Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Proses a arweinir gan les â’r bwriad o asesu ymateb aelod staff (gan gynnwys grwpiau cysylltiedig penodol megis Cwnstabliaid Gwirfoddol) sy’n wynebu digwyddiad sydd o bosibl yn drawmatig yw Rheoli Risg Trawma (TRiM).
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn a’r protocol cysylltiedig yn cynnwys canllawiau o ran sut y bodlonir anghenion lles, dethol, lleoli a hyfforddi ymarferwyr TRiM. Mae’n cydnabod rôl ganolog ymarferwyr TRiM o ran asesu lles seicolegol swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ar ôl eu cysylltiad â digwyddiad difrifol, gan gynnwys digwyddiad mawr.
Mae risg rhagweladwy y gallai unigolion, sydd wedi wynebu digwyddiadau a allai fod yn drawmatig, ddatblygu problemau seicolegol tymor hir, gan gynnwys y lleiaf tebygol, anhwylder straen ôl-drawmatig. TRiM yw ymateb gweithredol yr heddlu i leihau’r perygl hwnnw.
Mae natur yr ymateb i straen yn bersonol iawn; gan hynny, mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yn cydnabod bod unigolion yn gyfrifol am eu lles eu hunain o dan Gyfraith Iechyd a Diogelwch. Os byddant yn arbennig o ofidus yn dilyn unrhyw ddigwyddiad, yn y pen draw eu cyfrifoldeb nhw yw gofyn am ymyrraeth TRiM os nad yw hynny wedi’i gynnig yn barod.
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Mewnol –
Protocol TRiM Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Iechyd a Diogelwch Heddlu Dyfed-Powys
Polisi Iechyd Galwedigaethol
Gan ddibynnu ar faint y digwyddiad, dylid sefydlu cyswllt yn gynnar gydag Arweinydd Gweithredol TRiM neu bwynt cyswllt sengl ardal blismona leol TRiM.
Swyddogion, Staff a Gwirfoddolwyr
Mae swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn gyfrifol am eu lles eu hunain o dan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch. Lle mae unigolion yn teimlo y byddai ymyrraeth TRiM o fudd iddynt, eu cyfrifoldeb nhw yw gofyn am ymyrraeth os nad yw wedi cael ei gynnig.
Goruchwylwyr/Rheolwyr
Yn syth ar ôl digwyddiad, dylai Goruchwylwyr/Rheolwyr gynnal gwiriad lles.
Gan hynny, dylai Goruchwylwyr/Rheolwyr ystyried ymyrraeth TRiM os yw’r meini prawf wedi’u bodloni, sef –
Yn dilyn y cam cychwynnol, bydd Goruchwylwyr/Rheolwyr yn
Ymarferydd TRiM
Arweinydd Gweithredol/Cydlynydd Arweiniol TRiM
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Trawma/TRiM
Bydd y canlynol yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth Trawma/TRiM o fewn yr hyfforddiant presennol sy’n benodol i’w rôl –
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn, a’r protocol cysylltiedig –
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen brotocol gysylltiedig bob yn eilflwydd o leiaf er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diben, ac unrhyw newidiadau a wneir i weithdrefn/proses fewnol neu unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu ganllawiau cenedlaethol sy’n effeithio ar y polisi/protocol neu unrhyw heriau a wneir i’r polisi neu’r protocol.
Bydd unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt a/neu sy’n cael eu gwneud i’r polisi a/neu’r ddogfen brotocol gysylltiedig yn cael eu gweithredu a’u goruchwylio gan y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2025