Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r ddogfen bolisi hon yn dwyn ynghyd ddau bolisi presennol – Cam 1 a 2 Gofal Cywir Unigolyn Cywir a Cham 3 a 4 Gofal Cywir Unigolyn Cywir, ac yn disodli unrhyw a phob fersiwn flaenorol o bolisïau Gofal Cywir Unigolyn Cywir.
Mae'r polisi hwn yn ceisio egluro pryd mae'n briodol defnyddio adnoddau ar gyfer digwyddiadau sy'n ymwneud â lles unigolion. Wrth wneud hynny, mae'n sicrhau bod yr ymateb a gafodd ei gadarnhau yn gymesur ac yn cyd-fynd â chyfrifoldebau craidd yr heddlu wrth gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol.
Mae'r polisi hwn hefyd yn cwmpasu ymateb yr heddlu i alwadau am wasanaethau sy'n gofyn am gludo unigolyn i leoliad gofal iechyd. Dylai unigolyn gael ei gludo yn rheolaidd i leoliadau iechyd a rhyngddynt mewn ffordd ddiogel, amserol a phriodol gan gludiant ysbyty neu ambiwlans. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylai'r heddlu gludo unigolyn i leoliadau iechyd neu rhyngddynt, megis mewn achosion o frys eithafol neu pan fydd risg uniongyrchol o drais na ellir ei lliniaru'n ddiogel gan swyddogion sy'n teithio gyda'r claf mewn cerbyd iechyd.
Cefnogir y polisi hwn gan ddogfennau ategol, gan gynnwys gweithdrefnau gweithredol.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed–Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan-amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyladwy i gynnwys y polisi hwn.
Nod y polisi yw sicrhau bod pob swyddog heddlu ac aelod o staff yn deall eu rhwymedigaethau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol wrth ddelio ag adroddiadau am bryderon ynghylch lles unigolion a bod penderfyniadau a wneir yn adlewyrchu egwyddorion cymesuredd ac angenrheidrwydd drwy gyflawni dyletswyddau cyfreithiol o'r fath.
Mae'n bwysig bod yn gadarn wrth sicrhau nad yw'r heddlu yn colli gwybodaeth hanfodol a fyddai'n newid yr asesiad risg yn sylweddol. Fel gyda phob galwad am wasanaeth, bydd model asesu risg yr heddlu, ‘Bygythiad, Niwed, Risg, Ymchwilio, Bregusrwydd, Ymgysylltu, Diogelu’ (THRIVES) (Atodiad 3), a’r Model Gwneud Penderfyniadau Cenedlaethol yn cael eu cymhwyso.
Mae Cod Moeseg y Coleg Plismona yn ei gwneud yn ofynnol i'r heddlu wneud y peth iawn yn y ffordd iawn. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio disgresiwn wrth blismona, gan nodi ei fod yn angenrheidiol. Fodd bynnag, wrth ddefnyddio disgresiwn, mae'n nodi y dylai swyddogion/staff ‘ystyried unrhyw godau, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau plismona perthnasol’.
Rhaid i bob swyddog ac aelod o staff fod yn ymwybodol o gynnwys y Cod Moeseg.
Bydd polisi’r Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn galluogi personél o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu i ddeall y pryderon penodol a godir gan alwyr, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â lles. Mae'n sicrhau bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud ynghylch presenoldeb yr heddlu, neu a ddylai asiantaeth bartner arall fabwysiadu'r ‘ddyletswydd gofal’, am fod hynny’n fwy priodol.
Mae Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn fframwaith cenedlaethol a gefnogir gan y Coleg Plismona sy'n anelu at sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth cywir gan y gwasanaeth brys a'r asiantaeth bartner gywir wrth iddynt roi'r gofal gorau iddynt ar gyfer eu hamgylchiad neu eu sefyllfa. Mae’r polisi Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn cydnabod:
Mae'r termau ‘gwiriad lles’, ‘llesiant’, ‘pryder am les’ neu ‘gwiriad iechyd da’ i'w hystyried yr un fath at ddiben y polisi hwn a'r holl ddogfennau cysylltiedig.
