bod yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn risg eithafol ac os felly dylid darparu papur toiled ar gais. Dylai’r papur toiled a ddarperir fod ar ffurf dalen yn hytrach na rholiau y gellir eu defnyddio i hunan-niweidio.
Ni chaniateir i unrhyw fwyd na diod gael eu dwyn i’r ddalfa gan ffynonellau allanol hyd yn oed os ydynt yn cael eu cyflenwi mewn cynwysyddion caeedig neu becynnau wedi’u selio. Dim ond bwyd neu ddiod a brynwyd gan swyddogion heddlu neu staff yr heddlu y gall ddod i mewn i’r ddalfa neu gael ei fwyta gan yr unigolion a gedwir yn y ddalfa. Mae unrhyw wyriad oddi wrth hyn yn fater i ringyll y ddalfa ei gyfiawnhau a’i gofnodi ar gofnod y ddalfa.
Ni chaniateir i unigolion a gedwir yn y ddalfa fwyta unrhyw eitem a ddygir i mewn ganddynt eu hunain pan gânt eu harestio. Bydd cadw at y rheolau ynghylch dim bwyd na diod yn sicrhau na chaiff unrhyw eitemau eu halogi heb yn wybod. Dylai cyllyll a ffyrc fod yn benodol i’r ddalfa am resymau diogelwch a rhaid eu tynnu o’r gell yn syth ar ôl eu defnyddio i’w hatal rhag cael eu defnyddio i niweidio unigolion a gedwir yn y ddalfa neu fel arfau.
Mae polisi dim ysmygu ym mhob eiddo Heddlu Dyfed-Powys.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig am wybodaeth am sbardunau ac arweiniad pellach.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig am ddiffiniadau ar lefelau meddwdod.
Sylwch, nid oes unrhyw bŵer i ddefnyddio anadliedyddion i bennu lefelau meddwdod ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â’r Ddeddf Traffig Ffyrdd, ond gellir gwneud hyn gyda chaniatâd yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Mae’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yn cyfeirio at risgiau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau.
Mynediad i staff benywaidd – Mae’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig yn cwmpasu’r gofyniad i neilltuo aelod benywaidd o staff i fenywod sy’n cael eu cadw yn y ddalfa a chanllawiau pellach ar gyfer cefnogi a diogelu menywod yn y ddalfa
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig..
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig..
Rhaid ystyried Deddf Cydraddoldeb 2010.
Cyfeiriwch at baragraff 3 Cod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol..
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Ni ddylai swyddogion a staff byth ragdybio crefydd neu gred, diwylliant neu genedligrwydd a dylent barchu penderfyniad unigolyn i beidio â datgelu crefydd neu gred.
Dylai fod gan bob dalfa fynediad i eitemau anghenion crefyddol addas megis matiau gweddïo, cwmpawd, Beibl, ac ati a dylid cadw’r rhain yn barchus.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Sicrhau bod swyddog yr chos yn cynnal y gwiriadau cenedl gartref perthnasol ar yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylid darllen Polisi Cynhwysiant Traws Heddlu Dyfed-Powys
Gweler hefyd Deddf Cydnabod Rhywedd 2004.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig..
Cyfeiriwch at Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.
Cyfeiriwch at Ddeddf Plant 2004.
Er bod rhywfaint o amrywiaeth mewn terminoleg wrth gyfeirio at bobl o dan 18 oed mewn cyd-destun cyfiawnder troseddol, er mwyn cysondeb defnyddir y term ‘plant a phobl ifanc’ drwy’r ddogfen hon. Yn hanesyddol, mae’r term ‘ieuenctid’ fel y’i defnyddir yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 wedi cyfeirio at blentyn o dan 17 oed.
Mae adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015 wedi ymestyn y diffiniad o ‘ieuenctid’ at ddibenion Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, i gynnwys unrhyw blentyn neu unigolyn ifanc yr ymddengys ei fod o dan 18 oed. Mae hyn yn cadarnhau’r un mesurau diogelu i bob unigolyn o dan 18 oed ac yn sicrhau bod y diffiniad yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Yr oedran cyfrifoldeb troseddol yw 10, felly mae unrhyw gyfeiriad at ‘blentyn neu unigolyn ifanc’ yn cael ei arestio am drosedd, yn ymwneud â rhywun 10 oed neu hŷn.
