Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel Gwasanaeth Heddlu sy’n gweithredu cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn pob plentyn, unigolyn ifanc ac oedolyn sy’n agored i niwed. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, ysgrifennir y polisi hwn er mwyn sicrhau y bodlonir Safonau Mannau Diogel Ieuenctid y DU.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dethol, cefnogi a hyfforddi’r rhai sydd ag unrhyw gyfrifoldeb o fewn y sefydliad yn ofalus, yn unol â deddfwriaethau ac egwyddorion cenedlaethol Recriwtio Mwy Diogel (fel yr amlinellir yn adrannau 3 a 4).
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod nad yw pawb sy’n gwneud cais am swydd lle y byddent yn gweithio gyda phlant, pobl ifainc ac oedolion sy’n agored i niwed yn addas. Mae’r polisi hwn yn rhan o’n hymrwymiad diogelu i sicrhau:
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â Pholisi Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol HDP a’i weithdrefnau cysylltiedig ar gyfer rheoli pryderon a pherygl.
Nodir gweithdrefnau Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer recriwtio mwy diogel yn y ddogfen ganllaw Gweithdrefnau Recriwtio Mwy Diogel Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.
Yn y pen draw, y Swyddog Cyfrifol Dynodedig sy’n atebol am sicrhau bod y gweithdrefnau hyn yn cael eu dilyn wrth recriwtio Arweinwyr Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol tu fewn a thu allan i’r sefydliad. Yn achos unrhyw anghydfod, y Swyddog Cyfrifol Dynodedig yw’r penderfynwr terfynol, ac os oes angen, caiff ymgynghori â Rheolwr Diogelu Cenedlaethol Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol er mwyn cael cymorth.
Cyfrifoldeb Arolygydd y Ganolfan Atal Ganolog a’r holl reolwyr sy’n gysylltiedig â’r broses recriwtio yw sicrhau y dilynir y polisi hwn a’i weithdrefnau, bod cydymffurfiaeth yn cael ei monitro a bod diogelu plant, pobl ifainc ac unigolion agored i niwed yn cael ei flaenoriaethu yn ystod pob cam o’r broses recriwtio ac yn ychwanegol i weithdrefnau recriwtio cyffredinol yr Heddlu.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Heddlu Dyfed-Powys:
Y Rheolwr Diogelu Cenedlaethol sy’n gyfrifol am oruchwylio’r polisi hwn, ar ran y Grŵp Diogelu Aur, sy’n cynrychioli buddiannau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a’r daliwr Portffolio Arweiniol ar gyfer y cynllun Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.
Mae’r polisi wedi’i fwriadu i fodloni safon gytunedig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu nad yw’n agored i drafodaeth Fframwaith Mannau Diogel Ieuenctid y DU. Fel heddlu sy’n gweithredu rhaglen Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi mabwysiadu a chysoni’r polisi Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol Cenedlaethol er mwyn bodloni’r safonau hyn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig â rhaglen Cadetiaid Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys. Mae hyn yn cynnwys pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, dros dro neu staff ar secondiad. Y mae hefyd yn cynnwys Gwirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu ac unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â Chadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu.
Rhaid i’r polisi hwn gael ei adolygu bob dwy flynedd, fodd bynnag, bydd unrhyw ddiwygiadau i’r canllawiau’n cael eu gweithredu fel y bo’n briodol a rhoddir gwybod i bob parti sydd â diddordeb am gamau o’r fath ac fe’u gweithredir drwy’r Bwrdd Plismona Gweithredol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer recriwtio pob swydd, h.y. Swyddogion Heddlu, Staff Heddlu, waeth pa un ai a ydynt yn cael eu talu i gyflawni’r swydd ai peidio, a gwirfoddolwyr o fewn y Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol. Y mae hefyd yn cynnwys unrhyw unigolyn ifanc 18 oed neu hŷn sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau fel arweinydd.
Dylai ymarfer recriwtio diogel hefyd gynnwys yr unigolion hynny nad oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â phlant, unigolion ifainc neu oedolion sy’n agored i niwed o bosibl, ond y bydd eu presenoldeb dal yn cael ei ystyried yn ddiogel a dibynadwy, h.y. mae ganddynt swydd gyfrifol e.e. Swyddog Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu, Swyddog Diogelu Cadetiaid Gwirfoddol yr Heddlu ac ati. Yn yr un modd, os ydynt yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill, neu os oes contractwyr neu staff asiantaeth yn gweithio yn yr un adeilad, dylid cynnwys egwyddorion recriwtio diogel yn nhelerau unrhyw gytundeb sy’n cael ei lunio.
Mae’r deddfwriaethau canlynol yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn oherwydd eu bod wedi dylanwadu ar ei gyflwyno a/neu ei gynnwys:
Gweithdrefnau/Polisïau Perthnasol yr Heddlu:
Mae Egwyddorion Recriwtio Mwy Diogel Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol yn cwmpasu’r adeg y mae swydd wag yn cael ei nodi neu ei chreu hyd at yr adeg y mae’r cwrs cynefino a’r cyfnod prawf ar ben pan fydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cychwyn ei swydd. Cewch hyd i ddisgwyliadau sy’n ymwneud â goruchwylio, rheoli a chefnogi staff yn barhaus yn Llawlyfr Safonau Diogel i Weithredu Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol Heddlu Dyfed-Powys.
Rhaid adolygu’r polisi hwn a’r broses ganllaw gysylltiedig ar ôl blwyddyn i gychwyn. Rhaid cynnal adolygiadau pellach yn ôl yr angen, ac o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Gweithredir y polisi hwn ar y cyd â Safonau Diogel i Weithredu Cadetiaid Heddlu Gwirfoddol.
Mae’r Polisi hwn yn cael ei fonitro gan Arolygydd y Ganolfan Atal Ganolog a rhaid gweithredu unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau drwy Fwrdd Plismona Gweithredol Heddlu Dyfed-Powys.
Y cyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn yw Prif Arolygydd y Ganolfan Atal Ganolog ym Mhencadlys yr Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2024