Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Diben y polisi hwn yw sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn darparu cymorth gwirfoddol effeithiol ac effeithlon a fydd yn ychwanegu gwerth, yn gwella ansawdd ein gwasanaeth i’r cyhoedd, ac yn galluogi’r Heddlu i gyflawni ei genhadaeth a’i amcanion.
Mae’r dogfennau gweithdrefn cysylltiedig ar gyfer Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu, a’r ddogfen weithdrefn benodol ar gyfer Caplaniaid Gwirfoddol, yn darparu fframwaith ar gyfer y ffordd y bydd yr heddlu’n gweithredu mewn perthynas â’u statws gwirfoddol a sut y dylai gwirfoddolwyr gynnal eu hunain a’u dyletswyddau dynodedig.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefn cysylltiedig ar gyfer Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu a Chaplaniaid Gwirfoddol yn ymwneud â holl swyddogion, staff a rheolwyr llinell Heddlu Dyfed-Powys sydd â chymorth gwirfoddolwyr o fewn eu hadrannau, a holl Wirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu a Chaplaniaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys.
Fframwaith Cenedlaethol Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu
Heddlu Dyfed-Powys – Canllawiau ar gyfer Rheolwyr Llinell Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu
Heddlu Dyfed-Powys – Gweithdrefn Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu
Heddlu Dyfed-Powys - Gweithdrefn Caplaniaeth Wirfoddol
Gweithdrefn Plismona â Chymorth Cyflogwr Heddlu Dyfed-Powys
Bydd yr Uwch-arolygydd a’r Prif Arolygydd sy’n gyfrifol am y Ganolfan Atal Ganolog, gyda chymorth Rhingyll ac Arolygydd y Ganolfan, yn goruchwylio datblygu portffolio Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd gan Brif Gaplan yr Heddlu gyfrifoldeb cyffredinol am y Caplaniaid Gwirfoddol, sy’n cynnwys rheolaeth llinell o ddydd i ddydd, trefniadau hyfforddi, pennu dyletswyddau a’r holl dasgau gweinyddol.
Bydd y Rheolwr Llinell adrannol dynodedig yn goruchwylio dyletswyddau ei wirfoddolwr cefnogi’r heddlu o ddydd i ddydd ac yn gyfrifol am sicrhau bod y gwirfoddolwr wedi’i hyfforddi, yn cael ei oruchwylio, ac yn medru cwblhau’r dyletswyddau a bennir iddo. Bydd y rheolwr llinell yn sicrhau bod gan y gwirfoddolwr fan gwaith, y TG ac unrhyw offer arall sydd angen i gyflawni’r rôl. Bydd unrhyw anghenion hyfforddi a nodir yn cael eu trin, eu cyrchu a’u trefnu gan reolwr llinell y gwirfoddolwr. Rhaid i’r rheolwr llinell sicrhau bod y gwirfoddolwr yn cadw cofnod o’r oriau a weithiodd a chynnal cyswllt rheolaidd gyda’r gwirfoddolwr.
Disgwylir i Wirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu gyflawni eu dyletswyddau fel y disgrifir yn eu proffil rôl ac ni fyddant yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau sydd heb eu cynnwys o fewn eu proffil rôl cytunedig. Bydd y gwirfoddolwyr yn dwyn unrhyw broblemau a nodwyd i sylw eu rheolwr llinell cyn gynted â phosibl. Bydd y gwirfoddolwr yn cynnal cyswllt rheolaidd â’i reolwr llinell ac yn cynghori’r rheolwr llinell os nad yw’n medru bod yn bresennol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi’r rhaglen Plismona â Chymorth Cyflogwr a bydd yn rhoi nifer penodol o ddyddiau i ffwrdd â thâl i staff yr heddlu i gyflawni eu rôl wirfoddol. Ceir manylion am gynllun Plismona â Chymorth Cyflogwr yr Heddlu yn nogfen weithdrefn Plismona â Chymorth Cyflogwr Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd y polisi hwn yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac effeithiol, gan ystyried yr heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi a dogfennau gweithdrefn cysylltiedig yn cael eu gweithredu a’u goruchwylio gan y Grŵp Llywodraethu Dinasyddion Mewn Plismona a’r Bwrdd Plismona Gweithredol.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu gan yr unigolyn enwebedig o fewn y Ganolfan Atal Ganolog bob yn ail flwyddyn. Gall perchennog y polisi gynnal adolygiad yn gynt, er enghraifft, os oes newidiadau mawr i ddeddfwriaethau sy’n gysylltiedig â’r polisi neu brosesau’r heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2024