Lle bo modd, dylid lleoli plant a phobl ifanc ymhell oddi wrth unigolion eraill a gedwir yn y ddalfa, ee, mewn ystafelloedd cadw yn hytrach na chelloedd arferol.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Mewn perthynas â chwiliadau personol a noeth-chwiliadau plant a phobl ifanc gweler atodiad A Cod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol I grynhoi, rhaid i oedolyn priodol fod yn bresennol ar gyfer unrhyw noeth-chwiliadau neu chwiliadau personol plentyn neu unigolyn ifanc. Gellir cynnal chwiliad yn absenoldeb oedolyn priodol os yw’r unigolyn / oedolyn ifanc (???) yn dynodi, ym mhresenoldeb yr oedolyn priodol, nad yw am i’r oedolyn fod yn bresennol yn ystod y chwiliad a bod yr oedolyn yn cytuno.
Rhaid gwneud pob ymdrech i ddilyn y canllawiau o fewn Concordat Plant yn y Ddalfa o ran peidio â chadw pobl ifanc yn y ddalfa dros nos.
Polisi Heddlu Dyfed-Powys yw bod unrhyw unigolyn ifanc sy’n cael ei gadw dros nos, boed cyn neu ar ôl cyhuddo, yn cael ei gofnodi ar ffurflen “Adroddiad Dyddiol Pobl Ifanc a Gedwir yn y Ddalfa dros Nos”.
Mae digwyddiadau o’r fath yn cael eu monitro gan uwch reolwyr y ddalfa. Rhaid i swyddogion y ddalfa gwblhau’r dystysgrif cadw’n gaeth berthnasol, y mae’n rhaid ei hatodi i’r ffeil achos.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Am arweiniad pellach ewch i hafan DPPi2, cliciwch ar “Canllawiau” ac yna chwiliwch am “Cyfiawnder Ieuenctid”.”.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig, yn benodol Iechyd Meddwl, Mynegai Iechyd Meddwl Iechyd Meddwl – Cadw yn y Ddalfa.
Rhaid i asesiad bregusrwydd fod yn rhan o bob penderfyniad i arestio gan y swyddog arestio a chael ei gynnwys yn yr asesiad risg a bregusrwydd cychwynnol yn y ddalfa.
Rhaid cwblhau asesiadau risg cyfrifiadurol ac unrhyw gwestiynau asesu risg ategol ym mhob achos. Rhaid i asesiadau risg o’r fath ystyried ymddangosiad ac ymddygiad yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa, unrhyw arwyddion o salwch neu anaf, arddull a lefel eu cyfathrebu, gwybodaeth yn cadarnhau o bob ffynhonnell a’r amgylchiadau a’r amgylchedd y canfuwyd ef ynddynt.
Rhaid i gofnodion y ddalfa gofnodi bod asesiad risg a bregusrwydd yn y ddalfa wedi’i gynnal.
Nid yw methu â gofyn cwestiynau i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa i gwblhau’r asesiad risg, oherwydd trais er enghraifft, yn atal ystyriaeth lawn o’r ffeithiau sy’n cyflwyno gyda’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa fel rhan o asesiad bregusrwydd. Dylai ymdrechion i sicrhau asesiad risg gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa barhau.
Defnyddir y term afiechyd meddwl yn fras i gyfeirio at yr holl faterion hynny sy’n ymwneud â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r rhain yn cynnwys anhwylderau meddwl, salwch meddwl, anghenion iechyd meddwl a llawer o’r materion sy'n dod o fewn diffiniad Deddf Iechyd Meddwl 1983 o anhwylder meddwl a diffiniad Cod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 o bobl fregus yn feddyliol.
Mae hefyd yn cynnwys pobl sy’n profi trallod meddwl ar yr adeg y maent yn dod i gysylltiad â’r heddlu, p’un a ydynt wedi cael diagnosis ffurfiol ai peidio neu wedi derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenorol.
Os oes gan swyddog neu aelod o staff yr heddlu unrhyw amheuaeth, neu os dywedir wrthynt yn ddidwyll, y gallai unigolyn o unrhyw oedran fod ag anhwylder meddwl neu fel arall â bregusrwydd meddyliol, dylent drin yr unigolyn felly yn absenoldeb tystiolaeth glir i ddileu unrhyw amheuaeth.
Mae’r term bregusrwydd meddyliol yn berthnasol i unigolion a gedwir yn y ddalfa nad ydynt efallai, oherwydd eu cyflwr neu alluedd meddyliol, yn deall ystyr neu bwysigrwydd yr hyn a ddywedir wrthynt (er enghraifft, ar ffurf cwestiynau) neu eu hatebion.
