Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Troseddau casineb yw’r amlygiad mwyaf effeithiol o elyniaeth a rhagfarn yn ein cymdeithas. Gall cael eich targedu naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol oherwydd nodwedd bersonol gael effaith ddinistriol ar y dioddefwr ac, mewn rhai sefyllfaoedd, effaith andwyol ar gydlyniant cymunedol. Gellir effeithio’n ddifrifol hefyd ar hyder y cyhoedd os gwelir bod ymatebion yr heddlu ac asiantaethau eraill yn aneffeithiol.
Pwrpas y polisi hwn yw sicrhau ein bod ni’n gwneud y canlynol:
Dylai hyn yn ei dro wneud y canlynol:
At ddiben y polisi, defnyddir y termau a diffiniadau canlynol:
Trosedd gasineb
Unrhyw drosedd a ganfyddir, gan y dioddefwr neu unrhyw un arall, i gael ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar y canlynol:
Hil neu hil canfyddedig, crefydd neu grefydd canfyddedig, tueddfryd rhywiol neu dueddfryd rhywiol canfyddedig, anabledd neu anabledd canfyddedig, neu yn erbyn unigolyn sy’n drawsryweddol neu’n cael ei weld yn drawsryweddol.
Digwyddiad casineb
Unrhyw ddigwyddiad lle NA chyflawnwyd trosedd ond mae’r dioddefwr neu unrhyw unigolyn arall yn ei weld fel digwyddiad sydd wedi’i ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn sy’n seiliedig ar y canlynol:
Hil neu hil canfyddedig, crefydd neu grefydd canfyddedig, tueddfryd rhywiol neu dueddfryd rhywiol canfyddedig, anabledd neu anabledd canfyddedig, neu yn erbyn unigolyn sy’n drawsryweddol neu’n cael ei weld yn drawsryweddol.
Gelyniaeth
Yn absenoldeb diffiniad cyfreithiol manwl gywir o elyniaeth, dylid ystyried diffiniadau geiriadur cyffredin, sy’n cynnwys drwg-ewyllys, drwgdeimlad, malais, dirmyg, rhagfarn, anghyfeillgarwch, gelyniaeth, dicllondeb, a chasineb. (Diffiniad Gwasanaeth Erlyn y Goron)
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn-amser, rhan-amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl bersonél yr heddlu wrth ymdrin â’r llinynnau monitro a ganlyn o droseddau a digwyddiadau casineb fel y nodir yn Strategaeth Troseddau Casineb Plismona Cenedlaethol y Coleg Plismona:
Mae’r llinynnau hyn yn cael eu monitro fel rhan o’r datganiad data blynyddol. Mae troseddau casineb a digwyddiadau casineb nad ydynt yn droseddau a ysgogir gan elyniaeth hefyd yn cael eu cyflawni yn erbyn pobl sy’n cael eu targedu oherwydd nodwedd bersonol neu warchodedig sydd heb ei monitro. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn berthnasol i’r honiadau hynny.
Nodau’r polisi hwn a’r canllawiau gweithredol ategol yw:
Mae rhagor o wybodaeth am y dogfennau hyn ar gael yn:
https://www.equalityhumanrights.com/cy
https://www.college.police.uk/app/major-investigation-and-public-protection/hate-crime
https://www.cps.gov.uk/crime-info/hate-crime
Mae’r holl swyddogion a staff yr heddlu sy’n ymwneud â chofnodi ac ymchwilio i droseddau a digwyddiadau casineb yn bersonol gyfrifol am gydlynu at y polisi a’r canllawiau gweithredol cysylltiedig. Os oes unrhyw amwysedd ynghylch unrhyw agweddau ar y canllawiau gweithredol, dylid ceisio cyngor gan swyddog goruchwylio. Ar gyfer y polisi hwn, yr Arolygydd Atal a Phartneriaeth priodol ym mhob Ardal Blismona Leol fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf. Yna gellir trafod eglurhad pellach a newidiadau awgrymedig i’r polisi yn y Grŵp Troseddau Casineb chwarterol ar draws yr Heddlu, a gaiff ei gadeirio ar hyn o bryd gan yr arweinydd portffolio ar lefel y Prif Arolygydd (gweler 5 isod).
Mae’r polisi hwn wedi’i osod i fodloni’r egwyddor graidd a nodir yn y Cod Moeseg.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal cyfarfod Grŵp Troseddau Casineb penodol bob chwarter. Mae’r cyfarfod hwn yn cael ei gadeirio gan yr arweinydd portffolio ac mae’n canolbwyntio ar ddata, tueddiadau, digwyddiadau ailadroddus, tensiwn cymunedol, cyfraddau boddhad, hyfforddiant, ac unrhyw ddysgu i’w ddatblygu. Mae gan y cyfarfod hwn aelodaeth graidd o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys timau tensiwn cymunedol awdurdodau lleol, Cymorth i Ddioddefwyr, a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Mae’r arweinydd portffolio hefyd yn mynychu Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru, lle mae perfformiad data a materion yn cael eu trafod a’u datblygu’n genedlaethol.
Trwy’r fforymau hyn, gall Heddlu Dyfed-Powys asesu a ydyw egwyddorion ac arferion y polisi hwn yn cael eu dilyn a’u gwreiddio’n weithredol.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu ddwywaith y flwyddyn gan yr arweinydd portffolio ar gyfer troseddau casineb.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2023