Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi yw’r Heddlu Gwirfoddol. Swyddogion â gwarant lawn ydynt sy’n darparu cyswllt gwerthfawr rhwng yr heddlu a'r gymuned leol. Gyda’r un pwerau â swyddogion cyflogedig, maen nhw’n gweithio yn ystod eu hamser hamdden ar amryw o ddyletswyddau heddlu, gan ddod ag amrywiaeth eang o brofiad i blismona.
Mae gan Gwnstabliaid Gwirfoddol yr un pwerau â swyddogion cyflogedig, ac o’r herwydd, bydd y broses ar gyfer recriwtio, dethol a ‘chyflogi’ llawn mor drylwyr, wedi’i hysbysu gan safonau cenedlaethol a rhai’r heddlu.
Ni ddylid gweld Heddlu Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys fel efelychiad o swyddogion cyflogedig. Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn ategu ac yn cefnogi gwaith parhaus yr Heddlu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn anelu i fod yn sefydliad cynhwysol sy’n cynrychioli’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, yn unol â’n Strategaeth Cyfleoedd Cyfartal ac Amrywiaeth. Gall Cwnstabliaid Gwirfoddol gyfrannu at weithredu’r egwyddorion hyn drwy ehangu capasiti’r Heddlu i gynnwys pobl o bob rhan o’r gymuned nad ydynt o bosibl yn dymuno ymrwymo i swydd gyflogedig.
Mae’n orfodol cydymffurfio â’r polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i'r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad neu wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy'n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo'r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn diffinio Cwnstabl Gwirfoddol fel unigolyn sy’n dewis cynnig ei amser, profiad, gwybodaeth a sgiliau i’r Heddlu heb ddisgwyl iawndal neu fudd ariannol, heblaw treuliau parod a bennwyd rhagblaen.
Mae’r polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig yn berthnasol i bob swyddog heddlu, aelod staff, Cwnstabl Gwirfoddol, gwirfoddolwr a phawb sy’n gweithio gyda'r Heddlu Gwirfoddol neu’n pennu tasgau iddynt.
Rheoliadau’r Heddlu
Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol 1965
Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol (Diwygiad) 2012
Deddf Diogelu Data 2018
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Gweithdrefnau Heddlu Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys
Gweithdrefn Plismona â Chymorth Cyflogwr Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Iechyd a Diogelwch Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Tegwch yn y Gwaith Heddlu Dyfed-Powys
Polisi a Gweithdrefn Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Diogelu Data Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Torri Rheoliadau Diogelu Data Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Rheoli Cofnodion Heddlu Dyfed-Powys
Canllawiau Mandadol Gyrru Heddlu Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys
Cyfrifoldeb Datblygu Pobl a’r Sefydliad, Arweinwyr Heddlu Gwirfoddol o fewn AD, Pencadlys yr Heddlu, yw recriwtio Cwnstabliaid Gwirfoddol o hyd.
Gwasanaethau Dysgu a Datblygu, Pencadlys yr Heddlu, sy’n gyfrifol am hyfforddiant sylfaenol ac ôl-sylfaenol Cwnstabliaid Gwirfoddol.
Yr Uwch-arolygydd a’r Prif Arolygydd sy’n gyfrifol am y Ganolfan Atal Ganolog, gyda chymorth yr Uwch-arolygydd Gwirfoddol, fydd yn goruchwylio gwaith a datblygiad yr Heddlu Gwirfoddol yn Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd yr Arolygydd a’r Rhingyll o fewn y Ganolfan Atal Ganolog hefyd yn cefnogi gwaith yr Uwch-arolygydd Gwirfoddol. Yn ogystal, bydd Rhingylliaid Ardaloedd Plismona Lleol yn cefnogi’r Uwch-arolygydd Gwirfoddol gyda materion gweithredol mewn perthynas â’r Heddlu Gwirfoddol.
Rhaid bod modd adnabod y Rheolwr Llinell yn glir, boed yn cyflawni swyddogaeth patrôl lifrog o fewn amgylchedd gorsaf heddlu neu o fewn Tîm Plismona Bro lleol, y mae’r Cwnstabl Gwirfoddol ynghlwm ag ef. Bydd y goruchwylydd dydd-i-ddydd hwn yn rhoi gwybod i’r Cwnstabl Gwirfoddol am ei leoliadau/dyletswyddau ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ac yn rhoi cymorth. Bydd y rôl hon yn cael ei chyflawni gan oruchwylydd yr Heddlu Gwirfoddol neu Oruchwylydd cyffredin.