Gall yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa fodloni’r diffiniad o fod yn fregus yn feddyliol o dan God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, ac eto heb gael ei ystyried yn dioddef afiechyd meddwl gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa yn dal i fod angen y mecanweithiau cymorth y mae ganddo hawl iddynt o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, ee, defnyddio oedolyn priodol.
Mae paragraff 11.15 o God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol yn cyfeirio at unigolyn sydd ‘ag anhwylder meddwl neu sydd fel arall yn fregus yn feddyliol’. O dan baragraff 11.15 o God C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol,, ni ddylai unigolyn sydd ag anhwylder meddwl neu sydd fel arall yn fregus yn feddyliol gael ei gyfweld ynghylch ei gysylltiad neu amheuaeth o ymwneud â throsedd neu droseddau, na gofyn iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig dan rybudd heb oedolyn priodol. Mae eithriadau i hyn, fodd bynnag, a nodir y rhain ym mharagraffau 11.1 ac 11.18 i 11.20.
Mae adran 1(4) y Ddeddf Iechyd Meddwl yn diffinio anabledd dysgu fel ‘cyflwr datblygiad arestiedig neu anghyflawn o’r meddwl sy’n cynnwys amhariad sylweddol o wybodaeth a gweithrediad cymdeithasol’.
Gall anabledd dysgu fod yn ysgafn, yn gymedrol neu’n ddifrifol ac yn effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn dysgu ac yn cyfathrebu. Gall arwain at lai o allu i ddysgu sgiliau newydd, addasu i ofynion bob dydd ac ymdopi â nhw, deall gwybodaeth gymhleth neu, mewn rhai achosion, i fyw’n annibynnol. Mae’n bosibl na fydd y rhai ag anableddau dysgu ysgafn yn cael unrhyw gymorth ffurfiol ac efallai na fydd eu hanghenion a’u hanabledd yn amlwg. Efallai na fydd eu hanabledd wedi’i nodi cyn dod i gysylltiad â’r heddlu. Mae gan bobl eraill anableddau dysgu dwys a lluosog, a gall eu hanghenion fod yn sylweddol.
Mae’n bosibl y bydd gan rai pobl nodweddion corfforol a allai helpu i nodi anabledd dysgu, ee, pobl â Syndrom Down (sy’n cael ei ddosbarthu fel anabledd dysgu).
Mae anawsterau dysgu a niwro-anableddau yn cwmpasu ystod o gyflyrau a gallant gael eu hachosi gan ystod eang o ffactorau sy’n peryglu gweithrediad yr ymennydd. Mae amodau yn cynnwys:
Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn disgrifio awtistiaeth fel anabledd gydol oes, datblygiadol sy’n effeithio ar sut mae unigolyn yn cyfathrebu ac yn ymwneud â phobl eraill, a sut mae’n profi’r byd o’i gwmpas. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar euMae canllaw i swyddogion heddlu a gweithwyr proffesiynol hefyd ar gael ar eu gwefan.
Gweler adran 135(6) Deddf Iechyd Meddwl 1983.
Mae adran 135(6) Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn diffinio lle diogel fel a ganlyn:
Gweler atodlen 2 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.
Ystyriwch Model Gwneud Penderfyniadau Cenedlaethol wrth ddefnyddio grym ar glaf A136.
Dylid ceisio cytundeb yr unigolyn sy’n cael ei gadw’n gaeth i asesiad bob amser lle bo modd a dylid mynd ag ef i fan diogel i gael ei asesu ar gyfer unrhyw anghenion meddygol neu ofal cymdeithasol sydd heb eu diwallu.
Rhaid i asesiadau Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar gyfer derbyniadau i ysbyty gael eu cynnal gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy a naill ai un neu ddau feddyg (ymarferwyr meddygol cofrestredig). Rhaid i un o’r meddygon gael ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 12 Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel rhywun sydd â phrofiad arbennig o wneud diagnosis neu drin anhwylderau meddwl.
Yn dilyn asesiad clinigol, bydd cadw’n gaeth dan adran 136 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn peidio â chael effaith mewn un o ddwy ffordd: Bydd y meddyg yn cadarnhau nad yw’r unigolyn yn dioddef o anhwylder meddwl.
neu
Bydd y gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy yn gwneud ac yn cwblhau’r trefniadau angenrheidiol ar gyfer triniaeth neu ofal yr unigolyn hwnnw.