Mae'r polisi hwn hefyd yn rhoi trosolwg o sut y bydd Heddlu Dyfed–Powys yn penderfynu ar yr ymateb i alwadau am wasanaeth sy'n gofyn am gludo unigolyn i leoliad gofal iechyd neu rhwng lleoliadau gofal iechyd, sy'n cynnwys:
Mae Heddlu Dyfed–Powys yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau cyfrifol eraill mewn perthynas â chyflawni'r polisi hwn. Mae'r polisi hwn yn gysylltiedig â dogfennau sy'n eiddo’n rhannol i awdurdodau cyfrifol heblaw Heddlu Dyfed–Powys, y bydd efallai angen adolygu'r cynnwys hwnnw.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob swyddog heddlu, aelod o staff yr heddlu a gwirfoddolwr sy'n ymwneud â'r broses Gofal Cywir Unigolyn Cywir a sefyllfaoedd pan ofynnwyd am gludiant i leoliad gofal iechyd.
Y sail gyfreithiol ar gyfer y polisi hwn yw ein cyfrifoldeb ni o dan y canlynol:
Mewnol
Yn aml, mae partner-asiantaethau ac aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â'r gwasanaeth heddlu i gynnal gwiriad lles o unigolyn y maent yn pryderu amdano. Yn aml, gwneir galwadau o'r fath gan gredu mai'r heddlu yw'r asiantaeth briodol ac yn gyfrifol/atebol am les yr unigolyn dan sylw. Yn gyffredinol, nid oes gan yr heddlu ddyletswydd gofal yn y gyfraith gyffredin i amddiffyn unigolion rhag niwed a achosir ganddynt hwy eu hunain neu eraill.
Bydd yr heddlu’n cyflawni dyletswydd gofal er mwyn amddiffyn unigolion rhag niwed pan fydd yr heddlu wedi cymryd cyfrifoldeb, neu pan fydd yr heddlu wedi creu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) y risg o niwed.
Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i gymryd camau rhesymol i gynorthwyo lle mae perygl gwirioneddol ac uniongyrchol i fywyd unigolyn, neu risg wirioneddol ac uniongyrchol y bydd yr unigolyn hwnnw yn destun niwed difrifol neu driniaeth annynol arall. Yn gyffredinol, ond nid bob amser, bydd yn rhaid i’r heddlu gyflawni dyletswyddau pan fo’r risg o niwed yn deillio o weithredoedd troseddol trydydd parti.
Bydd y polisi hwn a'r dogfennau cysylltiedig yn rhoi eglurder i'r heddlu a'i bartneriaid ynghylch pryd y bydd pryder ynghylch cais lles yn dod yn gyfrifoldeb yr heddlu, a phryd na fydd. Ni all y dyletswyddau cyfreithiol gofal ac atebolrwydd tuag at unigolyn gael eu trosglwyddo i'r heddlu oni bai eu bod yn derbyn y cyfrifoldeb hwnnw. Mewn achosion o'r fath pan NAD yw cyfrifoldeb yn cael ei dderbyn, yr asiantaeth bartner neu'r unigolyn dan sylw yn parhau i fod â’r dyletswydd gofal.
Nid yw'r polisi hwn yn ceisio osgoi cyfrifoldeb yr heddlu am ymdrin â materion plismona craidd. Mae rheolau craidd yr heddlu wedi'u hamlinellu isod, a bydd unrhyw gais ‘pryder am les’ sy'n cynnwys un o'r elfennau canlynol yn cael ei ystyried yn briodol ar gyfer camau gweithredu'r heddlu wrth ymateb i'r mater yr adroddwyd amdano:
Gall cais ‘pryder am les’ gael ei gychwyn gan aelod o’r cyhoedd hefyd ac mae’r polisi’n ei gwneud yn glir, pan nad yw unigolyn, oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth, yn gallu cynnal gwiriad o’r fath, neu geisio cymorth gan asiantaeth a allai wneud hynny, y bydd yr heddlu’n gwerthuso’r cais am gymorth ac yn ymateb yn unol â hynny os bydd risg neu fygythiad i fywyd yn amlwg yn yr adroddiad.