Ar ôl cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol, disgwylir i Gwnstabliaid Gwirfoddol gynnal eu cymhwysedd gweithredol drwy wirfoddoli 16 awr weithredol y mis ar gyfartaledd a thrwy ymgysylltu ychwanegol mewn hyfforddiant a phrosesau datblygu cysylltiedig sydd oddeutu 2 awr y mis.
Rôl weithredol yw rôl Cwnstabl Gwirfoddol (pob rheng). Disgwylir i Gwnstabl Gwirfoddol gynnal safon ffitrwydd ddigonol i lwyddo yn y prawf ffitrwydd blynyddol sy’n gysylltiedig â’r swydd a hyfforddiant sgiliau amddiffynnol. Lle mae Cwnstabl Gwirfoddol yn methu â lleoli’n weithredol, yna bydd amgylchiadau’r swyddog yn cael eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol. Lle mae gan Gwnstabl Gwirfoddol anabledd sy’n cyfyngu ar ei allu i leoli’n weithredol, bydd yr heddlu’n ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i gefnogi’r swyddog hwnnw i lwyddo yn y prawf ffitrwydd sy’n gysylltiedig â’r swydd, cwblhau hyfforddiant sgiliau amddiffynnol, a chyflawni rôl weithredol. Lle na all Cwnstabl Gwirfoddol gyflawni dyletswyddau gweithredol gydag addasiadau rhesymol, gall gael ei reoli drwy’r gweithdrefnau perfformiad o dan reoliadau’r heddlu.
Disgwylir i Gwnstabliaid Gwirfoddol sy’n dal rheng rhingyll ac uwch gynnal cymhwysedd gweithredol drwy ddyletswyddau gweithredol rheolaidd. Diffinnir dyletswyddau gweithredol fel dyletswyddau a weithir i gefnogi timoedd plismona ymchwiliol, cymuned, ymateb ac arbenigol yn uniongyrchol.
Er mai gwirfoddolwyr yw Cwnstabliaid Gwirfoddol, mae costau’n gysylltiedig â recriwtio, rheoli, gweinyddu, hyfforddi, offer, a lwfansau maen nhw’n derbyn, gan gynnwys aelodaeth o’r Ffederasiwn. Ceir manylion pellach o fewn dogfen Gweithdrefnau Heddlu Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi Plismona â Chymorth Cyflogwr a bydd yn rhoi swm sefydlog o absenoldeb â thâl er mwyn cyflawni dyletswyddau’r Heddlu Gwirfoddol. Ceir manylion am y cynllun Plismona â Chymorth Cyflogwr yn Heddlu Dyfed-Powys o fewn y ddogfen Weithdrefn Plismona â Chymorth Cyflogwr gysylltiedig.
Mae Asesiadau Risg mewn grym ar gyfer y gweithgareddau plismona cyffredinol a rolau arbenigol y bydd Cwnstabliaid Gwirfoddol yn eu cyflawni. Ceir mynediad at rain drwy’r Adran Iechyd a Diogelwch. Ni ddylai unrhyw beth yn y polisi hwn greu risgiau sydd heb eu hystyried eisoes.
Cwnstabliaid Gwirfoddol a Cherbydau’r Heddlu (Awdurdodau Gyrru Ymateb Safonol ac Uwch)
Cyn gweithredu cerbyd heddlu, rhaid i Gwnstabl Gwirfoddol ystyried y Canllawiau Mandadol Gyrru Heddlu Gwirfoddol Gorfodol a chwblhau'r Ffurflen ddatganiad 'Ffitrwydd i Yrru'.
Bydd y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn cael eu monitro er mwyn sicrhau eu bod nhw’n parhau’n berthnasol ac effeithiol, gan ystyried heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd y Grŵp Dinasyddion Mewn Plismona’n goruchwylio’r polisi a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig. Bydd y Grŵp Llywodraethu Dinasyddion Mewn Plismona a’r Bwrdd Plismona Gweithredol yn cytuno ar unrhyw ddiwygiadau i’r polisi cyn ei weithredu.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu gan yr unigolyn enwebedig, o fewn y Canolfan Atal Ganolog, bob dwy flynedd. Caiff yr unigolyn enwebedig gynnal adolygiad yn gynt os oes newidiadau mawr i ddeddfwriaethau sy’n gysylltiedig â’r polisi neu newidiadau mawr i brosesau ac ati.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: August 2024