Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r polisi hwn yn gosod y safonau sy’n caniatáu rheoli’r holl ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd wrth Heddlu Dyfed-Powys (HDP) ac sy’n cael eu trin ganddynt. Mae gan yr Heddlu ddyletswydd i ymateb yn briodol i bob digwyddiad, a Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu sy’n gyfrifol am reoli’r ymateb hwn, gan gydbwyso argaeledd adnoddau gydag anghenion a disgwyliadau’r cyhoedd.
Mae’r polisi hwn yn rhoi’r safonau sy’n eu galluogi i wneud penderfyniadau priodol mewn perthynas â lefel yr ymateb a roddir i’r cyhoedd er mwyn bodloni galw i staff sy’n gysylltiedig â rheoli cyswllt a digwyddiadau. Hefyd, mae’n sicrhau’n sylfaenol bod yr holl ddigwyddiadau yr adroddir amdanynt wrth HDP yn cael eu trin yn gywir er mwyn hwyluso darpariaeth gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon.
Mae HDP yn anelu i gyflawni hyn drwy sicrhau:
Mae blaenoriaethu’r holl ddigwyddiadau a throseddau yr adroddir amdanynt wrth Heddlu Dyfed-Powys yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf taer yn derbyn presenoldeb heddlu’n gyflym gan ddefnyddio’r adnoddau mwyaf priodol sydd ar gael.
Mae blaenoriaethu digwyddiadau’n caniatáu i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu reoli’r galw fel bod pob digwyddiad yr adroddir amdano’n derbyn yr ymyrraeth a'r datrysiad mwyaf amserol sydd ar gael.
Derbynnir y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yr adroddir amdanynt wrth HDP drwy Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Rhaid hysbysu Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu am ddigwyddiadau yr adroddir amdanynt wrth swyddogion ar batrôl neu’n uniongyrchol mewn Gorsafoedd Heddlu drwy derfynell Airwave y swyddog neu’r aelod staff sy’n derbyn yr adroddiad cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl a chyn bod eu dyletswydd y diwrnod hwnnw’n dod i ben.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau Swyddogion a Staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Rhaid cofnodi pob trosedd a digwyddiad yr adroddir amdanynt wrth HDP ar system gorchymyn a rheoli’r Heddlu (STORM) a’u categoreiddio yn unol â’r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau, Rheolau Cyfrif y Swyddfa Gartref ar gyfer Troseddau Cofnodedig, a’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cofnodi Digwyddiadau. Rhaid graddio digwyddiadau yn unol â’r polisi hwn. Gall polisïau mewnol ac allanol eraill ddylanwadau ar benderfyniadau’r Gweithredwr yng Nghanolfan Gyfathrebu’r Heddlu sy’n derbyn yr adroddiad, megis:
Mewnol
Allanol
Graddau Digwyddiadau
Rhoddir gradd gychwynnol gan yr unigolyn hyfforddedig sy’n derbyn yr adroddiad yn unol â’r polisi hwn. Mae amserau presenoldeb targed yn amrywio rhwng heddluoedd ac maen nhw wedi’u pennu ymlaen llaw yn seiliedig ar ddosbarthiad gwledig neu drefol ar gyfer yr Heddlu. Ystyrir Heddlu Dyfed-Powys yn heddlu gwledig ac maen nhw’n gweithredu’r amserau targed canlynol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol:
Y graddau digwyddiad sydd ar gael yw:
THRIVES
Mae Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n pennu’r ymateb i’r digwyddiad yn seiliedig ar eu hyfforddiant, gwybodaeth, profiad, gweithrediad disgresiwn proffesiynol, ystyriaeth o Werthoedd a Chenhadaeth yr Heddlu, a Chod Moeseg y Coleg Plismona.
Er mwyn casglu ac asesu gwybodaeth berthnasol, mae’n rhaid i Weithredwr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu gyfeirio at y model THRIVES a’r Model Penderfynu Cenedlaethol.
Mae gan y Model Penderfynu Cenedlaethol bum cam. Rhestrir y camau hyn isod:
Model cylchol yw hwn sy’n strwythuro gweithredu disgresiwn proffesiynol. O fewn y cam asesu, rhaid i Drinwyr Cyswllt ddefnyddio’r model THRIVES.
Arf rheoli risg yw THRIVES sy’n ystyried saith elfen er mwyn cynorthwyo i adnabod y radd ymateb briodol yn seiliedig ar anghenion y galwr ac amgylchiadau’r digwyddiad. Mae pob digwyddiad yn ddarostyngedig i weithrediad THRIVES.