Mae Heddlu Dyfed–Powys o'r farn y dylid cludo cleifion sydd angen cludiant i un neu fwy o'r lleoliadau iechyd a grybwyllir yn Adran 2 o'r ddogfen hon yn y ffordd sydd fwyaf tebygol o ddiogelu eu preifatrwydd a'u hurddas wrth fod â’r gallu hefyd i ddarparu'r lefel gywir o ofal.
NID cerbyd heddlu yw'r cerbyd a ffefrir i gludo unigolyn sydd ag anghenion iechyd corfforol neu feddyliol. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau gall fod y ffurf angenrheidiol o’i gludo. Gallai'r amgylchiadau hyn gynnwys amgylchiadau pan fo’r unigolyn sydd angen cludiant wedi bod yn dreisgar neu'n dreisgar ar hyn o bryd.
Yn yr amgylchiadau hyn, bydd swyddogion yn ystyried i ble mae angen iddynt gludo'r unigolyn, neu a allant deithio mewn cerbyd iechyd i gefnogi cydweithwyr iechyd i gynnal diogelwch pawb sy'n gysylltiedig.
Rolau a chyfrifoldebau ar gyfer Canolfan Gyfathrebu'r Heddlu
Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu – Ar ôl cael galwad ffôn ‘pryder am les’, bydd y gweithredwr yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn creu cofnod o ddigwyddiadau gorchymyn a rheoli (STORM), gan gofnodi’r manylion yn llawn. Cynhelir asesiad risg gan ddefnyddio ‘Bygythiad, Niwed, Risg, Ymchwilio, Bregusrwydd, Ymgysylltu, Diogelu’ (THRIVES), y Model Gwneud Penderfyniadau Cenedlaethol a gwiriadau gwybodaeth i bennu'r bygythiad, y niwed a'r risg a gyflwynir yn yr alwad ffôn. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a fydd yr heddlu yn derbyn cyfrifoldeb. Pan derbynnir cyfrifoldeb, bydd swyddogion heddlu yn cael eu hanfon i’r lleoliad yn unol â’r polisi ymateb graddol ar gyfer darparu staff yr heddlu.
Goruchwylwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu – Bydd goruchwylwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn darparu goruchwyliaeth barhaus o bob galwad Gofal Cywir Unigolyn Cywir, a byddant yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd i staff yn ôl yr angen. Bydd goruchwylwyr yn ymyrryd mewn achosion pan fydd angen uwchgyfeirio galwadau Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn seiliedig ar ba mor daer yw’r sawl sy'n galw am gael presenoldeb yr heddlu. Bydd goruchwylwyr yn adolygu pob galwad Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn ystod eu cyfnod ar ddyletswydd i sicrhau cydymffurfedd â'r polisi ac fel rhan o broses sicrhau ansawdd.
Rheolwyr Digwyddiadau'r Heddlu – Bydd Rheolwyr Digwyddiadau'r Heddlu (rheng arolygydd heddlu) yn adolygu pob cofnod Gofal Cywir Unigolyn Cywir STORM i sicrhau bod y lefelau priodol o ddarparu staff yn bodoli o fewn y digwyddiadau yr adroddir amdanynt i liniaru bygythiad, niwed a risg ac i asesu cydymffurfedd â'r polisi hwn. Bydd yr adolygiad parhaus drwy gydol cyfnod dyletswydd Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu yn cynnwys pob digwyddiad blaenoriaeth / Gradd 1, 2, 3 yn ogystal â digwyddiadau Gofal Cywir Unigolyn Cywir ‘pryder am les’ Gradd 4 (datrysiad heb ddarparu staff).
Bydd Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am reoli digwyddiadau sy'n ymwneud â Gofal Cywir Unigolyn Cywir a bydd yn ymyrryd yn ôl yr angen i sicrhau cydymffurfedd â pholisi Gofal Cywir Unigolyn Cywir.
