Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael eu hamddiffyn. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrechu i sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn rhag niwed, beth bynnag fo’u hanghenion a’u hamgylchiadau. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod ei gyfrifoldeb i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr holl blant, pobl ifanc, swyddogion, staff a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu llesiant ein cadetiaid a’r rhai sy’n ymwneud â rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ym mhopeth a wnawn, a’n bod yn gwbl atebol. Ein nodau yw sicrhau bod ein holl weithgareddau ac ymgysylltu o fewn y gymuned ehangach yn cael eu cynnal i’r safonau uchaf o arferion diogelu a bod y rhaglen yn canolbwyntio ar y plentyn a’r person ifanc.
Mae’r gweithdrefnau a amlinellir yn berthnasol i bob elfen o weithgarwch cadetiaid gwirfoddol yr heddlu, yn cynnwys sesiynau cadetiaid wythnosol, teithiau oddi ar y safle ac unrhyw weithgareddau preswyl neu dros nos. Er y gwnaed pob ymdrech i gwmpasu ystod eang o sefyllfaoedd, cydnabyddir na all y canllawiau gwmpasu pob sefyllfa bosibl. Efallai y bydd adegau pan fydd dyfarniadau proffesiynol yn cael eu gwneud mewn sefyllfaoedd nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon, neu sy’n mynd yn groes yn uniongyrchol i’r canllawiau a roddir gan y cyflogwr. O dan yr amgylchiadau hyn disgwylir y bydd swyddogion, staff a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu bob amser yn hysbysu eu rheolwr llinell, cydlynydd uned Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu neu swyddog cyfrifol lleol a swyddog diogelu dynodedig Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o’r cyfiawnhad dros unrhyw gam gweithredu o’r fath a gymerwyd eisoes neu sydd yn yr arfaeth.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bawb sy’n ymwneud â rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys.Mae hyn yn cynnwys pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn-amser, rhan-amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro neu ar secondiad. Mae hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu ac unrhyw unigolyn sy’n dod i gysylltiad â chadetiaid gwirfoddol yr heddlu.
Diben y polisi hwn yw:
Prif gyfrifoldeb unrhyw un sy’n ymwneud â rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yw diogelu lles moesol, seicolegol a chorfforol plant waeth beth fo’u rhywedd, crefydd, hil, gallu, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol trwy eu hamddiffyn rhag unrhyw fath o esgeulustod neu gam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol.
Nod Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yw sicrhau bod ein rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn gweithredu o dan fframwaith a gefnogir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, gan rannu nodau ac egwyddorion cyffredin y rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ledled Cymru a Lloegr.
Nid yw’r heddlu yn gweithredu yn lle rhiant ar gyfer cadetiaid o dan 18 oed, ac erys cyfrifoldeb rhiant gyda rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr cadetiaid yn unol ag adran 2 o Ddeddf Plant 1989. Yr unig eithriad i hyn yw pe bai cadét angen triniaeth feddygol ar unwaith a bod unrhyw oedi wrth geisio cysylltu â’r rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr yn niweidio adferiad. Rhaid i’r caniatâd hwn cael ei ddogfennu ar y ffurflen iechyd a chaniatâd gan riant / gwarcheidwad ar gyfer pob cadét cyn iddo gychwyn gyda Chadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys.
Os mai adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sydd wedi’i dynodi fel gwarcheidwad cadét ond bod y cadét wedi bod mewn gofal tymor hir gyda rhieni maeth neu wedi dod yn agos iawn at ei deulu maeth, yna ar gyfer mân faterion dylai arweinwyr unedau ystyried a ydyw’n fwy priodol cysylltu â’r rhieni maeth yn y lle cyntaf. Bydd angen trafod unrhyw faterion difrifol gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a chydlynydd uned Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu i sicrhau bod ganddynt fanylion pwynt cyswllt o fewn y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y cadét.Nid yw’r ffaith bod plentyn wedi cyrraedd 16 oed, yn byw’n annibynnol neu mewn addysg bellach yn newid hawl y person ifanc i wasanaethau neu amddiffyniad o dan Ddeddf Plant 1989.