Dim anhwylder meddwl: Os daw’r ymarferydd meddygol cofrestredig i’r casgliad, yn dilyn asesiad clinigol, nad oes gan yr unigolyn anhwylder meddwl o dan delerau Deddf Iechyd Meddwl 1983, ni chaniateir i’r unigolyn a gedwir yn y ddalfa mwyach gael ei gadw o dan yr adran hon a bydd yn cael ei ryddhau ar unwaith o’r ddalfa. (Gweler Cod Ymarfer Lloegr ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu God Ymarfer Cymru ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 am fanylion ychwanegol ar wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol ar gyfer triniaeth a gofal o hynny ymlaen.)
Amheuir anhwylder meddwl: Fodd bynnag, os penderfynir y dylai’r unigolyn gael ei gadw o dan, adran 2, adran 3 ac adran 4 Deddf Iechyd Meddwl 1983, yna mae adran 6 Deddf Iechyd Meddwl 1983 yn darparu pŵer i geisydd (y gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy fel arfer) fynd â’r unigolyn hwnnw i’r ysbyty unwaith y bydd y cais yn cael ei gwblhau.
Anghytundeb: Mae’n bosibl i unigolyn a gedwir yn y ddalfa gan yr heddlu gael ei ystyried ag anhwylder meddwl neu fel arall yn fregus yn feddyliol gan ddefnyddio diffiniad Cod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (Paragraff 1.4) ac eto, yn dilyn asesiad clinigol, efallai na fydd yn cael ei ystyried ag afiechyd meddwl ac angen ei gadw’n gaeth mwyach, a chael triniaeth neu ofal o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. (Gallai enghraifft o hyn fod yn rhywun sy’n teimlo’n hunanladdol ond nad yw fel arall yn sâl yn feddyliol.)
Mae darpariaeth gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn nalfeydd Heddlu Dyfed-Powys yn amrywio ar sail y staffio a ddarperir gan awdurdodau lleol ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol y GIG.
Os amheuir bod gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa salwch meddwl a’i fod yn cyrraedd y ddalfa y tu allan i oriau, dylid gwneud trefniadau iddo weld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol neu am wybodaeth frys, dylid cysylltu â’r tîm dyletswydd brys.
Gweler 7.
Os oes gan swyddog y ddalfa unrhyw amheuaeth ynghylch cyflwr neu alluedd meddyliol yr unigolyn a gedwir dylai drin yr unigolyn fel un sy’n fregus yn feddyliol a galw ar oedolyn priodol. Erys y ddyletswydd hon hyd yn oed os yw gweithiwr gofal iechyd proffesiynol o’r farn nad yw unigolyn yn bodloni’r diffiniad ffurfiol o brofi anhwylder meddwl.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Dylai pobl sy’n cael eu rhyddhau o’r ddalfa, pan fo hynny’n bosibl, drefnu eu cludiant eu hunain naill ai trwy drefnu cludiant (drwy ddefnyddio ffôn y ddalfa) neu drwy dalu am eu cludiant gydag arian a ddygwyd i’r ddalfa gyda nhw. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, dylid dilyn cyngor Holi’r Heddlu fel a ganlyn:
Os byddwch yn mynd i orsaf heddlu yna efallai y gallant eich helpu, yn dibynnu a ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn. Os felly, rhaid i ffrind neu aelod o’r teulu roi rhywfaint o arian i’r orsaf heddlu agosaf. Pan fydd hyn wedi’i wneud, bydd yr orsaf heddlu honno’n cysylltu â’r orsaf heddlu yr ydych ynddi, a byddant yn rhyddhau’r un faint o arian i chi.
Ateb arall fyddai defnyddio ffôn cyhoeddus i wneud galwad talu o’r pen arall i ffrindiau neu deulu a all eich helpu i gyrraedd adref. Er enghraifft, gallent gael tacsi i ddod i’ch casglu a thalu amdano pan fyddwch yn cyrraedd, neu gallent ddod o hyd i gwmni tacsi/gwesty a fydd yn derbyn taliad cerdyn dros y ffôn. Fel arall, mae nifer o wasanaethau trosglwyddo arian ar gael ledled y DU.
Os bydd hyn hefyd yn aflwyddiannus, rhaid cael awdurdodiad arolygydd er mwyn rhyddhau arian o’r arian mân os yw ar gael.