Bydd adborth i staff drwy eu goruchwylwyr yn rhan o'r adolygiad rheoli a sicrhau ansawdd cyffredinol o'r digwyddiad, a'r nod yw datblygu dysgu o adolygiadau dynamig a strwythuredig a gynhelir fel rhan o'r cyfnod dyletswydd.
Gweithredu'r polisi – sbardunau ac ystyriaethau ar gyfer darparu swyddogion/staff i gyflawni gwasanaeth
Er mwyn parhau i ymateb yn briodol i alwadau sy'n haeddu sylw'r heddlu, mabwysiadir system brysbennu gadarn ac amserol i nodi galwadau o'r fath yn glir. Bydd pob cais am bresenoldeb yr heddlu yn amodol ar yr ystyriaethau canlynol ar gyfer ymyrraeth gan yr heddlu:
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad manwl o'r cyfarwyddyd a roddwyd i staff Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu wrth ddelio â'r sbardunau a'r ystyriaethau uchod yng nghanllawiau Gofal Cywir Unigolyn Cywir y ganolfan a’i dogfennau hyfforddi cysylltiedig.
Asiantaeth bartner neu aelod o'r cyhoedd yn gwneud cais am wiriad pryder am les
Galwadau am wasanaeth gan asiantaeth bartner / corff statudol
Gall galwad am wasanaeth gan asiantaeth bartner ddangos bod y ddyletswydd gofal dros yr unigolyn dan sylw yn parhau i fod o fewn cylch gwaith yr asiantaeth bartner honno. Os felly, ni fydd yr heddlu yn cymryd cyfrifoldeb. Disgwylir y bydd yr asiantaeth bartner berthnasol yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau gofal a lles yr unigolyn. Nid yw anallu’r asiantaeth bartner i gynnal gwiriad lles yn gwneud y sefyllfa’n fater i’r heddlu ac, o dan yr amgylchiadau hyn, NI FYDD yr heddlu yn mynd i’r digwyddiad. Bydd angen cofnodi'r sefyllfa hon yn llawn ar gofnod STORM.
Mae amrywiaeth o bartneriaid nad ydynt yn ymwneud ag iechyd na allant o bosibl gynnal gwiriad pryder am les ac, o dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr heddlu yn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael cyn penderfynu a oes angen ymyrraeth gan yr heddlu.
Os NAD yw'r rhwymedigaeth i'r heddlu fod yn bresennol yn cael ei chyflawni, bydd yr asiantaeth bartner yn cael gwybod yn unol â hynny. Cynghorir yr asiantaeth bartner i alw’n ôl ar unwaith os bydd rhagor o wybodaeth ar gael mewn ffordd sy'n newid y sefyllfa, gan ei gwneud yn ofynnol i'r heddlu ailystyried ei benderfyniad yn seiliedig ar fygythiad, niwed neu risg newydd yr adroddwyd amdanynt.
Mae'n bwysig rhoi'r cyfrifoldeb ar yr asiantaeth bartner i ddod â gwybodaeth berthnasol i sylw'r heddlu.
Mae canllawiau Gofal Cywir Unigolyn Cywir y Coleg Plismona yn nodi, pan fydd asiantaethau partner yn galw'r heddlu am gymorth, na ddylai'r galwadau hyn gael eu nodi'n anghywir fel rhai sy'n ymwneud â Gofal Cywir Unigolyn Cywir. Mae hyn oherwydd na ofynnir i'r heddlu arwain neu ymateb yn uniongyrchol i'r digwyddiadau hyn yn lle'r gwasanaeth priodol. Ar ben hynny, mae galwadau o'r fath yn ceisio cymorth yr heddlu i gefnogi'r asiantaeth bartner yn briodol. Mae'r Coleg Plismona yn pwysleisio'r pwynt mai cefnogi ein hasiantaethau partner yw'r peth iawn i'w wneud mewn llawer o'r sefyllfaoedd hyn, er gwaethaf y diffyg dyletswydd gyfreithiol i ymateb. Yn sicr, bydd y cymorth a ddarperir yn cael ei lywodraethu gan argaeledd adnoddau ar unrhyw adeg benodol a lefel yr ymgysylltiad ymrwymedig o ran niferoedd a dyraniad amser, ac mae’r materion hyn yn cael eu pennu gan oruchwylwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu (ystafell darparu staff / gweithrediadau) a/neu Reolwr Digwyddiadau’r Heddlu.