Elfennau THRIVES yw: Bygythiad, Niwed, Risg, Ymchwiliad, Bregusrwydd, Ymgysylltu a Diogelu.
Rhoddir un o’r pedwar gradd yn 4.1 i bob digwyddiad a gofnodir ar STORM i ddynodi’r lefel ymateb briodol sydd angen. Mae angen cofnodi’r rhesymeg dros ddewis gradd ymateb yn unol â THRIVES ar gyfer pob digwyddiad (heblaw’r rhai sy’n derbyn gradd ymateb ‘di-oed’). Nid oes angen rhesymeg ar ddigwyddiadau sy’n derbyn gradd ymateb ‘di-oed’ lle nad oes Bygythiad, Niwed neu Risg amlwg.
Pan ddaw gwybodaeth newydd i’r amlwg, gall brys y digwyddiad gynyddu neu leihau, ac yn unol â THRIVES arall, newidir yr ymateb i’r digwyddiad. Rhaid i unrhyw ddigwyddiad sy’n gostwng o ran gradd (e.e. di-oed i flaenoriaeth) a wneir o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu gael ei awdurdodi gan Oruchwylydd Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu neu Reolwr Digwyddiadau’r Heddlu. Nid oes angen awdurdodi ail-raddio ar gyfer gradd ymateb uwch (e.e. blaenoriaeth i ddi-oed). Rhaid cofnodi’r rhesymeg dros unrhyw newid dilynol i lefel yr ymateb yn llawn ar yr adeg mae’n cael ei wneud.
Proses Sicrhau Ansawdd THRIVES
O fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu, mae ceisiadau am wasanaeth yn cael eu monitro gan Oruchwylwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu a Rheolwyr Digwyddiadau’r Heddlu er mwyn sicrhau ansawdd gweithredu THRIVES. Mae digwyddiadau byw o’r holl raddau’n cael eu monitro’n barhaus a’u hasesu ar gyfer graddio cywir.
RHEOLI DIGWYDDIADAU
Cyfrifoldeb Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yw rheoli’r ymateb cychwynnol i ddigwyddiadau yr adroddwyd amdanynt a bydd Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n anfon yr adnodd heddlu agosaf a mwyaf priodol i leoliad y digwyddiad. Gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad, efallai nad yr adnodd mwyaf priodol fydd yr adnodd agosaf. Bydd Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu, gyda chymorth Goruchwylydd Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu sydd ar ddyletswydd a/neu Reolwr Digwyddiadau’r Heddlu’n pennu ac yn lleoli’r adnodd mwyaf priodol.
Cofnodir pob penderfyniad, rheswm a diweddariad a wnaed drwy gydol oes y digwyddiad ar y cofnod digwyddiadau STORM gan Weithredwr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu neu’r swyddog sy’n bresennol.
Mae goruchafiaeth ar gyfer lleoli adnoddau mewn perthynas â Rheoli Digwyddiadau’n gorwedd gyda Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu. Disgwylir y bydd lleoli’n cael ei reoli ar y cyd â goruchwyliaeth leol, ond yn achos anghydfod dros leoli i ddigwyddiad penodol, bydd Rheolwr Ddigwyddiadau’r Heddlu (neu ei asiant, e.e. Goruchwylydd Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu) yn cyfarwyddo presenoldeb.
Mae graddio digwyddiadau’n ddarostyngedig i raglen archwilio a sicrhau ansawdd trylwyr o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu. Mae Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n dilyn hyfforddiant cychwynnol cynhwysfawr a hyfforddiant gloywi cyson er mwyn adeiladu a chynnal gwybodaeth a sgiliau. Mae adolygiadau mewnol cyson yn sicrhau bod Gweithredwyr Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n darparu safon gwasanaeth uchel i gymunedau Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys graddio digwyddiadau’n briodol gan ddefnyddio’r Model Penderfynu Cenedlaethol a modelau THRIVES.
Mae’r polisi hwn yn destun monitro parhaus drwy weithredu gweithredol o fewn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu a’r tîm plismona ymateb ehangach.
Cyfrifoldeb Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yw adolygu cynnwys y polisi hwn yn ffurfiol. Adolygir y polisi hwn yn flynyddol. Mae unrhyw adolygiad o’r fath yn ystyried:
Gellir cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn at Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn y lle cyntaf fel perchennog y polisi.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024