Mae gweithdrefnau Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â’r meysydd canlynol:
Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol yn berthnasol i’r polisi hwn, naill ai oherwydd ei fod wedi dylanwadu ar ei gyflwyniad a/neu ei gynnwys:
Polisïau/Gweithdrefnau’r heddlu perthnasol:
O ganlyniad i adolygiad lefel uchel Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn genedlaethol o’r cynllun cadetiaid, barnwyd ei bod yn angenrheidiol i bob heddlu sy’n gweithredu rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu i enwebu swyddog cyfrifol dynodedig.Y swyddog cyfrifol dynodedig fydd yr unigolyn atebol am gyflwyno eu rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn ddiogel fel gweithgaredd ieuenctid rheoledig.
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol yw’r swyddog cyfrifol dynodedig a enwebwyd o fewn Heddlu Dyfed-Powys ac mae’n gyfrifol am raglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ar ran y Prif Gwnstabl. Mae’r rôl hon yn goruchwylio darpariaeth rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o ran llywodraethu ac i sicrhau bod rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn bodloni safonau Diogel i Weithredu Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Llywodraethiant Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o fewn Heddlu Dyfed-Powys:
Swyddog cyfrifol dynodedig |
Prif Gwnstabl Cynorthwyol |
Arweinydd strategol Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu |
Uwcharolygydd, Atal |
Arweinydd gweithredol Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu |
Prif Arolygydd, y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog |
Swyddog diogelu dynodedig |
Arolygydd, Y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog |
Mae rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio gyda Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn genedlaethol i sicrhau bod ein rhaglen yn gweithredu o dan y fframwaith a gefnogir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a amlinellir yn Fframwaith Mannau Diogel Ieuenctid y DU ar gyfer Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, a lansiwyd gan Gadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu yn genedlaethol fel y safonau Diogel i Weithredu.Y safonau hyn yw’r safonau gofynnol y disgwylir gan heddlu wrth weithredu cynllun Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu. Bydd yr holl faterion, pryderon, digwyddiadau a datgeliadau o ran diogelu yn cael eu rhannu gyda’r Rheolwr Diogelu Cenedlaethol i ddarparu trosolwg a sicrhau bod gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu ar draws rhwydwaith Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu. Mae Rheolwr Cenedlaethol Diogelu Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.
Er y gwnaed pob ymdrech i gwmpasu ystod eang o sefyllfaoedd, cydnabyddir na all y polisi hwn gwmpasu pob sefyllfa bosibl. Efallai y bydd adegau pan fydd dyfarniadau proffesiynol yn cael eu gwneud mewn sefyllfaoedd nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon, neu sy’n mynd yn groes yn uniongyrchol i’r canllawiau a roddir gan yr heddlu. O dan yr amgylchiadau hyn, disgwylir y bydd swyddogion, staff a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu bob amser yn hysbysu eu rheolwr llinell, cydlynydd uned Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu neu swyddog cyfrifol lleol a swyddog diogelu dynodedig Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu o’r cyfiawnhad dros unrhyw gam gweithredu o’r fath a gymerwyd eisoes neu sydd yn yr arfaeth.
Bydd y polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yn cael eu hadolygu i ddechrau ar ôl blwyddyn gydag adolygiadau bob dwy flynedd wedi hynny. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y polisi yn effeithiol, yn addas i’r pwrpas ac i wirio a fu unrhyw newidiadau mewn canllawiau / deddfwriaeth. Gweithredir y polisi ar y cyd â safonau Diogel i Weithredu Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Mae’r polisi’n cael ei fonitro gan y swyddog diogelu dynodedig (Arolygydd, y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog), a rhaid gweithredu diwygiadau neu ychwanegiadau drwy grŵp Dinasyddion mewn Plismona Heddlu Dyfed-Powys a’r Bwrdd Plismona Gweithredol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r polisi hwn neu’r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig, cysylltwch â’r Prif Arolygydd, y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog, Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Gorffennaf 2024