Mae ymateb yr heddlu i alwadau sy'n ymwneud â phryder lles yn amodol ar gytundebau partneriaeth lleol. Gall yr heddlu gytuno i gydweithio â phartneriaid i ddarparu gwasanaeth penodol ar lefel leol. Gall hyn fod rhwng unedau rheoli sylfaenol, yn amodol ar gytundebau lleol.
Galwad gan aelod o'r cyhoedd yn gofyn am wiriad oherwydd pryder am les
Mae’n bwysig adnabod a gwahaniaethu rhwng aelod cyffredinol o’r cyhoedd ac aelod o’r teulu sy’n galw’r heddlu am gymorth neu’n mynegi pryderon am unigolyn.
Gall y galwr fod yn Samariad trugarog neu'n aelod o'r cyhoedd â bwriadau da sy'n gweithredu'n ddidwyll neu'n arfer y ddyletswydd er mwyn y cyhoedd. Mae'n hollbwysig cynnal ymddiriedaeth a hyder yng ngallu'r heddlu i ddiwallu eu hanghenion ac i gael ein hystyried yn llawn cydymdeimlad ac i fod yn ymgysylltu â'n cymunedau.
Bydd yr heddlu’n cadarnhau’r holl ffeithiau, cymaint ag y bo modd, gan y galwr ac yn ystyried a yw asiantaeth bartner arall mewn gwell sefyllfa i roi cefnogaeth a chymorth. Os felly, bydd y galwr yn cael ei gyfeirio at yr asiantaeth bartner honno ac yn cael digon o wybodaeth a manylion cyswllt i wneud hynny ei hunan. Os na all y galwr wneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth, gall yr heddlu gymryd y cyfrifoldeb hwnnw. Bydd hyn yn dibynnu ar y ffeithiau sy'n hysbys i'r heddlu ar y pryd.
Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd yr heddlu'n creu cofnod digwyddiad ‘gorchymyn a rheoli’ ac yn graddio'r digwyddiad yn dibynnu ar yr asesiad risg (THRIVES) at ddibenion anfon swyddogion, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cael eu defnyddio ar gyfer y digwyddiad yn y ffordd fwyaf priodol. Rhoddir gwybod i’r galwr y bydd yr heddlu yn mynd i’r digwyddiad i gynnal gwiriad pryder er lles ac i adrodd ei ganfyddiadau yn ôl iddo.
Gofal Cywir Unigolyn Cywir a phlant
Er bod Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn cwmpasu plant, mae angen gofal arbennig wrth asesu'r risgiau gan eu bod fel arfer yn agored i niwed. Rhaid gofalu am y plentyn yn arbennig i sicrhau bod ei fuddiannau pennaf yn cael eu diogelu. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn anfon swyddogion i alwadau lles sy'n ymwneud â phlant er mwyn diwallu buddiannau pennaf y plentyn. Bydd angen i oruchwyliwr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu a Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu adolygu pob galwad o'r fath yn ddeinamig er mwyn sicrhau bod plant yn cael eu diogelu.
Lle mae perygl gwirioneddol ac uniongyrchol i fywyd plentyn neu niwed difrifol arall, mae presenoldeb YN ORFODOL.
Absennol heb ganiatâd
Gall absenoldeb heb ganiatâd fod yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi'i gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 os yw’n gadael yr ysbyty heb awdurdod neu'n methu â dychwelyd i'r ysbyty yn dilyn absenoldeb awdurdodedig – gan gynnwys cleifion dan gyfyngiadau.
