Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw sefydlu cofnod o Ddyletswyddau Eraill mewn Plismona Bro ac mae’n rhoi arweiniad a hyblygrwydd i Swyddogion, Staff a Goruchwylwyr fodloni galw gweithrediadol.
Bydd y polisi hwn yn caniatáu i Dimoedd Plismona ac Atal Bro ganolbwyntio ar fentrau ymyrraeth gynnar a datrys problemau hirdymor a mynd i’r afael â materion ansawdd bywyd sy’n arwain at ofn trosedd drwy:
a
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Gweithredir y polisi hwn ar draws yr heddlu. Mae’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig yn rhoi canllawiau manwl i swyddogion, staff a goruchwylwyr.
Ni fydd y polisi hwn yn sefydlu canran y swyddogion a gaiff gyflawni dyletswyddau eraill, fodd bynnag, dylai cyn lleied â phosibl o swyddogion Tîm Plismona ac Atal Bro fod yn cyflawni dyletswyddau eraill.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu sy’n gysylltiedig â Phlismona Bro, y rhai sy’n gysylltiedig â goruchwylio a rheoli’r adran, a’r rhai sy’n edrych ar leoli neu dasgio aelodau’r adran. Mae’r rhain yn cynnwys yr isod, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:
Y Grŵp Prif Swyddogion, y Tîm Uwch Reoli (gan gynnwys Prif Uwch-arolygydd / Uwch-arolygydd), Timoedd Rheoli Lleol (Uwch-arolygydd / Prif Arolygydd), Arolygwyr, Rhingylliaid, Cwnstabliaid, SCCH, Staff yr Heddlu a Chwnstabliaid Gwirfoddol / Gwirfoddolwyr.
Mae pwerau a pholisïau’n cynnwys yr isod, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:
Mae pawb sy’n gysylltiedig â Phlismona Bro’n gyfrifol am gyflenwi’r polisi hwn.
Bydd swyddogion unigol yn gyfrifol am gofnodi unrhyw ddyletswyddau eraill maen nhw’n profi yn gywir ac amserol, fel y nodir yn y ddogfen weithdrefn gysylltiedig.
Bydd goruchwylwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y cofnodion hyn yn gywir ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r heddlu.
Bydd uwch swyddogion yn gyfrifol am fonitro’r dyletswyddau eraill hyn sydd wedi’u cofnodi ac yn cymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau bod unrhyw faterion a nodir yn cael eu trin er mwyn lleihau dyletswyddau eraill yn y dyfodol.
Wrth gyflawni nodau ac amcanion y polisi hwn, bydd yr Heddlu’n bodloni egwyddorion Plismona 2024 y Cod Moeseg.
Bydd yr adolygiad polisi’n cynnwys asesu’r agweddau canlynol –
▪ Ei effeithiolrwydd
▪ Unrhyw newidiadau i Ddeddfwriaethau/canllawiau’r Swyddfa Gartref
▪ Heriau i’r polisi
▪ Bydd unrhyw eitemau aneffeithlon a nodwyd mewn perthynas â gweithredu’r adolygiad cychwynnol o’r polisi hwn yn digwydd ymhen 12 mis, ac yna bob yn eilflwydd. Bydd y swyddog enwebedig yn cynnal adolygiadau.
Bydd effeithiolrwydd y polisi hwn a diwygiadau iddo’n cael eu monitro a’u cymeradwyo gan y Bwrdd Plismona Gweithrediadol / Byrddau Tactegol / Strategol Bro.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2024