Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall ofn o ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio’n sylweddol ar unigolion a chymunedau, gan arwain at drallod, niwed ac ansawdd bywyd is. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod ymyriadau cynnar a chamau a gymerir i darfu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol, a byddant yn gwneud pob ymdrech i weithio gydag awdurdodau cyfrifol ac asiantaethau allanol perthnasol i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r risgiau cysylltiedig, gan ddefnyddio dull datrys problemau i achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol mynych.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn darparu diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae adran 2 yn cyflwyno diffiniad o ymddygiad gwrthgymdeithasol fel a ganlyn:
Categorïau o ymddygiad gwrthgymdeithasol
**Er bod ymddygiad(au) gwrthgymdeithasol yn aml yn perthyn i fwy nag un categori o ymddygiad gwrthgymdeithasol
Diben Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Heddlu Dyfed-Powys yw i wella ansawdd, effeithiolrwydd a chysondeb ymateb Heddlu Dyfed-Powys i ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cyflawnir hyn drwy wneud y canlynol:
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cofrestru ar gyfer yr Addewid Cymorth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a bydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r broses adolygu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y polisi hwn ar gael i bob swyddog, aelod o staff a gwirfoddolwr ei ddilyn wrth gyflawni eu dyletswyddau, a bydd canllawiau gweithdrefn penodol yn cael eu darparu i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Mae’r polisi’n amlinellu sut y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (byddwn yn glynu wrth y safonau cenedlaethol cofnodi troseddau trwy gofnodi troseddau’n gywir) a dylai gael ei ddefnyddio gan bob swyddog heddlu a staff yr heddlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr yr heddlu sy’n ymchwilio i ymddygiad gwrthgymdeithasol neu’n cael cwynion am ymddygiad o’r fath.
Gellir atgyfeirio dioddefwyr o ymddygiad gwrthgymdeithasol at Gymorth i Ddioddefwyr ar gyfer achosion sydd wedi arwain at radd asesu risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol canolig neu uchel. Mae hyn yn cael ei hwyluso pan fydd asesu risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’i gwblhau, a gwneir atgyfeiriad pan fydd dioddefwr yn cydsynio i’r gwasanaeth.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan-amser, parhaol, am gyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), a staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn wedi’i gwmpasu gan nifer o bolisïau / gweithdrefnau mewnol ategol.
Mae’r polisi hefyd yn ystyried y gofynion o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
Cyflawni tactegol
Mae Comander yr Uned Reoli Sylfaenol a’r Prif Arolygydd
yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd y Pennaeth Cyswllt a Rheoli Digwyddiadau yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd gan y prif arolygydd sy’n arwain y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog gyfrifoldeb am y canlynol:
Bydd gan Ringyll y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog gyfrifoldeb am y canlynol:
Bydd arweinydd yr heddlu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyfrifol am y canlynol:
Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sicrhau eu bod yn dilyn y polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig.
Cyflawni gweithredol
Bydd gan y timau plismona ac atal bro gyfrifoldeb am y canlynol:
Bydd gan ringyll y timau plismona ac atal bro gyfrifoldeb am y canlynol:
Mae gan Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCHau) ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol (a reolir gan y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog) gyfrifoldeb am y canlynol:
Bydd arolygydd Uned Reoli Sylfaenol y timau plismona ac atal bro yn gyfrifol am y canlynol:
Adrodd
Mae pedair ffordd o roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i Heddlu Dyfed-Powys:
*Gall adroddiadau gael eu gwneud yn uniongyrchol gan ddioddefwyr, neu ar ran dioddefwyr trwy drydydd parti.
Dylai adroddiadau sy’n gofyn am gamau diogelu ar unwaith gael eu trin gan y swyddogion sy’n ymateb, a nhw fydd yn darparu’r ymateb diogelu cychwynnol. Bydd pob adroddiad yn ystyried defnyddio asesiad THRIVE (Bygythiad, Niwed, Risg, Ymchwiliad, Bregusrwydd, Ymgysylltu, Diogelu i ganfod lefel yr ymateb y mae ei hangen.
Bydd y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol, gan ystyried heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd monitro cydymffurfedd yn cynnwys gwerthuso adborth gan ddioddefwyr / tystion drwy arolygon boddhad. Bydd craffu ar adroddiadau risg uchel ac adolygiadau o reoli achosion parhaus o fewn ymchwiliadau risg ymddygiad gwrthgymdeithasol, a dull plismona sy’n canolbwyntio ar y broblem. Anogwch ymarferwyr i ddefnyddio’r Llyfrgell Dysgu Gwersi i rannu arferion da a chofnodi dysgu.
Bydd yr adrodd yn digwydd yn fewnol – i gyfarfod strategol y timau plismona ac atal bro, a’r Bwrdd Plismona Gweithredol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2025