Mae ysbytai yn gyfrifol am ddod o hyd i gleifion sy'n absennol heb ganiatâd a chynnal dyletswydd gofal ond gallant ofyn am gymorth yr heddlu i chwilio am y claf os ydyw’n arbennig o fregus neu'n beryglus.
Dylai'r heddlu ystyried a yw'n fwy priodol cofnodi'r claf yn unigolyn sy’n absennol heb ganiatâd, yn unigolyn y mae’r awdurdodau ei eisiau, neu’n unigolyn coll. Gellir cyfiawnhau cofnodi claf absennol heb ganiatâd fel unigolyn coll:
Mae gan y cyfleuster gofal iechyd gamau statudol i'w cymryd cyn i unrhyw achos gael ei ddwyn i sylw'r heddlu. Mae egwyddorion Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn nodi y bydd yr heddlu ond yn mynd i’r digwyddiad os yw'r claf yn absennol heb ganiatâd mewn sefyllfa pan fydd bywyd mewn perygl (Siarter Hawliau Dynol Ewrop 2) neu ei fod mewn perygl o niwed difrifol (Siarter Hawliau Dynol Ewrop 3) neu os yw'r unigolyn yn ddarostyngedig i adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (pŵer a roddir i bersonau awdurdodedig i ddychwelyd cleifion sy’n absennol heb ganiatâd i'r ysbyty).
Cerdded allan o leoliad gofal iechyd
Pan fydd rhywun yn cerdded allan o gyfleuster gofal iechyd, mae'r ddyletswydd gofal yn parhau i fod o fewn cylch gwaith yr ysbyty / y feddygfa / y cyfleuster meddygol. O dan fframwaith Gofal Cywir Unigolyn Cywir, NID yw'r heddlu'n cynnal gwiriadau lles mewn perthynas ag unigolion sydd wedi bod yn glaf yn ddiweddar oni bai fod ‘risg uniongyrchol i fywyd’ neu fod y claf mewn ‘risg uniongyrchol o niwed difrifol’.
Trosglwyddo digwyddiad – i/o heddlu neu asiantaeth arall
Mae'r polisi hwn yn mabwysiadu'r safbwynt cenedlaethol mewn perthynas â throsglwyddo digwyddiadau, i neu o heddlu/asiantaeth arall, fel yr amlinellir isod.
NI DDYLAI heddluoedd sy'n derbyn galwad yn ymwneud ag ardal heddlu arall gymhwyso meini prawf Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn uniongyrchol. Mae hyn yn bwysig gan y gallai fod gan wahanol heddluoedd a'u partner-asiantaethau wahanol wasanaethau a chytundebau ar waith ynghylch sut maen nhw'n ymateb i alwadau penodol. Efallai nad yw'r rhain yn hysbys i'r heddlu sy'n cymryd yr adroddiad.
Yn y sefyllfaoedd hyn, bydd yr heddlu sy'n cael yr alwad yn cael gwybodaeth lawn ac yn trosglwyddo'r manylion i'r heddlu lle digwyddodd y digwyddiad, fel y byddent fel arfer. Y prif wahaniaeth yw bod yn rhaid i'r heddlu sy'n cael yr adroddiad egluro mai ei rôl nhw yw trosglwyddo'r wybodaeth i'r heddlu perthnasol, a fydd yn penderfynu ar ei ymateb.
Ni ddylai'r galwr gael yr ymdeimlad y bydd yn cael ymateb penodol ond yn hytrach y bydd yr heddlu lle digwyddodd y digwyddiad yn cysylltu ag ef ac yn rhoi cyngor iddo.
Dylai heddluoedd sy'n cael gwybodaeth gan heddlu arall dderbyn yr adroddiad a chymhwyso Gofal Cywir Unigolyn Cywir fel y byddent fel arfer. Ni ddylai'r heddlu sy'n cael yr alwad wthio'n ôl i'r heddlu sy'n adrodd os yw'r alwad yn dod o fewn cwmpas Gofal Cywir Unigolyn Cywir a dylai yn lle hynny gysylltu â'r galwr gwreiddiol, gan ei gynghori'n uniongyrchol ynghylch yr ymateb y gall ei ddarparu, neu gyfeirio'r galwr at wasanaethau amgen yn ôl yr angen.