Os bydd yr holl opsiynau eraill wedi’u harchwilio, gellir trefnu cludiant gan swyddogion gan ystyried diogelwch y swyddog hwnnw sy’n cludo'r unigolyn a gedwir yn y ddalfa.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig – maent yn cynnwys y pum categori sy’n diffinio marwolaeth yn y ddalfa neu farwolaeth yn dilyn cyswllt â’r heddlu.
Rhaid cwblhau adroddiad digwyddiad yn y ddalfa ar gyfer pob ymyriad llwyddiannus a/neu ddigwyddiad andwyol.
Mae’r termau ‘ymyrraeth lwyddiannus’ a/neu ‘ddigwyddiad andwyol’ yn golygu unrhyw ddigwyddiad a fyddai, pe caniateir iddo barhau i’w gasgliad terfynol, wedi arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i unrhyw berson.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys Broses lawn ar gyfer marwolaeth yn y ddalfa / digwyddiad andwyol.
Rhaid i swyddogion y ddalfa a staff y ddalfa ymgyfarwyddo â lleoliad y blychau / bagiau digwyddiad coch.
Yr heddlu sydd i sicrhau unrhyw dystiolaeth hyd nes y bydd Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn delio â’r ymchwiliad.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig am adroddiadau cychwynnol a manwl gan swyddogion a staff yn dilyn digwyddiad.
Gweithdrefnau Rhaglen Broffesiynoli Ymchwilio i’w gweithredu.
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig
Cyfeiriwch at weithdrefnau diogelwch tân ar gyfer dalfeydd penodol.
Polisi Iechyd a Diogelwch Heddlu Dyfed-Powys
Cyfeiriwch at yr Arferion Proffesiynol Awdurdodedig.
Defnyddir teledu cylch cyfyng yn y ddalfa yn bennaf i fonitro lles unigolion a gedwir yn y ddalfa ond gellir ei ddefnyddio hefyd i atal a chanfod trosedd a monitro a sicrhau ansawdd perfformiad staff.
Dylai heddluoedd ddefnyddio celloedd gyda theledu cylch cyfyng er diogelwch a lles pawb sy’n cael eu cadw ac nid yn unig y rhai sy’n peri risgiau penodol.
Ni all gofynion arsylwi parhaus gael eu diwallu trwy ddibynnu ar fodolaeth teledu cylch cyfyng.
Lle mae penderfyniad wedi’i wneud i fonitro lles yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng i arsylwi celloedd yn barhaus, rhaid i swyddogion gofnodi pwrpas y rheolaeth hon yng nghofnod y ddalfa ynghyd ag enw’r unigolyn/unigolion sy’n gyfrifol am y monitro.
Rhaid i’r penderfyniad i ddefnyddio teledu cylch cyfyng i fonitro celloedd yn barhaus fod yn seiliedig ar asesiad risg yn hytrach na lefelau adnoddau. Ni ddylid disgwyl i’r swyddog neu’r aelod o staff a benodir i fonitro unigolion a gedwir yn y ddalfa yn barhaus drwy deledu cylch cyfyng weld mwy na phedair cell ar yr un pryd ar sgrin hollt, na chyflawni dyletswyddau ychwanegol a allai dynnu ei sylw rhag gwylio’r teledu cylch cyfyng yn barhaus.
Ni ddylai teledu cylch cyfyng gymryd lle ymweliadau ag unigolion a gedwir yn y ddalfa, gwiriadau corfforol eraill am les neu’r angen am arsylwadau agosrwydd ar gyfer y rheini yr aseswyd eu bod yn risg uchel. Celloedd sydd â theledu cylch cyfyng
Mae gan unigolion a gedwir yn y ddalfa, cynrychiolwyr cyfreithiol, ac oedolion priodol hawliau mynediad i gofnodion dalfa. Gan nad yw recordiadau sain a fideo yn rhan o gofnod y ddalfa, ni chaniateir i garcharorion, cynrychiolwyr cyfreithiol ac oedolion priodol archwilio recordiadau o’r fath yn rheolaidd – gweler Cod C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol paragraff 2.1. Fodd bynnag, mae gan bobl y mae eu delweddau wedi’u recordio ar systemau teledu cylch cyfyng y ddalfa hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data i ofyn am fynediad i’r recordiadau teledu cylch cyfyng trwy gais am fynediad at ddata gan y testun. Ymdrinnir â cheisiadau am fynediad at ddata gan y testun hefyd yn adran 5.2.3 o god ymarfer teledu cylch cyfyng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Rhaid i swyddogion brosesu pob cais fesul achos a chyfeirio pob cais at swyddog diogelu data’r heddlu. Ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, mae’n rhaid i heddluoedd gydymffurfio â cheisiadau o’r fath.
