Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dylai trafnidiaeth ysbyty neu ambiwlans gludo rhywun i leoliadau iechyd, a rhwng lleoliadau iechyd, yn ddiogel, amserol a phriodol fel mater o drefn.
Dylai’r heddlu ond cludo rhywun i, neu rhwng, lleoliadau iechyd mewn amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, mewn achosion brys eithriadol neu lle mae perygl uniongyrchol o drais na all swyddogion sy’n teithio gyda’r claf mewn cerbyd iechyd ei liniaru’n ddiogel.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn-amser, rhan-amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), gwirfoddolwyr neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw swyddog, staff neu wirfoddolwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn pennu’r ymateb i alwadau am wasanaeth sy’n gofyn am gludo rhywun i leoliad gofal iechyd, neu rhwng lleoliadau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys cludo cleifion i’r lleoliadau canlynol:
Polisi Heddlu Dyfed-Powys yw bod cleifion sydd angen cael eu cludo i un neu fwy o’r lleoliadau uchod yn cael eu cymryd i’r man hwnnw yn y modd sydd fwyaf tebygol o warchod eu preifatrwydd a’u hurddas, tra hefyd yn gallu cyflenwi’r lefel iawn o ofal.
Nid cerbyd heddlu yw’r cerbyd o ddewis ar gyfer cludo rhywun sydd ag anghenion iechyd corfforol neu feddyliol. Fodd bynnag, dan rai amgylchiadau, efallai bydd yn rhaid ei ddefnyddio. Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys lle mae’r unigolyn sydd angen ei gludo wedi bod yn dreisgar, neu’n dreisgar ar hyn o bryd.
Yn yr amgylchiadau hyn, i gychwyn, dylai swyddogion ystyried ble y disgwylir iddynt fynd ag unigolyn, neu p’un a all deithio mewn cerbyd iechyd i gefnogi cydweithwyr iechyd i gynnal diogelwch pawb.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob swyddog heddlu, aelod staff yr heddlu a gwirfoddolwr sy’n gysylltiedig â sefyllfaoedd lle y gofynnwyd am drafnidiaeth i leoliad gofal iechyd.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfrifol eraill mewn perthynas â chyflenwi’r polisi hwn. Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â dogfennau sy’n eiddo yn rhannol i awdurdodau cyfrifol heblaw Heddlu Dyfed-Powys lle y gallai fod angen adolygiad o’r cynnwys.
Deddf Iechyd Meddwl 1983
Dywed Deddf Iechyd Meddwl 1983: Cod Ymarfer Cymru y dylid cludo cleifion sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl i’r ysbyty ac yn ôl gan ddefnyddio’r ffordd fwyaf diogel a phriodol.
Mewnol
Polisi, Gweithdrefn a Chanllawiau Gofal Cywir Unigolyn Cywir Camau 1 a 2 Heddlu Dyfed-Powys
Gweithdrefn Gofal Cywir Unigolyn Cywir Camau 3 a 4 Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Iechyd Meddwl Heddlu Dyfed-Powys
Diffiniad
Mae diffiniad ‘trafnidiaeth’ yn cynnwys achosion lle mae cleifion yn cael eu cludo’n orfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, a cheisiadau am swyddogion heddlu i gefnogi cludo claf tu allan i’r Ddeddf, gan gynnwys:
Dyletswydd Gyfreithiol a Phwerau’r Heddlu
Mae hyn yn cynnwys:
Fel arfer, ambiwlans neu gerbyd addas arall, gyda staff iechyd, fydd y dull mwyaf priodol o drosglwyddo unigolyn sydd angen, neu sy’n derbyn, cymorth iechyd meddwl.
Adran 135 Trosglwyddo i Leoliadau Gofal Iechyd
Wrth fynd â rhywun i fan diogel yn rhinwedd warant adran 135, dylai’r Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, Meddygon a12, a rheolwr yr ysbyty sicrhau bod trafnidiaeth ar gael yn unol â Pholisi Amlasiantaeth (Heddlu/Iechyd a’r Awdurdod Lleol) A135.
Adran 136 Trosglwyddo i Leoliadau Gofal Iechyd
Pan mae swyddog yn cadw unigolyn mewn man cyhoeddus gan ddefnyddio ei bŵer o dan a136 Deddf Iechyd Meddwl 1983, rhaid iddo ofyn am ambiwlans. Dylid defnyddio cerbyd iechyd i gludo pob carchariad a136.
Trawsgludiaeth Statws Amddifadu o Ryddid
Gellir gwneud cais i swyddogion gynorthwyo â chludo unigolyn â Statws Amddifadu o Ryddid i gyfeiriad penodol. Nid oes gan Swyddogion ymrwymiad cyfreithiol i ymateb i geisiadau i gludo, ac mae’n annhebygol y bydd y ceisiadau hyn yn cynnwys y math o fygythiad gwirioneddol ac uniongyrchol sy’n ofynnol ar gyfer gosod dyletswydd ar yr heddlu i weithredu.
Oni bai bod y Statws Amddifadu o Ryddid yn nodi bod angen cysylltiad yr heddlu, neu mae perygl uniongyrchol i’r unigolyn (Siarter Hawliau Dynol Ewrop erthygl 2 neu 3), ni anfonir swyddogion heddlu i gludo’r unigolyn.
Wedi’i gymryd o Amddiffyniadau Amddifadu o Ryddid – Mental Capacity Cyf mae diffiniad Statws Amddifadu o Ryddid fel a ganlyn:
Mae Amddiffyniadau Amddifadu o Ryddid yn rhan hanfodol o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) sy’n amddiffyn hawliau unigolion 18 oed a hŷn sy’n methu â chaniatáu i’w gofal a’u triniaeth, mewn cartref gofal/nyrsio neu ysbyty, tra bod y gofal a’r driniaeth y soniwyd amdanynt gyfystyr ag amddifadu o ryddid.
Fel deddf statudol, dyletswydd gyfreithiol unrhyw awdurdod rheoli (h.y. cartref gofal/nyrsio neu ysbyty) yw gwneud cais ar gyfer awdurdodiad Amddiffyniadau Amddifadu o Ryddid lle yr ystyrir bod angen amddifadu’r unigolyn o’i ryddid er mwyn ei warchod a’i amddiffyn.
Pwysig: Cyn hir, bydd Amddiffyniadau Amddifadu o Ryddid yn cael eu disodli gan Ddiogeliadau Amddiffyn Rhyddid, fodd bynnag, ni ddisgwylir i’r newid hwn ddod i rym yn awr tan 2025.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n addas ar gyfer y diben, er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw heriau i’r polisi a’r weithdrefn a/neu fynd i’r afael ag unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu ganllawiau cenedlaethol.
Bydd perchennog y polisi’n gyfrifol am yr adolygiad ac unrhyw newidiadau i’r polisi a/neu’r weithdrefn y gofynnwyd amdanynt. Bydd y Bwrdd Bregusrwydd ac Atal Strategol yn monitro ac yn goruchwylio’r polisi a’r weithdrefn.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2025