Mae cytundebau penodol ar waith ar gyfer nifer o asiantaethau, megis Interpol, Crimestoppers ac Action Fraud, sy’n gweithredu ar ran heddluoedd y DU wrth dderbyn adroddiadau. Felly, nid oes gan yr asiantaethau hyn y gallu i gyfeirio at asiantaethau eraill na gwneud ymholiadau eu hunain.
Achosion marwolaeth neu anaf difrifol ac atgyfeiriadau i'r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu
Mae gan yr heddlu rwymedigaeth statudol (o dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002) i gyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â marwolaeth neu anaf difrifol. Yr Adran Safonau Proffesiynol sy'n gyfrifol am gyflwyno atgyfeiriadau.
Diffinnir mater marwolaeth neu anaf difrifol fel unrhyw amgylchiadau (oni bai fod yr amgylchiadau’n destun cwyn neu wedi bod yn destun cwyn neu’n gyfystyr â mater ymddygiad) lle y mae unigolyn wedi marw neu wedi cael anaf difrifol, yn yr amgylchiadau hynny neu o ganlyniad iddynt, ac:
Mae’r term ‘anaf difrifol’ yn golygu torri asgwrn, archoll dwfn, rhwygiad dwfn, neu anaf sy’n achosi niwed i organ fewnol neu amhariad ar unrhyw weithrediad corfforol.
Mae'n bwysig bod unrhyw fater a allai fod yn gyfystyr â marwolaeth neu anaf difrifol yn cael ei ddwyn i sylw'r Adran Safonau Proffesiynol fel y gellir cynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a yw'n bodloni'r diffiniad o farwolaeth neu anaf difrifol, ac o ganlyniad a oes angen ei gyfeirio at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mae p'un a yw mater sy’n ymwneud â marwolaeth neu anaf difrifol yn gofyn am atgyfeiriad brys ai peidio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd angen gwneud atgyfeiriad oherwydd marwolaeth neu anaf difrifol at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar unwaith ac yn ddi-oed os bu marwolaeth yn dilyn cyswllt uniongyrchol â'r heddlu a bod lleoliad tystiolaeth byw. Fel y cyfryw, ac mewn achosion mwy brys, dylid cysylltu â'r Adran Safonau Proffesiynol ar unwaith, gan ddefnyddio swyddogaeth staff ar alwad yr adran os oes angen (gan y gellir gwneud atgyfeiriadau at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu y tu allan i oriau swyddogion). Beth bynnag, dylai materion achosion marwolaeth neu anaf difrifol gael eu dwyn i sylw yr Adran Safonau Proffesiynol erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf.
Cyfrifoldeb Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu ar ddyletswydd fydd asesu ac adolygu'r angen i atgyfeirio digwyddiadau o'r fath at yr Adran Safonau Proffesiynol er sylw Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
O bwysigrwydd, dylid nodi, hyd yn oed pan wneir penderfyniad i beidio ag anfon adnoddau’r heddlu i alwadau pryder am ddiogelwch o fewn canllawiau’r polisi Gofal Cywir Unigolyn Cywir, bydd atgyfeiriad at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dal i gael ei wneud os bodlonir y meini prawf atgyfeirio ar gyfer achosion marwolaeth neu anaf difrifol.
Diffiniad o drafnidiaeth
Mae'r diffiniad o ‘drafnidiaeth’ yn cwmpasu achosion pan fydd cleifion yn cael eu cludo'n orfodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, a cheisiadau i'r heddlu gefnogi’r broses o gludo claf y tu allan i gwmpas y Ddeddf, gan gynnwys:
Dyletswydd gyfreithiol a phwerau'r heddlu
Nid oes dyletswydd gyfreithiol ar yr heddlu i gludo unigolion i leoliadau gofal iechyd i gael triniaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd achlysur pan fo’n ofynnol i swyddog fynd gydag unigolyn i'r ysbyty. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Fel arfer, ambiwlans neu gerbyd addas arall, gyda staff iechyd, fydd y dull mwyaf priodol o gludo unigolyn sydd angen cymorth iechyd meddwl, neu sy'n ei gael yn barod.