Mae’n bosibl y bydd angen golygu’r ffilm i guddio wynebau a/neu dynnu sain a allai adnabod unigolion eraill a gedwir yn y ddalfa y mae’n rhaid parchu eu hawl i breifatrwydd hefyd. Gall datgelu gwybodaeth bersonol heb ganiatâd yr unigolion eraill hynny a gedwir yn y ddalfa fod yn drosedd o dan y Ddeddf Diogelu Data.. Fodd bynnag, gallai’r wybodaeth gael ei datgelu’n gyfreithiol o dan adran 7(4) o’r Ddeddf heb ganiatâd lle mae’n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i gydymffurfio â’r cais heb ganiatâd yr unigolion eraill a gedwir yn y ddalfa.
Rhaid i heddluoedd brosesu ceisiadau i ddatgelu deunydd teledu cylch cyfyng yn unol â gofynion Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 a’i chodau ymarfer cysylltiedig. Mae cyfnodau cadw ar gyfer delweddau a atafaelwyd o dan yr amgylchiadau hyn yr un fath ag ar gyfer pob deunydd nas defnyddiwyd.
Gellir cadw cofnodion teledu cylch cyfyng am gyfnod o 31 diwrnod.
Dim ond at ddibenion profi’r offer y dylid caniatáu i ymwelwyr annibynnol â dalfeydd weld teledu cylch cyfyng. Mae rôl ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa yn sylfaenol ryngweithiol gyda’r unigolion a gedwir yn y ddalfa a staff yr heddlu ac ni ellir eu cyflawni o bell drwy edrych ar luniau teledu cylch cyfyng neu ffilm wedi’i recordio. Efallai y bydd materion hefyd ynghylch tresmasu ar breifatrwydd unigolion a gedwir yn y ddalfa nad ydynt wedi cydsynio i ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa eu harsylwi gan defnyddio teledu cylch cyfyng. Lle mae digwyddiadau neu amgylchiadau penodol sydd wedi’u codi fel materion wedi’u nodi ar deledu cylch cyfyng, mae’n rhesymol y byddai modd caniatáu mynediad i ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa os yw’r heddlu a’r unigolion dan sylw a gedwir yn y ddalfa wedi rhoi eu caniatâd.
Mae argymhelliad 7 astudiaeth Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu ar farwolaethau yn nalfeydd yr heddlu neu ar ôl bod yn nalfeydd yr heddlu yn nodi y dylai ymwelwyr annibynnol â’r ddalfa wirio bod teledu cylch cyfyng yn weithredol wrth gynnal eu hymweliadau â dalfeydd. Dylai ymwelwyr allu gofyn i swyddog y ddalfa a yw’r teledu cylch cyfyng yn gweithio a chael arddangosiad os oes angen.
Yn gyffredinol, polisi Heddlu Dyfed-Powys yw y bydd eu camera corff yn cael ei ddisodli gan deledu cylch cyfyng y ddalfa unwaith y bydd swyddogion yn cyrraedd y ddalfa. Fodd bynnag, bydd diwygiad diweddar i hyn yn galluogi swyddogion i ddefnyddio eu camera corff at ddibenion gweithdrefnau gwaed yn yr ystafell feddygol i sicrhau nad oes unrhyw deledu cylch cyfyng yn yr ystafell hon.
Dylai staff y ddalfa gofnodi hyn ar gofnod yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa. Yna dylai swyddog yr achos ofyn am ganiatâd ymhlyg gan yr unigolyn a gedwir yn y ddalfa i ddefnyddio’r camera corff, gan esbonio’r manteision i’r unigolyn. Ni ddylai’r camera corff gael ei actifadu ar gyfer asesiad iechyd cychwynnol/hanes meddygol yr unigolyn gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol/archwiliwr meddygol yr heddlu. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau gall y swyddog ddechrau recordiad gweledol a sain. Mae’n hanfodol serch hynny bod y camera corff yn cael ei DDIFFODD ar gyfer gweithred wirioneddol y nodwydd yn mynd i mewn, a’r gwaed yn cael ei dynnu. Unwaith y gwneir hyn gall y swyddog gofnodi gweddill y weithdrefn.
Camera corff ar gyfer gweithdrefn siart llif prawf gwaed.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2024