Trosglwyddiadau i leoliadau gofal iechyd o dan adran 135
Wrth fynd ag unigolyn i le diogel yn rhinwedd gwarant adran 135, dylai'r gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy, meddygon adran 12 a rheolwr yr ysbyty sicrhau bod cludiant ar gael yn unol â Pholisi Amlasiantaeth (Heddlu/Iechyd ac Awdurdod Lleol) Adran 135.
Trosglwyddiadau i leoliadau gofal iechyd o dan adran 136
Pan fydd swyddog yn cadw unigolyn mewn man cyhoeddus gan ddefnyddio ei bŵer o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, rhaid iddo ofyn am ambiwlans. Dylid defnyddio cerbyd gwasanaeth iechyd i gludo pob unigolyn sydd wedi'i gadw o dan adran 136.
Cludiant i’r rhai sydd wedi’u hamddifadu o’u rhyddid
Efallai y gofynnir i swyddogion trafnidiaeth ar gyfer y rhai sydd wedi’u hamddifadu o’u rhyddid gynorthwyo i gludo unigolyn â statws amddifadu o ryddid i gyfeiriad penodol. Nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar swyddogion i ymateb i geisiadau i gludo unigolion, ac mae'n annhebygol y bydd y ceisiadau hyn yn cynnwys amgylchiadau sydd â’r math o fygythiad gwirioneddol ac uniongyrchol sy'n angenrheidiol i roi dyletswydd ar yr heddlu i weithredu.
Oni bai fod statws y trefniadau amddifadu o ryddid yn nodi bod angen i’r heddlu ymwneud â digwyddiad, neu fod risg uniongyrchol i'r unigolyn (Erthygl 2 neu 3 o Siarter Hawliau Dynol Ewrop), yna ni fydd yr heddlu'n cael ei ddefnyddio i gludo'r unigolyn.
Wedi'i gymryd o ddiffiniad Mental Capacity Ltd o’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid:
Mae trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn rhan hanfodol o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 ac maent yn amddiffyn hawliau unigolion 18 oed a hŷn na allant gydsynio i'w gofal a’u triniaeth, mewn cartref gofal/nyrsio neu ysbyty, tra bod y gofal a'r driniaeth honno'n gyfystyr â’u hamddifadu o ryddid.
Fel Deddf statudol, mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol ar unrhyw awdurdod rheoli (h.y. cartref gofal/nyrsio neu ysbyty) i wneud cais am awdurdodiad o dan y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid pan ystyrir ei bod yn angenrheidiol amddifadu'r unigolyn o'i ryddid er mwyn ei ddiogelu a'i amddiffyn.
Pwysig: Bydd Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn disodli’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn fuan. Fodd bynnag, ym mis Mai 2026, nid yw'r newid hwn wedi digwydd eto.
Mae’r egwyddorion canlynol yn y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn:
Bydd Gofal Cywir Unigolyn Cywir yn rhan o'r broses sicrhau ansawdd sefydledig o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu, a bydd adolygiadau o alwadau o'r fath yn cael eu cynnal i sicrhau cydymffurfedd â'r polisi hwn. Bydd cydymffurfedd o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn cael ei fonitro drwy’r dulliau canlynol:
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben ac i fynd i'r afael ag unrhyw heriau i'r polisi a/neu ddogfennau gweithdrefnol cysylltiedig ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a/neu ganllawiau cenedlaethol.
Bydd perchennog y polisi yn cyfarwyddo adolygiadau i'w cynnal gan yr unigolion a enwebwyd ar gyfer Canolfan Gyfathrebu'r Heddlu ac Arweinydd y Portffolio Iechyd Meddwl.
Bydd y polisi a'r weithdrefn yn cael eu goruchwylio gan y Bwrdd Bregusrwydd ac Atal Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2026